Radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein
- Rhan o
Radicaleiddio yw’r broses lle mae unigolyn yn dod i gefnogi terfysgaeth a mathau o eithafiaeth sy’n arwain at derfysgaeth. Eithafiaeth yw gwrthwynebiad llafar neu weithredol i’n gwerthoedd cyffredin. Mae’r rhain yn cynnwys democratiaeth a rheolaeth y gyfraith, cydbarch a goddefgarwch tuag at ffydd a chredoau eraill.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Mae grwpiau eithafol yn defnyddio’r rhyngrwyd, a’r cyfryngau cymdeithasol yn arbennig, i gyrraedd cynulleidfaoedd mawr gyda’r nod o ddod o hyd i bobl sy’n agored i’w negeseuon a’u dylanwad. Gallai arwyddion fod plentyn neu berson ifanc yn cael ei radicaleiddio gynnwys newid ffrindiau ac ymddangosiad, gwrthod gwrando ar safbwyntiau gwahanol, bod yn amharod i ymwneud â’r rhai sy’n wahanol, cofleidio damcaniaethau cynllwyn a bod â chydymdeimlad at ideolegau a grwpiau eithafol.
Gallwch adrodd am gynnwys sy’n gysylltiedig â therfysgaeth ar-lein i’r Uned Atgyfeirio Gwrthderfysgaeth ar y Rhyngrwyd. Os ydych yn pryderu am blentyn neu berson ifanc yn cael ei radicaleiddio, gallwch gael cyngor gan eich arweinydd diogelu lleol neu wneud atgyfeiriad i ddiogelu’r person rydych chi’n poeni amdano drwy ddefnyddio’r ffurflen atgyfeirio Prevent.
Canllawiau Llywodraeth Cymru
Barn yr arbenigwyr

Extremism and radicalisation
Faith McCreedy, National Strategic Lead, Wales Police Schools Programme (WPSP)