Aflonyddu rhywiol ar-lein
- Rhan o
Aflonyddu rhywiol ar-lein yw ymddygiad rhywiol digroeso ar unrhyw blatfform digidol.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Gall aflonyddu rhywiol ar-lein gynnwys amrywiaeth o ymddygiadau sy’n defnyddio sylwadau, negeseuon, ffotograffau neu fideos. Gall aflonyddu fod yn gyhoeddus neu’n breifat. Gall plant a phobl ifanc fod yn ddioddefwyr ymddygiad ar-lein annerbyniol, sy’n gallu gwneud iddynt deimlo dan fygythiad, yn ofidus, wedi’u rhywioli, ecsbloetio, gorfodi, sarhau neu eu bod yn destun achos o wahaniaethu.
Mae beio’r dioddefwr yn parhau i fod yn broblem amlwg gydag aflonyddu rhywiol ar-lein a gall hyn greu rhwystrau sy’n atal pobl rhag datgelu neu gael cymorth. Mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc yn deall pwysigrwydd agweddau iach sy’n dangos parch ar-lein a’u bod yn cael eu grymuso i herio pob math o gamdriniaeth ar-lein yn ddiogel a chael cymorth os oes angen.
Canllawiau Llywodraeth Cymru
Hyfforddiant

Deall, atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol ar-lein
Nod y modiwl ar-lein hwn yw helpu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddeall sut i atal neu ymateb i unrhyw achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein yn eu hysgol neu leoliad.
Barn yr arbenigwyr
