English

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Bwlio ar-lein yw bwlio gan ddefnyddio technoleg neu wasanaethau neu blatfformau ar-lein e.e. gemau cyfrifiadur, y cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau negeseua, fforymau ac ystafelloedd sgwrsio. Gall bwlio ar-lein gynnwys ymddygiad bygythiol, cam-drin, aflonyddu, cywilyddio, allgau, dwyn hunaniaeth, difrod maleisus, rhannu delweddau/fideos heb ganiatâd a gorfodaeth.

Gall bwlio dargedu ymddangosiad rhywun, ei rywioldeb, anabledd, ei ddiwylliant, crefydd, statws cymdeithasol a nodweddion eraill. Gall effeithio ar iechyd, lles a hunanhyder plant a phobl ifanc gan achosi iddynt fynd fwy i’w cragen, bod dan fwy o straen ac yn orbryderus.

Canllawiau Llywodraeth Cymru

Herio bwlio

Canllawiau a gwasanaethau i helpu ysgolion, awdurdodau lleol, plant a’u rhieni a gofalwyr i ddelio â bwlio.


Deall pan mae ymddygiad yn croesi'r llinell

Gellir disgrifio tynnu coes fel ffrindiau'n gwneud hwyl am ben ei gilydd drwy wneud sylwadau pryfoclyd.   

Mae pawb yn ‘tynnu coes’ eu ffrindiau bob hyn a hyn, ond weithiau mae'n gallu mynd yn rhy bell, gan newid yn gyflym o fod yn ychydig o hwyl ddiniwed i rywbeth mwy sarhaus a phersonol. Gall y newid hwn fod mor anodd ei weld fel nad yw pobl bob amser yn sylweddoli pan fydd eu hymddygiad wedi troi'n fwlio ar-lein. 

Efallai bod y bobl hynny sy'n gwneud y sylwadau yn credu bod yr hyn maen nhw’n ei ddweud yn jôc, ond eu bod mewn gwirionedd yn achosi niwed heb fwriadu gwneud hynny.  

Cofiwch feddwl am y bobl rydych chi'n ‘tynnu eu coes’ cyn postio neges. A fyddai'n hwyl pe bydden nhw'n dweud yr un pethau wrthych chi?  


Adnoddau dysgu ac addysgu