English

Eich ôl-troed digidol yw’r hyn rydych chi, fel defnyddiwr ar-lein, yn ei adael ar ôl yn y byd digidol. Mae negeseuon rhagweithiol rydych chi wedi’u hysgrifennu eich hun, yr hyn y mae eraill yn ei bostio amdanoch chi a’r hyn sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth i gyd yn rhan o’ch ôl-troed digidol a’ch enw da.

Does dim rhaid i’ch enw da ar-lein fod yn rhywbeth brawychus. Yn wir, gall fod yn fantais o’i reoli’n gall.

Eich enw da digidol a chyflogaeth

Pa bynnag swydd rydych chi’n gwneud cais amdani, bydd llawer o gyflogwyr yn cynnal rhyw fath o chwiliad ar-lein amdanoch chi wrth adolygu’ch cais. Byddai unrhyw beth ymosodol yn destun pryder ar unwaith ond gallai ymddygiad arall maent yn ei weld (neu ddim yn ei weld), nad yw’n cydymffurfio â’u gwerthoedd, achosi problemau hefyd. Er enghraifft, gallai rhywun sy’n gwneud cais i fod yn rheolwr cyfryngau cymdeithasol ond heb bresenoldeb cyfryngau cymdeithasol personol fod yn destun pryder i’r darpar gyflogwr. Wedi’r cwbl, sut allwch chi ddisgwyl rheoli sianeli cymdeithasol sefydliad yn llwyddiannus os nad oes gennych rai eich hun?

Bydd pa mor drwyadl y byddant yn chwilio’n dibynnu ar y swydd a’r sefydliad hefyd, er enghraifft, ceisiadau i’r heddlu. Bydd rhai swyddi’n gofyn i’r ymgeisydd ymchwilio i wybodaeth gyhoeddus unigolyn detholedig fel rhan o’r broses recriwtio hyd yn oed. Fodd bynnag, bydd hyn ar gyfer swyddi a fyddai’n cynnwys tasg o’r fath fel arfer, fel arbenigwyr fforensig digidol.

Er y gall bod heb unrhyw bresenoldeb digidol ymddangos yn amheus, mae eithriadau lle gall bod yn anhysbys fod yn beth cadarnhaol, fel diogelu chwythwyr chwiban neu newyddiaduraeth ymchwiliol lle bydd rhywbeth yn cael ei ddatgelu a allai fygwth iechyd neu ddiogelwch cyhoeddus.

Meddyliwch amdano fel cyfle yn hytrach na bygythiad

Nid yw’ch enw da digidol yn ymwneud â sicrhau nad ydych chi’n postio unrhyw beth y gellid ei ystyried yn ymosodol neu’n ddadleuol. Mae’n gyfle hefyd i gyfleu’ch hun fel unigolyn positif a phroffesiynol. Drwy ei ddefnyddi’n ddoeth a chywir, gall y rhyngrwyd weithio i chi, yn hytrach nag yn eich erbyn. Mae llawer o bobl sydd wedi’u targedu i’w cyflogi wedi’u canfod drwy eu henw da ar-lein, gan gynnwys cwmnïau technoleg mawr a busnesau diwydiant blaenllaw.

Linkedln yw rhwydwaith proffesiynol ar-lein mwyaf y byd ac mae’n adnodd gwych ar gyfer unrhyw swydd mewn unrhyw ddiwydiant. Gall ei ddefnyddio’n briodol eich helpu i gysylltu â’ch cyfleoedd, creu a chryfhau cysylltiadau proffesiynol ac arddangos eich profiad, eich sgiliau a’ch addysg.

Tybiwch nag oes dim yn breifat

Beth bynnag y byddwch chi’n ei ysgrifennu ar-lein, gyda pha bynnag apiau neu ddyfeisiau y byddwch yn eu defnyddio, tybiwch bob tro y gellir dod o hyd i’r cynnwys, hyd yn oed ar ôl ei ddileu. Hyd yn oed os oes ganddo gynnwys sy’n diflannu neu amgryptiadau’n rhoi addewid o breifatrwydd, tybiwch bob amser nad oes dim yn breifat a phe bai rhywun am ddod o hyd iddo, yna gallent wneud hynny.

Rheol dda i’w dilyn yw pe na fyddech yn ei ddweud yn gyhoeddus neu ddim am iddo fod ar dudalen flaen papur newydd, yna peidiwch â’i bostio. Mae straeon am sêr sydd wedi postio negeseuon creulon neu ymosodol yn y gorffennol, cyn iddynt ddod yn enwog, yn dod i’r amlwg o hyd. Yn y rhan fwyaf o achosion mae wedi achosi niwed parhaus i’w henw da, ac, yn ei dro, eu gyrfaoedd.

Mae angen i chi ymddiried yn y bobl o’ch cwmpas

Mae’n bwysig sicrhau eich bod ymhlith pobl rydych chi’n ymddiried ynddynt gan y gallai eu gweithredoedd effeithio ar eich enw da chi ar-lein, yn yr un modd ag y gallai’ch gweithredoedd chi wneud niwed iddyn nhw.

Nid yw hyn yn ymwneud â ffotograffau lle cawsoch eich tagio sy’n codi cywilydd arnoch chi yn unig, ond gwybodaeth bersonol a sensitif hefyd. Gallai rhannu gormod o wybodaeth eich rhoi mewn perygl o seiberfwlio, twyll, stelcio, neu rywun yn cymell eraill i gredu rhywbeth nad yw’n wir amdanoch chi.

Trwy ddiogelu’ch hun ar-lein, rydych chi’n helpu i ddiogelu eraill hefyd. Un ffordd o wneud hyn yw sicrhau bod eich ffrindiau a’ch teulu’n gwybod pa blatfformau rydych chi’n eu defnyddio, ac i’r gwrthwyneb. Er enghraifft, efallai nad ydych chi ar Facebook, ond gallai rhywun arall sy’n esgus mai chi ydyn nhw ofyn i aelod o’ch teulu am gael benthyg arian drwy Facebook Messenger. Os yw’r person hwnnw’n gwybod nad ydych chi ar Facebook, maen nhw’n llawer llai tebygol o gael eu twyllo.


 

Richard Wall ac Elaina Brutto, Gyrfa Cymru

Mae Richard Wall yn Beiriannydd Systemau gyda mwy na phymtheg mlynedd o brofiad yn y diwydiant ac mae wedi gweithio i Gyrfa Cymru ers deuddeg mlynedd. Mae’n arbenigo mewn diogelwch TGCh, cyfrifiadura cwmwl a phensaernïaeth systemau. Yn Gyrfa Cymru, mae ei gyfrifoldebau’n cynnwys cywirdeb data, diogelwch systemau, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff, rheoli risg a chynllunio a gweithredu cynhyrchion technegol.

Mae Elaina Brutto, cynghorydd gyrfa ar gyfer gwasanaeth Cymru’n Gweithio, wedi cyfrannu at yr erthygl hon hefyd. Mae Elaina wedi bod yn gynghorydd gyrfa ers dros wyth mlynedd yn helpu pobl i gyflawni eu hanghenion cyflogadwyedd, ynghyd â chadw mewn cysylltiad â chyflogwyr o sectorau amrywiol sy’n ceisio llenwi swyddi gwag.

Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth hyfforddiant ac arweiniad gyrfaoedd cynhwysol a diduedd i bobl o bob oed yng Nghymru.

Gyda thîm o dros 570 o gynghorwyr gyrfa, cynghorwyr cyswllt busnes a hyfforddwyr cyflogadwyedd, mae ein gwasanaeth yn cychwyn gyda chynorthwyo pobl ifanc i wneud dewisiadau pwysig a chyfnodau pontio yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol ynghyd â darparu profiadau cysylltiedig â gwaith o ansawdd uchel. Mae gwasanaeth Cymru’n Gweithio a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn darparu cymorth wedi’i deilwra ar gyfer pobl ifanc dros 16 oed ac oedolion gyda’u hanghenion cyflogadwyedd, gan gynnwys cyflogaeth â thâl, cyfleoedd hyfforddi a chymorth ar ôl colli gwaith.