English

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo. Mae’n ofynnol i gyrff llywodraethu’r ysgolion hynny lunio cynllun pontio ar y cyd i gefnogi’r broses o helpu dysgwyr i bontio o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7. Mae’r canllawiau hyn yn esbonio’r gofynion ar gyfer cynlluniau pontio, gan gynnwys pwy sy’n gorfod llunio cynlluniau, cynnwys y cynlluniau hynny, a’r gofynion sy’n ymwneud ag adolygu cynlluniau o’r fath.

Mae’r canllawiau hyn hefyd yn rhoi gwybodaeth am drefniadau gwirfoddol i gefnogi a gwella’r gwaith o gynllunio ar gyfer y cyfnod pontio – gan gydnabod bod gan lawer o ysgolion cynradd gysylltiadau â nifer o ysgolion uwchradd sydd y tu allan i’r gofynion cyfreithiol ar gyfer cynlluniau pontio.

Mae manylion llawn dyletswyddau cyfreithiol y gofynion i lunio cynlluniau pontio wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau Pontio o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2022 (Rheoliadau Pontio 2022) a’r Gofyniad i lunio cynlluniau pontio a chanllawiau 2022.

Ar hyn o bryd, nodir y gofynion cyfreithiol ar gyfer pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd yn Rheoliadau Trosglwyddo o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006 (Rheoliadau 2006). Gwnaed Rheoliadau Pontio 2022 newydd ar gyfer 2022 sy’n dirymu ac yn disodli Rheoliadau 2006, ac maen nhw’n dod i rym ar 1 Gorffennaf 2022. 

Bydd angen i bob ysgol uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo roi cynlluniau pontio newydd ar waith i gefnogi’r broses bontio o dan Cwricwlwm i Gymru. Rhaid llunio’r cynlluniau cyntaf a’u rhoi ar waith o 1 Medi 2022 i gefnogi’r broses o bontio’r garfan gyntaf o ddysgwyr sy’n symud o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7 o dan Cwricwlwm i Gymru yn ystod haf 2023, yn barod ar gyfer blwyddyn ysgol 2023 i 2024.

Bydd gan bob ysgol gynlluniau pontio ar waith eisoes ond mae’r rheini’n canolbwyntio ar y trefniadau pontio a pharhad gwaith mewn perthynas â chynllunio’r cwricwlwm, dysgu ac addysgu sy’n seiliedig ar y cwricwlwm cyn rhoi Cwricwlwm i Gymru ar waith.  

Felly, mae angen llunio cynlluniau newydd i gefnogi’r trefniadau pontio a chynnydd dysgwyr o dan Cwricwlwm i Gymru.  

Bydd angen i gynlluniau newydd ganolbwyntio ar sut y bydd parhad dysgu’n cael ei sicrhau drwy gynllunio’r cwricwlwm, cynllunio ac addysgu ar gyfer dysgu dysgwyr Blwyddyn 6 o dan Cwricwlwm i Gymru, a sut y bydd anghenion a lles dysgwyr unigol yn cael eu cefnogi yn ystod y cyfnod pontio.

Mae’r adran hon yn crynhoi’r gofynion cyfreithiol a osodir ar gyrff llywodraethu ysgolion uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo, ac mae’r manylion llawn amdanyn nhw yn Rheoliadau Pontio 2022. Dylid edrych ar y Rheoliadau Pontio 2022 hynny ochr yn ochr â’r canllawiau hyn.

Mae’r adran hon hefyd yn nodi’r amgylchiadau y mae angen cynllun pontio ar eu cyfer, y diffiniad o ysgol gynradd sy’n bwydo at ddibenion cynllunio ar gyfer y cyfnod pontio, y meysydd i fynd i’r afael â nhw mewn cynllun pontio, a’r gofynion ar gyfer cyhoeddi ac adolygu cynllun pontio.

Nod cynlluniau pontio yw cefnogi a gwella’r cysylltiadau rhwng ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd sy’n bwydo, gan ganolbwyntio’n benodol ar gydweithio i gefnogi cynnydd cydlynol gan ddysgwyr, cefnogi anghenion a lles cyffredinol dysgwyr, a sicrhau cyflymder a her briodol yn y ffordd y mae ysgolion yn ymdrin â chynnydd wrth ddatblygu eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu.

Ar gyfer y Rheoliadau Pontio 2022, rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion uwchradd a gynhelir ac ysgolion cynradd sy’n bwydo lunio un cynllun pontio ar y cyd i gefnogi’r broses o helpu dysgwyr i bontio o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7. Gall y ddarpariaeth ar gyfer ysgolion cynradd unigol sy’n bwydo, fel rhan o’r cynllun hwnnw fod yn wahanol, ond dim ond un cynllun sydd ei angen dan ofal yr ysgol uwchradd.

Mae’r gofyniad i lunio cynllun pontio yn berthnasol i’r canlynol:

  • ysgolion uwchradd cymunedol, gwirfoddol a sefydledig a chanddyn nhw ysgolion cynradd sy’n bwydo
  • ysgolion cynradd cymunedol, gwirfoddol a sefydledig a gânt eu diffinio fel ysgolion cynradd sy’n bwydo at ddibenion Rheoliadau Pontio 2022

Mae ysgol gynradd sy’n bwydo yn cael ei phennu gan gyrff llywodraethu ysgolion ar ôl rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru. Mae’r canllawiau wedi’u cynnwys yn y Gofyniad i lunio cynlluniau pontio a chanllawiau 2022. Mae’r canllawiau hynny’n datgan bod Gweinidogion Cymru o’r farn y dylid cyfyngu’r gofyniad i lunio cynlluniau pontio i achosion pan fo perthynas sefydledig a pharhaus rhwng ysgol gynradd ac ysgol uwchradd benodol sy’n seiliedig ar y ffaith bod y rhan fwyaf o garfan Blwyddyn 6 o’r ysgol gynradd yn pontio i’r ysgol uwchradd benodol honno.

Nid yw’r diffiniad yn mynd y tu hwnt i’r meini prawf derbyn presennol ar gyfer ysgolion uwchradd, nac yn pennu dalgylch ysgol uwchradd benodol.

Dylid adolygu’r berthynas rhwng yr ysgolion cynradd sy’n bwydo yn flynyddol er mwyn penderfynu a oes angen cynllun pontio o hyd o ganlyniad i batrymau newidiol mewn perthynas â symudiadau dysgwyr.

Rhaid i gynlluniau pontio gael eu cyhoeddi ar ddechrau’r flwyddyn ysgol y bwriedir iddyn nhw fod yn berthnasol iddi, neu cyn hynny.

Yn ymarferol, mae hynny’n golygu, o dan Rheoliadau Pontio 2022, fod angen cyhoeddi’r cynlluniau pontio cyntaf a’u rhoi ar waith erbyn mis Medi 2022. 

Y garfan gyntaf o ddysgwyr i bontio o dan Cwricwlwm i Gymru fydd y dysgwyr Blwyddyn 6 hynny sy’n symud i Flwyddyn 7 yn nhymor yr hydref 2023 (blwyddyn academaidd 2023 i 2024). Er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm a gyflwynir mewn ysgolion ar gyfer y dysgwyr Blwyddyn 6 hynny yn ystyried parhad dysgu ac yn cefnogi cynnydd dysgwyr yn ystod y cyfnod pontio, mae angen i gynlluniau pontio fod ar waith erbyn mis Medi 2022 a’u gweithredu ar draws blwyddyn academaidd 2022 i 2023.  

Bydd hyn yr un fath ar gyfer unrhyw garfanau o ddysgwyr yn y dyfodol, sef bod cynlluniau ar waith ac yn weithredol o ddechrau’r flwyddyn ysgol y maen nhw’n berthnasol iddi.

Cydnabyddir os oes gan ysgol garfan fach ym Mlwyddyn 6 y gall y ganran o ddysgwyr sy’n symud i ysgol uwchradd benodedig newid yn sylweddol bob blwyddyn. Felly, os oes gan ysgol sydd â dysgwyr o Flynyddoedd 1 i 6 gyfanswm o 50 neu lai o ddysgwyr cofrestredig, a bod gan ysgol sydd â dysgwyr o Flynyddoedd 3 i 6 32 neu lai o ddysgwyr cofrestredig, yna mae ysgolion o’r fath wedi’u heithrio o’r gofyniad statudol i lunio cynllun pontio. 

Mae nifer yr ysgolion mewn amgylchiadau o’r fath yn gymharol fach. Fodd bynnag, anogir ysgolion o’r fath i wneud trefniadau cynllunio gwirfoddol ar y cyd ag ysgolion uwchradd i sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith ar gyfer y cyfnod pontio. Dylai’r trefniadau hyn fanteisio ar y cysylltiadau a sefydlwyd drwy ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd – gweler yr adran ‘Cynllunio ar gyfer y cyfnod pontio a dealltwriaeth gyffredin o gynnydd’.

O dan Reoliadau Pontio 2022, rhaid i gynlluniau pontio ymdrin â’r materion canlynol:

  • sut y bydd ysgolion yn cydgysylltu ac yn rheoli’r broses bontio o’r ysgolion cynradd sy’n bwydo i’r ysgolion uwchradd i ddysgwyr
  • sut y bydd ysgolion yn sicrhau parhad dysgu yn gyffredinol drwy gynllunio’r cwricwlwm a chynllunio ar gyfer dysgu ac addysgu i ddysgwyr ym Mlwyddyn 6 sy’n pontio i Flwyddyn 7
  • sut y caiff cynnydd dysgwr unigol ei gefnogi wrth iddo bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd
  • sut y caiff anghenion dysgu a lles pob dysgwr unigol eu cefnogi wrth iddyn nhw bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd
  • sut y bydd ysgolion yn adolygu ac yn monitro effaith y cynllun pontio o ran sut mae wedi helpu i:
    • sicrhau parhad dysgu
    • cefnogi cynnydd dysgwyr unigol

Mater i gyrff llywodraethu a thimau rheoli ysgolion yw penderfynu, fel rhan o’r gwaith o ddatblygu cynllun, pryd y dylid adolygu cynllun pontio yn flynyddol a’i gadw fel y mae neu ei ddiwygio i ystyried unrhyw amgylchiadau sydd wedi newid. Fodd bynnag, rhaid adolygu cynlluniau a phenderfynu a oes angen newidiadau o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os daw ysgol gynradd yn ysgol gynradd sy’n bwydo ysgol uwchradd sydd eisoes ag un neu fwy o ysgolion cynradd sy’n bwydo
  • os caiff y cwricwlwm ei adolygu o dan adran 12 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (gofyniad i adolygu a diwygio cwricwlwm ysgol a gynhelir ac ysgol feithrin a gynhelir)
  • os caiff trefniadau asesu naill ai’r ysgol gynradd neu’r ysgol uwchradd a wneir o dan Reoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022 eu hadolygu
  • os yw cyrff llywodraethu’r holl ysgolion dan sylw o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny
  • ar ddiwedd cyfnod y 3 blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd y cynllun pontio (neu’r cynllun diwygiedig)

Wrth adolygu cynllun pontio, rhaid i gyrff llywodraethu’r ysgolion dan sylw ystyried sut y gellid rheoli’r broses bontio yn well. Rhaid i adolygiad o gynllun asesu effeithiolrwydd y cynllun mewn perthynas â pharhad dysgu, cefnogi cynnydd dysgwyr, a chefnogi iechyd a lles pob dysgwr.

Mae’r Rheoliadau Pontio 2022 yn darparu bod unrhyw anghydfod ynghylch a yw ysgol yn ysgol gynradd sy’n bwydo ysgol uwchradd benodol i’w benderfynu gan Weinidogion Cymru. Bydd gweithdrefnau’n cael eu rhoi ar waith ar gyfer datrys anghydfodau o’r fath.

Gall ysgol gynradd herio a ydyn nhw’n ysgol gynradd sy’n bwydo ysgol uwchradd benodol. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddai modd egluro’r sefyllfa drwy gyfeirio at yr wybodaeth a gedwir gan yr ysgolion a’r awdurdod lleol ar gyrchfan dysgwyr sy’n cwblhau Blwyddyn 6. Fodd bynnag, os na ellir datrys anghydfod ar lefel leol, dylid ei gyfeirio at Adran Addysg Llywodraeth Cymru.

Mae Rheoliadau Pontio 2022 yn pennu’r gofyniad cyfreithiol sylfaenol ar gyfer pryd y mae’n rhaid llunio cynlluniau pontio ffurfiol. Fodd bynnag, mae gan ysgolion cynradd gysylltiadau’n aml â nifer o ysgolion uwchradd lle mae llai na 50% o ddysgwyr Blwyddyn 6 yn symud i’r ysgol uwchradd. Mewn achosion o’r fath nid oes gofyniad statudol i lunio cynllun pontio.

Fodd bynnag, anogir cyrff llywodraethu ac uwch dimau rheoli mewn amgylchiadau o’r fath i ystyried rhoi trefniadau gwirfoddol ar waith i gefnogi’r gwaith o gynllunio ar gyfer y cyfnod pontio, gan ddefnyddio’r fformat cyffredinol a ddarperir ar gyfer cynlluniau pontio.

Yn yr un modd, os caiff y gofyniad cyfreithiol i lunio cynllun ei ddileu yn y dyfodol oherwydd bod nifer y dysgwyr ym Mlwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd yn disgyn yn is na 50%, anogir partneriaid i ystyried a ddylid parhau â’r trefniadau cynllunio ar sail wirfoddol.

Mae cysylltiad clir rhwng y trefniadau pontio gofynnol i gefnogi cyfnod pontio dysgwyr Blwyddyn 6 i’r ysgol uwchradd a’r trefniadau sy’n ofynnol o dan Cwricwlwm i Gymru i alluogi ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.

Wrth i ysgolion ddod at ei gilydd i ddatblygu eu dealltwriaeth o gynnydd, rydyn ni’n rhagweld y bydd ymarferwyr ysgolion cynradd ac uwchradd yn ystyried nid yn unig gynnydd ym Mlwyddyn 6 a Blwyddyn 7 ond hefyd y continwwm 3 i 16 yn ei gyfanrwydd. Gall y trefniadau hyn – a roddir ar waith i alluogi ymarferwyr i weithio gyda’i gilydd ar lefel ysgol, lleoliad, clwstwr neu rwydwaith i ddatblygu’r dealltwriaeth gyffredin honno – gefnogi’r gwaith o hwyluso’r trefniadau gwirfoddol hynny sydd eu hangen fel bod ymarferwyr yn ystyried mwy na’r gofyniad sylfaenol wrth gynllunio ar gyfer cyfnod pontio dysgwyr Blwyddyn 6 i’r ysgol uwchradd.

Mae adnoddau wedi'u creu i helpu cefnogi a gwella cynllunio pontio ar draws ysgolion a lleoliadau.