English

Cyd-destun: pwysigrwydd cynllunio cwricwlwm effeithiol: cynnydd mewn dysgu

Mae cynnydd dysgwyr ar hyd continwwm dysgu o 3 i 16 oed yn ganolog i Gwricwlwm i Gymru. Mae asesu yn chwarae rhan sylfaenol wrth alluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a'u herio yn unol â hynny.

Cwricwlwm ysgol yw popeth y mae dysgwr yn ei brofi er mwyn cyflawni’r pedwar diben. Nid dim ond yr hyn a ddysgwn, ond sut a pham yr ydym yn ei addysgu. Cynllunio cwricwlwm ac asesu pwrpasol yw'r allwedd i gefnogi cynnydd.

(Am ganllawiau ychwanegol ar gynllunio’r cwricwlwm, gweler yr adran Blaenoriaethau ar gyfer datblygu’r cwricwlwm a dysgu ar y daith i gyflwyno’r cwricwlwm)

Mae’r egwyddorion cynnydd yn darparu gofyniad gorfodol o ran sut olwg sydd ar gynnydd i ddysgwyr. Maen nhw’n disgrifio’r hyn y mae’n ei olygu i ddysgwyr wneud cynnydd a’r galluoedd a’r ymddygiadau y mae’n rhaid i ymarferwyr geisio eu cefnogi, waeth beth fo cam datblygiad y dysgwr. Maent wedi’u cynllunio i’w defnyddio gan ymarferwyr i:

  • deall beth mae cynnydd yn ei olygu ac y dylai edrych fel mewn Maes penodol
  • datblygu'r cwricwlwm a phrofiadau dysgu i alluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir
  • datblygu dulliau asesu sy'n ceisio deall a yw'r cynnydd hwn yn cael ei wneud

Mae'r egwyddorion cynnydd yn wahanol i ddisgrifiadau o ddysgu sy’n darparu pwyntiau cyfeirio penodol o sut beth yw cynnydd wrth i ddysgwyr weithio tuag at ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar wahanol adegau ar eu taith. Gyda’i gilydd, gall ymarferwyr ddefnyddio’r ddwy elfen hyn i ddeall beth mae’n ei olygu i ddysgwyr wneud cynnydd, a defnyddio hyn i lywio dysgu, addysgu ac asesu.

Mae pum egwyddor cynnydd yn sail i ddilyniant ar draws pob Maes.

Yn ogystal â’r egwyddorion trosfwaol, disgrifir egwyddorion cynnydd hefyd yng nghyd-destun pob Maes.

Mae disgrifiadau manylach o’r egwyddorion trosfwaol hyn ar gyfer cynnydd i’w gweld yn 'datblygu gweledigaeth ar gyfer cynllunio cwricwlwm'.

Gellir dod o hyd i egwyddorion dilyniant ar gyfer pob Maes fel a ganlyn:

Defnyddio’r Adnodd Cenedlaethol i gefnogi gwerthusiad ysgol o gynnydd dysgwyr

O ystyried pwysigrwydd canolog cynnydd dysgwyr a’r Egwyddorion Cynnydd i’r Cwricwlwm i Gymru, mae angen i gynnydd dysgwyr gael pwysigrwydd tebyg o fewn gweithgareddau gwerthuso a gwella. Bydd nodi, casglu a myfyrio ar gynnydd dysgwyr unigol dros amser ynghyd â deall cynnydd grŵp er mwyn myfyrio ar ymarfer ill dau yn rhan hanfodol o’r gweithgareddau hyn ar gyfer arweinwyr ysgol.

Mae’r adnodd cenedlaethol yn amlygu rhai o’r meysydd allweddol lle gallai arweinwyr ysgol hystyried yr Egwyddorion Cynnydd yn benodol yn ystod eu gweithgareddau gwerthuso a gwella.

Bydd dau gwestiwn allweddol yn llywio’r berthynas rhwng cynnydd dysgwyr a gwella ysgolion:

  • Pa mor dda y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd tuag at y pedwar diben ac yn y ffyrdd a ddisgrifir yn yr Egwyddorion Cynnydd?
  • Sut mae cyfradd cynnydd dysgwyr yn cyd-fynd â disgwyliadau athrawon a’r cwricwlwm?

Bydd angen i atebion ysgolion i’r ddau gwestiwn hyn gael eu llywio gan ystod eang o wybodaeth a thystiolaeth wrth iddynt ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn eu hysgol a thrwy gydweithio ag ysgolion eraill. Yn eu tro, gall ysgolion bennu ffocws gwaith hunanarfarnu a gwella dilynol.

Deunyddiau ategol ar gyfer y cwricwlwm, asesu a gwerthuso cynnydd dysgwyr.

Defnyddio data

Gall ysgolion gael gafael ar ystod eang o ddata a all fod yn ddefnyddiol o bryd i'w gilydd i gefnogi prosesau hunanwerthuso a gwella.

Fodd bynnag, gall canolbwyntio ar ystod gyfyngedig o ddata yn unig arwain at broffwydoliaeth hunangyflawnol lle y bydd ysgol yn ceisio cynyddu ffigur at ddibenion atebolrwydd yn unig yn hytrach na mynd i'r afael â'r meysydd ehangach y mae angen eu gwella.

Mae data'n bwysig er mwyn cefnogi prosesau hunanwerthuso ac mae angen i'r ffynonellau data a ddefnyddir fod yn berthnasol i anghenion yr ysgol.

Mae angen ystyried yr agweddau canlynol hefyd wrth ddefnyddio'r Adnodd Cenedlaethol:

  • Ni ellir meintoli pob agwedd ar yr ysgol. Gall tystiolaeth a barn ansoddol fod yr un mor bwerus mewn rhai achosion.
  • Nid i ffurfio barn y caiff data eu defnyddio, ond i godi cwestiynau ar gyfer ymchwilio ymhellach.

Rydym yn osgoi rhoi rhestr o ffynonellau data yn fwriadol am y rhesymau uchod. Dylai ysgolion ystyried pa ddata sy'n berthnasol a'u defnyddio'n briodol at ddibenion gwella.