English

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Ffrydio byw yw darlledu fideo byw, mewn amser real gan ddefnyddio’r rhyngrwyd. Mae plant a phobl ifanc yn defnyddio gwasanaethau ffrydio byw i ddarlledu a gwylio eraill yn ffrydio byw. Gall hyn gynnwys pobl enwog, blogwyr fideo (neu ‘flogwyr’) a phobl sy’n chwarae gemau cyfrifiadurol, yn ogystal â ffrindiau a theulu.

Er bod ffrydio byw’n gallu bod yn gyfrwng cadarnhaol i blant a phobl ifanc fynegi eu hunain a chysylltu â phobl sydd â diddordebau tebyg, gall gael canlyniadau difrifol hefyd.

Cyn mynd yn fyw ystyriwch pwy allai weld eich darllediad, beth ydych chi’n ei rannu - gallai hyn gynnwys eich lleoliad - a meddyliwch am beth ydych chi’n ei ddarlledu ymlaen llaw. Mae’n bwysig eich bod chi wedi gwirio’r gosodiadau pan fyddwch chi’n defnyddio apiau neu wasanaethau er mwyn ffrydio’n fyw i sicrhau eu bod yn iawn i chi. Mae llawer o blatfformau’n gadael i chi reoli’ch preifatrwydd.

Gall ffrydio byw gynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu cyfunol hefyd. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gellir defnyddio hyn i ddarparu gwersi byw ewch i’n tudalennau Gwersi byw - Hwb (gov.wales)