Barn yr arbenigwyr
Yn yr ardal hon, cewch erthyglau ar gadernid digidol wedi’u hysgrifennu gan sefydliadau arbenigol blaenllaw.
- Rhan o
Mae’r erthyglau’n bwrw golwg ar bynciau amrywiol gan roi syniad i chi o’r meddylfryd diweddaraf a safbwyntiau’r arbenigwyr.

Dechrau sgyrsiau am sgamiau ar-lein
Will Gardner, Cyfarwyddwr Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU (UKSIC), yn tynnu sylw at fater sgamiau ar-lein
Yn yr erthygl hon, mae Will yn tynnu sylw at ymchwil i sgamiau ar-lein a sut mae Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025 yn anelu creu sgyrsiau mewn cartrefi ac ysgolion ledled y DU am sut i amddiffyn eich hun rhag sgamiau.

Chwarae gemau fideo ac e-chwaraeon: y gwahaniaethau mewn manylder
Ygam
Yn yr erthygl hon, trafodir cynnydd e-chwaraeon gyda gwybodaeth am yr agweddau proffesiynol, cymhellion ariannol a phwysigrwydd diogelu lles chwaraewyr.

Goblygiadau deallusrwydd artiffisial i blant a phobl ifanc
Jenna Khanna, Cyfarwyddwr Addysg a Phartneriaethau, Common Sense Media UK
Mae Jenna yn trafod rhai o'r pryderon ynghylch dechnolegau AI a beth allwn ni ei wneud i helpu plant i feddwl yn feirniadol am sut y gallwn fod yn ddefnyddwyr cyfrifol a moesegol o AI.

Gwaith y Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) i hybu rhannu data er mwyn diogelu plant
Helen Thomas, Uwch-swyddog Polisi (Cymru), ICO
Yn yr erthygl hon mae Helen yn esbonio sut mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) am helpu i wella gwaith diogelu plant drwy sicrhau bod y rhai sy'n gweithio yn y maes yn cael eu grymuso i rannu data mewn ffordd briodol, ddiogel a chyfreithlon

Canllawiau i rieni a gofalwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a gemau cyfrifiadurol
Praesidio Safeguarding
Yn yr erthygl hon mae Praesidio Safeguarding yn amlinellu'r dirwedd cyfryngau cymdeithasol ac yn rhoi cyngor defnyddiol i rieni a gofalwyr ar sut i helpu eu plant rheoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio cyfryngau cymdeithasol a gemau ar eu dyfeisiau.

Llinell gymorth Sefydliad Gwylio'r Rhyngrwyd: tuedd newydd annifyr
Tamsin McNally, Rheolwr Llinell Gymorth Sefydliad Gwylio'r Rhyngrwyd (IWF)
Yn yr erthygl hon mae Tamsin yn trafod tuedd newydd annifyr sydd wedi effeithio ar filoedd o ddefnyddwyr y rhyngrwyd.

‘Blacmel Rhywiol’
Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd (IWF)
Yn yr erthygl hon, mae Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd (IWF) yn esbonio beth yw blacmel rhywiol a beth i'w wneud os ydych chi, eich plentyn neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn dioddef o flacmel rhywiol.

Cyflwyniad i E-chwaraeon
Jim Gamble QPM, Prif Swyddog Gweithredol Grwp Diogelu INEQE
Mae Jim yn darparu rhai ffeithiau am e-chwaraeon, sy'n cynyddu mewn poblogrwydd, yn ogystal ag awgrymiadau ar sut i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n gwylio neu'n cymryd rhan mewn cystadlaethau ar-lein.

Riportio Cynnwys Niweidiol
SWGfL
Yn yr erthygl hon gan SWGfL, eglurir rôl ei ganolfan adrodd genedlaethol wrth ddarparu cyngor am bob math o niwed ar-lein a chyfeirio defnyddwyr at y gwasanaethau cywir.

Grwp ieuenctid cadw'n ddiogel ar-lein
Carys-Megan James
Mae Carys yn rhoi cipolwg ar sesiwn gyntaf y grwp ieuenctid 'Cadw'n ddiogel ar-lein', a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2023.

Adolygiad o gynnwys niweidiol ar-lein
Jim Gamble QPM, Prif Swyddog Gweithredol Grwp Diogelu INEQE
Mae Jim yn sôn am yr effaith y gall ymddygiadau niweidiol a arddangosir gan bersonoliaethau neu ddylanwadwyr ar-lein ei gael ac yn rhoi cyngor ar sut i gefnogi rhywun sydd yn ymwneud â chynnwys niweidiol.

Addysgu gwirio ffeithiau mewn ysgolion
Joseph O'Leary, Rheolwr Hyfforddiant, Full Fact
Mae Joe yn esbonio pwysigrwydd meddwl beirniadol wrth archwilio camwybodaeth gyda phlant a phobl ifanc yn y dosbarth.

Eithafiaeth a Radicaleiddio
Faith McCready, Arweinydd Strategol Cenedlaethol, Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru
Mae Faith yn archwilio bygythiad eithafiaeth a radicaleiddio a sut gallwn ni gefnogi plant a phobl ifanc a allai ddod ar draws hyn ar-lein.

Beth yw'r Metafyd?
Jim Gamble QPM, Prif Swyddog Gweithredol Grwp Diogelu INEQE
Mae Jim yn esbonio camau cynnar technoleg y Metafyd a'r posibiliadau a risgiau wrth iddo dyfu a newid.

Rheoli’ch ôl-troed digidol a’ch enw da
Richard Wall ac Elaina Brutto, Gyrfa Cymru
Mae Gyrfa Cymru yn archwilio sut i reoli eich ôl troed digidol a'ch enw da yn effeithiol fel ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar eich cyflogaeth yn y dyfodol.

Problemau a phryderon ar-lein o safbwynt pobl ifanc
Andrew Collins, ProMo-Cymru
Mae Andrew yn esbonio'r dull a ddefnyddiwyd i ddatblygu cyngor pwrpasol yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc i'w cefnogi gydag unrhyw broblemau neu bryderon ar-lein.

Hawliau Plant yn y byd digidol
Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru
Mae Sally yn trafod hawliau plant yn y byd digidol a phwysigrwydd gwneud yn siwr bod pobl ifanc yn gallu siapio'r mannau digidol sydd o'u cwmpas.

Pam mai mater i'r uwch-dîm arwain yw seibergadernid, nid i'r adran TG
Symon Kendall, Ditectif Ringyll yn Uned Seiberdroseddu Ranbarthol Tarian
Mae Symon yn diffinio seibergadernid ac yn esbonio pam ei bod yn hanfodol i benaethiaid ac uwch arweinwyr ei berchnogi oddi mewn eu sefydliadau.

Ymgyrch Gaming4Good yn dangos nad yw gemau ar-lein yn ddrwg i gyd
Tim Mitchell, Cyfarwyddwr Cynnwys GetSafeOnline
Mae Tim yn trafod y manteision mae chwarae gemau yn eu cynnig i blant a phobl ifanc a'r risgiau sy'n cysylltiedig â phrynu eitemau mewn gemau.

Beth yw heriau a straeon celwydd peryglus ar-lein, a beth ddylem ni fod yn ei wneud yn eu cylch?
Dr Zoe Hilton, Cyfarwyddwr Praesidio Safeguarding
Mae Zoe yn rhannu canfyddiadau ymchwil, a arweiniwyd gan Praesidio ar ran TikTok, ar sut mae pobl ifanc yn ymgysylltu â heriau a straeon celwydd peryglus ar-lein.

Fideos TikTok sy'n targedu athrawon - Professionals Online Safety Helpline
Carmel Glassbrook, Arweinydd Prosiect Professionals Online Safety Helpline, SWGfL
Mae Carmel yn trafod y duedd feirysol o dargedu athrawon ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac yn darparu gwybodaeth am y gwasanaeth y gall Professionals Online Safety Helpine ei gynnig i athrawon sydd angen cymorth gydag adrodd cynnwys niweidiol neu eu lles.

Meithrin perthynas amhriodol ar-lein gyda phlant i bwrpas rhyw: Cam-drin a manteisio drwy gyfathrebu
Yr Athro Nuria Lorenzo Dus, Ieithyddiaeth Gymhwysol, Prifysgol Abertawe
Mae'r Athro Nuria Lorenzo-Dus yn trafod y tactegau perswadio a ddefnyddir mewn cyfathrebu meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein i bwrpas rhyw a'r gwaith sy'n cael ei wneud i ddiogelu plant ar-lein, sy'n cynnwys prosiect Dragon-S.

Meithrin perthynas amhriodol ar-lein: Gofalu nad yw drws eich cartref ar agor i gamdrinwyr rhywiol plant
Susie Hargreaves, OBE, Prif Weithredwr Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd (IWF)
Mae Susie yn trafod rôl yr IWF o ran gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i blant ar draws y byd a'u hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth diweddaraf.

Cymhlethdodau bod yn ddinesydd digidol
Helen King, Cyfarwyddwr Diogelu Praesidio
Mae Helen yn trafod cymhlethdod plant a phobl ifanc yn tyfu i fyny mewn byd lle mae technoleg ddigidol yn hollbresennol.

Trin plant yn wahanol mewn byd digidol
Helen Thomas, Uwch Swyddog Polisi (Cymru) yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Mae Helen yn esbonio beth yw pwrpas cod y Plant, pam mae ei angen a sut mae'n effeithio ar ysgolion.

Effaith y cyfryngau cymdeithasol ar hunan-barch a sut i helpu
Stephanie Hoffman, Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol, Pro-Mo Cymru
Mae Stephanie Hoffman, Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol Pro-Mo Cymru yn trafod effaith y cyfryngau cymdeithasol ar hunan-barch. Mae’n tynnu sylw at yr holl alwadau i linell gymorth Meic gan bobl ifanc, a sut y cawson nhw eu datrys.

Aflonyddu rhywiol ar-lein ymysg pobl ifanc: Y peth sy’n digwydd ar-lein nad oes unrhyw un yn sôn amdano
Will Gardner OBE, CEO Childnet International
Mae Will yn trafod problem gynyddol aflonyddu rhywiol ar-lein sy'n wynebu pobl ifanc ac effaith ymddygiadau annerbyniol ar-lein, gan dynnu sylw at bwysigrwydd grymuso pobl ifanc i gamu ymlaen a siarad allan.

Dysgu mewn oes o gamwybodaeth
Kelly Mendoza, Uwch Gyfarwyddwr Rhaglenni Addysg, Common Sense Education
Mae Dr. Kelly Mendoza, Uwch Gyfarwyddwr Rhaglenni Addysg yn Common Sense Education, yn trafod y cyfraniad y gallwn ni ei wneud o ran helpu plant i ddod yn ddefnyddwyr beirniadol ac yn grewyr newyddion a chyfryngau.

Nid ffrog mohoni: pwysigrwydd amrywiaeth ym maes seiberddiogelwch
Clare Johnson, Rheolwr Partneriaethau ac Allgymorth (Digidol a STEM), Prifysgol De Cymru
Mae Clare yn sôn am bwysigrwydd amrywiaeth yn y diwydiant seiberddiogelwch. Mae'n egluro'r sefyllfa bresennol yn y diwydiant, yn tynnu sylw at fanteision mwy o amrywiaeth, yn archwilio rhagfarn ddiarwybod a rhai o'r camau y gellir eu cymryd i wella amrywiaeth.