English

1. Trosolwg

Roedd yn llwyfan agored ac yn rhoi cyfle i bob ymarferydd yng Nghymru gymryd rhan mewn proses datblygu ar y cyd genedlaethol, er mwyn mynd i’r afael â’n heriau a’n cyfleoedd cyffredin.

Y Rhwydwaith Cenedlaethol:

  • casglu a rhannu dealltwriaeth: dod â gwahanol farnau, safbwyntiau ac arbenigedd at ei gilydd i ddeall sut yr oeddem yn datblygu, beth oedd yr heriau a sut oedd pobl yn ymateb iddynt
  • datblygu dulliau gweithredu ar y cyd: gyda’n gilydd, penderfynwyd beth y gallai gweithwyr addysgu proffesiynol, rhanddeiliaid, partneriaid galluogi a’r llywodraeth ei wneud i oresgyn yr heriau hyn
  • cysylltu pobl: caniatáu i bobl rwydweithio a datblygu’r berthynas rhwng gweithwyr addysg proffesiynol, arbenigwyr addysg a rhanddeiliaid a oedd yn helpu ysgolion a lleoliadau yn uniongyrchol
  • ysgogi newid: roedd y sgyrsiau yn helpu i ysgogi a chefnogi’r gwaith o weithredu ar bob lefel

Sgyrsiau

Roedd y rhwydwaith cenedlaethol yn ystyried materion allweddol ynghylch gweithredu'r cwricwlwm drwy sgyrsiau.

Cafodd y sgyrsiau hyn eu cynnal ar lefel genedlaethol a rhanbarthol, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chonsortia rhanbarthol ac, fel y bo'n briodol, awdurdodau lleol.

Adeiladwyd ar ddysgu proffesiynol ar lefel ranbarthol, gan ddod ag ymarferwyr at ei gilydd ledled Cymru i ddatblygu dulliau o ymdrin â materion gweithredu cenedlaethol.

Roedd y sgyrsiau yn agored i bob ysgol ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru.

  • Nesaf

    Sgyrsiau cynharach a dadansoddiad