English

Ym mis Hydref 2020, cyhoeddwyd Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022, yn nodi disgwyliadau cyson i ysgolion o ran y broses o gynllunio eu cwricwlwm a pharatoi i’w weithredu o 2022 ymlaen.

Mae’r  adran hon o'r canllawiau yn ffurfio rhan o ganllawiau statudol ochr yn ochr ag adrannau eraill o ganllawiau Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Mae rhagor o wybodaeth am ei statws ar gael yn y Cyflwyniad i'r Fframwaith hwn.

Lluniwyd yr adran hon o'r canllawiau i helpu pob ymarferydd mewn ysgolion (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion a'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol mewn lleoliadau eraill) i gynllunio a gweithredu eu cwricwlwm, a'i adolygu'n barhaus. Mae’n rhoi canllawiau ar y modd y dylai ysgolion, yn ein barn ni, gynllunio a threfnu'r ffyrdd y byddant yn bodloni disgwyliadau'r cwricwlwm.

Nid yw wedi'i gynllunio’n benodol ar gyfer lleoliadau meithrin ond gall y canllawiau hyn fod o ddefnydd iddynt, ochr yn ochr â'r canllawiau Trefniadau cwricwlwm ac asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Ceir rhagor o gyngor yn y pecyn cymorth ymgysylltu ar y gofynion i leoliadau gyhoeddi crynodeb.

Bydd angen i bob ymarferydd fod yn hyderus o ran ei ddealltwriaeth o Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru (Fframwaith) cyn datblygu ei ddisgwyliadau ar gyfer ei gyd-destun ei hun, ac er mwyn cynllunio a gweithredu cwricwlwm sy’n gynhwysol i bob dysgwr, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol, dysgwyr dan anfantais economaidd a dysgwyr mwy abl a thalentog.

Mae dolenni i adrannau perthnasol o ganllawiau a gwybodaeth ategol ar ddiwedd yr adran hon.

Diben adran hon y canllawiau statudol hyn yw helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu'r broses barhaus ar gyfer datblygu ac adolygu eu cwricwlwm. Bwriedir iddi helpu ysgolion i drefnu a pharatoi eu cwricwlwm wrth gyflawni eu dyletswyddau i gynllunio ac adolygu eu cwricwlwm. Gellir dod o hyd i gymorth pellach ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm yn yr adran Cynllunio eich Cwricwlwm. Mae'r canllawiau hyn yn rhoi cymorth ychwanegol ar agweddau penodol ar y cwricwlwm y mae ysgolion wedi gofyn am ragor o fanylion yn eu cylch, fel cynnydd. Dylid darllen y canllawiau yng nghyd-destun dealltwriaeth ysgolion o’u dyletswyddau ehangach sy’n cael eu cyflwyno yn y canllawiau hyn.

Bydd cymorth a gynigir gan bartneriaid, yn arbennig consortia rhanbarthol, partneriaethau, awdurdodau lleol, ac awdurdodau esgobaethol yn adeiladu ar y canllawiau hyn. Amlinellir y cymorth hwn, a'r ffordd rydym yn disgwyl i ysgolion a phartneriaid weithio er mwyn helpu i wireddu'r cwricwlwm, yn Cwricwlwm i Gymru: Cynllun Gweithredu.

Cwricwlwm

Cwricwlwm yr ysgol yw popeth mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben. Mae’n fwy na’r hyn rydyn ni’n ei addysgu yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â sut rydyn ni’n ei addysgu ac, yn allweddol, pam rydyn ni’n ei addysgu.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn disgwyl i gwricwlwm ysgol wneud y canlynol:

  • cael ei lywio gan ddiben, mae deall pam fod dysgu yn bwysig yn hanfodol er mwyn datblygu cwricwla ystyrlon
  • canolbwyntio ar gynnydd, a gaiff ei ddiffinio gan ddatblygiad personol dysgwyr
  • dewis amrediad o gynnwys yn seiliedig ar ddiben i gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd, a hynny yn unol â disgwyliadau fframwaith cenedlaethol
  • dewis cynnwys penodol sy’n ddeniadol i ddysgwyr i’w helpu i ymgysylltu â diben y dysgu ac i’w cefnogi i wneud cynnydd
  • cynllunio ar gyfer ystod eang o ddulliau asesu sy'n dangos cynnydd yn hytrach na diffinio cynnydd mewn ffyrdd cul

Mae arweinyddiaeth ar bob lefel mewn ysgol yn hanfodol er mwyn gwireddu'r Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus. Mae'r Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth yn amlinellu'r disgwyliad y dylai pob ymarferydd yng Nghymru ddangos arweinyddiaeth drwy bob agwedd ar ei ymarfer proffesiynol er mwyn gwneud y canlynol:

  • datblygu diwylliant ar gyfer newid sy'n ymgorffori datblygu ar y cyd a ffyrdd disgwyliedig o weithio
  • blaenoriaethu amser ar gyfer deialog proffesiynol sy'n galluogi cymuned gyfan yr ysgol i ddeall newid ac ymrwymo iddo
  • cydnabod pwysigrwydd neilltuo amser a gwneud ymdrech i feithrin dealltwriaeth o Fframwaith y Cwricwlwm ar draws yr ysgol a chymryd camau i sicrhau bod hyn yn digwydd
  • defnyddio cynllun datblygu’r ysgol i bennu blaenoriaethau ar gyfer y tair blynedd nesaf, yn seiliedig ar ddadansoddiad o’r hyn sydd ei angen i wireddu'r Cwricwlwm i Gymru yn yr ysgol
  • sicrhau cydweithio ystyrlon ac ymrwymiad cyffredin ar draws y continwwm 3 i 16
  • sicrhau pontio effeithiol a chynnydd i bob dysgwr ar hyd y continwwm 3 i 16
  • osgoi creu polisïau cwricwlwm neu ddogfennaeth benodol neu ar wahân ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad (Maes), disgyblaeth pwnc, neu agwedd ar ddysgu, oni bai bod hyn yn ddefnyddiol i ymarferwyr, dysgwyr a chymuned yr ysgol

Dylai'r pedwar cwestiwn canlynol fod wrth wraidd pob cam o'r broses o gynllunio’r  cwricwlwm, o gynllunio ar sail ysgol gyfan i gynllunio o ddydd i ddydd:

  • Diben: beth y dylai ein dysgwyr ei ddysgu a pham?
  • Cynnydd: sut olwg fydd ar y cynnydd hwnnw mewn dysgu ar gyfer pob dysgwr?
  • Asesu: sut ydym yn asesu i sicrhau bod modd i’r dysgwyr wneud y cynnydd hwnnw?
  • Addysgeg: sut mae ein harferion o ddydd i ddydd yn cefnogi ein cwricwlwm?

Bwriedir i'r cwestiynau hyn helpu ysgolion i adnabod anghenion newidiol eu dysgwyr a'u cymunedau, ac ymateb iddynt.

Mae iechyd a lles dysgwyr yn ystyriaeth allweddol wrth fynd i'r afael â'r pedwar cwestiwn. Mae'n sail i anghenion dysgwyr, gan alluogi dysgwyr i wneud cynnydd, ac yn rhan o'r broses o ddeall y cynnydd hwnnw. Wrth i ysgolion gynllunio eu cwricwlwm, bydd deall sut mae'n effeithio ar les dysgwyr ac yn eu cefnogi yn allweddol i sicrhau dysgu llwyddiannus.

Dylai fod diben clir o hyd wrth ddatblygu'r cwricwlwm. Mae gofyn pam y mae agweddau ar ddysgu yn bwysig, gan gynnwys gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau penodol, yn helpu i roi ffocws i waith cynllunio a sicrhau bod dysgwyr yn deall diben yr hyn y maent yn ei ddysgu a sut mae'n cyfrannu at gyflawni'r pedwar diben. Bydd pam y mae gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau penodol yn bwysig yn dibynnu'n rhannol ar fannau cychwyn dysgwyr, eu hanghenion, a'u dysgu a'u profiadau blaenorol. Mae cynnwys dysgwyr wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â'u hanghenion, a nodi'r dysgu sy'n bwysig iddynt, yn cael ei adlewyrchu yn yr egwyddorion addysgegol sy'n hanfodol er mwyn i bob dysgwr yng Nghymru gyflawni'r pedwar diben.

Mae gofyn ‘pam’ yn helpu ymarferwyr i ddeall y canlynol:

  • sut mae dysgu (gwybodaeth, sgiliau, a phrofiadau) yn helpu dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben
  • sut mae dysgu (gwybodaeth, sgiliau, a phrofiadau) yn gysylltiedig â'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig neu gysyniadau pwnc-benodol.
  • sut mae dysgu (gwybodaeth, sgiliau, a phrofiadau) yn helpu dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir yn yr egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu
  • sut y gellir gwneud dysgu (gwybodaeth, sgiliau, a phrofiadau) yn ddigon soffistigedig a heriol i ddysgwyr dros amser
  • perthnasedd dysgu penodol (gwybodaeth, sgiliau, a phrofiadau) i ddysgwyr

Mae canllawiau manylach ar ddewis yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau ar gyfer dysgu pwrpasol yn eich cyd-destun chi wedi'u nodi yn adran Cynllunio eich cwricwlwm canllawiau’r Fframwaith.

O fewn y Fframwaith hwn, rhaid i'r egwyddorion cynnydd a'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig lywio'r gwaith o gynllunio ar gyfer cynnydd yn uniongyrchol. Yn ymarferol, dylai fod rhesymeg glir dros y ffordd y bwriedir i ddysgwyr ddatblygu a gwella eu sgiliau a'u gwybodaeth dros amser, ac mae hynny’n berthnasol i bob maes. Yn benodol, mae hyn yn golygu deall sut y bydd y dysgu yn helpu i gynyddu hyd a lled eu gwybodaeth, ehangu a dyfnhau eu dealltwriaeth o syniadau a disgyblaethau yn y Meysydd, a mireinio eu sgiliau er mwyn helpu unigolion i ddod yn ddysgwyr mwy effeithiol sy'n cael cyfleoedd cynyddol i gymhwyso eu dysgu mewn cyd-destunau newydd. Gall ystyried cynnydd dysgwyr yn y ffyrdd hyn gynnig iaith gyson i drafod cynnydd, a gall helpu i lywio a threfnu deialog proffesiynol ynghylch cynnydd dysgwyr mewn ffyrdd mwy ystyrlon.

Drwy ddefnyddio’r egwyddorion cynnydd, gall ysgolion nodi ac ystyried y dysgu disgyblaethol yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer pob Maes, yn ogystal â myfyrio ar soffistigeiddrwydd cynyddol y sgiliau trawsgwricwlaidd a'r sgiliau sy'n hanfodol i gyflawni'r pedwar diben.

Gwybodaeth

Mae deunyddiau ategol sy'n cynnig enghreifftiau ymarferol o'r broses hon ar gael ar ddiwedd yr adran hon o’r canllawiau.

Mae gweithio mewn clystyrau a rhwydweithiau yn rhan hanfodol o fynd i’r afael â chynnydd. Gall y deunyddiau ategol Dysgu â diben: cefnogi cyfnodau pontio ar hyd y continwwm 3 i 16 helpu i gefnogi ysgolion wrth gynllunio proses bontio effeithiol i bob dysgwr ar hyd y continwwm 3 i 16.

Mae'r adnoddau a ddatblygwyd drwy brosiect Camau i'r Dyfodol yn helpu i gefnogi meddwl am gynnydd mewn ffordd sy'n gyson â'r Cwricwlwm i Gymru.

Er mwyn cefnogi cynllunio'r cwricwlwm:

  • bwriedir i’r disgrifiadau dysgu, sydd wedi’u trefnu’n gamau cynnydd, helpu ymarferwyr i ddeall sut y dylai cynnydd dysgwyr edrych
  • maent yn rhoi dangosyddion ar gyfer cyflymder cynnydd er mwyn cefnogi ymarferwyr a llywio'r broses o gynllunio'r cwricwlwm a dysgu ac addysgu
  • wrth gynllunio eich cwricwlwm, dylech ddefnyddio’r disgrifiadau dysgu fel canllaw i gefnogi gwaith cynllunio’r cwricwlwm ac asesu, nid fel mesur o berfformiad dysgwyr

Hynny yw, dylech ddefnyddio’r disgrifiadau dysgu i gadarnhau a fydd yr hyn rydych yn awyddus i'w addysgu:

  • yn datblygu gwybodaeth a sgiliau pwrpasol a hwyluso profiadau i gefnogi cynnydd y dysgwyr
  • yn cynnwys y lefel briodol o her, ehangder a dyfnder ar gyfer pob dysgwr

Nod y disgrifiadau dysgu yw helpu i ddeall y cynnydd y disgwylir i'r dysgwyr ei wneud dros gyfres o flynyddoedd. Mae hyn yn golygu eu bod yn rhoi disgrifiad bras ac yn cydnabod y bydd yn cymryd amser i ddysgwyr wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir. Dangosyddion cynnydd ydynt, yn hytrach na'r unig ddiffiniad o sut y dylai cynnydd dysgwyr edrych. Mae hyn yn golygu y dylai ysgolion ddewis amrediad o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau a fydd yn helpu dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir, gan ddyfnhau eu dysgu dros amser.

Ni fwriedir i’r disgrifiadau dysgu gael eu 'cyflawni' drwy nifer bach o weithgareddau dysgu ond, yn hytrach, dylid eu defnyddio mewn modd datblygiadol dros amser. Mae gwybodaeth yn adran pob Maes.

Mae'r Cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ddatblygu a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd sy'n galluogi pob ymarferydd i gymryd rhan mewn deialog proffesiynol am gynnydd dysgwyr. Rhaid i ysgolion gydweithio'n fewnol, gyda'u clwstwr, a gydag ysgolion a lleoliadau eraill fel sy'n briodol, er mwyn sicrhau proses gydlynol o ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Mae hyn yn helpu i ddatblygu disgwyliadau cyffredin ar gyfer cynnydd dysgwyr, gan gefnogi eu prosesau pontio, ac mae'n sicrhau bod disgwyliadau'n darparu digon o gyflymdra a her yn y dysgu i ymestyn dysgwyr.

Nod asesu yw cefnogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd. Mae asesu yn galluogi ymarferwyr i ddeall y cynnydd y mae dysgwyr wedi'i wneud, nodi anghenion dysgwyr fel unigolion ac fel grŵp, a chynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Mae gan ysgolion alluogedd wrth gynllunio amrywiaeth o gyfleoedd asesu sy'n adlewyrchu’r dysgu a fwriedir ac i ddeall y cynnydd y mae dysgwyr yn ei wneud.

Mae'r adran hon yn adeiladu ar y canllawiau canlynol:

Mae cynllunio trefniadau asesu pwrpasol yn hanfodol er mwyn deall cryfderau dysgwyr a meysydd i'w datblygu fel rhan annatod o'r broses o gynllunio'r cwricwlwm. Dylai lywio pa gymorth a heriau penodol sydd eu hangen ar ddysgwyr i wneud cynnydd, a'r camau nesaf yn eu dysgu.

Mae asesu yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o ddiben y dysgu a'r cynnydd a ddisgwylir, fel y'u mynegir yn yr egwyddorion cynnydd a'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.

Wrth asesu cynnydd dysgwyr, dylid ystyried amrywiaeth o dystiolaeth er mwyn pennu a ydynt yn gwneud cynnydd a sut – sut mae eu gwybodaeth a'u sgiliau yn datblygu a sut maent yn cyfranogi mewn profiadau.

Dylai hyn gynnwys asesu’n barhaus ac yn anffurfiol, gan gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • arsylwi
  • trafod â dysgwyr
  • adnoddau diagnostig
  • asesiadau ffurfiannol yn yr ystafell ddosbarth
  • asesiadau crynodol lle y bo'n briodol i'r dysgu a fwriedir
  • defnyddio gwybodaeth o asesiadau personol fel ffordd hyblyg o gasglu gwybodaeth am gynnydd mewn perthynas â sgiliau darllen a rhifedd sy'n cefnogi anghenion dysgwyr unigol. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i fod yn adnodd diagnostig a byddant yn parhau i fod yn rhan statudol o'r dull asesu

Er mwyn cefnogi asesu, mae’r disgrifiadau dysgu wedi’u cynllunio i hwyluso amrywiaeth eang o ddulliau asesu sy'n casglu enghreifftiau o ddysgu ac yn helpu i bennu a yw dysgwyr yn gwneud cynnydd, a sut. Wrth gynllunio'r asesu, dylid eu defnyddio i lywio'r canlynol:

  • dangosyddion cynnydd y gall dysgwyr eu dangos wrth iddynt ddatblygu eu dealltwriaeth a chymhwyso eu dysgu mewn cyd-destunau newydd ac anghyfarwydd
  • dealltwriaeth o gyflymdra cynnydd dysgwyr mewn perthynas â disgwyliadau cyffredinol ar bwynt tebyg yn y continwwm dysgu
  • y broses o ddatblygu amrywiaeth eang o ddulliau asesu er mwyn asesu cynnydd

Mae disgrifiadau dysgu yn rhoi disgwyliadau eang ar gyfer cynnydd dros gyfres o flynyddoedd, a dylid eu defnyddio ar y cyd â disgwyliadau'r ymarferydd neu’r ysgol ar gyfer eu dysgwyr i ddewis cynnwys heriol ac ystyrlon ar gyfer y cwricwlwm.

Dylid defnyddio'r disgrifiadau dysgu a gwybodaeth asesu fel dangosyddion o gynnydd dysgwyr yn hytrach nag i ddiffinio cynnydd dysgwyr: mae hyn yn cydnabod na fydd yr un dull asesu yn rhoi darlun llawn o gynnydd dysgwr.

Felly, dylai ymarferwyr ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu – ac ystyried pa rai fydd yn fwyaf effeithiol ar gyfer diben y dysgu sydd wedi'i gynllunio. Efallai y byddai'n ddefnyddiol cyfeirio at y ddau gwestiwn canlynol o'r canllawiau Gwella ysgolion:

  • Pa mor dda y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifiwyd yn yr egwyddorion cynnydd, gan eu cefnogi i ddatblygu tuag at y pedwar diben?
  • A yw cyflymder cynnydd dysgwyr yn unol â disgwyliadau athrawon a'r cwricwlwm?

Dros amser, bydd amrywiaeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau ac amrywiaeth o ddulliau asesu yn helpu i ddeall cynnydd dysgwyr, wrth i ddysgwyr ddyfnhau eu dealltwriaeth a dod yn ddysgwyr mwy effeithiol. Dylai'r wybodaeth asesu hon lywio barn ymarferwyr am gynnydd dysgwyr.

Am y rhesymau hyn, ni fwriedir i'r disgrifiadau dysgu gael eu rhannu'n gyfres o feini prawf ar gyfer asesu neu'n rhestr wirio sy'n llywio dewis gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau neu'n pennu a yw dysgwr wedi 'cyflawni' cam cynnydd.

Mae deunyddiau ategol ychwanegol ar gael sy'n cynnig enghreifftiau ymarferol o'r broses hon ar ddiwedd yr adran hon.

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn dathlu galluogedd a barn broffesiynol pob ymarferydd. Wrth inni barhau i ddatblygu dull sy'n seiliedig ar ymchwil o ymdrin ag addysgeg a gwella ysgolion, mae deall egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr gyflawni'r pedwar diben yn llwyddiannus. Dylai'r dulliau addysgeg a ddewisir, a'r dewisiadau a wneir gan ymarferwyr, fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o ddiben y dysgu, dulliau asesu, a'r cynnydd a fwriedir.

Mae'r adran hon yn adeiladu ar y canllawiau canlynol:

Disgwylir i ysgolion werthuso ansawdd eu darpariaeth yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod strategaethau addysgu yn diwallu anghenion newidiol dysgwyr yn eu cyd-destun. Gall y strategaethau hyn gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • ffocws ar les dysgwyr a'u datblygiad yn y dyfodol sy'n hwyluso dysgu sy'n briodol i gam datblygu pob dysgwr ac yn adeiladu'n effeithiol ar ddysgu a phrofiadau blaenorol
  • ffocws ar gynllunio cwricwlwm effeithiol sy'n cefnogi dull cynllunio sy’n seiliedig ar ddiben ac yn sicrhau dilyniant dysgu o fewn y Meysydd a rhyngddynt, gan roi gwerth i’r ’broses o ddysgu ochr yn ochr â'r hyn sy'n cael ei ddysgu er mwyn sicrhau bod diben i'r dysgu ac y gellir ei drosglwyddo mewn modd ystyrlon i gyd-destunau newydd.
  • cynnig profiadau dysgu dilys sy'n cefnogi twf personol dysgwyr ac yn eu helpu i fod yn effeithiol yn eu dysgu parhaus

Mae'r egwyddorion addysgegol yn helpu ymarferwyr i ddeall anghenion eu dysgwyr ac i wneud dewisiadau hyddysg am y dulliau dysgu ac addysgu sy'n cefnogi cynnydd dysgwyr yn y ffordd orau bosibl o fewn y Cwricwlwm i Gymru.

Mae'r adran hon o'r canllawiau yn adlewyrchu natur gylchol y broses o gynllunio'r cwricwlwm a'r camau y dylai ysgolion eu cymryd i gynllunio, gwerthuso a mireinio eu cwricwlwm.

Mae tri cham i'r broses o gynllunio a mireinio'r cwricwlwm yn barhaus, o gynllunio ar sail ysgol gyfan i gynllunio o ddydd i ddydd. Bydd y tri cham isod yn parhau i fod yn berthnasol i ysgolion wrth iddynt ddyfnhau eu dealltwriaeth a mireinio eu cwricwlwm:

  1. Datblygu a mireinio dealltwriaeth o’r Cwricwlwm i Gymru
  2. Cynllunio, profi a mireinio'r cwricwlwm
  3. Gwerthuso ac adolygu'n barhaus

Camau cylchol yw'r rhain, sy'n golygu y dylai ysgolion ddychwelyd atynt dros amser ac mewn mwy o fanylder. Dylai ysgolion geisio datblygu eu dealltwriaeth o'r Cwricwlwm i Gymru ac o'u dysgwyr eu hunain yn barhaus. Dylent gynllunio, profi a mireinio eu cwricwlwm yn barhaus, yn ogystal â gwerthuso ac ystyried i ba raddau y mae eu cwricwlwm yn gweithio yn ymarferol, a sut i’w wella. Dylai pob cam adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd ar y cam blaenorol a helpu ysgolion ar y cam nesaf.

Mae hyn yn cynnig dull gweithredu i bob ysgol ar gyfer adolygu a mireinio ei chwricwlwm yn barhaus, yn ogystal ag i ysgolion uwchradd wrth iddynt barhau i gyflwyno’r cwricwlwm dros y blynyddoedd i ddod. Wrth i ysgolion ddatblygu eu cwricwlwm, bydd angen iddynt ailedrych ar y cwestiynau a ofynnir ar bob cam yn yr adran hon o’r canllawiau, a phrofi a mireinio eu dulliau gweithredu.

Mae buddsoddi yn y cam cyntaf i bennu diben yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr ysgol gyfan yn deall y Fframwaith hwn ac er mwyn datblygu cwricwlwm sy'n ymgorffori egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru yn llawn. Mae hyn yn allweddol i sicrhau sylfaen gadarn i lunio a mireinio cwricwlwm.

Dylai'r broses o ddatblygu'r cwricwlwm rymuso ysgolion i fod â hyder yn y cwricwlwm y maent yn ei gynllunio. Nid oes angen i ymarferwyr gyfiawnhau hyn drwy lunio deunydd ychwanegol, fel dogfennau hir i ddangos tystiolaeth o brosesau cynllunio.

Mae cynllunio'r cwricwlwm yn broses barhaus o wella. Mae angen i ysgolion fodloni gofynion deddfwriaethol a pharhau i ddatblygu a mireinio eu cwricwlwm drwy broses gylchol barhaus.

Bydd y gwaith meddwl sy'n sail i ddatblygu'r cwricwlwm yn ennyn hyder yn yr hyn a addysgir. Yn yr un modd, mae datblygu dysgwyr sy'n awyddus i ddysgu drwy gydol eu hoes yn hanfodol er mwyn cyflawni’r pedwar diben a chefnogi'r dewisiadau a wneir ynglŷn â'r hyn a ddysgir. Ni ddylai ysgolion ruthro na chymryd llwybrau byr yn y broses gynllunio, er enghraifft, drwy brynu cwricwlwm parod.

Dylai ymarferwyr ddatblygu dealltwriaeth o fodel y Cwricwlwm i Gymru a'r egwyddorion sy'n sail iddo. Mae hyn yn cynnwys ymgyfarwyddo â’r canllawiau ac ymchwil, a datblygu dealltwriaeth ohonynt, er mwyn mireinio eu gweledigaeth a'u proses o gynllunio'r cwricwlwm. Dylai pob ymarferydd fyfyrio ar arferion cyfredol a cheisio deall anghenion newidiol dysgwyr yn eu cymunedau.

Beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion

Yn gyntaf, dylai arweinwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau ddatblygu eu dealltwriaeth o’r Fframwaith hwn a'u dysgwyr yn barhaus, gan gynnwys:

  • rôl a phwysigrwydd diben wrth gynllunio cwricwlwm – gan ganolbwyntio ar hyn y dylai dysgwyr ei ddysgu a pham
  • sut mae’r pedwar diben yn llywio blaenoriaethau ar gyfer gwella ysgolion a chynnydd dysgwyr
  • model y cwricwlwm a’r dull asesu a nodir ar gyfer pob ymarferydd yng nghanllawiau’r Fframwaith hwn
  • profiadau, anghenion, galluoedd, diwylliannau a gwerthoedd amrywiol dysgwyr er mwyn deall yr hyn y mae’r pedwar diben yn ei olygu iddyn nhw a'u cyd-destun
  • y ddealltwriaeth gysyniadol a nodir yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a sut y gellir datblygu'r rhain drwy'r cwricwlwm er mwyn sicrhau cynnydd dysgwyr
  • yr hyn a ddysgir a'r profiad a geir drwy werthuso ac adolygu'r cwricwlwm cyfredol

Bydd yn cymryd amser i ddatblygu dealltwriaeth ddofn a dylai fod yn broses barhaus. Dylai arweinwyr ac ymarferwyr sicrhau bod eu dull o gynllunio'r cwricwlwm:

  • yn seiliedig ar weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm a'r dysgu a'r addysgu sy'n ei gefnogi
  • yn cydnabod anghenion a chyd-destunau dysgwyr a'r ffordd y mae'r rhain yn esblygu
  • yn cynnwys dysgwyr, teuluoedd, llywodraethwyr (neu bwyllgorau rheoli mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion) ochr yn ochr ag eraill yng nghymuned ehangach yr ysgol er mwyn adlewyrchu cyd-destun yr ysgol ac anghenion dysgwyr yn y ffordd orau bosibl
  • yn cydnabod natur gylchol y broses o gynllunio'r cwricwlwm, gan ymateb yn effeithiol i anghenion newidiol dysgwyr yn eu cymunedau
  • yn ystyried gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau a’r rôl y mae pob un ohonynt yn ei chwarae wrth alluogi dysgu, fel y nodir yng nghanllawiau’r Fframwaith hwn
  • yn helpu i ddatblygu addysgeg sy'n seiliedig ar ymchwil wrth anelu at fod yn ysgol fel sefydliad sy'n dysgu
  • yn gwerthfawrogi rôl dysgu proffesiynol wrth ddiwygio'r cwricwlwm ac yn deall y disgwyliadau mewn perthynas â hyn i gefnogi pob ymarferydd
  • yn cynnwys proses ymgysylltu ddwyffordd â rhieni, gofalwyr a chymuned ehangach yr ysgol
  • yn cynnwys cydweithio ac ymgysylltu'n barhaus â chymheiriaid, gan gynnwys drwy rwydweithiau lleol a'r Rhwydwaith Cenedlaethol
  • yn adlewyrchu gwerthusiad o'r broses gyflwyno hyd yma (yn yr ysgol ac yn genedlaethol)

Cwestiynau allweddol i ysgolion ddatblygu a mireinio dealltwriaeth

  • Sut rydym yn sicrhau dealltwriaeth gyffredin o gwricwlwm sy’n cael ei lywio gan ddiben?
  • A yw arweinyddiaeth drwy'r ysgol yn cefnogi'r diwylliant a'r amodau sydd eu hangen er mwyn newid?
  • Beth yw'r prif rwystrau i newid? Sut mae mynd i’r afael â nhw?
  • I ba raddau y mae ein cwricwlwm cyfredol yn adlewyrchu nodau a dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru?
  • I ba raddau rydym yn sicrhau bod yr adnoddau gofynnol ar waith i gefnogi'r broses o ddatblygu'r cwricwlwm?
  • Sut rydym wedi ystyried ein hymateb i'r cwestiynau a ofynnir yng nghyflwyniad ‘Cynllunio eich cwricwlwm’?
  • Beth mae'r pedwar diben yn ei olygu mewn perthynas â gallu ac ymagwedd ein dysgwyr ac i'n cyd-destun ni? Sut y dylai'r rhain ysgogi blaenoriaethau ac arferion ein hysgol?
  • Beth yw ein dealltwriaeth gyffredin o'r hyn y mae llwyddiant yn ei olygu i'n dysgwyr?
  • Sut mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn llywio'r broses o gynllunio'r cwricwlwm? Sut maent yn cysylltu â'r hyn sydd ei angen ar ein dysgwyr?
  • Sut rydym yn deall anghenion newidiol ein dysgwyr a'r gymuned? Sut mae ein cwricwlwm a'n harferion wedi newid? Beth sy'n gweithio'n dda? Pam?
  • Beth yw diben ein dysgu ac addysgu presennol? Pa agweddau ar ein dull gweithredu presennol y gellir eu datblygu? Ble mae'r diben yn aneglur? Sut mae dysgu proffesiynol yn cefnogi dysgu pwrpasol?
  • Beth rydym wedi ei ddysgu drwy ymgysylltu â rhwydweithiau lleol a'r Rhwydwaith Cenedlaethol?
  • Sut mae anghenion dysgu proffesiynol ymarferwyr yn cael eu hadnabod? Beth yw effaith dysgu proffesiynol ar gynnydd dysgwyr? Sut rydym yn gwybod hyn?
  • Beth rydym wedi ei ddysgu drwy ein proses o werthuso ac adolygu'r cwricwlwm?

Rhaid i ysgolion ddatblygu a mireinio eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu, yn unol â'r gofynion mandadol gan ystyried y canllawiau statudol. Dylent hefyd fynd ar drywydd eu blaenoriaethau i helpu i wireddu eu cwricwlwm yn eu cynllun gwella ysgol. Dylai ysgolion ystyried i ba raddau y mae pob ymarferydd yn deall diben y dysgu sy'n cael ei gynllunio, pa mor glir y mae diben y dysgu hwnnw yn llywio'r dysgu ac addysgu, a sut mae hyn yn cefnogi profiad dysgu cydlynol sy’n cynnig ’dilyniant da i bob dysgwr.

Dylai cwricwlwm ysgol adeiladu ar y weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm. Dylai ystyried pa wybodaeth, sgiliau a phrofiadau allweddol y dylai dysgwyr feddu arnynt er mwyn gwneud cynnydd tuag at gyflawni'r pedwar diben. Mae hyn yn golygu y dylai'r cwricwlwm alluogi dysgwyr i wneud y canlynol:

  • cynyddu eu heffeithiolrwydd fel dysgwyr
  • dyfnhau eu dealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau yn y Meysydd a'u hymgysylltiad â nhw
  • meithrin a chymhwyso sgiliau mewn modd gynyddol soffistigedig
  • cynyddu ehangder a dyfnder eu gwybodaeth
  • yn gynyddol greu cysylltiadau a throsglwyddo eu dysgu i gyd-destunau newydd

Beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion

Dylai ysgolion bennu a mireinio egwyddorion cynllunio sy'n helpu i wneud y canlynol:

  • sicrhau safonau uchel a galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd addas a chynaliadwy
  • datblygu, gwerthuso, a mireinio dulliau o fodloni gofynion mandadol y cwricwlwm

Mae'r Cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Rhaid i'r ddealltwriaeth hon gael ei datblygu o fewn yr ysgol a rhwng yr ysgolion y mae'r mwyafrif o ddysgwyr yn pontio rhyngddynt. Rhaid iddynt ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r disgwyliadau ar gyfer cynnydd dysgwyr, gan gydnabod bod cynnwys neu gyd-destun pynciau neu themâu yn debygol o amrywio. Gan ddefnyddio'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a'r egwyddorion cynnydd mandadol, disgwylir i ymarferwyr adnabod y ddealltwriaeth gysyniadol a fydd yn galluogi dysgwyr yn eu cyd-destun i wneud cynnydd yn eu dysgu. Mae datblygu, gwerthuso a mireinio ar y cyd ddealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar draws clwstwr yn hanfodol i sicrhau disgwyliadau uchel, heriol a chydlynol: gan sicrhau bod y dysgu yn datblygu ar draws y continwwm 3 i 16.

Rhaid i arweinwyr hwyluso a chefnogi cydweithio mewn clystyrau er mwyn sicrhau cydberchenogaeth dros gynnydd. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod dysgwyr yn pontio'n effeithiol ar hyd y continwwm 3 i 16. Dylai hyn sicrhau cydlyniant cwricwlwm rhwng ysgolion a grwpiau blwyddyn, gan adlewyrchu gweledigaeth unigryw pob ysgol. Dylai gefnogi cynnydd dysgwyr ac ymwneud â datblygu, gwerthuso a mireinio prosesau ar y cyd er mwyn helpu dysgwyr i bontio ar hyd y continwwm 3 i 16 cyfan.

Mae dealltwriaeth gyffredin o gynnydd mewn ysgol yn helpu i sicrhau cwricwlwm cydlynol ym mhob rhan o'r ysgol (gan gynnwys trefniadau asesu i gefnogi cynnydd pob dysgwr). Dylai ysgolion:

  • sicrhau dealltwriaeth o'r ffordd y bydd y cwricwlwm a fwriedir yn helpu dysgwyr i wireddu'r pedwar diben, gan roi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach dros amser a throsglwyddo'u dysgu i gyd-destunau newydd
  • ystyried sut mae datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, yr egwyddorion cynnydd, disgyblaethau o fewn Meysydd ac agweddau sy’n gyffredin i fwy nag un Maes yn cael eu defnyddio i lywio'r broses o gynllunio'r cwricwlwm a threfniadau asesu, yn ogystal â sut y caiff sgiliau hanfodol a sgiliau a themâu trawsgwricwlaidd eu hymgorffori
  • ystyried y rôl y mae disgyblaethau gwahanol yn ei chwarae i gefnogi dysgwyr i wireddu'r pedwar diben, yn ogystal â phwysigrwydd dulliau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol i helpu dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth fwy cyflawn a chydgysylltiedig. Mae gofyn pam y mae dysgu'n bwysig yn y disgyblaethau hyn yn hanfodol yn hyn o beth
  • ar ôl datblygu disgwyliadau ysgol gyfan neu leoliad cyfan ar gyfer cynnydd, ystyried sut y gellir trefnu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau i gefnogi cynnydd dysgwyr yn y ffordd orau posibl
  • cynllunio dysgu ac addysgu sy'n datblygu eu cwricwlwm

Dylai ysgolion ddewis amrywiaeth o ddulliau dysgu sy'n briodol i'r wybodaeth a’r sgiliau disgyblaethol a'r profiadau dan sylw, ochr yn ochr ag anghenion datblygiadol dysgwyr. Dylent adeiladu ar gysylltiadau naturiol rhwng y cysyniadau, yr wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygir mewn Meysydd gwahanol. Er mwyn gwneud hyn, mae angen dealltwriaeth gref o sut mae cynnydd yn edrych mewn disgyblaethau gwahanol i ddechrau, cyn datblygu unrhyw ddulliau rhyngddisgyblaethol o fewn y Meysydd a rhyngddynt. Pan fydd dulliau yn cyfuno dysgu mewn disgyblaethau gwahanol, dylent ddyfnhau dealltwriaeth o gysyniadau a gwybodaeth allweddol ochr yn ochr â datblygu sgiliau.

Mae'n hanfodol bod y dysgu yn ystyrlon ac yn cael ei ddatblygu mewn cyd-destun sy'n ddilys i ddiben y dysgu. Mae'n annhebygol iawn y bydd un dull gweithredu yn briodol ym mhob sefyllfa, er enghraifft ceisio cysylltu'r holl ddysgu ag un thema neu destun.

Rhaid i ysgolion gyhoeddi crynodeb o'u cwricwlwm hefyd.

Crynodebau o'r cwricwlwm

Mae'r adran sy'n rhoi crynodeb o'r ddeddfwriaeth yn nodi'r gofynion ar gyfer cyhoeddi crynodeb o'r cwricwlwm.

Gall crynodebau o’r cwricwlwm helpu ysgolion a lleoliadau wrth feithrin cysylltiadau â rheini, gofalwyr a’u cymunedau ehangach. Dylai crynodebau o'r cwricwlwm a gyhoeddir gynnwys y canlynol:

  • gwybodaeth am y ffordd y mae ymarferwyr, dysgwyr, rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach yn cael eu cynnwys wrth ddatblygu'r cwricwlwm yn barhaus
  • sut mae'r cwricwlwm yn bodloni'r elfennau gofynnol a nodir yn y Fframwaith hwn, gan ddechrau gyda'r pedwar diben
  • gwybodaeth am sut mae'r ysgol yn ymdrin â chynnydd dysgwyr a'i threfniadau ar gyfer asesu
  • sut mae'r cwricwlwm yn cael ei adolygu'n barhaus, gan gynnwys y broses ar gyfer casglu adborth a mireinio'r cwricwlwm yn barhaus

Dylid cyhoeddi crynodebau o'r cwricwlwm cyn dechrau pob blwyddyn academaidd.

Mae enghreifftiau o grynodebau o'r cwricwlwm wedi'u cyhoeddi mewn blog gan Addysg Cymru.

Cwestiynau allweddol i ysgolion gynllunio, profi a mireinio eu cwricwlwm

  • I ba raddau y mae ein cwricwlwm yn gwireddu gweledigaeth ein hysgol?
  • Sut rydym yn deall anghenion lles ein dysgwyr?
  • Pa wybodaeth, sgiliau a phrofiadau y bydd eu hangen ar ein dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o'r cysyniadau sydd o fewn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig? Sut mae hyn yn helpu dysgwyr i ddatblygu’r gwerthoedd ac ymagweddau sydd yn y pedwar diben? Pam y mae'r rhain yn bwysig i'n dysgwyr?
  • Sut mae'r ffordd rydym yn cynllunio'r cwricwlwm yn adlewyrchu gofynion mandadol y Cwricwlwm i Gymru?
  • Sut rydym yn deall yr egwyddorion cynnydd? Sut rydym yn disgwyl i ddysgwyr wneud cynnydd? Sut y gallwn sicrhau bod hyn yn seiliedig ar ddealltwriaeth o gynnydd mewn dysgu a datblygiad plant? Sut dylai'r cynnydd hwn edrych dros eu taith dysgu 3 i 16? Sut y gallwn gydweithio i gefnogi hyn?
  • Ym mha Feysydd, datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a disgyblaethau y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd ynddynt drwy’r dysgu ac addysgu (gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau) a gynlluniwyd? Pa gysylltiadau ystyrlon all ehangu a dyfnhau dealltwriaeth y dysgwyr?
  • Sut rydym yn ymgorffori themâu trawsgwricwlaidd yn ein cwricwlwm?
  • Sut y gall dulliau disgyblaethol, rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd yn eu dysgu (gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau)? Pa ddulliau gweithredu allai fod yn briodol ar gyfer cyfnodau ac oedrannau gwahanol yn ystod daith dysgwr?
  • Sut y gallwn osod disgwyliadau uchel cyson ar gyfer dysgwyr ar draws y continwwm dysgu? Sut rydym yn cefnogi pob dysgwr i feddu ar ddisgwyliadau uchel ohono'i hun?
  • Sut y gallwn sicrhau cynwysoldeb ein cwricwlwm ar gyfer pob dysgwr?
  • Sut y gallwn sicrhau bod ein cwricwlwm yn adlewyrchu ein blaenoriaethau? Pa adnoddau sydd eu hangen i gefnogi hyn?
  • Sut rydym yn defnyddio ein rhwydweithiau lleol a'r Rhwydwaith Cenedlaethol i fireinio ein syniadau?

O fewn cyd-destun y canllawiau gwella ysgolion, dylai ysgolion sefydlu cylch parhaus o werthuso ac adolygu'r broses o gynllunio eu cwricwlwm, sy’n cael ei gytuno gan y pennaeth a'r corff llywodraethu. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion adolygu eu cwricwlwm yn barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol a nodir yn y Ddeddf. Dylai ysgolion hefyd geisio ymateb i anghenion newidiol eu dysgwyr a'u cymunedau a chynnal neu wella arferion i helpu i wireddu disgwyliadau uchel i bawb. Dylai ysgolion fyfyrio ar effeithiolrwydd eu cwricwlwm a defnyddio'r ddealltwriaeth honno i wella.

Beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion

Dylai ysgolion wneud y canlynol:

  • myfyrio ar effaith y cwricwlwm ar ddysgwyr, gan gynnwys i ba raddau y mae'r cwricwlwm a'i gynnwys yn eu helpu i: ennyn diddordeb dysgwyr a'u cefnogi i gyflawni'r pedwar diben; codi safonau; cau'r bwlch o ran cyrhaeddiad, a chefnogi cynnydd dysgwyr
  • myfyrio ar y broses o gynllunio eu cwricwlwm, yn seiliedig ar eu profiad a'u dealltwriaeth gynyddol, er mwyn llywio'r broses o fireinio'r cwricwlwm yn y dyfodol a'i ddatblygu ymhellach wrth iddo gael ei ymestyn i grwpiau blwyddyn ychwanegol
  • datblygu a defnyddio systemau i fyfyrio ar effeithiolrwydd y Cwricwlwm i Gymru, addysgeg a threfniadau asesu, a defnyddio'r ddealltwriaeth honno i wella profiadau dysgwyr
  • adolygu hyd a lled y cwricwlwm presennol a sut y gellid gwneud cysylltiadau ar draws y dysgu
  • defnyddio gwaith gwerthuso ac adolygu i lywio ‘r broses o ddatblygu a mireinio dealltwriaeth. Dylai hyn helpu i sicrhau dealltwriaeth ddyfnach o’r pedwar diben, a'r hyn y maent yn ei olygu o ran cynllunio dysgu pwrpasol i ddysgwyr, a defnyddio hyn i lywio'r gwaith o fireinio'r cwricwlwm a dulliau asesu ac addysgeg
  • datblygu, gwerthuso a mireinio modelau ymholi proffesiynol ysgol gyfan i lywio a helpu i hwyluso'r broses o gynllunio'r cwricwlwm yn barhaus
  • parhau i ddatblygu, treialu a mireinio cynlluniau pontio fel rhan o'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm er mwyn sicrhau bod proses effeithiol ar waith i bontio dysgwyr ar hyd y continwwm 3 i 16
  • parhau i ddatblygu, treialu a mireinio trefniadau priodol sy'n cynnwys rhieni a gofalwyr mewn proses gyfathrebu ddwyffordd am gynnydd eu plentyn
  • adolygu eu crynodeb o'r cwricwlwm er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu eu cwricwlwm o hyd
  • ystyried pa wersi a ddysgwyd y byddai'n ddefnyddiol eu rhannu ag ysgolion eraill, rhwydweithiau lleol a'r Rhwydwaith Cenedlaethol

Fel rhan o'r adolygiad hwn, rhaid i ysgolion ystyried a yw'r cwricwlwm yn parhau i fodloni gofynion cyfreithiol y fframwaith.

Cwestiynau allweddol i ysgolion werthuso a mireinio eu cwricwlwm

  • A yw'r cwricwlwm yn gwireddu ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau? Sut rydym yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn parhau i fod yn berthnasol, yn heriol ac yn gynhwysol?
  • A ydym yn bodloni'r gofynion cyfreithiol a disgwyliadau’r Fframwaith hwn?
  • Beth sydd wedi gweithio'n dda? Pam y mae wedi gweithio'n dda? Sut y gallwn adeiladu ar yr egwyddorion hynny, a'u hehangu?
  • Sut y gallwn barhau i godi disgwyliadau ar gyfer pob dysgwr?
  • Sut y gallwn sicrhau bod ein cwricwlwm yn ymateb i anghenion newidiol dysgwyr, yn ogystal â'n profiad a'n dealltwriaeth gynyddol o gynllunio cwricwlwm?
  • Sut y gallwn sicrhau bod ein haddysgeg a'n harferion yn parhau i ddatblygu er mwyn cefnogi'r cwricwlwm i bob dysgwr?
  • Sut y gallwn barhau i ddatblygu ein cwricwlwm mewn cyd-destun sefydliad sy'n dysgu?
  • Sut rydym yn ymgysylltu â rhieni, gofalwyr a chymuned ehangach yr ysgol? Sut rydym yn gwybod bod ein dysgwyr yn gwneud cynnydd o ganlyniad i'r cwricwlwm a gynlluniwyd gennym? A ydym yn fodlon gyda’n dull o fonitro'r cynnydd hwnnw? Sut rydym yn rhannu hyn yn effeithiol â rhieni a gofalwyr?
  • Beth sydd wedi gweithio'n dda? Pam y mae wedi gweithio'n dda? Sut rydym yn gwybod ei fod wedi gweithio'n dda?
  • Sut rydym yn gwerthuso effaith newid er mwyn adnabod ein camau nesaf ar gyfer gwella?
  • Beth y gellir ei wella? Sut? Pam y mae angen gwneud y gwelliant hwnnw?
  • Sut y gallwn sicrhau bod profiadau parhaus dysgwyr yn llywio'r broses o fireinio ein cwricwlwm?
  • Beth y gallwn ei ddysgu o brofiadau ysgolion eraill? Beth yw egwyddorion yr hyn sydd wedi gweithio'n dda yn yr ysgolion hynny? Sut y gallwn adeiladu ar yr egwyddorion hynny yn ein cyd-destun ein hunain?
  • Sut rydym yn sicrhau cylch gwerthuso parhaus sy’n llywio gweledigaeth a chynllunio cwricwlwm sy'n parhau i ddiwallu anghenion newidiol ein dysgwyr a'n cyd-destun?
  • Sut rydym yn defnyddio ein rhwydweithiau lleol a chenedlaethol i lywio ein cylch myfyrio a gwerthuso?

Dylai’r cwricwlwm fod yn esblygu'n barhaus, gan geisio gwireddu'r disgwyliadau uchaf, a chynnig y cymorth gorau ar gyfer lles ac ymateb i anghenion newidiol dysgwyr, a dylid ategu hyn trwy ddysgu ac addysgu sy’n esblygu. Nid yw'n weithgaredd untro a wneir unwaith a dyna ni.

I gael canllawiau manwl ar ddisgwyliadau Fframwaith y Cwricwlwm a sut i'w ddefnyddio i gynllunio eich cwricwlwm.

Canllawiau statudol

Canllawiau i helpu i fynd i’r afael â’r Cwricwlwm i Gymru:

Canllawiau anstatudol

Deunyddiau ategol i gefnogi'r broses o gynllunio'r cwricwlwm

Cyflwynwyd y Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion a lleoliadau cynradd ym mis Medi 2022. Gwnaeth ysgolion uwchradd a ddewisodd gyflwyno'r cwricwlwm yn gynnar i Flwyddyn 7 hefyd ddechrau'r broses ym mis Medi 2022; mae’r cwricwlwm yn orfodol i Flwyddyn 7 a Blwyddyn 8 o fis Medi 2023.

Wrth i'r Cwricwlwm i Gymru gael ei ehangu fesul blwyddyn hyd at 2026 i 2027, dylai ysgolion uwchradd weithio'n agos iawn gyda'u hysgolion cynradd clwstwr er mwyn deall eu profiadau, gan gynnwys deall eu profiad o gynnydd dysgwyr, er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio cyfnodau pontio. Disgwylir i ysgolion gymryd rhan mewn gwaith yn eu clystyrau a'u rhwydweithiau a rhyngddynt, gan gynnwys drwy'r Rhwydwaith Cenedlaethol.