Y cyfryngau cymdeithasol, gemau cyfrifiadur ac apiau
Adnoddau, canllawiau a gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysg, dysgwyr a theuluoedd ar gemau ar y cyfryngau cymdeithasol ac apiau eraill.
- Rhan o

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Mae cyfryngau cymdeithasol, gemau ac apiau wedi dod yn rhan annatod o'n bywydau bob dydd erbyn hyn. Gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, gall hapchwarae ac apiau eraill fod o fudd i blant a phobl ifanc fel ffordd o gadw mewn cysylltiad â ffrindiau, aros yn ddiddig neu gael gwybod am y newyddion diweddaraf.
Gellir defnyddio AI cynhyrchiol i gynhyrchu testun, delweddau neu gyfryngau eraill, gan ei wneud yn fwyfwy cyffredin yn y cyfryngau cymdeithasol, ar apiau hapchwarae ac ar apiau eraill. Po fwyaf o ddata y mae ap yn ei gasglu ar ddefnyddiwr, y mwyaf personol yw'r profiad. Mae'n bwysig i blant a phobl ifanc ddeall y gallai eu hymwneud ag AI cynhyrchiol gael ei fonitro neu ei ecsbloetio at ddibenion hysbysebion wedi'u targedu neu at ddibenion eraill.
Er bod apiau wedi dod yn ffordd hawdd i gyfathrebu a mynd ar y rhyngrwyd drwy wahanol ddyfeisiau, mae’n hanfodol gwybod sut i’w defnyddio’n ddiogel.
Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o ba fath o gynnwys sydd ynddyn nhw a pha nodweddion diogelwch sydd ar gael i blant a phobl ifanc fel y gallan nhw riportio neu atal defnyddwyr neu gynnwys a rheoli eu preifatrwydd.
Canllawiau Llywodraeth Cymru
Hyfforddiant

Hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol i ysgolion
Mae'r fideo 10 munud hwn wedi'i gynllunio i helpu ysgolion i ddeall canllawiau perthnasol er mwyn datblygu polisïau ac arferion cyfryngau cymdeithasol.
Canllawiau ynghylch apiau i deuluoedd

'Bydd wybodus'
Wedi'i ddylunio a'i greu'n benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr, mae'r casgliad hwn o ganllawiau yn rhoi'r wybodaeth allweddol y dylech ei gwybod am y cyfryngau cymdeithasol ac apiau gemau mwyaf poblogaidd i helpu'ch plentyn i lywio ei daith ddigidol yn ddiogel.
Barn yr arbenigwyr

Cymhlethdodau bod yn ddinesydd digidol
Helen King, Cyfarwyddwr Diogelu Praesidio
Mae Helen yn trafod cymhlethdod plant a phobl ifanc sy'n tyfu i fyny mewn man lle mae technoleg ddigidol yn hollbresennol.

Effaith y cyfryngau cymdeithasol ar hunan-barch a sut i helpu
Stephanie Hoffman, Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol, Pro-Mo Cymru

Adolygiad o gynnwys niweidiol ar-lein
Jim Gamble QPM, Prif Swyddog Gweithredol Grwp Diogelu INEQE
Mae Jim yn sôn am yr effaith y gall ymddygiadau niweidiol a arddangosir gan bersonoliaethau neu ddylanwadwyr ar-lein ei gael ac yn rhoi cyngor ar sut i gefnogi rhywun sydd yn ymwneud â chynnwys niweidiol.
Sut i gael profiad cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol

Byddwch yn driw i chi'ch hun ar-lein
Weithiau gallwn deimlo dan bwysau i greu'r argraff orau o'n bywydau ar-lein. Dyma rai cynghorion syml i gael profiad cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Prynu eitemau mewn gemau

Peidiwch â mynd i sefyllfa lle mai gwario yw prif bwrpas y gêm
Mae gwario arian wrth chwarae gemau yn faes sy'n peri pryder cynyddol, yn enwedig gemau sydd wedi'u hanelu'n benodol at blant a phobl ifanc.
Dylanwadwr

Effaith y ‘dylanwadwr’
Mae potensial gan y cyfryngau cymdeithasol i ddal sylw cynulleidfa fawr a gall pobl ddod yn enwogion dros nos neu’n frand, a elwir yn ‘ddylanwadwyr’.
Adnoddau
-
Learning and teaching resources
Resources to support schools and the wider school community with social media.
Information for children and young people
-
Cyngor i blant a phobl ifanc: problemau a phryderon ar-lein
Gwybodaeth sy'n esbonio rhai risgiau i fod yn ymwybodol ohonynt a ble i fynd i gael cymorth.
Rhagor o wybodaeth
- Internet Matters social media advice hub (Saesneg yn unig)
- Internet Matters online gaming advice hub (Saesneg yn unig)
- UK Safer Internet Centre: Social media (Saesneg yn unig)
- UK Safer Internet Centre: Gaming (Saesneg yn unig)