English

Mae’r trefniadau asesu hyn wedi cael eu cyd-greu â phartneriaid allweddol i gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir sydd wedi mabwysiadu’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.

Mae’r trefniadau’n ystyried anghenion pob dysgwr ac yn cydnabod y bydd eu hunaniaeth, iaith, gallu, cefndir a phrofiad dysgu blaenorol, ynghyd â’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw, yn amrywio yn ôl eu hamgylchiadau penodol.

Bydd y trefniadau hyn yn cefnogi lleoliadau i:

  • ddeall cynnydd mewn dysgu plant
  • cymhwyso’r egwyddorion cynnydd yn ymarferol
  • datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar draws y lleoliad
  • defnyddio arsylwadau i lywio’r ddarpariaeth sy’n cefnogi plant i wneud cynnydd
  • gwybod am drefniadau asesiadau cychwynnol a pharhaus a’u gweithredu

Pan fo’r canllawiau yn cyfeirio at asesiadau cychwynnol mae’n golygu’r asesiadau dechreuol y mae rheoliad 6 o Reoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022 yn eu gwneud yn ofynnol.

Y brif gynulleidfa ar gyfer y trefniadau asesu hyn yw:

  • arweinwyr, ymarferwyr a phwyllgorau rheoli lleoliadau meithrin nas cynhelir sydd wedi’u hariannu i ddarparu addysg feithrin
  • athrawon ymgynghorol y blynyddoedd cynnar, neu’r rhai sydd mewn rolau cyfatebol mewn awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, sy’n cefnogi lleoliadau wrth gynllunio a darparu addysg feithrin
  • sefydliadau eraill sy’n darparu cymorth proffesiynol i leoliadau nas cynhelir
  • arweinwyr, ymarferwyr a phwyllgorau rheoli lleoliadau gofal plant nad ydyn nhw wedi’u hariannu i ddarparu addysg feithrin ond y mae’n ofynnol iddyn nhw, o dan y 'safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir', weithredu’n unol â gofynion statudol y cwricwlwm

Mae’r 'Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021' (legislation.gov.uk) yn nodi’r gofynion sy’n ymwneud â chynllunio a gweithredu trefniadau cwricwlwm ac asesu. Er nad yw’n ofynnol i leoliadau gynllunio eu cwricwlwm eu hunain, mae’n ofynnol iddyn nhw ‘fabwysiadu’ cwricwlwm a’i weithredu ar gyfer plant yn y lleoliad. Rhoddwyd dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynllunio cwricwlwm y dylid ei ddarparu i leoliadau ei fabwysiadu. Cyhoeddwyd cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ym mis Ionawr 2022.

Mae hefyd yn ofynnol i leoliadau o dan y Ddeddf honno a 'Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022' (legislation.gov.uk) wneud a gweithredu trefniadau asesu i gefnogi cynnydd plant yn y cwricwlwm a fabwysiadwyd ganddyn nhw. Daeth y Rheoliadau i rym ar gyfer plant sy’n derbyn addysg feithrin ym mis Medi 2022.

Mae’r trefniadau asesu hyn yn bodloni’r dyletswyddau cyfreithiol gofynnol ac yn galluogi lleoliadau i asesu’r canlynol:

  • y cynnydd a wnaed gan ddysgwyr a phlant
  • y camau nesaf yn eu dilyniant
  • y dysgu a’r addysgu sydd eu hangen i wneud y cynnydd hwnnw

Bydd y trefniadau hefyd yn cefnogi lleoliadau i asesu cynnydd plant o fewn 6 wythnos o gael addysg feithrin, gan gynnwys asesu’r canlynol:

  • datblygiad corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant
  • sgiliau llythrennedd a rhifedd plant

Mae’r trefniadau’n ystyried 'cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu' y mae’n rhaid i bob ymarferydd roi sylw iddyn nhw wrth wneud trefniadau ar gyfer asesu plant.

Er mwyn cefnogi ymarferwyr i ddatblygu a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, rhaid i arweinwyr lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir sicrhau trefniadau i ymarferwyr sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu gymryd rhan mewn trafodaeth broffesiynol yn eu lleoliad a, lle’n bosibl, gydag ymarferwyr mewn lleoliadau eraill i rannu syniadau ac arferion effeithiol sy’n cefnogi cynnydd plant yn eu lleoliad.

Bydd arweinwyr lleoliadau hefyd yn cydnabod pwysigrwydd trefniadau effeithiol sy’n cefnogi trosglwyddo plant o leoliadau gofal plant i ysgolion. Fel y nodwyd yn ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu’, yn yr adran ‘Cefnogi taith dysgwyr ar hyd y continwwm 3 i 16’, dylai ysgolion cynradd ymgysylltu ag arweinwyr lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir i gynllunio a sicrhau bod trefniadau pontio effeithiol ar waith i gefnogi plant. Bydd trafodaeth broffesiynol rhwng yr ysgol a’r lleoliad yn hanfodol i gefnogi dysgu a lles y plentyn, ac efallai y bydd arweinwyr lleoliadau yn dymuno bod yn rhagweithiol o ran sicrhau bod y trafodaethau hyn yn cael eu cynnal.

Gweithredu’r trefniadau

Mae’n rhaid i leoliad roi cynllun ar waith sy’n:

  • nodi’r trefniadau sy’n galluogi ymarferwyr i gymryd rhan mewn trafodaeth broffesiynol i ddatblygu a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd
  • amlinellu sut y bydd canlyniadau’r drafodaeth hon yn llywio trafodaethau yn y dyfodol, cynllunio cwricwlwm ac asesu, a dysgu ac addysgu
  • cael ei adolygu a’i ailystyried yn rheolaidd i sicrhau bod y trefniadau yn parhau i fod yn addas i’r diben

Er nad yw’r rhestr gynhwysfawr, efallai y bydd arweinwyr lleoliadau eisiau ystyried cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn cynlluniau:

  • y blaenoriaethau ar gyfer trafodaethau ar draws tymor neu flwyddyn academaidd, gan sicrhau bod cynnydd ar draws ehangder llawn y cwricwlwm yn cael ei gynnwys yn briodol ar sail barhaus
  • amserlen ar gyfer gwahanol gyfarfodydd neu cyfleoedd ymgysylltu
  • syniad o’r ymarferwyr mwyaf priodol i gyfrannu at drafodaethau wrth gefnogi cynnydd (yn dibynnu ar ffocws y trafodaethau sy’n cael eu hystyried)
  • amlinelliad o sut y bydd canlyniadau’r trafodaethau hyn yn cael eu cofnodi i lywio prosesau hunanwerthuso lleoliad a sut mae eu blaenoriaethau gwella dilynol yn helpu i nodi meysydd i’w trafod yn y dyfodol
  • syniad o sut y gall y trafodaethau hyn gefnogi pontio i ddysgwyr
  • sut y bydd trafodaethau mewnol yn llywio trafodaethau ehangach gydag ysgolion neu lleoliadau eraill

Mae trefniadau asesu yn cefnogi addysgu a dysgu yn unig ac mae’r 'fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd' yn dweud ni ddylid cynnal asesiadau at ddiben atebolrwydd. Dylai’r diben fod i gefnogi dysgu a datblygiad plant yn well.

Mae cyngor pellach ar gael yn ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu’ (yn yr is-adran ar ‘Trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ac asesu’).