X (a elwir gynt yn ‘Twitter’)
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'X', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Ym mis Hydref 2022, prynwyd Twitter gan yr entrepreneur Elon Musk, a ddaeth yn Brif Swyddog Gweithredol y platfform wedyn. Ers prynu X, mae wedi gwneud sawl newid i’r platfform, ac mae newidiadau’n parhau i gael eu gwneud yn aml, gan gynnwys newid yr enw o ‘Twitter’ i ‘X’ ym mis Gorffennaf 2023. Gan fod newidiadau’n cael eu gwneud mor aml i’r platfform, noder bod y canllaw hwn i’r ap yn gywir ym mis Tachwedd 2024.
Mae X yn wasanaeth rhwydweithio cymdeithasol a microblogio am ddim lle gall defnyddwyr bostio a rhyngweithio â negeseuon a elwir yn ‘Posts’ ( ‘Tweets’ o’r blaen). Gellir cyrchu X drwy borwr gwe neu ap symudol ar gyfer gwasanaethau Windows, Android ac iOS. Gall defnyddwyr cofrestredig bostio, hoffi ac aildrydar negeseuon pobl eraill. Os nad ydych chi wedi cofrestru, gallwch ddarllen a sgrolio drwy gynnwys pobl eraill ar borwr gwe, ond allwch chi ddim postio neges.
Gall posts gynnwys testun ysgrifenedig, lluniau, fideos a dolenni y gellir eu darllen gan eich dilynwyr, a'u canfod trwy chwiliad X. Mae pob neges unigol wedi'i chyfyngu i 280 o nodau ac mae ffeiliau sain neu fideo wedi'u cyfyngu i 140 eiliad. Os oes gennych chi gyfrif, mae X yn argymell cyfrifon eraill i'w dilyn yn seiliedig ar eich diddordebau, ac os byddwch chi’n dewis dilyn neu danysgrifio i ddefnyddwyr eraill, bydd eu diweddariadau nhw'n ymddangos ar eich ffrwd.
Mae X wedi dod yn blatfform o ddewis i lawer o oedolion gymryd rhan mewn cymunedau o ddiddordebau a rhannu ymchwil a safbwyntiau’n hawdd a chyflym. Mae'n caniatáu i ddefnyddwyr gymysgu diddordeb proffesiynol gyda safbwyntiau byr am hobïau, diddordebau personol, rhwystredigaethau, neu jôcs. Mae'r cynnwys hygyrch a chryno’n golygu ei bod hi'n hawdd postio syniadau, cwestiynau a safbwyntiau, ac mae llawer o bobl proffil uchel yn defnyddio X fel hyn.
Er bod X yn dal i fod yn boblogaidd dros ben, mae newidiadau dadleuol i’r platfform wedi arwain at golli defnyddwyr a hysbysebwyr. Nodwyd bod colli refeniw hysbysebu a defnyddwyr wedi cyd-fynd â’r cynnydd mewn cynnwys casineb a’r gostyngiad mewn staff sy’n gweithio mewn ymddiriedaeth a diogelwch. Dylai defnyddwyr gofio nad yw cyfrifon â thic glas yn gyfystyr â phobl na sefydliadau credadwy mwyach, gan fod y gwasanaeth hwn wedi symud i fodel tanysgrifio o’r enw X Premium (‘Twitter Blue’ gynt).
Mae hyn yn golygu bod unrhyw ddefnyddiwr yn gallu prynu tic glas ar gyfer ei broffil erbyn hyn, waeth a yw’n cynrychioli sefydliad neu unigolyn credadwy. Mae’r camau hyn wedi arwain at gyhoeddi adroddiadau gan y Centre for Countering Digital Hate (CCDH) am y cynnydd parhaus mewn casineb ar-lein ar wefan X.
Sgôr oedran swyddogol
Yr oedran isaf ar gyfer defnyddwyr X, yn ôl telerau gwasanaeth y platfform, yw 13, er nad oes unrhyw ddull trylwyr o wirio oedran.
Mae’r Apple App Store yn rhoi sgôr o 17+ i’r ap a Google Play Store yn argymell ‘parental guidance required’.
Mae pob cyfrif yn gyhoeddus yn ddiofyn, lle mae unrhyw ddefnyddwyr eraill y platfform yn gallu gweld cynnwys. Ar gyfer defnyddwyr iau, argymhellir gwneud y cyfrif yn breifat.
Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.
Sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio'r ap
Mae X yn boblogaidd gyda rhai pobl ifanc am ei ddiweddariadau byr a bachog sy'n ddoniol yn aml. Mae plant a phobl ifanc yn mwynhau'r elfen ryngweithiol, gan wneud cysylltiadau a bod modd dal i fyny gyda straeon newydd a sgyrsiau a phynciau poblogaidd. Mae Posts yn cael eu diweddaru'n rheolaidd felly bob tro y bydd eich ffrwd yn adnewyddu, mae mwy o gynnwys diddorol i chi ryngweithio'n barhaus ag ef. Mae'n apelio’n fawr at bobl ifanc, gan fod nifer y bobl sy'n 'hoffi', yn ail-drydar, a nifer y dilynwyr sydd ganddynt yn gallu rhoi ymdeimlad o gymeradwyaeth, poblogrwydd a chael eu derbyn.
Pan fydd posts yn dod yn arbennig o lwyddiannus neu'n mynd yn 'feirol' gall achosi cryn foddhad i bobl ifanc, ond gall ddenu sylw neu aflonyddu digroeso hefyd. Mae X yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan enwogion, dylanwadwyr ac arweinwyr, ac yn aml mae hynny’n denu cefnogwyr ifanc i ymuno â X i ryngweithio â nhw a'u cymunedau cefnogwyr ar X.
Nodweddion a therminoleg allweddol
Risgiau posibl
Cynnwys
Mae cynnwys ar X yn cael ei ychwanegu a'i gynhyrchu gan ddefnyddwyr ac mae llawer ohono heb ei gymedroli. Mae'n bosib cwyno am gynnwys a'i ddileu am fethu cydymffurfio â safonau cymuned X ac mae defnyddwyr yn cael eu hannog i farcio unrhyw gynnwys maen nhw’n ei drydar a allai fod yn sensitif (gan gynnwys cynnwys rhywiol neu dreisgar), er mwyn iddo gael ei ddal gan hidlyddion. rhywfaint o hiliaeth, casineb at fenywod ac iaith casineb ar X yn ogystal â beirniadaeth ddeifiol ac anghytuno gwenwynig.
Mae'n hawdd chwilio am a gweld cynnwys rhywiol hefyd, gan fod rhai gweithwyr rhyw yn defnyddio X fel platfform i hysbysebu eu gwaith. Drwy gyfyngu ar bwy mae'ch plentyn yn gallu cysylltu â nhw ar y platfform, mae'n llai tebygol o brofi iaith, cynnwys neu ymddygiad anaddas i'w oedran. Fodd bynnag, dylid cydnabod y gallai'ch plentyn fod yn agored i gynnwys amhriodol o hyd drwy ei gysylltiadau hysbys.
Fel unrhyw blatfform cyfryngau cymdeithasol, mae perygl i’ch plentyn weld cynnwys camarweiniol neu anwir ar X. Weithiau, mae’r cynnwys hwn yn gallu bod yn ddadleuol, sy'n golygu ei fod wedi'i gynllunio i ysgogi ymateb emosiynol gan ddefnyddiwr, a denu’r defnyddiwr i ymateb i’r neges dan sylw. Hefyd, gallai’r cynnwys geisio ymddangos yn ffeithiol ac yn niwtral er mwyn apelio at ymdeimlad defnyddiwr o resymeg a rhesymu.
Er bod gan X nodweddion fel ‘community notes’ a all ddwyn anfri ar y cynnwys hwn, ni ddylid dibynnu ar X yn unig gan ei fod yn cael ei arwain gan ddefnyddwyr ac efallai na fydd yn bresennol ar bob post. Hefyd, cofiwch y gall y cynnwys hwn gael ei rannu gan gysylltiadau hysbys. Mae'n bwysig eich bod chi'n helpu'ch plentyn i ddysgu sut i adnabod camwybodaeth a'i annog i wirio'r cynnwys y mae'n ei weld ar X.
Ers i X newid dwylo ym mis Hydref 2022, mae nifer y staff wedi lleihau’n sylweddol, sy’n golygu bod llai o bobl yn y timau cymedroli cynnwys. Adrannau fel ymddiriedaeth a diogelwch a chysylltiadau cyhoeddus gafodd eu lleihau fwyaf, gan nad oeddent yn cael eu hystyried yn bwysig o gymharu â staff yn gweithio ym maes peirianneg a datblygu. Mae hyn yn golygu bod safon y cymedroli’n salach, a bod y platfform yn gorfod dibynnu llawer mwy ar broses awtomeiddio i olrhain cynnwys niweidiol yn hytrach na bod cymedrolwyr cig a gwaed yn chwilio am gynnwys o’r fath. Dylai rhieni a gofalwyr fod yn fwy gofalus wrth adolygu’r math o gynnwys y mae eu plentyn yn ei weld ar y platfform. Dylech annog eich plentyn i siarad â chi os yw’n gweld cynnwys sy’n peri gofid iddo.
Mae newidiadau algorithmig wedi’u gwneud i’r platfform, gan newid sut mae cynnwys yn cael ei gyflwyno i ddefnyddwyr. O’r blaen, byddai defnyddwyr wedi gweld postiadau mewn trefn gronolegol, ond bellach, maen nhw’n cael gweld detholiad o bostiadau a all fod o ddiddordeb iddyn nhw yn yr adran ‘For you’. Mae rhai sy’n defnyddio’r ap yn gallu dewis naill ai gweld cynnwys gan bobl maen nhw’n eu dilyn neu bostiadau sy’n cael eu hargymell gan X. Am fwy o wybodaeth ar sut i wneud hyn, darllenwch adran ‘Rheoli rhyngweithio a chynnwys’ y canllawiau hyn. Dylid gwirio’r gosodiad hwn yn rheolaidd.
Mae gan Grok, y sgwrsfot AI sydd ar gael i ddefnyddwyr premiwm X, lai o fesurau diogelu o'i gymharu ag offer AI poblogaidd eraill. Mae hyn yn golygu bod cynhyrchydd lluniau Grok yn gallu creu delweddau a all beri gofid i bobl ifanc. Mae gan Grok ddau fodd sgwrsio hefyd, ‘regular’, a ‘fun’, sydd yn weithredol yn ddiofyn ac wrth ei hysbysebu dywedir bod ganddo natur wrthryfelgar (‘rebellious’). Fodd bynnag, mae’r modd ‘fun’ yn golygu bod ymatebion ysgrifenedig Grok yn gallu bod yn aflednais neu’n cynnwys geiriau a all beri gofid neu ddryswch i blant a phobl ifanc.
Os yw’ch plentyn yn defnyddio Grok, dylech droi modd ‘regular’ Grok ymlaen. Mae'r modd hwn yn addasu naws Grok i fod yn fwy niwtral ac addas i blant. Mae’r camau i wneud hyn yn adran ‘Rheoli rhyngweithio a chynnwys’ y canllaw hwn. Hefyd, dylech fonitro defnydd eich plentyn o Grok a’i atgoffa i siarad â chi am ei ddefnydd o Grok, yn enwedig os yw'n dod ar draws cynnwys sy’n ddryslyd neu'n peri gofid iddo.
Cysylltu ag eraill
Mae peryglon dod i gysylltiad â dieithriaid gan gynnwys bwlio ar-lein, aflonyddu, a rhyngweithio sarhaus. Mae bwlio ar-lein yn gallu bod yn broblem fawr ar X gan fod defnyddwyr poblogaidd yn gallu denu llawer o'u dilynwyr i gymryd rhan ac ychwanegu eu safbwyntiau eu hunain gan ymestyn yr holl sylwadau cas. Gelwir hyn yn X 'pile on'.
Hefyd, mae X yn cyflwyno'r risg o feithrin perthynas amhriodol i blant a phobl ifanc sy'n defnyddio'r platfform oherwydd y potensial ar gyfer negeseuon uniongyrchol, llais a galwadau fideo. Fel gyda phlatfformau eraill, mae drwgweithredwyr yn gallu defnyddio natur fregus plant i'w canmol nhw a meithrin digon o gysylltiad i ysgogi sgwrs un i un drwy sgwrs bersonol. Mae’r risg yn waeth yn sgil cyflwyno’r gallu i olygu negeseuon uniongyrchol ar gyfer defnyddwyr ar ap iOS. Ar hyn o bryd, mae modd golygu negeseuon unrhyw bryd, hyd at bum gwaith. Er bod negeseuon wedi’u golygu yn cynnwys label ‘Edited’, does dim modd gweld fersiynau blaenorol o’r neges ar hyn o bryd. Gwnewch yn siwr bod 'Direct messaging' ac ‘Audio and video calling’ wedi'i analluogi yn unol â'r gosodiadau yn adran 'Sut i gadw'ch plentyn yn ddiogel' y canllaw hwn.
Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o gysylltu â dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar ei broffil neu mewn sgyrsiau. Atgoffwch ddefnyddwyr i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol neu wedi gwneud cais am sgwrs breifat trwy ap gwahanol.
Ceisiwch sicrhau bod eich plentyn yn ymwybodol o hacwyr a sgamwyr ar X. Gallant dderbyn anogaeth i glicio ar ddolenni neu gysylltu â phobl yn breifat, lle mae rhywun yn ceisio eu hacio neu eu twyllo neu ddwyn manylion eu cyfrif.
Mae rhai proffiliau X yn gyfrifon awtomataidd a reolir gan bot meddalwedd. Mae bot X, a elwir weithiau'n 'zombies', yn cael eu rhaglennu i weithredu fel defnyddwyr cyffredin X (fel hoffi neu ddilyn cyfrifon eraill) ond eu pwrpas yw post ac ail-drydar cynnwys penodol ar gyfer pwrpas a bennwyd ymlaen llaw, yn aml ar raddfa fawr. Mae rhai bots yn gyfeillgar ac yn helpu i ledaenu negeseuon positif yn gyflym. Fodd bynnag, gellir cynllunio bots at ddibenion maleisus, fel trin yn ystrywgar neu fygwth defnyddwyr eraill, sbamio neu ledaenu newyddion ffug a chamwybodaeth. Gellir defnyddio bots i chwyddo nifer y dilynwyr yn artiffisial ar broffil gwirioneddol, sy'n gallu cynyddu hygrededd a dylanwad cymdeithasol y defnyddiwr hwnnw yn seiliedig ar eu poblogrwydd ymddangosiadol.
Mae cymunedau ar X yn adleisio nodwedd ‘grwpiau’ sy’n gyffredin ar draws llawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Fel gosodiadau grwpiau eraill, efallai y bydd cymunedau ar X yn ceisio denu eich plentyn i ymuno a chwrdd â phobl o’r un anian yn seiliedig ar ddiddordebau cyffredin, fel gêm fideo benodol neu grëwr penodol. Fodd bynnag, gan fod hyn yn gallu cysylltu plant a phobl ifanc â llawer o bobl nad ydynt yn eu hadnabod, mae yna risg diogelwch hefyd. Os yw’ch plentyn yn ymuno â chymuned ar X, mae’n bwysig eich bod yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd i wirio beth sy’n mynd ymlaen yn y gymuned hon. Darllenwch yr adran ‘rheoli preifatrwydd’ er mwyn helpu i gadw’ch plentyn yn ddiogel yn Communities.
Ymddygiad defnyddwyr
Y brif risg ymddygiad ar X yw bod barn a safbwyntiau defnyddwyr yn gallu cyrraedd cynulleidfa eang dros ben. Ers i’r platfform newid dwylo yn 2022, mae sawl defnyddiwr a oedd wedi’i wahardd o’r blaen wedi cael dychwelyd. Mae cyfrifon nifer o bobl â phroffil uchel wedi’u hadfer, er gwaetha’r ffaith eu bod wedi’u gwahardd o’r platfform cynt am dorri rheolau X. Dylech siarad â’ch plentyn am y math o bobl y mae’n dewis eu dilyn ar y platfform a’i annog i feddwl yn feirniadol am y post y mae’n eu darllen. Atgoffwch eich plentyn i siarad â chi os yw’n darllen rhywbeth sy’n peri gofid iddo neu nad yw’n ei ddeall.
Mae nodwedd Spaces ar X yn caniatáu i ddefnyddwyr gymryd rhan mewn sgyrsiau sain byw, ar gyfer pa nifer bynnag o wrandawyr cyhoeddus. Yn dibynnu ar gyflwynydd (host) Space penodol, mae unrhyw wrandäwr yn gallu cymryd rhan yn y sgwrs hefyd, a gall y sgwrs gael ei recordio. Gallai sesiynau sy’n cael eu recordio gael eu postio a’u rhannu ar-lein, a all adael cofnod digidol wedyn. Mae hyn yn golygu y gallai beth bynnag mae’ch plentyn yn ei ddweud yn Space gael ei recordio – sy’n gallu dilyn y plentyn hwnnw am weddill ei oes fel ôl troed digidol wedyn.
Felly, mae’n bwysig eich bod chi’n helpu eich plentyn i ddeall beth sy’n briodol, a ddim yn briodol i'w rannu, a thrafod y ffyrdd amrywiol o ddiogelu ei hun trwy rannu â'i gysylltiadau’n unig. Gwnewch yn siwr bod eich plentyn yn deall y gallai fod yn anodd cadw perchnogaeth ar unrhyw gynnwys unwaith y mae wedi'i rannu ar-lein, ac y bydd yn gadael cofnod digidol parhaol. Mae X yn cynnwys nodwedd ffrydio byw hefyd, ac mae'n hollbwysig analluogi hyn ar gyfer defnyddwyr iau. Os yw'n hyn, trafodwch beryglon ffrydio byw gyda'ch plentyn.
Gall defnyddwyr chwilio am swyddi a bostiwyd gan ‘sefydliadau dilys’ ar X. Efallai y byddai'n well gan rai pobl ifanc sy'n fwy cyfforddus yn defnyddio X ddefnyddio'r swyddogaeth hon i chwilio am eu swyddi cyntaf. Er bod y sefydliadau hyn wedi’u ‘gwirio’, efallai na fydd swyddi sy’n cael eu postio ar X bob amser yn gyfleoedd go iawn.
Os yw'ch plentyn yn mynegi diddordeb mewn defnyddio'r nodwedd hon, dylech ei helpu i ddysgu am we-rwydo i sicrhau ei fod yn cadw’n ddiogel wrth chwilio am waith. Hefyd, anogwch eich plentyn i drafod swyddi a chyfleoedd sydd o ddiddordeb iddo, fel y gallwch chi helpu i sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn rhai go iawn ac yn ddiogel i'ch plentyn.
Dyluniad, data a chostau
Mae yna risgiau i blant a phobl ifanc gyda X, gan fod y cynnwys mor gryno a thameidiog ac felly'n hawdd ymwneud ag ef heb fawr o ymdrech na sylw arbennig. Gallai'r ffordd gryno hon o lyncu gwybodaeth fod yn atyniadol iawn i bobl ifanc, a'u denu i ddefnyddio'r ap am gyfnodau maith o sgrolio drwy ffrwd sy'n diweddaru'n barhaus. Siaradwch â'ch plentyn er mwyn gosod cyfyngiadau ar y defnydd o X, ac ewch drwy'r gosodiadau hysbysiadau i'w helpu i sicrhau rhywfaint o amser di-sgrîn.
Mae X wedi lansio gwasanaeth am dâl a elwir yn ‘X Premium’ (‘Twitter Blue’ gynt). Mae tanysgrifwyr i’r gwasanaeth hwn yn cael addewid y bydd eu post yn cael blaenoriaeth yn yr algorithm, maen nhw’n gallu golygu negeseuon a gweld llai o hysbysebion. Bydd cyfrifon defnyddwyr X Premium yn cael eu dilysu â thic glas. Siaradwch â’ch plentyn am sut mae tanysgrifiadau yn gweithio a’i atgoffa bod hon yn strategaeth fusnes gan X i wneud arian, yn hytrach na chynnig mantais fawr i ddefnyddwyr.
Tra bod ticiau glas yn cael eu defnyddio i gynrychioli hygrededd, mae’n bwysig cofio bod unrhyw ddefnyddiwr yn gallu talu am y gwasanaeth hwn ac nad yw’n golygu bod y defnyddiwr neu’r sefydliad yr hyn y mae’n ei honni, neu eu bod nhw’n ffynhonnell wybodaeth gredadwy. Hefyd, dylech wneud yn siŵr bod eich plentyn yn deall nad yw’r ffaith bod ganddo ef/hi neu ddefnyddiwr arall dic glas, yn golygu bod ganddo hygrededd awtomatig.
Mae X wedi cyflwyno dau wasanaeth talu sy’n annog defnyddwyr i wario arian i ddangos eu bod nhw’n cefnogi neu’n gwerthfawrogi defnyddwyr eraill. Mae’r platfform yn gadael i ddefnyddwyr gynnig ‘cildwrn’ i ddefnyddwyr eraill gyda thaliadau untro i ddangos cefnogaeth neu werthfawrogiad, ac hefyd i danysgrifio i ddefnyddwyr eraill i gael cynnwys neu ryngweithio arbennig drwy opsiwn ‘subscription’.
Efallai y bydd defnyddwyr, yn enwedig pobl ifanc, yn cael eu denu i ddilyn (‘subscribing’) eu hoff grëwr fel arwydd o gefnogaeth neu werthfawrogiad ac i gael gafael ar gynnwys arbennig nad yw ar gael i ddilynwyr cyffredin. Nod ‘subscriptions’ yw ennyn diddordeb defnyddwyr a’u hannog i dalu arian i’w hoff grëwr gyda’r potensial o weld cynnwys bonws. Gan y gall crewyr addo cynnwys bonws i’w dilynwyr, efallai y bydd defnyddwyr yn cael eu temtio i gofrestru gyda chynllun tanysgrifio eu hoff grëwr. Os yw’ch plentyn yn dangos diddordeb mewn dilyn crëwr fel ‘subscribing’ neu ‘tipping’, siaradwch ag ef/hi i ystyried ffyrdd eraill o gefnogi ei hoffi grëwr.
Hefyd, dylai rhieni a gofalwyr nodi hefyd bod Grok yn defnyddio negeseuon X fel data i ysgrifennu ei ymatebion. Mae hyn yn golygu y gall postiad a wneir gan ddefnyddiwr ar X gael ei gasglu fel data a'i ddangos i ddefnyddiwr arall sy'n rhyngweithio â Grok. Mae’n golygu hefyd, fel sgwrsfotiaid AI eraill, y gall Grok ‘rith-weld’, neu ddarparu gwybodaeth ffeithiol anghywir i ddefnyddwyr. Argymhellir eich bod yn siarad â'ch plentyn am adnabod camwybodaeth a'i annog i wirio'r wybodaeth a gaiff gan Grok. Hefyd, dylech analluogi gallu Grok i ddefnyddio negeseuon eich plentyn fel data hyfforddi, er mwyn helpu i amddiffyn ei breifatrwydd. Mae camau i analluogi hyfforddiant data i’w gweld yn adran ‘Rheoli preifatrwydd’ y canllaw hwn.
Awgrymiadau ar gyfer cadw’ch plentyn yn ddiogel
Cyngor cyffredinol
Tra bod rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn â dyfodol X, mae defnyddwyr yn cael eu cynghori i ddiogelu eu cyfrifon. Argymhellir y dylai defnyddwyr gael copi o’u harchif.
I gael copi o’ch archif:
- ewch i’r ddewislen gosodiadau yn eich proffil a dewiswch ‘More’
- dewiswch ‘Settings and privacy’ a dewiswch ‘Your account’
- dewiswch yr opsiwn ‘Download an archive of your data’
Hefyd, cynghorir defnyddwyr i beidio â dileu eu cyfrifon os nad ydynt yn dymuno defnyddio X bellach, oherwydd y perygl y gall rhywun greu cyfrif ffug o dan eu henw. Yn hytrach dylai defnyddwyr ddefnyddio’r ddewislen gosodiadau a dewis ‘Protect your posts.’
Siaradwch â'ch plentyn am fwlio ar-lein a pha mor bwysig yw ymddwyn yn gwrtais a moesegol ar blatfformau digidol. Gall yr hyn sy'n gallu ymddangos yn ddiniwed o'r tu ôl i fysellfwrdd gael effaith sy'n newid bywyd ar rywun sy'n destun cam-drin neu gywilyddio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae gan X ganllawiau helaeth ar ddiogelwch cyfrif.
Nodwyd achosion lle mae X yn cymryd drosodd cyfrifon er mwyn cael gafael ar eu ‘handles’. Er bod hyn yn anarferol iawn, cofiwch gadw hyn mewn cof wrth greu ‘handle’.
Mae X yn cynnig pob math o farciau ticio a bathodynnau, a all fod yn ddryslyd i ddefnyddwyr newydd. Dylech ddarllen canllawiau X am eu hystyron.