English

4. Astudiaethau achos

Mae'r adran hon yn dwyn ynghyd nifer o astudiaethau achos cyhoeddedig ac enghreifftiau o sut mae ysgolion a lleoliadau wedi mynd ati i gynllunio cwricwlwm.

Astudiaethau achos ar fideo

Tuag at Cwricwlwm i Gymru Medi 2022: beth sydd angen gwybod a gwneud

Ystod o fideos yn tynnu sylw at ddulliau gwahanol ysgolion ar gyfer cynllunio cwricwlwm, cynnydd ac asesu.

Cynnydd yn Ysgol y Strade

Astudiaeth achos yn cynnwys Ysgol y Strade, yn edrych ar gynnydd, yn ogystal ag elfennau cwricwlwm newydd gan gynnwys disgrifiad o gyflwyniad yr ysgol o sgiliau dysgu gydol oes.

Mae Ysgol Gynradd Bontnewydd yn disgrifio eu dull newydd o asesu a chynydd

Mae Pennaeth a Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Bontnewydd yn disgrifio dulliau asesu a chynydd disgyblion y maen nhw wedi'u cyflwyno i weithio ochr yn ochr â’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae staff yn disgrifio sut maen nhw'n datblygu arferion asesu a chynnydd yn Ysgol y Strade i gyd-fynd â dyheadau Cwricwlwm i Gymru.

Mae staff yn disgrifio sut maent yn datblygu prosesau sicrhau ansawdd o fewn Ysgol y Strade i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru.

Sut mae pontio yn cefnogi cynnydd - Ysgol Uwchradd Fitzalan a’i hysgolion clwstwr (Saesneg yn unig)

Deunyddiau ategol ar gyfer pontio. Mae’r deunydd ategol hwn yn dangos sut y gall ystod o “bontydd” pontio gefnogi trefniadau pontio ar draws y continwwm 3 i 16.

Ysgol y Wern yn disgrifio ei dull o bonito

Staff yn Ysgol y Wern yn disgrifio sut maen nhw’n paratoi dysgwyr ar gyfer yr Ysgol Uwchradd gyda'u partneriaid clwstwr.

  1. Datblygu cwricwlwm yn Ysgol Llanhari: y dull arweinyddiaeth

  2. Datblygu cwricwlwm yn Ysgol Llanhari: y dull tîm

Mae Ysgol Llanhari yn rhannu eu profiadau o ddylunio'r cwricwlwm 3 i 16 oed. Mae'r ysgol yn rhannu eu safbwyntiau o arweinyddiaeth uwch a chanolig ar yr hyn sydd wedi helpu i lywio eu ffordd o feddwl, gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid i yrru eu gweledigaeth ar gyfer Cwricwlwm i Gymru.

Astudiaethau achos ysgrifenedig

Ystod o fyfyrdodau ysgrifenedig oddi wrth ysgolion ar eu dulliau ar gyfer diweddaru rhieni a gofalwyr ynghylch cynnydd dysgwyr. 

Taith dysgu proffesiynol mewn perthynas ag asesu

Ysgol Gynradd Gilwern – Datblygu asesu pwrpasol yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru

Drwy'r rhestr chwarae hon, yn unol â ’cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu, mae Gilwern yn dangos sut yr oeddent yn anelu at sicrhau bod asesu yn broses barhaus a oedd wedi'i gwreiddio yn eu harferion bob dydd.

Glan Usk

Bydd y rhestr chwarae hon yn eich tywys drwy'r gweithgareddau pwrpasol a ddefnyddiwyd gan Glan Usk gyda staff a rhanddeiliaid eraill er mwyn mireinio eu dull o asesu a sicrhau cynnydd.

Yr Esgob Hedley

Defnyddiodd yr Esgob Hedley dair elfen allweddol i ysgogi gwelliant yn eu hysgol. Roedd hyn yn cynnwys:

  • y cwricwlwm (beth sy'n cael ei addysgu a pham)
  • asesu (llwyddiant dysgu a’r cynnydd tuag at hyn) (sleid 8)
  • addysgeg (technegau a ddefnyddir i gyflwyno'r cwricwlwm)

Prosiect ymholi proffesiynol cenedlaethol

Prosiect ymholi proffesiynol cenedlaethol: asesu a chynnydd

Mae hyn yn cynnwys ystod o ysgolion yn rhannu eu profiadau wrth gymryd rhan yn y prosiect ymholi proffesiynol cenedlaethol. Gallai'r profiadau hyn fod yn fan cyfeirio defnyddiol i chi mewn perthynas â sut y gallech ddatblygu arfer ffurfiannol; cyfathrebu/ymgysylltu – gyda dysgwr/rhiant a rhwng dysgwyr; cydweithredu ag ysgolion eraill a throsglwyddo; a deall a chynllunio ar gyfer cynnydd (o fewn eich ysgol ac ar draws clystyrau).