English

Mae Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn, i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol gan blant a phobl ifanc ac i ysbrydoli trafodaeth yn genedlaethol.

Yn y Deyrnas Unedig, caiff y diwrnod ei gydlynu gan UK Safer Internet Centre ac yn ystod y dathliad mae cannoedd o sefydliadau yn uno i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ar-lein a chynnal digwyddiadau a gweithgareddau ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r diwrnod yn rhoi’r cyfle i ni edrych ar y rôl sydd gan bob un ohonom i ddod at ein gilydd i greu rhyngrwyd gwell.

Yn fyd-eang, mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu mewn dros gant o wledydd, a chaiff ei gydlynu gan y cyd-rwydwaith Insafe/INHOPE, gyda chymorth y Comisiwn Ewropeaidd a Chanolfannau Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn genedlaethol ar draws Ewrop.


Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel: Dydd Mawrth 7 Chwefror 2023

Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn gyfle gwych i blant a phobl ifanc, staff ysgolion, rhieni a gofalwyr a busnesau yng Nghymru fod yn rhan o ymgyrch wirioneddol fyd-eang.

Thema'r DU - Gwneud lle i sgyrsiau am fywyd ar-lein

Eleni, fe wnaethom annog pobl ifanc i leisio’u barn ac adrodd eu hanesion am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, gemau cyfrifiadurol neu apiau. Mae’r platfformau a ddefnyddir gan bobl ifanc yn fannau cymunedol ar gyfer cysylltu, a chydweithio. Dyna pam bod Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn eu herio i feithrin perthnasau cefnogol a chymunedau llawn parch, gan eu harfogi â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i’w cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel yn y mannau hyn.

Dyma grynodeb o weithgareddau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2023.

Cystadleuaeth

Llais y plentyn oedd ffocws y gystadleuaeth eleni.

Pan fydd plant a phobl ifanc yn siarad o brofiad, fe allan nhw wir helpu eraill, felly rydyn ni wedi’u gwahodd i greu ffilm fer sy’n cyfleu eu barn, eu safbwyntiau neu eu straeon am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, gemau cyfrifiadurol neu apiau. Yn eu geiriau eu hunain, roedden ni eisiau clywed am y manteision a’r pryderon y maen nhw’n eu profi wrth ddefnyddio’r apiau hyn.

Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn digwyddiad dathlu yn Stadiwm Principality, Caerdydd, ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

 

Gweithgareddau

Creodd Canolfan Rhyngrwyd Fwy Diogel y DU becynnau addysg dwyieithog sydd ar gael ar Hwb. Nod y rhain oedd cefnogi ysgolion i gynnal gweithgareddau a chymryd rhan yn Niwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2023. Gellir defnyddio’r pecynnau hyn drwy gydol y flwyddyn i helpu i ddarparu gwersi diogelwch ar-lein.

Ar gyfer cynlluniau gwersi, gweithgareddau, taflenni gwaith a gemau gan ein partneriaid dibynadwy, sy’n cynnwys amrywiaeth o bynciau, ewch i ardal adnoddau Cadw’n Ddiogel Ar-lein.

 

Cefnogwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Cafodd gweithgareddau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel eleni eu hyrwyddo ledled Cymru gan ddefnyddio’r hashnod #SIDCymru ac yn fyd-eang gan ddefnyddio’r hashnod #SaferInternetDay

 

Cofrestru fel cefnogwr

Byddwn yn rhannu dolen unwaith y bydd cofrestru ar agor ar gyfer 2024.

 

Mae’r dudalen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda newyddion Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, felly cadwch olwg.


Ymgyrchoedd blaenorol

  • Dyddiad: Dydd Mawrth 8 Chwefror 2022

    Thema: Hwyl a sbri i bawb? Archwilio parch a pherthynas ar-lein

    Gweithgareddau: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC), gystadleuaeth ffilm gyda’r nod o annog plant a phobl ifanc i fynegi eu creadigrwydd a rhannu eu dealltwriaeth o ddangos parch ar-lein. Cyhoeddwyd enillwyr y gystadleuaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

     

  • Dyddiad: Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021

    Thema: Rhyngrwyd yr ydym yn ymddiried ynddo: archwilio dibynadwyedd yn y byd ar-lein

    Gweithgareddau: Gweithiodd Llywodraeth Cymru a Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ar y cyd i gynnal cystadleuaeth ‘Straeon digidol: Mynd i'r afael â Chamwybodaeth’. Roedd y gystadleuaeth hon yn galw ar blant a phobl ifanc arfer eu hawen greadigol drwy greu ffilm, ysgrifennu stori neu recordio darn sain i egluro beth yw camwybodaeth, pam y gallai achosi problemau, sut y gallwn adnabod camwybodaeth a beth y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain a sicrhau nad yw'n lledaenu. Cyhoeddwyd enwau enillwyr y gystadleuaeth fel rhan o ddigwyddiad rhithwir ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

     

  • Dyddiad: 11 Chwefror 2020

    Thema: Rhyngrwyd gwell gyda'n gilydd

    Gweithgareddau: Nod cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2020 yng Nghymru oedd herio plant a phobl ifanc i greu hysbyseb ar ffurf datganiad cyhoeddus wedi'i hanelu at eu teuluoedd a'u ffrindiau ar y thema 'Gwella'r we: sut i ofalu amdanoch eich hun ac eraill'. Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg, gyhoeddodd enwau enillwyr y gystadleuaeth fel rhan o ddigwyddiad dangos y ffilmiau a gyrhaeddodd y rhestr fer.

     

  • Dyddiad: 5 Chwefror 2019

    Thema: Ein rhyngrwyd, ein dewis: Deall cydsyniad mewn byd digidol

    Gweithgareddau: Bu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2019 yn canolbwyntio ar beth mae cydsynio yn ei olygu mewn cyd-destun ar-lein. Gwnaeth Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, gyhoeddi pecynnau addysg ar Hwb yn cynnwys gweithgareddau i ysgolion yng Nghymru eu defnyddio. Roedd y gweithgareddau hyn yn annog pobl ifanc i feddwl am sut maent yn gofyn am gydsyniad ar-lein, sut maent yn ei rhoi a sut maent yn ei dderbyn.

     

  • Dyddiad: 6 Chwefror 2018

    Thema: Creu, Cysylltu a Rhannu Parch

    Gweithgareddau: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad yn adeilad y Pierhead, Caerdydd, i ddathlu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, gyda Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn cyhoeddi enwau enillwyr cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2018. Fel rhan o'r gystadleuaeth, gofynnwyd i blant a phobl ifanc ddisgrifio sut maent yn teimlo pan fyddant ar-lein gan ddefnyddio geiriau, ffilm, celf neu gerddoriaeth.

     

  • Dyddiad: 7 Chwefror 2017

    Thema: Ewch ati i newid pethau: dewch ynghyd er mwyn cael rhyngrwyd gwell

    Gweithgareddau: Aeth Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model ac Ysgol Portfield ati i greu arddangosfa ffotograffiaeth er mwyn dangos sut mae delweddau ar-lein yn effeithio ar eu bywydau fel rhan o brosiect ffotograffiaeth ‘Pwer Delweddau’.

    Cynhaliwyd digwyddiad Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn y Senedd, a bu mwy na 150 o blant, pobl ifanc ac oedolion o bob cwr o Gymru yn bresennol. Gwnaeth Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, lansio'r Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb yn ffurfiol, gan gyhoeddi enw enillydd cystadleuaeth cynllunio logo y Parth Diogelwch Ar-lein.

     

  • Dyddiad: 9 Chwefror 2016

    Thema: Chwarae eich rhan i gael rhyngrwyd gwell

    Gweithgareddau: Cynhaliwyd cystadleuaeth gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn gofyn i ysgolion Cymru gynllunio ap er mwyn helpu i wneud y rhyngrwyd yn le mwy dymunol.

    Ysgol Gynradd Parc Cornist ddaeth i'r brig gyda'r ap ‘Safe eExplorers’ sy'n cynnwys casgliad o wybodaeth, dolenni a chyngor am gadw'n ddiogel ar-lein. Bu Ysgol y Preseli hefyd yn fuddugol gyda'r ap My Username Generator. Nod yr ap hwn yw rhoi cyfle i blant ifanc (rhwng 5 a 11 oed) gynhyrchu enw defnyddiwr Cymraeg neu Saesneg sy'n hawdd ei gofio ac nad yw'n datgelu unrhyw wybodaeth sensitif amdanynt.

     

  • Dyddiad: 10 Chwefror 2015

    Thema: Beth am greu rhyngrwyd gwell gyda'n gilydd?

    Gweithgareddau: Aeth nifer o bobl ifanc ledled Cymru ati i rannu gwên drwy'r cyfryngau cymdeithasol mewn modd creadigol er mwyn hyrwyddo thema creu rhyngrwyd gwell.

    Cynhaliwyd digwyddiadau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiad yn Ysgol Gynradd yr Holl Saint yr Eglwys yng Nghymru lle roedd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, yn bresennol, yn ogystal â digwyddiad yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yng nghwmni Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru.