English

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Mae meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn disgrifio proses pan fo rhywun yn dod yn gyfaill i blentyn ar-lein ac yn ennyn ei ymddiriedaeth gyda’r bwriad o’i ddefnyddio, ei ecsbloetio neu achosi niwed iddo. Bydd y rhai sy’n meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn aml yn datblygu cysylltiad emosiynol â phlentyn i ennyn ei ymddiriedaeth a gall troseddwyr ecsbloetio problemau fel unigrwydd, ynysigrwydd, hunan-barch isel, anawsterau teuluol neu mewn perthynas neu pan fo rhywun yn archwilio rhywioldeb.

Gall y sawl sy’n gwneud hyn fod yn gyfarwydd i’r plentyn neu fe all fod yn gwbl ddieithr. Mae’r rhai sy’n gwneud hyn yn defnyddio amrywiaeth o dactegau i ennill grym a rheolaeth dros eu dioddefwr. Gall y rhain gynnwys esgus bod yn ffrind anfygythiol, fflyrtio, llwgrwobrwyo gyda rhoddion go iawn neu rithwir, canmol, blacmelio ac ynysu’r plentyn oddi wrth ffrindiau a theulu. Gall addysgu plant o oedran cynnar beth yw perthnasoedd iach a llawn parch eu helpu i ddeall pwy i ymddiried ynddo ar-lein a’u grymuso i osgoi neu ymdrin â chyswllt amhriodol yn ddiogel.

Rhybudd

Os ydych chi’n pryderu bod rhywun yn meithrin perthynas amhriodol â phlentyn ar-lein neu’n cam-fanteisio’n rhywiol arno, cysylltwch â’r heddlu neu’r NSPCC yn syth. Gellir cyflwyno pryderon am feithrin perthynas amhriodol ar-lein a cham-drin rhywiol i’r CEOP hefyd yn ceop.police.uk

Canllawiau Llywodraeth Cymru


Atal cam-drin plant yn rhywiol ar-lein - ein gwaith gyda Sefydliad Gwylio'r Rhyngrwyd (IWF)

Barn yr arbenigwyr

Meithrin perthynas amhriodol ar-lein: Gofalu nad yw drws eich cartref ar agor i gamdrinwyr rhywiol plant

Susie Hargreaves, OBE, Prif Weithredwr Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd (IWF)

Meithrin perthynas amhriodol ar-lein gyda phlant i bwrpas rhyw: Cam-drin a manteisio drwy gyfathrebu

Yr Athro Nuria Lorenzo Dus, Ieithyddiaeth Gymhwysol, Prifysgol Abertawe


Adnoddau dysgu ac addysgu

Pynciau cysylltiedig