English

Mae cynnydd dysgwyr ar hyd continwwm dysgu rhwng 3 ac 16 oed yn rhan greiddiol o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae asesu yn chwarae rhan sylfaenol wrth alluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol, gan sicrhau y caiff ei gefnogi a’i herio yn unol â hynny.

Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r egwyddorion allweddol a diben asesu, sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cynnydd dysgwyr. Maent yn darparu manylion i ysgolion a lleoliadau, unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol am y materion y mae'n rhaid iddynt eu hystyried wrth iddynt lunio, gweithredu, adolygu a diwygio'r trefniadau asesu a'r arferion sy'n rhan annatod o'u cwricwlwm.

Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin â'r prosesau allweddol sydd eu hangen er mwyn sicrhau y gall dysgwyr wneud cynnydd effeithiol, sef:

  • datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd
  • cyfnodau pontio ar hyd y continwwm rhwng 3 ac 16 oed
  • cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni a gofalwyr

Datblygwyd y canllawiau hyn i ystyried anghenion pob dysgwr ac maent yn cydnabod y bydd hunaniaeth, iaith, gallu, cefndir a dysgu blaenorol pob dysgwr, yn ogystal â'r cymorth y gall fod ei angen arno, yn amrywio yn ôl ei amgylchiadau penodol.

Mae’r adran hon o ganllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn ganllawiau statudol. Mae mwy o wybodaeth ynghylch ei statws i’w gweld yn y cyflwyniad i’r Fframwaith hwn.

Sut i ddefnyddio’r canllawiau hyn

Mae asesu yn rhan sylfaenol o Gwricwlwm i Gymru ac mae’n rhan annatod o’r broses ddysgu. Pan gyfeirir at y cwricwlwm, dysgu ac addysgu neu gynllunio ar gyfer dysgu o fewn y canllawiau hyn, mae asesu ymhlyg yn hynny.

Dylid darllen y canllawiau statudol hyn ar y cyd â gweddill canllawiau Cwricwlwm i Gymru ar gynllunio a gweithredu'r cwricwlwm.

Wrth lunio, gweithredu, adolygu a diwygio trefniadau asesu ac arferion ystafell ddosbarth, dylai'r rheini sy'n gyfrifol am wneud hynny fabwysiadu'r egwyddorion a nodir yn y canllawiau hyn a rhaid iddynt roi ystyriaeth i’r cynnwys er mwyn cefnogi cynnydd. Dylid defnyddio'r canllawiau hyn fel sail ar gyfer trafodaethau a dysgu proffesiynol o fewn ysgolion a lleoliadau a rhyngddynt, er mwyn eu helpu i hunanwella ac er mwyn sicrhau cysondeb rhwng ysgolion a lleoliadau. Bydd yn bwysig i bob ymarferydd ymgyfarwyddo â'r manylion. Dylid eu darllen ochr yn ochr ag unrhyw ganllawiau cynorthwyol a gwybodaeth ategol am y prosesau allweddol sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn gwneud cynnydd effeithiol, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn ystod haf 2022.

Ni ddisgwylir i leoliadau gynllunio eu trefniadau asesu eu hunain. Mae trefniadau asesu lleoliadau wedi’u datblygu ar y cyd gyda phartneriaid allweddol sydd wedi mabwysiadu cwricwlwm lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.

Wrth roi eu trefniadau asesu ar waith, eu trefniadau asesu eu hunain neu'r trefniadau asesu a ddarperir gan Weinidogion Cymru, rhaid i leoliadau ystyried y canllawiau hyn.

Gofynion cyfreithiol ar gyfer asesu

Cwricwlwm

Mandadol

Mae'r gofynion statudol ar gyfer ysgolion, addysg heblaw yn yr ysgol gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, ac addysg feithrin a ariennir nas cynhelir o ran trefniadau asesu ar gael yn adran crynodeb o ddeddfwriaeth canllawiau Cwricwlwm i Gymru.

Mae asesu yn rhan hanfodol o gynllunio’r cwricwlwm a’i ddiben cyffredinol o fewn y cwricwlwm yw cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd. Mae’n rhan annatod o ddysgu ac addysgu ac mae’n gofyn am bartneriaethau effeithiol ymhlith pawb sy’n rhan o’r broses, gan gynnwys y dysgwr.

Mae gan asesu rôl sylfaenol i’w chwarae wrth sicrhau bod pob dysgwr unigol yn cael ei gefnogi a’i herio’n briodol. Dylai gyfrannu at ddatblygu darlun cyfannol o’r dysgwr, ei gryfderau, y ffyrdd y mae’n dysgu, a’i feysydd i’w datblygu, er mwyn llywio’r camau dysgu ac addysgu nesaf. Ni ddylai asesu gael ei ddefnyddio i lunio barn untro ar gyflawniad cyffredinol dysgwr ar oedran neu adeg benodol yn erbyn disgrifyddion na meini prawf ar sail ffit orau.

Mae asesu yn chwarae tair prif ran yn y broses o alluogi cynnydd dysgwyr:

  • cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd
  • nodi, cofnodi a myfyrio ar gynnydd dysgwyr unigol dros amser
  • deall cynnydd grwpiau er mwyn myfyrio ar arferion.

Wrth gynllunio a chyflwyno profiadau dysgu, dylai ymarferwyr fod yn glir ynghylch rôl benodol pob asesiad a gynhelir ac at ba ddiben y defnyddir y ddealltwriaeth a geir yn sgil yr asesiad, a pham.

Cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd

Dylai'r broses asesu ganolbwyntio ar nodi cryfderau pob dysgwr unigol, ei gyflawniadau, ei feysydd i'w datblygu a, lle y bo'n berthnasol, rhwystrau i ddysgu. Dylai ymarferwyr ddefnyddio'r ddealltwriaeth hon, gan drafod â'r dysgwr, i benderfynu ar y camau nesaf sydd eu hangen er mwyn datblygu'r dysgu, gan gynnwys unrhyw heriau ychwanegol a chymorth sydd ei angen. Dylid cyflawni hyn drwy gynnwys trefniadau asesu fel rhan o'r arferion o ddydd i ddydd mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb y dysgwr ac sy'n golygu nad yw'n ddim gwahanol i ddysgu. Mae hyn yn galluogi'r ymarferydd i ymateb i anghenion unigol yr holl ddysgwyr yn ei ystafell ddosbarth yn barhaus.

Pennu cynnydd dysgwyr unigol dros amser, llunio darlun ohono, a myfyrio arno

Dylai’r broses asesu helpu ymarferwyr i bennu’r cynnydd a wneir gan ddysgwyr unigol, a chofnodi hyn lle mae’n briodol, er mwyn deall taith y dysgwr dros wahanol gyfnodau o amser ac mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys meithrin dealltwriaeth o sut y mae dysgwr wedi dysgu, yn ogystal â’r hyn y mae wedi’i ddysgu ac yn gallu ei ddangos. Bydd myfyrio ar gynnydd dysgwr dros amser yn galluogi ymarferwyr i roi adborth a helpu i gynllunio ei ddysgu yn y dyfodol, gan gynnwys unrhyw ymyriadau, cymorth ychwanegol neu her y gall fod eu hangen. Dylai hyn gynnwys y camau nesaf uniongyrchol a’r amcanion a’r nodau tymor hwy y dylai’r dysgwr weithio tuag atyn nhw er mwyn ei helpu i barhau i symud ymlaen o ran ei ddysgu. Gellir defnyddio hyn hefyd fel sail ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni a gofalwyr.

Deall cynnydd grwpiau er mwyn myfyrio ar arferion

Hefyd, dylai'r broses asesu alluogi ymarferwyr ac arweinwyr yn yr ysgolion, a, lle y bo'n briodol, mewn lleoliadau, i ddeall i ba raddau ac ym mha ffyrdd y mae gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn gwneud cynnydd priodol. Dylid defnyddio gwybodaeth sy'n deillio o asesu cynnydd dysgwyr i nodi cryfderau a meysydd i'w gwella yn y cwricwlwm ac o ran arferion o ddydd i ddydd, gan gynnwys ystyried sut mae anghenion dysgwyr fel unigolion wedi cael eu diwallu. Mae'r ffocws pwysig hwn yn cynnig ffordd i ysgolion a lleoliadau sicrhau bod eu cwricwlwm, a'r dysgu a'r addysgu, yn helpu i wella cyflawniad pawb ac, yn arbennig, gyflawniad a chyrhaeddiad dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig. Nid yw'r ffocws hwn yn ymwneud ag adrodd allanol, ond mae'n cyfrannu at ddealltwriaeth ysgol neu leoliad o'r hyn y mae angen iddynt ei wybod a myfyrio arno mewn perthynas â'u dysgwyr er mwyn i bob un ohonynt gyflawni hyd eithaf eu potensial, yn ogystal â'u helpu i nodi heriau a chymorth penodol y gallai fod ei angen ar grwpiau penodol neu ddysgwyr unigol. Gall y ddealltwriaeth hon gyfrannu at brosesau hunanwerthuso a gwelliant parhaus.

Asesu ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed gan gynnwys cymwysterau allanol

Er bod y canllawiau hyn yn canolbwyntio ar gefnogi cynnydd dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed fel rhan annatod o ddysgu ac addysgu, mae asesu at ddibenion dyfarnu cymwysterau allanol yn wahanol ei natur, gan eu bod yn cynnwys mwy o reolaeth ac amodau allanol. Felly, mae asesu ar gyfer cymwysterau ar wahân i'r canllawiau hyn. Mae mwy o wybodaeth i’w gweld yma am waith Cymwysterau Cymru i ddatblygu ar y cyd ddewis cydlynol a chynhwysol o gymwysterau dwyieithog ar gyfer ysgolion, sy’n gydnaws â’r Cwricwlwm i Gymru, ac sy’n bodloni anghenion pob dysgwr.

Ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed, bydd yr egwyddorion asesu a'r gofynion statudol a amlinellir yn y canllawiau hyn yn parhau i fod yn gymwys i'r dysgu a'r addysgu o ddydd i ddydd fel rhan o gwricwlwm ysgol. Rhaid i'r trefniadau asesu hyn barhau i ganolbwyntio ar gefnogi a deall y cynnydd a wneir gan y dysgwyr hyn ar draws ehangder llawn y cwricwlwm, ac nid dim ond yr agweddau hynny y maent yn gwneud cymwysterau ynddynt. Caiff canllawiau statudol pellach ar ddatblygu cwricwlwm 14 i 16 eu cyhoeddi yn 2024 fel rhan o ganllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

Drwy helpu dysgwyr i ddeall eu cryfderau, eu meysydd i’w gwella a’r camau nesaf, gall y broses asesu helpu dysgwyr i baratoi ar gyfer eu cymwysterau allanol, gan gynnwys gwneud dewisiadau gwybodus am y cymwysterau i’w hastudio ar eu cyfer.

Trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ac asesu

Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud ag asesu, sy'n canolbwyntio ar gefnogi cynnydd dysgwyr. Mae trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd yn y system addysg yn drefniadau ar wahân i drefniadau asesu ond yn hanesyddol, gwelwyd eu bod yn dylanwadu ar ganfyddiadau o'r broses asesu a sut y caiff ei chynnal. Felly, rydym wedi cyflwyno fframwaith newydd ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd er mwyn iddynt helpu i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru.

Mae'r fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd yn anelu at lywio mathau o ymddygiad sy'n cynnig cefnogaeth gadarnhaol i'n gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm a threfniadau asesu ac yn galluogi'r weledigaeth honno, gan roi'r hyder i ymarferwyr ac arweinwyr ddysgu a gwella eu harferion yn barhaus er mwyn cefnogi cynnydd dysgwyr yn y ffordd orau bosibl. Bydd mathau o ymddygiad hunanfyfyriol wedi'u meithrin mewn amgylchedd cefnogol a chydweithredol, sy'n cynnig sail i'r system addysg gyfan, yn gwella safonau ac yn helpu pob dysgwr i gyflawni ei botensial.

Mae hunanwerthuso effeithiol yn annog ysgolion a lleoliadau i fyfyrio ar eu dulliau o gynllunio, datblygu a gweithredu'r cwricwlwm a threfniadau asesu, er mwyn sicrhau eu bod yn cefnogi cynnydd dysgwyr; ac mae deunyddiau ategol ar gael. Ni ddylid cynnal asesiadau at ddibenion atebolrwydd. Fodd bynnag, gall gwybodaeth sy'n deillio o asesu cynnydd dysgwyr gyfrannu at y dystiolaeth o gynnydd dysgwyr, hynny yw faint o gynnydd y maent wedi'i wneud a pha mor gyflym, a chaiff ei defnyddio i gefnogi'r ddeialog broffesiynol sydd ei hangen fel sail i brosesau hunanwerthuso. Gall deialog a lywir gan y wybodaeth sy'n deillio o asesu cynnydd dysgwyr helpu i feithrin dealltwriaeth gyffredin o gynnydd o fewn ysgolion ac ar draws ysgolion a lleoliadau er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ar gyflymder priodol a bod y dysgu a'r addysgu yn cynnig her a chymorth priodol i bob dysgwr. Wedyn, yn dilyn hynny, dylid adlewyrchu'r gwelliannau a nodir o fewn arferion dyddiol.

Mae gan gyrff llywodraethu gyfrifoldeb i gefnogi'r pennaeth a darparu her briodol mewn perthynas â holl weithgareddau'r ysgol. Mae gan Estyn ddyletswydd hefyd i arolygu yn unol â'r ddeddfwriaeth. Felly, mae'n rhaid i gyrff llywodraethu ac Estyn allu ystyried a yw trefniadau asesu yn cyflawni'r diben gofynnol, sef cefnogi cynnydd dysgwyr, a gwerthuso a yw ysgolion yn defnyddio'r wybodaeth asesu, fel rhan o'u prosesau gwerthuso a gwella, yn y ffordd gywir er mwyn gwella effeithiolrwydd. Fodd bynnag, ni ddylai Estyn, Cyrff Llywodraethu, awdurdodau lleol na chonsortia rhanbarthol ddefnyddio gwybodaeth asesu yn lle safonau yn yr ysgol nac ychwaith i raddio na chymharu ysgolion.

Mae ymgysylltu gweithredol rheolaidd rhwng y dysgwr a’r ymarferydd wrth wraidd y broses o gefnogi cynnydd dysgwyr. Er mwyn bod yn wirioneddol effeithiol, mae angen i bawb sy’n ymwneud â thaith dysgwr gydweithredu a chydweithio. Sail y gwaith ymgysylltu a’r bartneriaeth hon yw cadarnhau:

  • lle mae dysgwyr arni o ran eu dysgu
  • i ble mae angen iddyn nhw fynd o ran eu dysgu
  • beth sydd angen ei wneud er mwyn iddyn nhw gyrraedd yno, gan ystyried unrhyw rwystrau i’w dysgu

Rhaid i ysgolion a lleoliadau gynllunio a/neu fabwysiadu cwricwlwm sy'n galluogi dysgwyr i wireddu pedwar diben y cwricwlwm, gan ddarparu ar gyfer cynnydd priodol i bob dysgwr. Felly, mae cefnogi cynnydd dysgwyr yn ofyniad i bob ysgol a lleoliad a gynhelir. Er mwyn cefnogi'r cynnydd ar hyd y continwwm o 3 i 16 oed yn llawn, dylai ysgolion a lleoliadau weithio ar y cyd yn eu clystyrau ac ar draws rhwydweithiau ehangach.

Y prif gyfranogwyr yn y broses ddysgu yw arweinwyr, ymarferwyr, dysgwyr, rhieni, gofalwyr a phartneriaid allanol. Ceir rhagor o wybodaeth am bob un o’r prif gyfranogwyr hyn isod.

Arweinwyr

Rôl arweinwyr yw sefydlu diwylliant dysgu cadarn sy’n cefnogi ac yn herio ymarferwyr i alluogi dysgwyr i wneud cynnydd priodol. Dylid cyflawni hyn drwy:

  • greu gweledigaeth glir ar gyfer cwricwlwm sy’n helpu dysgwyr i wireddu’r pedwar diben ac sy’n cefnogi cynnydd dysgwyr unigol
  • creu amgylchedd sy’n meithrin yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i hyrwyddo llesiant dysgwyr
  • creu amgylchedd yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch o’r ddwy ochr, yn hytrach nag un sy’n canolbwyntio ar gydymffurfiaeth ac adrodd yn ôl
  • galluogi ymarferwyr i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni eu rôl asesu yn effeithiol
  • sicrhau y caiff cwricwlwm ei gynllunio, ei fabwysiadu, ei adolygu a’i ddiwygio gan gynnig cyfleoedd i ymarferwyr gynllunio dysgu pwrpasol sy’n diwallu anghenion pob dysgwr
  • datblygu ac ymwreiddio prosesau a strwythurau sy’n galluogi ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd
  • sicrhau darlun clir o gynnydd dysgwyr yn yr ysgol neu’r lleoliad, a hwnnw’n ddarlun y mae pob ymarferydd yn ei ddeall – proses sy’n cynnwys deialog broffesiynol barhaus a rheolaidd ar gynnydd fel rhan o’r systemau i helpu ymarferwyr i hunanfyfyrio ac i lywio gwelliant
  • sicrhau bod dealltwriaeth glir o gynnydd dysgwyr ar draws ysgolion a, lle mae’n briodol, lleoliadau, sy’n bwydo i mewn i drafodaethau ar gynnydd dysgwyr yn yr ysgol neu leoliad
  • ystyried y ffordd orau o ddarparu her a chymorth ychwanegol i ddysgwyr, gan gynnwys gweithio gyda phartneriaid eraill
  • annog ymgysylltu rhwng yr holl gyfranogwyr yn y broses dysgu ac addysgu er mwyn datblygu partneriaethau effeithiol
  • sicrhau bod y gofynion statudol wedi’u bodloni ac y rhoddwyd sylw dyledus i’r canllawiau hyn ar gyfer asesu, a bod ymarferwyr yn ystyried hyn wrth gynllunio dysgu ac addysgu ac yn eu harferion dyddiol

Ymarferwyr

Rôl yr ymarferydd yw cynllunio ar gyfer, a darparu, profiadau dysgu effeithiol sy’n briodol i oedran a datblygiad pob dysgwr unigol. Dylen nhw alluogi’r dysgwyr i werthfawrogi ble maen nhw arni yn eu dysgu, i ble mae angen iddyn nhw fynd nesaf, a sut y byddan nhw’n cyrraedd yno. Dylai ymarferwyr gefnogi a herio dysgwyr yn effeithiol er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd. Dylid cyflawni hyn drwy:

  • fod yn glir ynghylch y dysgu a fwriedir a chynllunio profiadau dysgu sy’n ennyn diddordeb yn unol â hynny
  • helpu i hyrwyddo lles dysgwyr drwy arferion asesu
  • rhannu dysgu a fwriedir gyda dysgwyr yn briodol
  • gwerthuso dysgu, gan gynnwys drwy arsylwi, holi a thrafod
  • defnyddio’r wybodaeth a geir o asesiadau parhaus i fyfyrio ar eu harferion eu hunain er mwyn llywio’r camau nesaf o ran yr addysgu a chynllunio ar gyfer dysgu
  • rhoi adborth perthnasol a phenodol sy’n ennyn diddordeb dysgwyr, yn eu hannog i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu, ac yn symud eu dysgu yn ei flaen
  • annog dysgwyr i fyfyrio ar eu cynnydd a, lle mae’n briodol, eu hannog i ystyried sut y maen nhw wedi datblygu, pa brosesau dysgu y maen nhw wedi manteisio arnyn nhw a’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni
  • darparu cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan yn asesu eu gwaith eu hunain a gwaith eu cyfoedion, a’u cefnogi i ddatblygu’r sgiliau perthnasol i wneud hyn yn effeithiol
  • datblygu sgiliau dysgwyr o ran gwneud defnydd effeithiol o amrywiaeth o adborth i symud eu dysgu yn ei flaen
  • cynnwys rhieni a gofalwyr yn natblygiad a chynnydd dysgwr, gan gynnwys y dysgwr yn y ddeialog hon fwyfwy dros amser
  • cymryd rhan mewn deialog gydag arweinwyr a chyd-ymarferwyr i sicrhau bod ganddyn nhw ddarlun clir o’r cynnydd sy’n cael ei wneud o fewn eu hysgol
  • nodi unrhyw her ychwanegol neu gymorth y gall dysgwyr fod eu hangen, gan ymgysylltu â phartneriaid allanol lle mae angen

Dysgwyr

Rôl dysgwyr yw cyfrannu at y broses ddysgu a chymryd rhan ynddi, mewn ffordd sy’n briodol i’w hoedran a’u cyfnod datblygu. Bydd hyn yn helpu dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth, a'u cymhwyso mewn gwahanol gyd-destunau. Wrth iddynt wneud cynnydd ar hyd y continwwm a chydag annibyniaeth gynyddol, dylai'r dysgwyr gael eu cefnogi a'u hannog i wneud y canlynol:

  • ddeall ar ba gam y maen nhw’n eu dysgu a ble mae angen iddyn nhw fynd nesaf
  • datblygu dealltwriaeth o sut y byddan nhw’n cyrraedd yno
  • ymateb yn weithredol i adborth ar eu dysgu a datblygu agweddau cadarnhaol tuag at gael adborth, ymateb iddo a gweithredu arno fel rhan o'u dysgu
  • adolygu eu cynnydd dysgu, a chyfleu hyn yn unigol a chydag eraill
  • myfyrio ar eu taith ddysgu a datblygu cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain dros amser

Rhieni, gofalwyr a phartneriaid allanol

Mae gan rieni, gofalwyr a phartneriaid allanol rôl bwysig i’w chwarae a dylai ysgolion a lleoliadau ymgysylltu â nhw er mwyn iddyn nhw allu cefnogi cynnydd dysgwyr mewn ffordd briodol. Mae astudiaethau achos ar ddulliau gweithredu ysgolion ar gael ar Hwb.

Dylai ysgolion a lleoliadau annog a galluogi rhieni a gofalwyr i wneud y canlynol:

  • ymgysylltu’n rheolaidd â’r ysgol neu'r lleoliad a'i hymarferwyr/ymarferwyr er mwyn deall a chefnogi cynnydd eu plentyn yn ei ddysgu
  • rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth berthnasol gyda’r ysgol neu'r lleoliad a'i hymarferwyr/ymarferwyr, a fydd yn cefnogi dysgu a chynnydd eu plentyn
  • ymateb yn weithredol i wybodaeth a ddarperir am ddysgu eu plentyn ac, mewn cydweithrediad â’r ysgol neu'r lleoliad, gynllunio ffyrdd o gefnogi’r dysgu hwnnw o fewn a’r tu allan i’r ysgol neu'r lleoliad

Dylai ysgolion a lleoliadau ymgysylltu â phartneriaid allanol er mwyn gwneud y canlynol:

  • helpu ymarferwyr i asesu a phennu anghenion dysgwyr y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt, ac yna eu helpu drwy ddarparu cyngor a chymorth. Gall hyn gynnwys cymorth addysgol arbenigol a chymorth gan asiantaethau eraill (er enghraifft gwasanaethau iechyd)
  • darparu gwybodaeth am gynnydd dysgu sydd wedi digwydd, ac a aseswyd, mewn cyd-destunau eraill (er enghraifft ar gyfer dysgwyr y mae trefniadau lleoli ar y cyd ar waith rhwng ysgol a lleoliad arall)

Bwriedir i’r egwyddorion cynnydd a’r disgrifiadau dysgu, a fynegir yng nghanllawiau Cwricwlwm i Gymru, arwain y broses o gynllunio cwricwlwm a dysgu ac addysgu, gyda threfniadau asesu ac arferion ystafell ddosbarth yn rhan annatod o’r ddau.

Gan weithio o fewn fframwaith Cwricwlwm i Gymru, mater i ysgolion a lleoliadau unigol ei benderfynu wrth iddynt gynllunio eu cwricwlwm eu hunain yw trefniadau asesu cyffredinol ar lefel ysgol neu leoliad.Rhaid eu bod yn briodol ar gyfer anghenion eu holl ddysgwyr a dylid eu llunio a'u rhoi ar waith yn unol â'r canlynol.

Gofynion statudol

  • Dyma'r dyletswyddau cyfreithiol y mae'n rhaid eu cyflawni yn ôl y gyfraith. Nodir dyletswyddau ysgolion a lleoliadau yn adran crynodeb o ddeddfwriaeth canllawiau Cwricwlwm i Gymru.

Canllawiau statudol

  • Mae'r rhain yn cynnwys egwyddorion allweddol a diben yr asesu fel y'u hamlinellir yn y canllawiau hyn ynghyd â chanllawiau statudol eraill a gyhoeddwyd ochr yn ochr ag is-ddeddfwriaeth megis y canllawiau i Gefnogi'r Broses o Drosglwyddo o ysgolion Cynradd i ysgolion Uwchradd.

Cynllun yr ysgol neu'r leoliad

  • Mae hyn yn cyfeirio at yr elfennau penodol, yn ogystal â’r uchod, y gall pob ysgol neu leoliad ddewis eu datblygu a’u gweithredu o fewn ei chyd-destun/gyd-destun ei hun i gefnogi arferion asesu. Fel rhan o hyn, dylai ysgolion a lleoliadau ystyried datblygu dulliau cydweithredol drwy gymryd rhan mewn clystyrau a rhwydweithiau ehangach.

Anghenion dysgwr unigol

  • Dylai pob gweithgaredd asesu herio a chefnogi dysgwyr i wneud cynnydd. Bydd pob ysgol yn dewis dulliau penodol o roi arferion ar waith sy'n nodi ac yn diwallu anghenion dysgwyr unigol o ran her neu gymorth ychwanegol.

Mae nifer o faterion sylfaenol y dylai ysgolion a lleoliadau eu hystyried wrth wneud trefniadau asesu i gefnogi eu cwricwlwm a darparu profiadau dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r rhain fel a ganlyn.

Ehangder a dyfnder

  • Rhaid i asesu fod yn broses barhaus sy'n rhan annatod o waith cynllunio ac arferion dyddiol gan ei bod yn sylfaenol i'r broses ddysgu.
  • Mae cynnydd mewn dysgu yn broses o ddatblygiad cynyddol mewn dyfnder, soffistigeiddrwydd, diddordeb a rheolaeth dysgwyr, yn hytrach na chorff o gynnwys i’w astudio. Nid yw cynnydd yn llinol ac mae dysgwyr gwahanol yn debygol o wneud cynnydd mewn ffyrdd gwahanol iawn. Dylai’r broses o gynllunio trefniadau asesu a’u rhoi ar waith, sy’n rhan o gwricwlwm ac arferion ystafell ddosbarth, gydnabod hyn a chaniatáu ar gyfer amrywiaeth o wyriadau, seibiannau ac amrywiadau o ran cyflymder taith y dysgwr.
  • Dylai cynnydd dysgwyr gael ei asesu mewn perthynas ag ehangder cwricwlwm yr ysgol/lleoliad, sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu egwyddorion cynnydd, ac wedi'i lywio gan y disgrifiadau dysgu. Fel y cyfryw, dylai ymarferwyr asesu pob dysgwr ar draws y continwwm 3 i 16 yn seiliedig ar y cynnydd a fynegir yng nghwricwlwm eu hysgol neu eu lleoliad ac yn y bwriadau dysgu a gynlluniwyd ganddynt. Wrth wneud hynny, dylent ystyried anghenion amrywiol dysgwyr unigol ar draws ehangder y cwricwlwm.
  • Yn ystod pob cam cynnydd, ni ddylai ysgolion na lleoliadau ymgymryd â gweithgareddau asesu penodol a gynlluniwyd i lunio barn am gynnydd cyffredinol dysgwr ar adeg neu oedran penodol.
  • Diben y disgrifiadau dysgu yw darparu arweiniad ar gyfeiriad a chyflymder cynnydd er mwyn cefnogi ymarferwyr a llywio'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm a dysgu ac addysgu. Nid ydynt yn gyfres o feini prawf i asesu'n uniongyrchol yn eu herbyn ac ni ellir ychwaith eu hasesu gyda thasgau asesu unigol, yn annibynnol ar weithgareddau dysgu ac addysgu. Dylai ymarferwyr ddefnyddio disgrifiadau dysgu i ddatblygu amrywiaeth eang o ddulliau asesu sy'n helpu i benderfynu a yw cynnydd yn cael ei wneud a sut. Bydd dulliau asesu penodol yn dibynnu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau sy'n cael eu datblygu ac ar anghenion dysgwyr.
  • Fel rhan o'r broses ddysgu, dylai ymarferwyr a dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o'r ffordd mae pob dysgwr yn dysgu a beth yw ei agwedd a’i ddull o ddysgu, er mwyn cefnogi ei gynnydd parhaus a meithrin ymrwymiad i’w ddysgu.

Dull

  • Pan fydd dysgwr yn dechrau mewn ysgol neu leoliad ar unrhyw adeg, dylai ymarferwyr sicrhau ei fod yn deall lle mae arni o ran ei ddysgu a'r cynnydd y mae wedi'i wneud hyd yma. Dylai'r ddealltwriaeth hon gael ei hategu gan y trefniadau ar gyfer asesu dysgwyr ar adeg eu derbyn y cyfeirir atynt yn y Crynodeb o’r Ddeddfwriaeth, y mae'n rhaid i ysgolion a lleoliadau, yn ddarostyngedig i'r eithriadau, eu rhoi ar waith ar gyfer pob dysgwr cofrestredig wrth iddo ymuno ag ysgol neu leoliad. Dylid defnyddio'r ddealltwriaeth hon i nodi man cychwyn y dysgwr a'r ffordd orau i'r ysgol neu'r lleoliad symud y dysgu yn ei flaen. Lle y bo ar gael, dylai ymarferwyr roi ystyriaeth i’r wybodaeth a ddarperir gan y rheini sydd wedi cefnogi addysg y dysgwr yn y gorffennol. Bydd ymgysylltu'n rhagweithiol wrth rannu gwybodaeth er mwyn cefnogi taith gynyddol dysgwr yn rhan bwysig o'r broses hon.
  • Mae asesu yn allweddol i gefnogi dysgu dwfn a dylid ei ddefnyddio i nodi a oes angen i ddysgwr atgyfnerthu dysgu, a oes angen cymorth pellach a/neu a all y dysgwr symud ymlaen i’r camau dysgu nesaf.
  • Dylid defnyddio asesu arsylwadol a dylai ymarferwyr chwilio am dystiolaeth o ddysgu wedi’i wreiddio er mwyn asesu’r hyn y gall dysgwr ei wneud yn gyson ac yn annibynnol mewn ystod o brofiadau dysgu. Dylid seilio hyn ar ddealltwriaeth dda o ddatblygiad plant.
  • Dylai ysgolion a lleoliadau gynllunio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau asesu sy'n addas at y diben ac sy'n cefnogi cynnydd ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Mae'n bosibl y bydd rhai ohonynt yn benodol i feysydd dysgu a phrofiad (Meysydd) unigol, y bydd rhai ohonynt yn berthnasol i fwy nag un Maes ac y bydd eraill yn benodol i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol.
  • Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd ar hyd y continwwm 3 i 16, dylen nhw ymwneud yn fwy uniongyrchol â’r broses asesu. Dylai ymarferwyr ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr asesu cyfoedion a hunanasesu, gan eu cefnogi i ddatblygu’r sgiliau hyn mewn ffordd sy’n briodol i gam datblygiadol pob dysgwr.
  • Dylid dewis dulliau a thechnegau asesu, a’u haddasu lle bo’n briodol, yn unol ag anghenion y dysgwr. Dylai hyn ystyried eu cam datblygiadol ac unrhyw rwystrau i ddysgu, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gallu dangos cynnydd yn unol â’i allu unigol.
  • Mae asesiadau personol ar-lein statudol yn rhan o'r trefniadau asesu ehangach ac maent wedi’u cynllunio i helpu’r ymarferydd a’r dysgwr i ddeall sut mae sgiliau darllen a rhifedd dysgwr yn datblygu, a beth ddylai’r camau nesaf fod. Rhaid i'r asesiadau hyn gael eu cynnal bob blwyddyn yn unol â'r canllawiau statudol a ddarperir yn Asesiadau Personol: Llawlyfr Gweinyddu. Mae'r asesiadau ar gael i'w defnyddio mewn ffordd hyblyg drwy gydol y flwyddyn ac maent yn rhoi amrywiaeth o adborth ar sgiliau unigolion a grwpiau y dylid ei ddefnyddio i gefnogi gwaith cynllunio ar gyfer cynnydd. Cynllunnir asesiadau personol ar-lein i gefnogi dysgu ac addysgu ac ni ddylent gael eu defnyddio at ddibenion atebolrwydd allanol.

Cofnodi cynnydd dysgwyr

Wrth gynllunio eu cwricwlwm, dylai ysgolion a lleoliadau ystyried pa wybodaeth sy'n deillio o asesu cynnydd dysgwyr y mae angen ei chasglu a’i chofnodi er mwyn dangos a chofnodi cynnydd mewn dysgu, ynghyd â phryd y dylid gwneud hyn ac ar ba lefel o fanylder. Gall yr egwyddorion cynnydd ddarparu fframwaith trefnu a ffocws cyffredin i ysgolion a lleoliadau ar gyfer y math o wybodaeth a all fod yn berthnasol - hynny yw, gwybodaeth sy'n adlewyrchu’r canlynol:

  • Cynyddu effeithiolrwydd fel dysgwr
  • Cynyddu ehangder a dyfnder gwybodaeth
  • Dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau yn y Meysydd
  • Mireinio sgiliau a datblygu soffistigeiddrwydd wrth eu defnyddio a'u cymhwyso
  • Creu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd

Dylai penaethiaid ysgolion, athrawon sy'n gyfrifol am uned, awdurdodau lleol mewn perthynas ag addysg heblaw yn yr ysgol ac eithrio mewn unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr ac mewn perthynas ag addysg heblaw yn yr ysgol ac eithrio unedau cyfeirio disgyblion awdurdodau lleol a darparwyr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir sicrhau bod y wybodaeth a gesglir am gynnydd dysgwyr yn gyfrannol a'i bod yn cael ei defnyddio yn yr ysgol neu'r lleoliad i gefnogi cynnydd y dysgwyr a llywio’r addysgu yn uniongyrchol. Bydd y wybodaeth hon hefyd yn cefnogi prosesau hunanwerthuso ysgol ond ni ddylid ei defnyddio at ddibenion atebolrwydd allanol. Gellir ei defnyddio i wneud y canlynol:

  • lywio gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni a gofalwyr
  • cefnogi taith dysgwyr ar hyd y continwwm 3 i 16
  • helpu ymarferwyr ac arweinwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o gynnydd
  • adolygu a diwygio’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu cyfatebol
  • llywio dysgu ac addysgu yn y dyfodol
  • nodi lle y mae angen gwelliannau a chymorth fel rhan o broses hunanwerthuso'r ysgol neu'r lleoliad

Bydd angen i ysgolion gynnal y cofnod addysgol a chwricwlaidd fel sy'n ofynnol gan Reoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011 o hyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu mai ystyr “cofnod cwricwlaidd” yw cofnod ffurfiol o gyflawniadau academaidd y disgybl, sgiliau a galluoedd eraill y disgybl a'i gynnydd yn yr ysgol, fel y nodir yn Atodlen i Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2011.

Mae'r Rheoliadau Adroddiad Pennaeth yn cael eu diddymu'n radddol yn unol â'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd a nodir y manylion wedyn yn yr Atodlen i Reoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022.

Ceir deunyddiau ategol ar gynllunio cwricwlwm, cynnydd ac asesu i Hwb.

Beth yw cynnydd?

Mae cynnydd yng nghyd-destun dysgu yn broses o ddatblygu a gwella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth dros gyfnod. Mae hyn yn canolbwyntio ar ddeall beth yw ystyr gwneud cynnydd mewn maes penodol neu ddisgyblaeth benodol wrth i ddysgwyr gynyddu dyfnder, ehangder a soffistigeiddrwydd eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodweddau a’u hagweddau. Wrth iddyn nhw wneud hynny, byddan nhw’n creu cysylltiadau ym mhob rhan o’u dysgu ac yn eu cymhwyso at gyd-destunau newydd a heriol. Mae hyn yn allweddol i’w galluogi i weithio tuag at wireddu’r pedwar diben, wrth iddynt symud drwy eu hysgolion neu eu lleoliadau ac i lwybrau gwahanol y tu hwnt i'r ysgol.

Mae cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd yn un o ysgogwyr sylfaenol y Cwricwlwm i Gymru a dyma ddiben cyffredinol asesu. Rhaid i gwricwlwm pob ysgol a lleoliad gael ei gynllunio i adlewyrchu'r cynnydd a amlinellir yn yr egwyddorion cynnydd a chan ddefnyddio'r datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig. Mae'r disgrifiadau dysgu yn rhoi arweiniad pellach i ysgolion a lleoliadau o ran cyflymder cynnydd ar hyd y continwwm dysgu rhwng 3 ac 16 oed.

Mae deall sut y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd yn hanfodol i gynllunio'r cwricwlwm a threfniadau asesu, yn ogystal â gwaith cynllunio ac arferion ystafell ddosbarth/lleoliadau.

Beth yw 'dealltwriaeth gyffredin o gynnydd’?

Mae meithrin a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn golygu bod ymarferwyr, yn eu hysgol neu eu lleoliad a chydag ysgolion a lleoliadau eraill, gyda'i gilydd yn ystyried, yn trafod ac yn deall:

  • eu disgwyliadau ar y cyd o ran sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd a sut y dylai gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau gyfrannu at hyn yng nghwricwla ysgolion a lleoliadau – gan ddefnyddio'r egwyddorion cynnydd, datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a disgrifiadau dysgu
  • sut i sicrhau cynnydd cydlynol i ddysgwyr gydol eu taith ddysgu ac yn arbennig yn ystod cyfnodau pontio (er enghraifft, ar draws a rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd; ar draws a rhwng lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ac ysgolion cynradd, neu ysgolion a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol; ac o flwyddyn i flwyddyn o fewn ysgol/lleoliad)
  • sut mae eu disgwyliadau ar gyfer cynnydd yn cymharu â disgwyliadau ysgolion a lleoliadau eraill, er mwyn sicrhau cydlyniaeth a thegwch ym mhob rhan o'r system addysg a chyflymder a heriau digonol yn eu dull o ymdrin â chynnydd yn eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu

Felly, mae dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn rhan annatod o'r gwaith o gynllunio cwricwlwm a gwella dysgu ac addysgu ac mae'n hanfodol i gefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd.

Mae cysylltiad clir rhwng y trafodaethau a'r trefniadau pontio hyn o fewn ysgolion a lleoliadau a rhyngddynt. Mae hyn yn cynnwys cynllunio er mwyn helpu dysgwyr Blwyddyn 6 i bontio i'r ysgol uwchradd. Mewn gwirionedd, gall rhai trafodaethau rhwng ysgolion uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n eu bwydo, gyfrannu at feithrin a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd a chefnogi trefniadau pontio. Fodd bynnag, wrth ddod at ei gilydd i feithrin eu dealltwriaeth o gynnydd, rhagwelwn y bydd ymarferwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn ystyried y continwwm rhwng 3 ac 16 oed yn gyffredinol yn ogystal â chynnydd ym Mlwyddyn 6 a Blwyddyn 7. I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddo, gweler adran nesaf y canllawiau hyn.

Pam mae dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn bwysig i'r cwricwlwm?

Mae sicrhau bod ymarferwyr yn deall y cynnydd y maen nhw am i ddysgwyr ei wneud gydol eu haddysg, a sut i roi hyn ar waith mewn ffordd gydlynol ym mhob rhan o’u hysgol a’u clwstwr, yn hanfodol er mwyn sicrhau:

  • cydlyniaeth: mae'r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion a lleoliadau o fewn fframwaith cenedlaethol. Mae datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ymhlith ymarferwyr ar lefel ysgol, lleoliad neu glwstwr yn helpu i sicrhau bod profiadau dysgwyr yn gydgysylltiedig, yn ddilys ac yn berthnasol ac mae hefyd yn helpu i nodi sut i ddilyniannu dysgu'n effeithiol. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn gwneud cynnydd parhaus ac yn eu cefnogi i wneud cynnydd dros amser. Mae trafodaethau rhwng ysgolion a lleoliadau y tu hwnt i'r clwstwr yn helpu i sicrhau cydlyniaeth ym mhob rhan o'r system addysg, gan gefnogi tegwch yn y ddarpariaeth i ddysgwyr
  • cyfnodau pontio didrafferth – mae dealltwriaeth gyffredin ar draws clwstwr o ysgolion yn sicrhau'r cyfnodau pontio gorau posibl o fewn ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd ac ysgolion cynradd ac uwchradd i ddysgwyr a rhyngddynt – gan y bydd sefydliadau yn deall beth a sut y mae dysgwyr wedi bod yn ei ddysgu ac y byddant yn ei ddysgu a beth y dylai eu camau dysgu nesaf fod er mwyn cefnogi eu haddysg a'u llesiant. At yr un diben, bydd ysgolion yn ymgysylltu â lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn ogystal ag unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol eraill y mae ganddynt gydberthynas â nhw er mwyn helpu dysgwyr i bontio ac er mwyn cefnogi dysgwyr sydd wedi'u cofrestru mewn dau leoliad
  • cyflymder a her disgwyliadau – y broses o ddatblygu dealltwriaeth gyffredin yn galluogi ymarferwyr ac ysgolion a lleoliadau i ystyried a yw eu disgwyliadau ar gyfer dysgwyr yn ddigon heriol a realistig ac a oes angen unrhyw gymorth ar unigolion – gan wneud ymdrech bellach i sicrhau tegwch i bob dysgwr

Sut y dylai ysgolion a lleoliadau ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd?

Mae deialog barhaus, broffesiynol o fewn ysgolion a lleoliadau a rhyngddynt yn greiddiol er mwyn meithrin a chynnal y ddealltwriaeth gyffredin hon o gynnydd. Mae'r ddeialog broffesiynol hon yn bwysig er mwyn gwneud y canlynol:

  • cynnig cyfleoedd parhaus i ymarferwyr fyfyrio ar eu dealltwriaeth o gynnydd a sut y caiff ei gyfleu yn eu cwricwlwm, gan felly fwydo i’w prosesau ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm a threfnu asesu, gwaith cynllunio a phrosesau hunanwerthuso a gwella
  • cynnig cyfleoedd parhaus i ymarferwyr gymharu eu ffordd o feddwl gydag ysgolion a lleoliadau eraill tebyg, gan sicrhau rhywfaint o gysondeb o ran disgwyliadau ond gan barhau i gynnig hyblygrwydd lleol yr un pryd
  • atgyfnerthu dealltwriaeth o ddulliau ac arferion rhwng ysgolion a lleoliadau, gan gynnwys, lle y bo'n berthnasol, leoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol eraill

Er mwyn cefnogi'r ddeialog broffesiynol barhaus hon, dylai pob un sy'n cymryd rhan mewn trafodaethau wneud hynny ar sail gyfartal gydag ymarferwyr yn rhannu eu profiadau eu hunain o'r broses ddysgu ac o gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd a myfyrio ar y profiadau hynny. Bydd hyn yn eu galluogi i ddysgu oddi wrth ei gilydd mewn amgylchedd cefnogol.

Bydd ffocws trafodaethau am gynnydd yn datblygu'n naturiol dros amser wrth i ysgolion a lleoliadau symud drwy gamau'r broses o gynllunio'r cwricwlwm i'r broses o'i addysgu am y tro cyntaf ac wedyn i brosesau adolygu a gwella parhaus.

Er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd y trafodaethau hyn rhwng ymarferwyr, mae'n ofynnol i arweinwyr pob ysgol a lleoliad yng Nghymru roi trefniadau ar waith i'w galluogi i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol er mwyn meithrin a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.

Ceir manylion llawn y gofynion hyn yma gyda gwybodaeth ategol yn cael ei darparu isod. Mae deunyddiau ategol hefyd ar gael ar Hwb.

Mewn ysgolion

Er mwyn meithrin a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol roi trefniadau ar waith er mwyn galluogi pob ymarferydd sy'n rhan o'r broses ddysgu ac addysgu gymryd rhan mewn deialog broffesiynol barhaus:

  • yn ei ysgol; ar draws ei grwp (grwpiau) clwstwr o ysgolion. Am ddiffiniad o grwp (grwpiau) clwstwr o ysgolion, gweler y Cyfarwyddyd.
  • gydag ymarferwyr mewn ysgolion eraill y tu hwnt i'w clwstwr (clystyrau) er mwyn helpu i sicrhau tegwch ym mhob rhan o'r system addysg.
  • mewn ysgolion uwchradd, gydag ymarferwyr o un ysgol uwchradd arall o leiaf er mwyn cefnogi trefniadau cydweithio a chydlyniaeth rhwng camau olaf y continwwm rhwng 3 ac 16 oed
  • mewn ysgolion arbennig, gydag ymarferwyr o ysgolion arbennig eraill.

Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol hefyd roi trefniadau ar waith er mwyn gwneud y canlynol:

  • ymgysylltu â darparwyr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir lle mae dysgwyr yn trosglwyddo o leoliad i'w hysgol, gan eu gwahodd i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol barhaus.
  • ymgysylltu ag unedau cyfeirio disgyblion y mae gan yr ysgol ddysgwyr sy'n trosglwyddo iddynt, neu ohonynt, a/neu ddysgwyr sydd wedi'u cofrestru mewn dau leoliad sy'n symud rhyngddynt, gan eu gwahodd i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol barhaus.
  • ymgysylltu â darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol ac eithrio unedau cyfeirio disgyblion y mae gan yr ysgol ddysgwyr sy'n trosglwyddo iddynt, neu ohonynt, a/neu ddysgwyr sydd wedi'u cofrestru mewn dau leoliad sy'n symud rhyngddynt, gan eu gwahodd i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol barhaus.

Mewn lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir sy'n darparu addysg

Er mwyn helpu ymarferwyr i feithrin a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, rhaid i arweinwyr lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir wneud y canlynol:

  • rhoi trefniadau ar waith i alluogi pawb sy'n rhan o'r broses ddysgu ac addysgu i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol am gynnydd o fewn eu lleoliad.

Argymhellwn yn gryf y dylent gymryd rhan mewn deialog broffesiynol er mwyn meithrin a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd â'r ysgolion y mae'r eu dysgwyr yn pontio iddynt. Fodd bynnag, cyfrifoldeb yr ysgol fydd cysylltu â'r lleoliad er mwyn rhoi'r trefniadau hyn ar waith.

Lle y bo'n bosibl, dylai ymarferwyr o leoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir hefyd fanteisio ar bob cyfle i ymgysylltu â lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir eraill ac ysgolion meithrin a gynhelir er mwyn meithrin a chynnal eu dealltwriaeth o gynnydd a rhannu eu profiadau o gefnogi cynnydd dysgwyr.

Mewn unedau cyfeirio disgyblion

Er mwyn meithrin a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, rhaid i'r athro neu'r athrawes sydd â chyfrifoldeb a phwyllgor rheoli'r uned cyfeirio disgyblion, a’r awdurdod lleol sydd yn ei chynnal, wneud y canlynol:

  • rhoi trefniadau ar waith i alluogi pob ymarferydd sy'n rhan o'r broses ddysgu ac addysgu i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol o fewn y lleoliad
  • o fewn y lleoliad

Argymhellwn yn gryf y dylai unedau cyfeirio disgyblion gymryd rhan mewn deialog broffesiynol er mwyn meithrin a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd pan fydd ysgolion y mae ganddynt ddysgwyr sy'n trosglwyddo iddynt, neu ohonynt, a/neu ddysgwyr sydd wedi'u cofrestru mewn dau leoliad sy'n symud rhyngddynt, yn cysylltu â nhw. Argymhellwn hefyd y dylai unedau cyfeirio disgyblion adeiladu ar unrhyw strwythurau presennol a all fod ar waith gydag ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion neu ddarparwyr addysg heblaw yn yr ysgol eraill er mwyn trafod cynnydd.

Mewn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ac eithrio unedau cyfeirio disgyblion

Awdurdodau lleol sy’n ariannu darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ac maen nhw’n gyfrifol am y cwricwlwm a threfniadau asesu i ddysgwyr sy’n cael addysg o’r fath. Felly, er mwyn meithrin a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, rhaid i awdurdodau lleol wneud trefniadau i wneud y canlynol:

  • helpu'r unigolion a gyflogir neu a benodir ganddynt i ddarparu cwricwlwm ar gyfer dysgwyr sy'n cael darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ac eithrio mewn unedau cyfeirio disgyblion, i ddod at ei gilydd i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol barhaus er mwyn meithrin a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.
  • helpu'r un unigolion i gael deialog broffesiynol barhaus ag ymarferwyr o ysgolion a lleoliadau perthnasol er mwyn cefnogi dysgwyr sydd wedi'u cofrestru mewn dau leoliad.
  • sicrhau bod y darparwyr a benodir ganddynt i gyflwyno cwricwla priodol ar gyfer dysgwyr sy'n cael darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion hefyd yn cymryd rhan mewn deialog broffesiynol barhaus o fewn eu lleoliad/sefydliad er mwyn meithrin a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd mewn perthynas â'r agweddau ar y cwricwlwm a ddarperir ganddynt.

Argymhellwn y dylai awdurdodau lleol annog darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol i gymryd rhan mewn trafodaethau am gynnydd pan fydd ysgol y mae ganddynt ddysgwyr sy'n trosglwyddo iddi, neu ohoni, a/neu ddysgwyr sydd wedi'u cofrestru mewn dau leoliad sy'n symud rhyngddynt, yn cysylltu â nhw. Mae ganddynt ran i'w chwarae hefyd wrth sefydlu prosesau sy'n cefnogi ymgysylltu rhwng lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol ac ysgolion cynradd ac uwchradd neu unedau cyfeirio disgyblion y mae ganddynt gydberthynas â nhw am fod dysgwyr yn symud rhyngddynt, ac yn cefnogi eu cynnwys mewn prosesau o'r fath.

Trefniadau i alluogi deialog proffesiynol rhwng ymarferwyr

Mater i ysgolion a lleoliadau yw penderfynu ar natur y trefniadau y maent am eu rhoi ar waith, gan sicrhau eu bod yn briodol i'w cyd-destun.

Dylai fod deialog broffesiynol barhaus rhwng ymarferwyr o fewn ysgolion a lleoliadau a rhyngddynt. Fodd bynnag, arweinwyr yr ysgol/lleoliad fydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch amlder cyfarfodydd a chyfleoedd ymgysylltu. Dylai'r penderfyniadau hynny gael eu llywio gan y canlynol:

  • blaenoriaethau gwella ysgol neu leoliad
  • sut mae dealltwriaeth ymarferwyr o gynnydd yn datblygu o fewn eu hysgol neu eu lleoliad
  • y ffordd y mae eu dysgwyr yn gwneud cynnydd

Wrth ddatblygu trefniadau i alluogi deialog broffesiynol rhwng ymarferwyr er mwyn meithrin a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, argymhellwn y dylai arweinwyr ddechrau drwy ystyried pa gydberthnasau a strwythurau sydd eisoes ar waith o fewn eu hysgolion a’u lleoliadau a rhyngddynt a all gael eu datblygu, eu haddasu neu eu gwella. Am gymorth pellach, gweler Atodiad 1.

Gall hefyd fod yn briodol i arweinwyr roi trefniadau ar waith sy'n galluogi ymarferwyr o'u hysgol/lleoliad i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol â chynrychiolwyr o wahanol leoliadau neu sectorau gyda'i gilydd e.e. efallai y bydd ysgol gynradd am wahodd lleoliadau perthnasol i gyfrannu at gyfarfodydd clwstwr o ysgolion neu efallai y bydd ysgolion yn cyfarfod drwy drefniadau traws-glwstwr.

Nodi'r trefniadau mewn cynllun

Rhaid i ysgol neu leoliad roi cynllun ar waith sy'n:

  • nodi'r trefniadau sy'n galluogi ymarferwyr i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol er mwyn meithrin a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd
  • nodi sut y bydd canlyniadau'r ddeialog hon yn llywio penderfyniadau yn y dyfodol, gwaith cynllunio cwricwlwm ac asesu a dysgu ac addysgu.
  • cael ei adolygu a'i ailystyried yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y trefniadau yn parhau i fod yn addas at y diben.

Efallai y bydd arweinwyr ysgolion/lleoliadau am ystyried cynnwys gwybodaeth megis y canlynol yn eu cynllun. Dim ond awgrymiadau i gefnogi'r broses gynllunio yw'r rhain:

  • Y blaenoriaethau ar gyfer trafodaethau yn ystod tymor academaidd/blwyddyn ysgol, gan sicrhau y parheir i roi sylw priodol i gynnydd mewn perthynas â phob rhan o'r cwricwlwm.
  • Amserlen ar gyfer gwahanol gyfarfodydd/cyfleoedd ymgysylltu.
  • Rhyw syniad o'r ymarferwyr mwyaf priodol i gyfrannu at y trafodaethau mwyaf perthnasol wrth gefnogi cynnydd dysgwyr (yn dibynnu ar ffocws y trafodaethau sy'n cael eu hystyried).
  • Amlinelliad o'r ffordd y caiff canlyniadau'r trafodaethau hyn eu nodi er mwyn llywio prosesau hunanwerthuso ysgol/lleoliad a sut y bydd eu blaenoriaethau gwella, yn eu tro, yn helpu i nodi meysydd i'w hystyried yn ystod y sgyrsiau hyn.
  • Rhyw syniad o'r ffordd y gall y trafodaethau hyn helpu dysgwyr i drosglwyddo o flwyddyn i flwyddyn o fewn ysgol/lleoliad yn ogystal â rhwng ysgolion a lleoliadau.
  • Amlinelliad o'r ffordd y bydd trafodaethau mewnol yn llywio trafodaethau ehangach ag ysgolion/lleoliadau eraill fel y bo'n berthnasol ac fel arall.

Hunanwerthuso

Dylai'r ddeialog broffesiynol hon lywio prosesau hunanwerthuso, drwy feithrin dealltwriaeth o elfennau o'u cwricwlwm y bydd ysgolion, o bosibl, am eu gwella. Gallai hyn helpu i ddiffinio blaenoriaethau ar gyfer arweinyddiaeth, cynllunio cwricwlwm, cynllunio, dysgu ac addysgu yn y dyfodol.

Cefnogi deialog broffesiynol – adnoddau a deunyddiau

Mae gan ysgolion a lleoliadau hyblygrwydd o ran yr hyn yr hoffen nhw ei drafod yn benodol fel rhan o’r ddeialog broffesiynol hon. Mae’n bosibl y byddan nhw am ystyried y meysydd canlynol fel sail i gefnogi trafodaethau ynghylch datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.

canllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru
  • Er mwyn trafod eu dealltwriaeth a'u profiad o ddatblygu cynnydd, gall ysgolion a lleoliadau ddefnyddio’r cwestiynau allweddol a nodir yn adran ‘Cynllunio eich cwricwlwm y canllawiau hyn i lywio trafodaethau, yn ogystal â’r canllawiau sy’n gysylltiedig â’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, disgrifiadau dysgu, ac egwyddorion cynnydd.
Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu'r cwricwlwm
  • Mae'n nodi'r 3 cham sy'n ffurfio'r broses iteraidd o gynllunio cwricwlwm ar gyfer ysgolion a lleoliadau (ymgysylltu; cynllunio, trefnu a threialu; a gwerthuso a pharatoi ar gyfer addysgu am y tro cyntaf). Ar gyfer pob un, mae'r canllawiau yn cynnig manylion i lywio'r broses o gynllunio'r cwricwlwm a'r cwestiynau allweddol i'w hystyried, gan gynnwys cwestiynau ar gynnydd ac asesu, sy'n debygol o lywio deialog broffesiynol leol.

Y rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm
  • Bydd y rhwydwaith hwn yn rhoi’r cyfle i ymarferwyr ddod at ei gilydd yn genedlaethol i drafod cynnydd mewn perthynas â Chwricwlwm i Gymru. Mae’n cyhoeddi mewnbwn arbenigol, deunyddiau ategol ac allbynnau’r sgyrsiau hyn ar dudalen y Rhwydwaith Cenedlaethol ar Hwb. Gellir defnyddio’r adnoddau hyn i lywio deialog broffesiynol ynghylch cynnydd.
CAMAU Asesu ar gyfer y Dyfodol
  • Bwriedir i'r adnodd hwn annog ymarferwyr i gymryd rhan mewn trafodaethau strwythuredig er mwyn meithrin eu dealltwriaeth o gynnydd dysgu a'r cysylltiadau rhyngddo a dulliau asesu. Mae ar ffurf cyfres o chwe gweithdy, gyda deunyddiau ategol, y bwriedir iddynt gael eu defnyddio gan grwpiau o ymarferwyr a fydd yn gweithio fel cymuned ymholi i feithrin eu dealltwriaeth o gynnydd ym mhob rhan o'r cwricwlwm a thrwy hynny, feithrin eu gallu yn eu cyd-destun eu hunain i gynllunio a defnyddio dulliau asesu sy'n cefnogi cynnydd dysgwyr.
Cwricwlwm ar gyfer darparwyr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir
  • Y cwricwlwm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yw’r man cychwyn ar gyfer trafodaethau i leoliadau a ariennir nas cynhelir sy'n dewis ei fabwysiadu. Ar gyfer lleoliadau sydd wedi dewis cynllunio a mabwysiadu eu cwricwlwm eu hunain dylid defnyddio’r canllawiau fel man cychwyn ar gyfer y trafodaethau.

Lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir

Mae trefniadau asesu lleoliadau wedi cael eu datblygu ar y cyd gyda phartneriaid allweddol i gefnogi ymarferwyr sydd wedi mabwysiadu’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Mae’r trefniadau asesu yn cefnogi deialog broffesiynol rhwng arweinwyr, ymarferwyr, dysgwyr, rhieni, gofalwyr a phartneriaid allanol ac yn cynnwys canllawiau ar y canlynol:

  • deall cynnydd wrth ddysgu
  • rhoi egwyddorion cynnydd ar waith yn ymarferol
  • datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar draws y lleoliad
  • arsylwi fel dull o lywio’r ddarpariaeth sy’n cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd
  • deall a gweithredu trefniadau asesu cychwynnol a pharhaus

Pan fo’r canllawiau hyn yn cyfeirio at asesiadau cychwynnol, mae’n golygu’r asesiad y mae’n ofynnol ei gynnal adeg derbyn dysgwr, yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022.

Canllawiau addysg heblaw yn yr ysgol

I’r rheini sy’n darparu addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, bydd y canllawiau anstatudol sy’n rhan o gynllunio eich cwricwlwm eich hun, a’r cwestiynau a gynhwyswyd i ymarferwyr fyfyrio arnyn nhw, yn fan cychwyn ar gyfer trafodaethau.

Wrth i ysgolion a lleoliadau barhau i ddatblygu eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu eu hunain, mae’n bosibl y byddan nhw am ddefnyddio’r trefniadau hyn ar gyfer deialog broffesiynol i rannu eu syniadau, eu dulliau gweithredu ac enghreifftiau.

Cefnogi deialog broffesiynol: trafodaethau y tu hwnt i'r ysgol, y lleoliad a'r clwstwr (clystyrau)

Lle mae’n bosibl, dylai ysgolion a lleoliadau gymryd rhan mewn deialog broffesiynol y tu hwnt i’w clwstwr er mwyn helpu i wella eu dealltwriaeth o gynnydd. Bydd cyfleoedd i ymarferwyr gymryd rhan mewn trafodaethau ar gynnydd fel rhan o’r:

  • rhwydweithiau a chymorth lleol neu ranbarthol
  • Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu’r Cwricwlwm
  • prosiect CAMAU i'r Dyfodol, sef prosiect ymchwil cenedlaethol y bwriedir iddo feithrin gallu o ran deall a datblygu cynnydd rhwng 3 ac 16 oed ym mhob rhan o'r cwricwlwm mewn ysgolion ledled Cymru

Dylai'r gwersi a ddysgwyd o drafodaethau o'r fath ar lefel ranbarthol a chenedlaethol fwydo i mewn i brosesau ar lefel leol. Yn eu tro, bydd canlyniadau deialog broffesiynol yn yr ysgol, y lleoliad a/neu'r clwstwr yn cynnig mewnbwn gwerthfawr i drafodaethau ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Bydd y gydberthynas hon ar y lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol yn helpu i sicrhau cydlyniaeth wrth i ysgolion a lleoliadau ymgysylltu â'r Cwricwlwm i Gymru a'i roi ar waith, ac wrth iddo ddatblygu o fewn ysgolion a lleoliadau.

Mae gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol rôl bwysig i'w chwarae wrth sicrhau y caiff pob ymarferydd gyfle i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol ystyrlon er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Dylai'r rôl hon fod yn gefnogol, gan adeiladu ar yr arferion sydd eisoes wedi'u rhoi ar waith ar lefel ysgol neu leoliad ac ar lefel clwstwr, ac ni ddylai ymwneud ag atebolrwydd allanol. Bydd ganddynt hefyd ran bwysig i'w chwarae wrth helpu i nodi arferion da a'u rhannu.

Dylai'r dysgwr fod wrth wraidd y broses bontio. Mae a wnelo pontio effeithiol â chefnogi pob dysgwr ar hyd y continwwm dysgu, wrth iddo symud rhwng gwahanol grwpiau, gwahanol ddosbarthiadau, gwahanol flynyddoedd a gwahanol leoliadau. Dylai sicrhau lles pob dysgwr fod yn rhan bwysig ac annatod o'r broses, gan gydnabod anghenion unigolion ac, ar yr un pryd, eu cefnogi i barhau i ddysgu a gwneud cynnydd. Mae dealltwriaeth ymarferwyr o bob dysgwr unigol, sy'n deillio o asesiadau, yn hanfodol wrth gefnogi'r broses hon.

Pan fydd ysgolion a lleoliadau yn cynllunio ac yn adolygu eu cwricwlwm, dylent ystyried pa drefniadau y gellir eu rhoi ar waith i sicrhau pontio effeithiol. Mae hyn yn cynnwys datblygu ac ymgorffori proses bontio gadarn ac effeithiol ar gyfer dysgwyr ar hyd y continwwm 3 i 16. Dylai hon fod yn broses barhaus sy'n cydnabod anghenion amrywiol pob dysgwr ac yn cefnogi pob unigolyn ar ei daith ddysgu. Dylid ystyried hefyd unrhyw waith cynllunio'r cwricwlwm ac asesu sy'n mynd rhagddo ar draws y clwstwr.

Er mwyn cefnogi’r broses hon dylai:

  • ysgolion cynradd ymgysylltu ag arweinwyr lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
  • ysgolion cynradd ac uwchradd ymgysylltu â’i gilydd
  • ysgolion cynradd ac uwchradd ymgysylltu ag arweinwyr unedau cyfeirio disgyblion

Cynllunio trefniadau pontio i ddysgwyr Blwyddyn 6

Mae symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd yn garreg filltir allweddol yn ystod taith dysgwr, ac mae’n bwysig bod pob dysgwr yn cael cymorth priodol yn ystod y cyfnod pontio hwn. Yn yr un modd, mae parhad dysgu er mwyn cefnogi cynnydd i ddysgwyr yn hanfodol yn ystod y cam hwn o daith dysgwr.

Rhaid i benaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n bwydo iddynt gydweithio i gynllunio i gefnogi cynnydd dysgwyr, gan ganolbwyntio ar gyfathrebu effeithiol rhwng ymarferwyr, dysgwyr a’u rhieni/gofalwyr. Ceir manylion y gofynion statudol ar gyfer llunio cynlluniau pontio i gefnogi'r broses bontio yn adran crynodeb o ddeddfwriaeth canllawiau Cwricwlwm i Gymru. Ceir canllawiau manwl pellach ar lunio Cynlluniau Pontio yma a deunyddiau ategol ar y broses ymarferol o bontio yma.

Dylai gwybodaeth a gaiff ei rhannu fel rhan o’r broses bontio ganolbwyntio ar anghenion a lles cyffredinol y dysgwr. Dylid darparu darlun clir a chyfannol o gynnydd y dysgwr ym mhob rhan o gwricwlwm yr ysgol er mwyn cefnogi ei daith barhaus ar hyd y continwwm dysgu. Dylid ei ddarparu ochr yn ochr â chofnod o unrhyw her neu gymorth ychwanegol a ddarparwyd.

Anogir ysgolion uwchradd hefyd i ymgysylltu ag arweinwyr lleoliadau ôl-16, er enghraifft, sefydliadau addysg bellach.

Cynnwys y dysgwr

Dylid cynnwys dysgwyr yn y broses bontio er mwyn ceisio deall beth sy'n eu cymell, eu dewisiadau, sut maent yn dysgu, pa rwystrau a allai eu hatal rhag dysgu a beth yw eu cryfderau a meysydd i'w datblygu, yn ogystal ag awgrymu camau nesaf posibl.

Mae cyfathrebu'n effeithiol â rhieni yn barhaus yn ffordd bwysig o feithrin cydberthnasau cadarnhaol er mwyn ymgysylltu â nhw mewn ffordd bwrpasol ac ystyrlon. Os caiff hyn ei wneud yn dda, gall hyrwyddo cynnydd dysgwyr drwy helpu rhieni a gofalwyr i ddeall sut y gallant gefnogi dysgu yn yr ysgol a'r tu allan iddi gan greu pont rhwng ysgol neu leoliad a'r cartref. Gall ymgysylltu'n effeithiol â rhieni a gofalwyr hefyd roi sicrwydd i rieni o ran cynnydd eu dysgwr, gwireddu'r cwricwlwm a'r cymorth sy'n cael ei gynnig i ddysgwyr. Dylid hefyd ystyried pobl eraill sy’n bwysig i ddysgwr, fel eu heiriolwr neu weithiwr cymdeithasol.

Dylai ysgolion a lleoliadau ddatblygu a gweithredu prosesau i gefnogi cyfathrebu effeithiol dwyffordd ac ymgysylltu â rhieni a gofalwyr. Wrth ddatblygu’r prosesau hyn, dylid ystyried defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau cyfathrebu gwahanol, er enghraifft, wyneb yn wyneb, digidol, ysgrifenedig.

Rhannu Gwybodaeth â Rhieni a Gofalwyr

Mae'r gofynion statudol ar gyfer rhannu gwybodaeth â rhieni a gofalwyr ar gael yn adran crynodeb o ddeddfwriaeth canllawiau Cwricwlwm i Gymru.

O ran gwybodaeth am ddysgwyr unigol, rhaid i ysgolion a lleoliadau rannu gwybodaeth am y canlynol â rhieni a gofalwyr:

  • y cynnydd y mae eu plentyn yn ei wneud
  • ei anghenion er mwyn gwneud cynnydd yn y dyfodol
  • sut y gellir diwallu ei anghenion er mwyn gwneud cynnydd yn y dyfodol gartref
  • eu llesiant cyffredinol yn yr ysgol

Rhaid rhannu gwybodaeth am ddysgwyr unigol â rhieni a gofalwyr o leiaf unwaith y tymor ac nid oes angen ei chynnwys mewn adroddiadau ysgrifenedig hir ond yn hytrach dylid rhoi adborth yn y fformat gorau a bennir gan y pennaeth. Dylai'r adborth hwn gael ei roi mewn ffordd hygyrch sy'n sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn ymgysylltu ac yn deall y wybodaeth gymaint â phosibl.

Dylid darparu crynodeb o wybodaeth am ddysgwyr unigol yn flynyddol, y caiff ei hamseriad a'i fformat eu pennu gan y pennaeth ond a fydd yn cefnogi cynnydd y dysgwr yn y ffordd orau posibl. Ni ddylai'r wybodaeth a ddarperir gynnwys disgrifiadau o'r testunau a'r gweithgareddau dysgu y mae'r dysgwr wedi ymgymryd â nhw, oni wneir hynny er mwyn rhoi cyd-destun, ond dylai ganolbwyntio ar y cynnydd ei hun, ac anghenion unigol y dysgwr a'r cymorth a gafodd.

Mae'n bwysig sicrhau y gall y gynulleidfa fwriadedig ddeall gwybodaeth ac adborth yn hawdd. Dylai fod yn gryno ac ni ddylid defnyddio jargon. Gall yr egwyddorion cynnydd gynnig fframwaith trefnu a naratif cyffredin i ysgolion er mwyn iddynt gyfathrebu â rhieni a gofalwyr.

Er bod darparu adroddiadau asesu personol i rieni a gofalwyr yn ofyniad statudol, dim ond elfen fach o'r hyn y gellir ei ddarparu yw'r adroddiadau hyn a dylid eu hystyried yng nghyd-destun y broses cyfathrebu ac ymgysylltu ehangach â rhieni a gofalwyr.

Dylid hefyd rannu gwybodaeth am unrhyw gymorth, ymyriadau neu anghenion ychwanegol sydd eu hangen er mwyn i'r dysgwr ddatblygu.

Cynnwys y dysgwr

Dylai penaethiaid sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd i gyfrannu at y broses gyfathrebu. Lle y bo’n bosibl, dylid galluogi dysgwyr i gasglu enghreifftiau o’u dysgu, mynegi eu cynnydd a’u cyflawniadau eu hunain, a chyfleu eu dyheadau a’u safbwyntiau ar y camau nesaf yn eu dysgu. Yn ddelfrydol, dylai hyn fod yn broses gyfathrebu tair ffordd rhwng y dysgwyr, eu rhieni, eu gofalwyr ac ymarferwyr.

Arweinwyr ysgolion a lleoliadau yw’r rhai sydd yn y sefyllfa orau i ddatblygu’r trefniadau mwyaf priodol i alluogi ymarferwyr i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Wrth wneud hynny, dylen nhw adeiladu ar strwythurau a chydberthnasau sydd eisoes ar waith.

Efallai yr hoffai arweinwyr ystyried y cwestiynau isod wrth wneud hyn.

Trefniadau a chydberthnasau sy'n bodoli eisoes

  • Pa strwythurau a threfniadau sydd ar waith eisoes o fewn eich ysgol neu'ch lleoliad? Gallai'r rhain gynnwys cyfarfodydd rheolaidd i'r holl staff, cyfarfodydd adrannol a grwpiau trawsadrannol.
  • Sut y gellid eu datblygu, eu haddasu neu eu gwella er mwyn galluogi ymarferwyr i ddod at ei gilydd i drafod cynnydd?
  • Pa gydberthnasau sydd gennych eisoes a allai gefnogi deialog broffesiynol am gynnydd rhwng ysgolion a lleoliadau? Dylai'r rhain gynnwys trefniadau sydd eisoes ar waith ar gyfer gweithio mewn clwstwr, ond hefyd rwydweithiau ysgol, cydberthnasau â lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir perthnasol, unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol.
  • Sut y gallech gydweithio i wella'r trefniadau presennol a'r ffyrdd presennol o weithio er mwyn cefnogi'r trafodaethau hyn?
  • Sut y byddwch yn sicrhau y gall y trafodaethau mewn ysgol neu leoliad fwydo i mewn i'r ddeialog ar draws ysgolion a lleoliadau ac i'r gwrthwyneb a'u bod yn cael effaith gadarnhaol ar waith cynllunio, dysgu ac addysgu? Pa drefniadau ymarferol y gallai fod eu hangen er mwyn galluogi hyn?

Meithrin cydberthnasau newydd (fel mae'n briodol)

  • Ar ôl darllen y canllawiau hyn, pa ysgolion neu leoliadau eraill y byddai’n fuddiol i chi ddechrau meithrin cydberthnasau â nhw, yn eich barn chi, er mwyn trafod cynnydd? Pa gymorth ymarferol y gallai fod ei angen arnoch chi wrth wneud hyn?

Nodi cyfleoedd ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol

  • A yw eich ysgol neu'ch lleoliad yn cymryd rhan mewn sgyrsiau perthnasol fel rhan o'r rhwydwaith cenedlaethol? Sut y gellir bwydo'r gwersi a gaiff eu dysgu drwy'r sgyrsiau hyn yn ôl i mewn i drafodaethau yn yr ysgol neu'r lleoliad?
  • A yw eich ysgol neu leoliad wedi manteisio ar weithdai Asesu ar gyfer y Dyfodol CAMAU? Os felly, sut y gellid defnyddio’r rhain i drafod cynnydd a’r cysylltiadau rhwng hyn a’r dulliau asesu.
  • Pe bai eich ysgol/lleoliad yn elwa ar ragor o gymorth i fanteisio ar y gweithdai CAMAU hyn, mae manylion cyswllt eich consortia/partneriaeth ar gael.
  • Pa gymorth a chyfleoedd trafod pellach sydd ar gael i'r ysgol neu'r lleoliad drwy rwydweithiau lleol a rhanbarthol a sut y gellid eu defnyddio i drafod cynnydd?

Bwydo i mewn i brosesau ehangach yr ysgol neu'r lleoliad

  • Sut y gallai canlyniadau trafodaethau o fewn ysgolion a lleoliadau a rhyngddynt fwydo i mewn i brosesau'r ysgol neu'r lleoliad ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm a threfniadau asesu a hunanwerthuso?