English

Gall heriau peryglus gael effaith ddinistriol ar blant unigol, ac maen nhw’n gallu bod yn destun pryder sylweddol i rieni ac athrawon sy’n aml yn teimlo’n ansicr ac yn bryderus ynghylch sut i ymateb. Efallai i chi glywed yn y newyddion am bobl ifanc yn cymryd rhan mewn heriau ar-lein peryglus a’u postio a’u rhannu ar-lein, ond beth ydyn nhw?

Rydyn ni’n falch o allu rhannu rhywfaint o ymchwil a arweiniwyd gan Praesidio ar ran TikTok, sy’n ceisio archwilio’r hyn rydyn ni’n ei wybod am heriau ar-lein peryglus drwy grynhoi data arolwg, ymchwil academaidd o feysydd perthnasol a mewnwelediadau gan banel arbenigol byd-eang. Mae’r gwaith hwn yn ceisio taflu goleuni ar y mater hwn a chefnogi dealltwriaeth ac ymatebion. Yn ein hadroddiad, rydyn ni’n nodi dulliau moesegol, diogel ac effeithiol o ymdrin ag addysg ataliol sy’n gallu lleihau’r risgiau mae heriau peryglus yn eu peri i blant a phobl ifanc.

Beth yw heriau a straeon celwydd peryglus?

Mae heriau ar-lein yn ymwneud â phobl yn recordio eu hunain ar-lein yn gwneud rhywbeth sy’n anodd neu’n beryglus, ac yna’n ei rannu i annog eraill i wneud yr un peth. Enghraifft boblogaidd o hyn fyddai’r her bwced iâ, lle’r oedd cyfranogwyr yn cael eu hannog i recordio eu hunain yn arllwys bwced o ddwr rhewllyd dros eu pen ac yna postio eu fideo ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r her feirol hon yn cael ei hystyried yn hwyliog ac yn ddiogel, a bwriad yr her benodol hon oedd codi ymwybyddiaeth o sglerosis ochrol amyotroffig. Fe wnaeth pobl o sawl cenhedlaeth wahanol gymryd rhan yn yr her bwced iâ, ac ymledodd yn feirol ar sawl platfform cyfryngau cymdeithasol.

Mae her beryglus yn debyg o ran natur i her ar-lein. Fodd bynnag, mae’r heriau hyn yn beryglus ac yn gallu arwain at anaf corfforol sylweddol neu niwed parhaol. Mae her pod tide yn enghraifft nodedig o her beryglus, a oedd yn ymwneud â chyfranogwyr yn bwyta podiau glanedydd golchi, sy’n gallu achosi niwed neu anaf sylweddol. Rhannodd pobl eu fideos ar-lein gan annog eraill i gymryd rhan yn yr her.

Mae straeon celwydd ar-lein, sydd hefyd yn cael eu galw’n gastiau (pranks) neu’n sgamiau, yn wahanol i heriau am eu bod nhw’n driciau sy’n cael eu creu i beri i rywun gredu rhywbeth brawychus, ond sydd ddim yn wir. Weithiau, maen nhw’n gallu bod yn eithafol oherwydd eu bod yn cael eu creu i achosi panig. Gyda straeon celwydd, mae elfen yr her yn ffug, ond eu bwriad yw bod yn frawychus ac yn drawmatig, ac maen nhw’n gallu cael effaith negyddol ar iechyd meddwl.

Mae rhai straeon celwydd hefyd yn cynnwys naratif gofidus am hunan-niweidio neu hunanladdiad. Gwelwyd sawl enghraifft o’r mathau hyn o heriau ffug yn ddiweddar, ac mae ein hymchwil wedi eu hystyried. Mae’r straeon celwydd hyn yn lledaenu’r celwydd bod gweithredwr maleisus yn cyfarwyddo defnyddwyr (plant fel arfer) i wneud cyfres o weithgareddau cynyddol niweidiol lle mai hunan-niweidio neu hunanladdiad yw diwedd y gân. Mae pwy’n union yw’r gweithredwr maleisus yn parhau’n ddirgelwch bob tro. Weithiau, mae honiadau fod bygythiadau o flacmel yn cael eu defnyddio i orfodi plant/pobl ifanc i weithredu’n groes i’w hewyllys yn yr hyn syn cael ei galw’n gêm hunanladdiad, gyda 50 o dasgau sy’n arwain at hunanladdiad. Yn fwy diweddar, mae’r grym niweidiol yn cael ei bortreadu fel bod arallfydol gyda goruwchbwerau a’r gallu i danseilio ewyllys y defnyddwyr drwy reolaeth meddwl, er mwyn eu gorfodi i gwblhau cyfres o dasgau peryglus gan gynnwys hunan-niweidio a hunanladdiad. Yn yr achosion hyn, mae’r heriau twyllodrus yn lledaenu’n eang er bod y naratifau hyn yn gwbl ffug.

Sut mae pobl ifanc yn ymgysylltu â heriau a straeon celwydd peryglus ar-lein?

  • Roedd rhan o’n hymchwil yn cynnwys dadansoddi data arolwg am straeon celwydd a heriau, gyda’r bwriad o ddeall ymwybyddiaeth, ymgysylltiad ac effaith straeon celwydd a heriau ymhlith pobl ifanc, rhieni ac athrawon. Roedd hyn yn cynnwys arolwg yn cyrraedd 10,900 o bobl mewn sawl gwlad, a ddatgelodd rai mewnwelediadau diddorol.

    O ran heriau ar-lein, datgelodd y canfyddiadau nad yw’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn eu harddegau yn ymgysylltu â heriau o unrhyw fath (gyda dim ond 21% yn cymryd rhan mewn heriau go iawn) a bod 48% yn ystyried bod y rhan fwyaf o heriau’n hwyliog neu’n ddiogel. Mae hyn yn awgrymu na fydd unrhyw addysg neu strategaethau ataliol sy’n seiliedig ar y syniad bod pob her yn beryglus ac yn niweidiol yn taro deuddeg ac yn annhebygol o lwyddo gyda phobl ifanc – os dywedwn ni wrth bobl ifanc am roi’r gorau i gymryd rhan mewn unrhyw her, mae’n annhebygol o weithio.

    Canfu’r ymchwil hefyd fod pobl ifanc yn eu harddegau eisiau mwy o wybodaeth, a gwybodaeth o well safon, er mwyn asesu risg, a’u bod yn ystyried mai hynny yw’r peth pwysicaf sydd ei angen arnyn nhw i gadw’n ddiogel. Mae 66% o bobl ifanc yn eu harddegau hefyd yn chwilio am gymorth neu gyngor, ond canfu’r ymchwil nad oedd gan rieni ac athrawon ddigon o adnoddau i ddiwallu’r angen hwnnw.

  • O ran straeon celwydd, datgelodd y data fewnwelediad diddorol pellach. Yn gyffredinol, mae’r profiad o straeon celwydd yn fwy negyddol na’r profiad o heriau, gyda’r effaith yn cael ei theimlo ar eu hiechyd meddwl. Efallai nad yw hyn yn syndod o ystyried y cynnwys gofidus sy’n rhan o straeon celwydd. Dangosodd yr ymchwil hefyd nad yw pobl yn gwybod sut i asesu straeon celwydd – dim ond 31% sy’n gallu eu hadnabod fel rhai amlwg ffug. Mae hyn yn dangos bod mwyafrif clir yn ansicr ynghylch cynnwys celwyddog, ac nad ydyn nhw’n gwybod yn iawn beth i’w feddwl, ac efallai nad yw hynny’n syndod o ystyried mai bwriad y cynnwys yw achosi dryswch ac ansicrwydd. Mae’r ffaith bod mwyafrif yn ansicr am y cynnwys, ac nad ydyn nhw o reidrwydd yn ei ystyried yn ffug, yn egluro’n rhannol yr agwedd nad oes dim o’i le ar ei rannu.

    Pan edrychwyd ar y rhesymau pam mae pobl ifanc yn rhannu neu’n ail-bostio heriau peryglus neu heriau ffug, gwelwyd mai’r prif sbardun oedd yr awydd am gadarnhad neu gael eu derbyn gan eu cyfoedion. Un o’r tri phrif reswm dros rannu i 63% o bobl ifanc yn eu harddegau oedd cael sylw gan eraill ar ffurf y nifer sy’n edrych ar eu cynnwys, yn ei ‘hoffi’ neu’n gwneud sylwadau. Mae’n werth nodi hefyd fod awydd naturiol i rannu rhywbeth sy’n mynd i godi gwrychyn neu frawychu.

    Datgelodd data’r arolwg hefyd fod gan athrawon bryderon gwirioneddol am straeon celwydd. Nododd 56% o athrawon fod straeon celwydd yn destun cryn bryder iddyn nhw. Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau’n awgrymu eu bod yn teimlo nad ydyn nhw’n meddu ar yr adnoddau i gefnogi pobl ifanc gyda straeon celwydd. Dim ond 33% o athrawon a oedd yn cytuno bod ysgolion yn darparu offer ac arweiniad defnyddiol ar straeon celwydd ar gyfer plant a theuluoedd. Mae hyn yn dangos bod addysgwyr yn gweld bwlch gwirioneddol.

Beth ddylem ni fod yn ei wneud am heriau a straeon celwydd peryglus?

Mae’n bwysig i roddwyr gofal a’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc gydnabod bod pobl ifanc yn cael eu cymell i gymryd risgiau, a bod ymyriadau sy’n gofyn iddyn nhw ymatal rhag gwneud hynny yn annhebygol o weithio. O oedran cynnar, dylid rhoi strategaethau i bobl ifanc i helpu i wahaniaethu rhwng risg dderbyniol ac annerbyniol ar-lein, yn union fel sy’n cael ei wneud yn y byd all-lein, a chydnabod y gall cymryd risgiau greu cyfleoedd cadarnhaol ar gyfer twf personol ar yr amod bod y risgiau hynny’n gymesur ac yn cael eu deall.

Er bod addysg ataliol yn hanfodol wrth fynd i’r afael â heriau a straeon celwydd peryglus ar-lein, mae rôl hollbwysig hefyd i ddiwydiant, yn enwedig o ran platfformau’r cyfryngau cymdeithasol. Mae rôl allweddol i blatfformau weithredu’n gyflym i nodi a dileu heriau peryglus a chynnwys celwyddog er mwyn lleihau’r risg o gyswllt â defnyddwyr iau.

Rydyn ni’n tynnu sylw at y ffaith bod rôl i’r cyfryngau prif ffrwd hefyd. Rydyn ni’n cydnabod bod gan newyddiadurwyr rôl hollbwysig o ran adrodd am wybodaeth sydd er budd y cyhoedd, gan gynnwys pethau sy’n effeithio ar ddiogelwch a lles plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, rydyn ni’n argymell archwilio modelau ar gyfer adrodd ar y math hwn o gynnwys heb waethygu’r niwed.

Ers i ni gyhoeddi’n adroddiad, rydyn ni’n falch o weld bod TikTok eisoes wedi gweithredu rhai o’n hargymhellion drwy gyflwyno tudalen newydd ar eu Canolfan Ddiogelwch sy’n benodol ar gyfer heriau a straeon celwydd ar-lein. Bydd y dudalen newydd hon yn helpu pobl ifanc, rhoddwyr gofal ac addysgwyr i ddeall mwy am straeon celwydd a heriau, a darparu’r adnoddau iddyn nhw siarad am heriau ar-lein a straeon celwydd hunanladdiad a hunan-niweidio. 


 

Dr Zoe Hilton, Cyfarwyddwr Praesidio Safeguarding

Mae Zoe wedi bod yn un o Gyfarwyddwyr Sefydlu Praesidio ers 2017. Asiantaeth ddiogelu annibynnol yw Praesidio sy’n darparu cyngor strategol, ymchwil, hyfforddiant ac astudiaethau. Mae gennym arbenigedd penodol ym maes diogelu digidol, ac rydyn ni’n gweithio ar y materion hyn gydag ystod eang o sefydliadau gan gynnwys adrannau Llywodraeth, cwmnïau technoleg byd-eang a chyrff anllywodraethol rhyngwladol. Rydyn ni ar flaen y gad o ran datblygu polisi ac arloesi, ac rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu sefydliadau i wella eu systemau a’u dulliau gweithredu.

Cyn sefydlu Praesidio, Zoe oedd Pennaeth Diogelu ac Amddiffyn Plant yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA), CEOP gynt, rhwng 2009 a 2017. Yn y rôl hon, arweiniodd y timau amddiffyn plant, gan arwain ar ymchwiliadau cam-drin cymhleth yn ogystal â goruchwylio’r ymateb i gannoedd o atgyfeiriadau gan blant, rhieni a gweithwyr proffesiynol bob mis. Yn ystod y cyfnod hwn, arweiniodd Zoe hefyd ar sawl gwaith ymchwil ac asesiadau bygythiad cam-fanteisio’n rhywiol ar blant ar gyfer CEOP, a bu’n arweinydd panel ymchwil cenedlaethol CEOP hefyd. Bu hefyd yn gadeirydd bwrdd amddiffyn yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, sy’n gyfrifol am gydweithio arloesol ar draws diwydiant, plismona, addysg a’r sector gwirfoddol i leihau’r bygythiad sy’n cael ei achosi i blant gan gam-fanteisio a cham-drin.

Cyn ymuno â CEOP/NCA, Zoe oedd prif gynghorydd polisi’r NSPCC ar gyfer cam-drin plant a chamfanteisio’n rhywiol ar blant, ac arweiniodd ym maes diogelwch ar-lein i’r elusen hefyd. Mae gan Zoe radd PhD mewn Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol, ac mae wedi ysgrifennu erthyglau polisi ac ymchwil amrywiol.