English

Yn yr oes ddigidol, mae'r rhyngrwyd wedi dod yn rhan annatod o'n bywydau, gan ddarparu cyfoeth o wybodaeth a chyfleoedd ar gyfer cyfathrebu ac adloniant. Fodd bynnag, ochr yn ochr â'i fanteision, mae'r byd ar-lein hefyd yn llechu cynnwys niweidiol a all beri risg i unigolion, yn enwedig grwpiau agored i niwed fel plant a phobl ifanc. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, sefydlodd SWGfL, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Riportio Cynnwys Niweidiol, y ganolfan riportio genedlaethol sy'n cynorthwyo a grymuso unrhyw un, dros 13 oed, i roi gwybod am gynnwys niweidiol ar-lein.

Mae Riportio Cynnwys Niweidiol yn wasanaeth sy'n caniatáu i ddefnyddwyr riportio gwahanol fathau o gynnwys niweidiol ar-lein, gan helpu i adeiladu amgylchedd ar-lein mwy diogel a mwy cynhwysol. Trwy ddefnyddio'r platfform hwn yn weithredol, bydd unigolion yn cyfrannu at y frwydr yn erbyn niwed ar-lein, gan ddwyn troseddwyr i gyfrif, a meithrin diwylliant o gyfrifoldeb cymdeithasol. Gyda'n gilydd, gallwn weithio tuag at brofiad ar-lein mwy diogel a phleserus i bawb.

(Fideo isod ar gael yn saesneg yn unig).


Cynnwys niweidiol yw unrhyw beth ar-lein sy'n achosi trallod neu niwed i rywun.

Mae Riportio Cynnwys Niweidiol yn rhoi cyngor ar bob math o niwed ar-lein, mae’n cyfeirio defnyddwyr at y gwasanaethau priodol ac yn tynnu sylw at lwybrau riportio cyhoeddus ar gyfer cynnwys nad yw'n droseddol. Lle nad yw'r ymateb gan ddiwydiant fel y gellid disgwyl, gall Riportio Cynnwys Niweidiol fynd i’r afael â hyn yn uniongyrchol gyda'n rhwydwaith o bartneriaid o’r diwydiant.

Mae niwed ar-lein yn cwmpasu llawer iawn o gynnwys a gall fod yn oddrychol iawn. Gall yr hyn sy’n niweidiol i un person fod yn ddiniwed i rywun arall. I fynd i'r afael â hyn, astudiwyd canllawiau cymunedol sawl platfform gwahanol a daethpwyd i'r casgliad mai'r meysydd canlynol o gynnwys cyfreithiol ond niweidiol yw'r rhai sy’n fwyaf tebygol o fynd yn groes i delerau platfform:

  • Bygythiadau
  • Dynwared
  • Bwlio neu aflonyddu
  • Cynnwys ar hunan-niweidio neu hunanladdiad
  • Cam-drin Ar-lein
  • Cynnwys treisgar
  • Fflyrtio rhywiol digroeso
  • Cynnwys pornograffig

Pryd ddylech chi riportio cynnwys niweidiol i’r heddlu?

Os nad ydych chi’n siŵr a ddylech chi gysylltu â'r heddlu, ystyriwch y cwestiynau canlynol:

  • Oes rhywun mewn perygl uniongyrchol?
  • Oes bygythiad i fywyd rhywun wedi cael ei wneud?
  • A gafodd diogelwch rhywun ei gyfaddawdu?
  • Oes rhywun yn cael ei orfodi i gymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol ar-lein?

Os gwnaethoch chi ateb yn gadarnhaol i unrhyw un o'r cwestiynau hyn, byddem yn argymell eich bod yn cysylltu â'r heddlu ar unwaith. Mae'n well bob amser cysylltu â'r heddlu drwy ddeialu 999 os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei helpu mewn perygl uniongyrchol. Gallwch roi gwybod am sefyllfaoedd eraill nad ydyn nhw’n rhai brys (h.y. y rhai nad oes angen ymateb heddlu ar unwaith) drwy ddeialu 101.

Pryd mae cynnwys niweidiol yn troi’n gynnwys troseddol?

Dydy hi ddim bob amser yn hawdd penderfynu pryd y mae cynnwys niweidiol yn dod yn gynnwys troseddol ei natur. Mae cyfreithiau'r DU sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein yn dyddio'n ôl i'r 1960au ac oherwydd hynny, does dim cyfres glir o feini prawf i'w bodloni bob amser wrth benderfynu a yw cynnwys yn droseddol ai peidio. Gallwch ddarganfod mwy am gyfreithiau'r DU ynghylch ymddygiad ar-lein ar y wefan Riportio Cynnwys Niweidiol.

Yn ogystal â hyn, mae dehongli ymddygiad niweidiol ar-lein yn rhywbeth goddrychol; efallai na fydd yr hyn a allai fod yn niweidiol i un person yn cael ei ystyried yn broblem gan rywun arall. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach deall pryd mae ymddygiad niweidiol yn croesi'r trothwy i fod yn ymddygiad troseddol.

Fydd yr wyth math o gynnwys niweidiol y byddwn ni’n derbyn adroddiadau amdanynt ddim bob amser yn droseddau fel y cyfryw yng nghyfraith y DU. Fodd bynnag, mae yna ddeddfau troseddol a all fod yn berthnasol o ran aflonyddu neu ymddygiad bygythiol. Er enghraifft, os byddwch yn derbyn negeseuon bygythiol, anweddus, neu eich bod yn derbyn negeseuon byth a hefyd ac yn poeni am eich diogelwch, mae hyn yn erbyn y gyfraith a dylech gysylltu â'r heddlu. Dylid ystyried y cyd-destun a bydd yr heddlu'n penderfynu ar eu hymateb fesul achos.

Sut ydw i'n cyflwyno adroddiad i Riportio Cynnwys Niweidiol?

Cyn i chi gyflwyno adroddiad i ni, mae'n hanfodol eich bod wedi riportio'r deunydd i'r platfform cyfryngau cymdeithasol o leiaf 48 awr ynghynt. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar sut i wneud hyn yn adran riportio ein gwefan. Os ydych chi eisoes wedi riportio i’r platfform cyfryngau cymdeithasol dan sylw ac yr hoffech i ni adolygu’r canlyniad, gallwch riportio trwy ein dewin riportio.

Gall Riportio Cynnwys Niweidiol uwchgyfeirio achosion sydd wedi’u riportio yn aflwyddiannus i blatfformau ar-lein. Os yw'r platfform wedi ymateb i'ch adroddiad gan ddatgan nad oes unrhyw reolau (a elwir yn aml yn ganllawiau cymunedol neu safonau cymunedol) wedi'u torri (y cyfeirir atynt yn aml fel tor-rheolau neu violations), yna byddwn yn gofyn i chi ddangos eu hymateb i ni. O'r fan hon, bydd ymarferwyr Riportio Cynnwys Niweidiol yn adolygu'r cynnwys a/neu'r sgrinluniau lle mae'n briodol ac yn gyfreithlon i wneud hynny.

Gofynnir i ni’n aml, ‘pam mae angen i mi ddangos ymatebion y platfform i’r hyn dwi wedi’i riportio?' Rydyn ni’n deall y gall hyn deimlo'n rhwystredig weithiau, ac rydyn ni am esbonio'r prif resymau y tu ôl i'r cais hwn:

  • Mae yna lawer o wahanol lwybrau riportio ar blatfformau ar-lein yn seiliedig ar y math o dor-rheolau sy'n cael eu profi. Gall edrych ar ymateb platfform diwydiant helpu ymarferwyr i nodi a yw'r llwybrau riportio cywir wedi'u defnyddio, a’u cyfeirio yn unol â hynny os oes llwybr mwy perthnasol ar gael. Mae hyn yn ofyniad fel rhan o’n gwaith partneriaeth gyda phlatfformau ar-lein i'n helpu i barhau i wneud yr hyn y cawsom ein sefydlu i’w wneud.
  • Gallwn ddarparu'r wybodaeth hon yng nghyd-destun achosion penodol i blatfformau ar-lein sy'n rhoi adborth gwerthfawr iddyn nhw, gan eu helpu i wella a symleiddio'r broses riportio.
  • Mae'n lleihau'r risg o riportio gormod o achosion a all gael effaith niweidiol.

Sut ydyn ni'n uwchgyfeirio adroddiadau?

Mae'n bwysig cofio mai rôl gyfryngu yn unig sydd gennym ni fel gwasanaeth unwaith y bydd y dulliau cywir o riportio wedi'u rhoi ar waith. Wedi dweud hynny, os ydych chi wedi riportio ac wedi aros dros wythnos am ymateb, efallai y gallwn ymchwilio i hyn ymhellach. Yn anffodus, pan na fydd platfformau wedi dileu cynnwys, dydy hyn ddim yn golygu y gallwn ni ei adolygu a'i ddileu yn awtomatig. Mae ymarferwyr yn adolygu cynnwys yn erbyn canllawiau cymunedol y platfformau ar-lein eu hunain ac, mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn dod i'r un casgliad (h.y., nad oes unrhyw dor-rheolau wedi digwydd). Fodd bynnag, yn y sefyllfa hon, byddwn bob amser yn ceisio cynnig esboniad pellach i chi ynghylch pam y gallai'r platfform fod wedi dod i'r penderfyniad hwn. Lle bo'n bosibl, byddwn hefyd yn cynnig rhagor o gymorth a chyngor ac yn eich cyfeirio at wasanaethau mwy perthnasol.

Mewn achosion eraill, ar ôl adolygu'r cynnwys a gafodd ei riportio, efallai y byddwn yn anghytuno â phenderfyniad cychwynnol y platfform ar-lein. Os felly, bydd Riportio Cynnwys Niweidiol yn uwchgyfeirio’ch achos i'n cysylltiadau yn y platfform perthnasol. I wneud hyn yn effeithiol, byddwn yn aml yn gofyn eich bod yn rhoi rhagor o fanylion i ni (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes) am yr hyn sydd wedi digwydd. Yn aml mae'n anodd barnu beth sy'n digwydd gydag un URL (cyfeiriad gwefan) yn unig. Er mwyn cywiro hyn, yn ogystal â'r URL, mae angen i ni wybod y cyd-destun sydd wrth wraidd y sefyllfa. O bryd i’w gilydd efallai y bydd angen sgrinluniau ychwanegol, dolenni i sylwadau neu ddelweddau perthnasol sy'n cael eu riportio hefyd.

Er y gallwn uwchgyfeirio cynnwys gyda’n cysylltiadau ar blatfformau ar-lein a chyflwyno achos dros gymryd camau gweithredu, does dim modd i ni’n bersonol fynd ati i dynnu cynnwys oddi ar wefan. Weithiau bydd oedi rhwng yr amser rydyn ni’n uwchgyfeirio cynnwys ac ymateb y platfform, yn sgil prosesau cymedroli'r platfform ei hun a bydd hyn y tu hwnt i'n rheolaeth ni. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi y gallai hyn achosi peth pryder a rhwystredigaeth, ond gallwn eich sicrhau y byddwn yn parhau i fynd ar drywydd pob uwchgyfeiriad ac yn rhoi diweddariadau i’n cleientiaid bob cam o’r ffordd wrth geisio sicrhau datrysiad.

Am ragor o wybodaeth, mae gwefan Riportio Cynnwys Niweidiol yn rhoi cyngor ar sut i roi gwybod am gynnwys anghyfreithlon, a chyfreithlon ond niweidiol. Gall sefydliadau, gan gynnwys ysgolion, hefyd  lawrlwytho’r Botwm Riportio Cynnwys Niweidiol am ddim i gyfeirio eu defnyddwyr i’r gwasanaeth. I gael gwell dealltwriaeth o lwybrau riportio ychwanegol, ewch i Ganolfan Riportio SWGfL. Gallwch hefyd ddefnyddio REIYA, y sgwrsfot ar-lein am gymorth ychwanegol.

 


 

Mae SWGfL yn elusen ddielw sy'n sicrhau y gall pawb elwa ar dechnoleg yn rhydd o niwed. Fel 1/3 o’r UK Safer Internet Centre, mae ein harbenigwyr yn cynghori ysgolion, cyrff cyhoeddus a diwydiant ar gamau priodol i'w cymryd o ran diogelu a hyrwyddo polisïau diogelwch ar-lein cadarnhaol.

Mae SWGfL wedi bod ar flaen y gad o ran diogelwch ar-lein dros y ddau ddegawd diwethaf, gan gyflwyno cyflwyniadau a hyfforddiant deniadol i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ein gwaith wedi dwyn diogelwch ar-lein i sylw'r cyhoedd, gan sicrhau y gall pawb ddatblygu eu dealltwriaeth o'r hyn y mae diogelwch ar-lein yn ei olygu mewn gwirionedd mewn byd sy'n newid yn barhaus.