360 safe Cymru
- Rhan o
Trosolwg
Mae 360 safe Cymru yn adnodd rhyngweithiol hunanwerthuso diogelwch ar-lein sydd ar gael yn ddwyieithog drwy Hwb ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru.
Mae’r adnodd yn cefnogi ysgolion i:
- adolygu eu darpariaeth diogelwch ar-lein
- datblygu neu adolygu eu polisïau diogelwch ar-lein
- meincnodi eu darpariaeth yn erbyn arferion da
- cymharu yn erbyn cyfartaleddau cenedlaethol
- llunio cynlluniau gweithredu
- cael mynediad at amrywiaeth o adnoddau perthnasol a thempledi polisïau enghreifftiol
- cydweithredu ar ddatblygu eu darpariaeth a’u hymarfer.
Cael mynediad at 360 safe Cymru
Dim ond defnyddwyr â chyfrif Hwb a chyfrinair sy’n gallu mewngofnodi a chael mynediad at yr adnodd. Mae gan bob ysgol neu leoliad eu cyfrif 360 safe Cymru eu hunain a gallant gofrestru cynifer o ddefnyddwyr ag y dymunant. Mae hefyd yn bosibl pennu swydd gweinyddwr i un o'r defnyddwyr hyn a fydd yn ei dro yn gallu rhoi caniatâd gweinyddwr i aelodau eraill o staff. Erbyn hyn, mae gan y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru gyfrif 360 safe Cymru, ond i'r rhai sy'n dymuno cofrestru neu nodi defnyddwyr yn eu hysgol neu eu lleoliad, anfonwch e-bost at 360safe@swgfl.org.uk neu defnyddiwch ffurflen gyswllt 360 safe Cymru.
Sut i wirio/cofrestru fy nghyfrif Hwb yn 360 safe Cymru?
Mewngofnodwch i Hwb a chliciwch ar 360 Cymru yn eich hafan.
Os ydych chi wedi cofrestru eisoes:
- Byddwch yn cael eich ailgyfeirio at dudalen dangosfwrdd ‘Croeso i’ch adolygiad diogelwch ar-lein’.
- Bydd eich enw a’ch ysgol yn weladwy yn y blwch proffil ar frig tudalen eich rhaglen ar yr ochr dde.
Os nad ydych wedi cofrestru:
- Cwblhewch y ffurflen gofrestru ar-lein gyda'ch enw llawn a’ch cyfeiriad e-bost Hwb.
- Bydd gweinyddwr(wyr) 360 safe Cymru eich ysgol yn cael gwybod yn awtomatig am eich cais i gofrestru ac mae’n rhaid iddynt gymeradwyo'r cais hwnnw cyn y gallwch gael mynediad at yr adnodd.
- Unwaith y bydd y cais wedi’i gymeradwyo, anfonir e-bost dilysu â therfyn amser atoch h.y. mae’n rhaid i chi ymateb ar yr un diwrnod gwaith.
Defnyddio'r adnodd
Mae adnodd 360 safe Cymru yn eich galluogi i raddio eich ysgol yn erbyn nifer o feini prawf gwahanol ar gyfer diogelwch ar-lein. Mae wedi'i strwythuro fel a ganlyn:
Elfennau
Yr elfennau sy'n darparu'r lefel uchaf yn y strwythur, gan ddiffinio'r 4 prif gategori y cyflawnir yr adolygiad ynddynt h.y. ‘Polisi ac arweinyddiaeth’, ‘Addysg’, ‘Technoleg’ a ‘Deilliannau’.
Mae pob elfen yn fan cychwyn ar gyfer yr adolygiad ac mae'n cynnwys nifer o linynnau ac agweddau.
Llinynnau
Mae cyfanswm o 8 llinyn wedi'u rhannu rhwng y pedair elfen. Yna caiff pob llinyn ei rannu ymhellach yn agweddau.
Agweddau
Mae cyfanswm o 18 agwedd i’w cwblhau.
O fewn pob agwedd, ceir 5 datganiad lefel, yn dechrau gyda Lefel 5 hyd at Lefel 1 sy’n cynrychioli'r cyrhaeddiad uchaf. Mae ysgolion yn dewis y datganiad sy'n adlewyrchu orau eu sefyllfa bresennol. Nodir lefel meincnod y Marc Diogelwch Ar-lein ochr yn ochr â'r datganiad lefel perthnasol.
Mae’r Dangosfwrdd yn cynnwys graff radar sy’n rhoi syniad bras o gynnydd eich ysgol o fewn yr adnodd a'r meysydd diogelwch ar-lein y mae angen eu gwella. Mae'r lefelau rydych chi wedi'u dewis ar gyfer pob agwedd wedi’u dangos mewn gwyrdd, ynghyd â'r lefel genedlaethol bresennol mewn glas a'r lefelau meincnod a argymhellir mewn coch.
Am ragor o wybodaeth am ddefnyddio 360 safe Cymru, ewch i'r Cwestiynau Cyffredin a Chymorth.