English

Dylai'r weledigaeth a ddatblygwyd gan ysgolion lywio cynllun eu cwricwlwm.

Cwricwlwm

Mandadol

Yn seiliedig ar ofynion y cwricwlwm a nodir mewn deddfwriaeth, mae'n rhaid i'w cwricwlwm:

  • alluogi dysgwyr i wneud cynnydd tuag at gyflawni'r pedwar diben
  • bod yn eang ac yn gytbwys
  • bod yn addas i ddysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau
  • darparu ar gyfer cynnydd priodol dysgwyr
  • cynnwys pob un o'r chwe Maes
  • cwmpasu pob datganiad o’r hyn sy'n bwysig
  • cynnwys yr elfennau mandadol o'r cwricwlwm, sef crefydd, gwerthoedd a moeseg, addysg cydberthynas a rhywioldeb, Cymraeg a Saesneg
  • ymgorffori'r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol
  • cynnwys ystod o ddulliau asesu sy'n cefnogi cynnydd dysgwyr
  • rhoi dewis i ddysgwyr o ran yr hyn y maen nhw’n ei astudio pan fyddan nhw rhwng 14 ac 16 oed, ond parhau i sicrhau bod pob dysgwr yn dysgu ym mhob Maes

Mae'r canllawiau hyn yn pennu y dylai cwricwlwm hefyd:

  • ddarparu dysgu eang, gan dynnu ystod o brofiadau, gwybodaeth a sgiliau ynghyd ar draws ystod o gyd-destunau, testunau a gweithgareddau, gan greu cysylltiadau ar draws Meysydd
  • dros amser, darparu ar gyfer dysgu cynyddol ddwfn a soffistigedig
  • bod yn ddatblygiadol briodol ac ysgogi cynnydd dysgwyr
  • cynnwys cyfleoedd ar gyfer dysgu ac ystyried elfennau trawsgwricwlaidd, sy’n:
    • galluogi dysgwyr i ystyried cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
    • meithrin dealltwriaeth o addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith
    • meithrin dealltwriaeth o addysg hawliau dynol ac amrywiaeth

Defnyddio'r canllawiau i ddewis cynnwys cwricwlwm

Mae pob elfen o'r canllawiau hyn o fewn y Meysydd wedi'i datblygu i gefnogi'r broses o ddewis cynnwys cwricwlwm, sef:

  • datganiadau o’r hyn sy’n bwysig
  • disgrifiadau dysgu
  • egwyddorion cynnydd
Cwricwlwm

Mandadol

Mae'n rhaid i gwricwlwm ysgol gwmpasu'r holl ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig o 3 i 16, gan ymgysylltu â'u cysyniadau allweddol mewn modd datblygiadol briodol. Felly, mae'r datganiadau hyn yn rhan hanfodol o gynllun cwricwlwm ysgol. Mae'n rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddefnyddio'r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig i lywio'r broses o ddatblygu cynnwys cwricwlwm, gan eu defnyddio i:

  • ddewis profiadau, gwybodaeth a sgiliau. Mae'r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn crynhoi ‘syniadau mawrion’ neu egwyddorion allweddol pob Maes, a dylai'r cynnwys a ddewisir alluogi dysgwyr i feithrin dealltwriaeth o'r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig
  • deall sut y dylai'r dysgu gefnogi cynnydd dysgwyr. Dylai'r dysgu gyfrannu at ddealltwriaeth a defnydd cynyddol soffistigedig o'r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig
  • galluogi dysgwyr i archwilio testunau a gweithgareddau drwy safbwyntiau gwahanol. Mae modd i'r un testunau gael eu hystyried gan ddysgwyr drwy wahanol ddatganiadau, a dylai hyn ddigwydd, er mwyn i ddysgwyr gael profiad holistaidd o destun. Mae hyn yn eu helpu i greu cysylltiadau cryfach rhwng cynnwys, disgyblaethau a Meysydd
  • helpu dysgwyr i wneud synnwyr o ystod o brofiadau, gwybodaeth a sgiliau, gan ganolbwyntio ar hanfodion pob Maes. Mae defnyddio'r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig fel sail i’r dysgu yn helpu dysgwyr i feithrin dealltwriaeth resymegol o ystod o wybodaeth, gan greu cysylltiadau rhwng gwahanol ddysgu, yn hytrach na chronni ffeithiau a gweithgareddau annibynnol

Mae'n rhaid i gynnwys cwricwlwm gysylltu'n ôl â'r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Mae hyn yn helpu dysgwyr i wneud synnwyr o bopeth y maen nhw yn ei ddysgu drwy gydol y continwwm dysgu. Dylai ymarferwyr ddefnyddio ystod o gyd-destunau, safbwyntiau a phynciau i gyfrannu at y dysgu o fewn datganiad. Mae hyn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu fframwaith cydlynol o ddysgu ac i ddeall a defnyddio'r syniadau neu'r egwyddorion hynny mewn modd cynyddol soffistigedig wrth iddyn nhw wneud cynnydd. 

Mae’r disgrifiadau dysgu yn rhoi canllawiau ar sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig ar eu taith ar hyd y continwwm dysgu. Caiff y rhain eu trefnu mewn pum cam cynnydd sy'n rhoi pwyntiau cyfeirio ar gyfer cyflymder y cynnydd hwnnw. Caiff y disgwyliadau hyn eu mynegi o safbwynt y dysgwr ac maen nhw’n eu fframio'n eang fel bod modd iddyn nhw gynnal y dysgu dros gyfres o flynyddoedd. Nid ydyn nhw wedi'u dylunio i fod yn dasgau, yn weithgareddau nac yn feini prawf asesu annibynnol.  Er mai'r un yw'r continwwm dysgu i bob dysgwr, mae'n bosibl y byddan nhw’n gwneud cynnydd ar gyflymder gwahanol. O ganlyniad, dim ond cysylltiad bras sydd rhwng y camau cynnydd ac oedran. Yn fras, maen nhw’n cyfateb i ddisgwyliadau ar gyfer dysgwyr 5, 8, 11, 14 ac 16 oed.  

Mae'r disgrifiadau dysgu wedi'u llunio i gynnal y dysgu dros gyfnod o flynyddoedd ac mae hyn yn rhoi cwmpas i ymarferwyr eu defnyddio i ddewis cynnwys sy'n darparu dysgu eang a dwfn.

Ehangder

Dylai ymarferwyr ddefnyddio’r disgrifiadau dysgu i ddod ag ystod eang o brofiadau, gwybodaeth a sgiliau ynghyd. Dylid eu harchwilio drwy amrywiaeth o gyd-destunau, testunau a gweithgareddau a ddewisir yn ystod y broses o gynllunio cwricwlwm. Dylai hyn hefyd olygu creu cysylltiadau rhwng Meysydd fel sy'n briodol.

Dyfnder

Dylai ymarferwyr gefnogi dysgwyr i ymgysylltu â disgrifiadau dysgu mewn modd cynyddol ddwfn a soffistigedig dros gyfnod o amser. Dylai hyn helpu dysgwyr i gymhwyso'r disgrifiadau dysgu mewn cyd-destunau cynyddol heriol a chaniatáu ar gyfer gwyro, atgyfnerthu a myfyrio wrth i ddealltwriaeth a defnydd dysgwyr o'r dysgu allweddol ddatblygu a dod yn fwy soffistigedig dros amser, gan ysgogi meddwl, trafodaeth ac ymholi manwl.

Lle mae'r dysgu yn gorgyffwrdd, mae'r disgrifiadau dysgu wedi'u llunio i gael eu hystyried drwy ystod o wahanol safbwyntiau disgyblaethol gwahanol, a dylai ymarferwyr geisio cynnwys y safbwyntiau disgyblaethol hyn yn y dysgu. Wrth i'r dysgwyr wneud cynnydd, dylen nhw gael mwy o gyfleoedd i arbenigo a dylai cyd-destunau disgyblaethol y disgrifiadau dysgu ddod yn gynyddol amlwg yng nghynllun y cwricwlwm. Mewn rhai Meysydd, daw disgyblaethau'n fwy amlwg yn y disgrifiadau dysgu eu hunain tuag at ddiwedd y continwwm, wrth i hanfod y dysgu mewn Maes ddod yn fwy arbenigol.

Cwricwlwm

Mandadol

Dylai cynnydd mewn dysgu bob amser fod wrth wraidd y broses o gynllunio’r cwricwlwm yn hytrach na dechrau gyda thema ac addasu'r dysgu i gydweddu â hi. Wrth ddewis cynnwys cwricwlwm, mae'n rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddefnyddio'r egwyddorion cynnydd i lywio eu dull gweithredu o ran cynnydd. Tra bod disgrifiadau dysgu yn mynegi ffordd y dylai dysgwyr wneud cynnydd mewn dysgu o ran datganiadau penodol o’r hyn sy’n bwysig, mae'r egwyddorion cynnydd ar gyfer pob Maes yn mynegi'r egwyddorion ehangach o ran yr hyn y mae cynnydd yn ei olygu yn y Maes yn ei gyfanrwydd. Mae’r egwyddorion cynnydd cyffredinol yn mynegi’r hyn y mae cynnydd yn ei olygu ar draws y cwricwlwm cyfan. Fel y cyfryw, mae'n rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddefnyddio'r egwyddorion hyn i lywio'r holl ddysgu i gefnogi cynnydd. Wrth ystyried disgrifiadau dysgu neu gyd-destun, testun neu brofiad penodol, mae'r egwyddorion cynnydd yn helpu ymarferwyr i ddeall sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd mewn modd mwy soffistigedig neu ddwfn. Dylai ymarferwyr hefyd gydnabod y bydd dysgwyr yn gwneud cynnydd ar wahanol gyflymderau.

Mae'r canllawiau hyn wedi'u datblygu i gefnogi dulliau sy'n tynnu gwahanol ddisgyblaethau ynghyd wrth gynllunio cwricwlwm – o fewn ac ar draws y Meysydd. Mae hyn yn rhoi profiad dysgu mwy cydlynol i ddysgwyr, wrth iddyn nhw geisio creu cysylltiadau ystyrlon rhwng y gwahanol bethau y maen nhw’n eu dysgu. Yn hyn o beth, gall cyfuno ystod o ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig mewn gwahanol Feysydd ganiatáu i ddysgwyr ystyried cynnwys cwricwlwm o ystod o safbwyntiau a disgyblaethau. Mae'r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig eu hunain a, lle y bo'n briodol, y disgrifiadau dysgu, wedi'u dylunio i hwyluso dull gweithredu o'r fath. Mae hyn yn galluogi dysgwyr i gysylltu ac atgyfnerthu eu dysgu ar draws y gwahanol ddisgyblaethau.

Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, dylen nhw gael mwy o gyfleoedd i ymgysylltu â gwahanol ddisgyblaethau ac arbenigo ynddyn nhw, yn enwedig pan fyddan nhw’n cyrraedd y camau cynnydd diweddarach. Fodd bynnag, dylai hyn fod yn broses esblygol, gyda dysgwyr yn cael mwy o gyfleoedd i arbenigo yn raddol. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, dylai'r broses hon gael ei chefnogi gan addysgu sy'n arbenigol o ran disgyblaeth, a ddylai, ynghyd â'r dull amlddisgyblaethol o gynllunio cwricwlwm, baratoi dysgwyr sy'n bwriadu arbenigo ymhellach mewn addysg ôl-16. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen arbenigwyr i addysgu ac arbenigwyr i gynllunio.

Er y dylid cynnig cyfleoedd i ddysgwyr arbenigo, mae'n rhaid i'r cwricwlwm barhau'n eang ac yn gytbwys a dylai pob dysgwr barhau i fanteisio ar ddysgu o bob Maes drwy gydol ei amser mewn addysg orfodol. Disgwylir i ysgolion alluogi pob dysgwr i ddilyn ystod o gyrsiau astudio ac ennill cymwysterau addas ar ddiwedd addysg orfodol.