English

Prif bwrpas seiberddiogelwch yw sicrhau bod y dyfeisiau a’r gwasanaethau ar-lein a ddefnyddir at ddibenion personol a phroffesiynol wedi’u diogelu rhag mynediad heb ei awdurdodi, dwyn neu ddifrod.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Os yw seiberdroseddwyr yn cael mynediad i’ch dyfais neu gyfrifon fe allan nhw gael gafael ar eich arian, eich gwybodaeth bersonol, neu wybodaeth am eich sefydliad neu ysgol.

Er bod rhai’n ystyried bod seiberddiogelwch yn fater i arbenigwyr technegol mae yna gamau syml y gall pawb eu cymryd i leihau’r risg o gael eu heffeithio gan seiberdroseddwyr. Mae’r rhain yn cynnwys creu a defnyddio cyfrineiriau cryf, sicrhau bod dyfeisiau a meddalwedd yn cynnwys apiau’n cael eu diweddaru’n rheolaidd, gwneud copi wrth gefn o’ch data neu gael amddiffyniad ychwanegol fel dilysu aml-ffactor lle bo’n bosibl.

Mae’n bwysig gallu adnabod y technegau mae seiberdroseddwyr yn eu defnyddio i gael mynediad i ddyfeisiau a gwasanaethau fel gwe-rwydo. E-bost gwe-rwydo yw neges sy’n gofyn i ddefnyddwyr ddilyn dolen i wefan anhysbys a allai lawrlwytho maleiswedd ar eich cyfrifiadur, neu ddwyn cyfrineiriau. Mae bod yn effro i’r technegau hyn yn hanfodol er mwyn osgoi ymosodiad seiber.

Canllawiau Llywodraeth Cymru


Gwe-rwydo

Gwe-rwydo - peidiwch â bod y dal!

Mae ymosodiadau gwe-rwydo yn mynd yn fwyfwy mwy soffistigedig. Mae'n bwysig deall sut y gallwch chi amddiffyn eich hun a'ch ysgol. 


Barn yr arbenigwyr

Clare Johnson, Rheolwr Partneriaethau ac Allgymorth (Digidol a STEM), Prifysgol De Cymru


Adnoddau dysgu ac addysgu

Rhagor o wybodaeth