English

Beth sydd angen i chi ei wybod

Bob tro y byddwch yn postio rhywbeth ar-lein rydych yn adeiladu ôl troed digidol. Mae eich ôl troed digidol yn dylanwadu ar farn pobl eraill amdanoch yn seiliedig ar eich gweithgarwch ar-lein – dyma'ch enw da ar-lein. Bob tro y byddwch chi'n postio rhywbeth ar-lein, yn rhannu cynnwys neu'n chwarae gêm, rydych chi'n cyfrannu at eich ôl troed digidol. Mae'r un peth yn wir pan fydd pobl eraill yn postio amdanoch chi, mae hyn hefyd yn cyfrannu at eich ôl troed digidol. Mae'n bwysig ystyried effaith yr hyn rydych chi'n ei bostio ar-lein arnoch chi eich hun ac ar eraill.

  • Mae'n bwysig deall pa mor barhaol yw'r hyn a rennir ar-lein, a'r gynulleidfa bosibl heddiw ac yn y dyfodol. Mae'r hyn a bostiwn yn effeithio ar ein henw da; barn ein teulu a'n ffrindiau, ein hathrawon a’n cyflogwyr yn y dyfodol amdanom ni.

    Mae bywyd digidol yn gyhoeddus ac yn barhaol. Gall rhywbeth sy'n digwydd ar amrantiad, er enghraifft, llun doniol neu bostiad mewn tymer, gael ei gopïo a gall ddod i’r wyneb flynyddoedd yn ddiweddarach. 

     

  • Er bod llawer o fanteision i rannu gwybodaeth ar-lein, gall popeth rydych chi'n ei bostio ar-lein ddod yn gyhoeddus. Gall cynnwys rydych chi’n ei gredu sy’n ‘breifat’ gael ei anfon ymlaen, ei ail-bostio, ei giplunio neu ei basio o un i’r llall, a’i wneud yn gyhoeddus yn sydyn iawn.

     

  • Mae dau brif fath o ôl troed digidol:

    • Mae ôl troed digidol gweithredol yn cynnwys eich gweithgarwch ar-lein eich hun, er enghraifft, lluniau, sylwadau rydych chi'n eu postio.
    • Mae ôl troed digidol goddefol yn cael ei greu pan fydd pobl eraill yn postio amdanoch ar-lein, er enghraifft, llun ohonoch chi neu sylw amdanoch chi. Nid oes rhaid i chi o reidrwydd gael eich tagio i weithgarwch pobl eraill gyfrannu at eich ôl troed digidol goddefol.

     

  • Gallwch ddod o hyd i'ch ôl troed digidol yn rhwydd drwy chwilio amdanoch eich hun, gan ddefnyddio Google neu chwilotwr rhyngrwyd arall. Dyma'r wybodaeth y bydd pobl eraill yn ei gweld os byddant yn gwneud yr un peth, er enghraifft, cyflogwr yn y dyfodol, cydweithiwr neu athro.

    Ar ôl i chi wneud hynny, mae amrywiaeth o offer ar gael i'ch helpu i gadw golwg ar eich enw da ar-lein, gan gynnwys Google Alerts a fydd yn rhoi gwybod i chi am unrhyw weithgaredd ar-lein newydd sy'n gysylltiedig â'ch gwybodaeth bersonol, fel eich enw.

     

Cyngor doeth

  • Gwiriwch eich gosodiadau preifatrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r rhan fwyaf o gyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol yn gyhoeddus yn ddiofyn, ond yn aml gallwch newid hyn.
  • Peidiwch ag anghofio am eich llun proffil. Nid yw lluniau proffil ar draws yr holl rwydweithiau cymdeithasol byth yn breifat. Sicrhewch bod eich llun proffil yn eich dangos mewn ffordd bositif ac nad oes gwybodaeth bersonol na chynnwys amhriodol.
  • Diogelu eich cyfrineiriau. Peidiwch byth â rhannu manylion eich cyfrinair, fel mai dim ond chi sydd â mynediad a’r gallu i newid eich proffiliau ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Rheoli’ch rhestr ffrindiau neu’ch dilynwyr. Ystyriwch adolygu gyda phwy rydych chi'n gysylltiedig ar-lein a gwneud hyn yn rheolaidd fel y gallwch chi deimlo'n fwy hyderus bod y bobl rydych chi'n rhannu cynnwys â nhw yn gefnogol.
  • Siaradwch â ffrindiau a theulu. Rhowch wybod iddyn nhw beth rydych chi'n gyfforddus iddyn nhw ei rannu amdanoch chi ar-lein a holwch beth maen nhw'n gyfforddus i chi ei rannu amdanyn nhw. Er enghraifft, ydych chi'n hapus i gael eich tagio mewn llun?
  • Tynnu cynnwys diangen. Os ydych chi'n canfod gwybodaeth bersonol sensitif ar-lein na allwch ei thynnu eich hun, gallwch ofyn i Google ei thynnu oddi yno. Gallwch wirio'r hyn y mae Google yn barod i'w dynnu. Os oes delwedd noeth wedi'i rhannu heb eich caniatâd, gallwch roi gwybod am hyn i Report Remove.

Mae canllawiau ar gyfer newid eich gosodiadau preifatrwydd ar lawer o lwyfannau ar-lein i’w gweld yn ein canllawiau ap.


Barn yr arbenigwyr

Rheoli’ch ôl-troed digidol a’ch enw da

Richard Wall ac Elaina Brutto, Gyrfa Cymru

Mae Gyrfa Cymru yn archwilio sut i reoli eich ôl troed digidol a'ch enw da yn effeithiol fel ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar eich cyflogaeth yn y dyfodol.


Adnoddau dysgu ac addysgu