Llythrennedd yn y cyfryngau: sgamiau ar-lein
Sut y gall llythrennedd yn y cyfryngau eich helpu i adnabod ac osgoi sgamiau ar-lein.
- Rhan o
Yn y trydydd rhan o'n cyfres llythrennedd yn y cyfryngau, rydym yn ymchwilio i fyd sgamiau ar-lein, sy’n bryder cynyddol yn ein hoes ddigidol. Mae sgamwyr yn defnyddio tactegau amrywiol i dwyllo unigolion, gan arwain yn aml at golled ariannol a dwyn gwybodaeth bersonol. Mae deall y tactegau hyn a gwybod sut i amddiffyn eich hun ac eraill yn hanfodol.
Sgamiau ar-lein
Mae cynlluniau twyllodrus yn cynnwys ystod eang o weithgareddau twyllodrus gan gynnwys e-byst gwe-rwydo, gwefannau neu broffiliau ffug ar y cyfryngau cymdeithasol neu blatfformau gemau, a mwy.
Gall sgamiau fod ar sawl ffurf, nid dim ond y rhai rydym yn meddwl amdanyn nhw yn draddodiadol, fel neges annisgwyl yn honni eich bod chi wedi ennill gwobr. Bu cynnydd brawychus mewn blacmel rhywiol ariannol ar-lein. Yn hanner cyntaf 2024, nododd Internet Watch Foundation (IWF), partner UK Safer Internet Centre, gynnydd o 19% mewn achosion yn ymwneud â phlant o dan 18 oed o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2023.
Y nod fel arfer yw dwyn arian, gwybodaeth bersonol neu'r ddau. Er bod y mathau o sgamiau ar-lein yn amrywio, maen nhw’n aml yn dibynnu ar straeon argyhoeddiadol a thactegau dwyn pwysau i dwyllo dioddefwyr i weithredu'n gyflym heb feddwl.
Mathau cyffredin o sgamiau ar-lein
Gwe-rwydo
Mae gwe-rwydo yn cyfeirio at sefyllfa lle mae ymosodwyr (seiberdroseddwyr), gan fynegi eu bod yn ffynhonnell gyfreithlon, yn targedu unigolion neu sefydliadau drwy e-bost, ffôn neu neges destun ac yn ceisio denu nhw i glicio ar ddolen annibynadwy neu i roi data sensitif (er enghraifft cyfrineiriau, manylion banc neu wybodaeth sensitif arall).
Gwefannau ffug
Mae'r gwefannau hyn yn dynwared rhai go iawn er mwyn eich twyllo i fewnbynnu gwybodaeth sensitif, fel manylion banc.
Sgamiau cyfryngau cymdeithasol
Mae twyllwyr yn defnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol i ledaenu cynigion ffug, rhoddion neu gyfleoedd buddsoddi. Gwneir hyn yn aml trwy ddefnyddio cyfrif dynwared neu broffil ffug, gan dwyllo defnyddwyr i roi gwybodaeth bersonol, gwneud taliadau neu glicio ar ddolenni maleisus a all arwain at ddwyn hunaniaeth neu golled ariannol.
Sgamiau cymorth technegol
Mae sgamwyr yn gallu esgus bod yn asiantau cymorth technoleg, gan honni bod gan eich dyfais broblem ac yn gofyn am fynediad o bell neu daliad am wasanaethau diangen.
Sut i amddiffyn eich hun
Mae sgamiau ar-lein wedi dod yn fwyfwy soffistigedig. Nid yw bob amser yn glir a yw e-bost, gwefan neu neges yn ddilys. Gall deall y tactegau a ddefnyddir gan seiberdroseddwyr a sut y gall technolegau sy'n dod i'r amlwg, fel AI cynhyrchiol gael eu camddefnyddio i greu twyll a sgamiau ar-lein mwy soffistigedig eich helpu i fod yn effro.
Dilyswch ffynonellau
Gwiriwch gyfreithlondeb negeseuon e-bost, negeseuon a gwefannau bob amser. Chwiliwch am arwyddion fel sillafu neu ramadeg gwael, URLs amheus, a cheisiadau digymell am wybodaeth bersonol.
Defnyddiwch gyfrineiriau cryf
Crëwch gyfrineiriau unigryw, cymhleth ar gyfer gwahanol gyfrifon a'u newid yn rheolaidd.
Rhowch brawf dilysu 2 gam ar waith
Mae hyn yn ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch i'ch cyfrifon.
Byddwch yn amheus o gynigion digymell
Os yw rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod. Ceisiwch osgoi clicio ar ddolenni neu lawrlwytho atodiadau o ffynonellau anhysbys.
Addysgwch eich hun
Byddwch yn ymwybodol o'r sgamiau diweddaraf a sut maen nhw'n gweithredu.
Cymorth pellach
Adrodd
Os byddwch yn dod ar draws sgam posibl, rhowch wybod i'r awdurdodau neu'r platfformau perthnasol i helpu i amddiffyn eraill. Mae amrywiaeth o sianeli adrodd ar Hwb.
Action Fraud
Mae Action Fraud, canolfan adrodd genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu, yn caniatáu i unigolion a busnesau adrodd am dwyll, sgamiau a seiberdroseddau ar-lein neu dros y ffôn. Mae Action Fraud yn rhoi cyngor a chymorth i ddioddefwyr, gan eu helpu i ddeall y camau nesaf a sut i ddiogelu eu hunain yn y dyfodol.
Cyber Aware
Cyber Aware, ymgyrch genedlaethol dan arweiniad Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU (NCSC). Ei nod yw helpu unigolion a busnesau i gadw’n ddiogel ar-lein trwy roi cyngor ymarferol a hyrwyddo arferion seiberddiogelwch da.
Addysg a sgiliau NCSC
Addysg a sgiliau NCSC sy'n ceisio gwella gwybodaeth a sgiliau seiberddiogelwch ar draws lefelau addysgol a sectorau proffesiynol gwahanol.
Check a website
Check a website, offeryn ar-lein hawdd ei ddefnyddio sy'n eich helpu i benderfynu a yw gwefan yn debygol o fod yn ddilys neu'n sgam cyn i chi ymweld â hi.
Adnoddau a chanllawiau
Am ganllawiau ac adnoddau manylach ar gadw'n ddiogel ar-lein, ewch i'r ardal Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb. Yma, byddwch yn dod o hyd i wybodaeth gynhwysfawr ar bynciau diogelwch ar-lein amrywiol, gan gynnwys seiberdroseddu a blacmel rhywiol.
Mae'r adran ‘Cyngor i blant a phobl ifanc: problemau a phryderon ar-lein’ ar gyfer plant a phobl ifanc, yn cynnwys gwybodaeth i godi ymwybyddiaeth o sgamiau sy'n gysylltiedig â hysbysebu ar-lein, swyno trwy dwyll a dynwared.
Adnoddau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
Mae Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel (SID) eleni yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o sgamiau ar-lein a sut i'w hosgoi. Mae’r UK Safer Internet Centre wedi cynhyrchu pecynnau addysg dwyieithog ar thema SID, sef sgamiau ar-lein, ar gyfer ymarferwyr, sy’n llawn gweithgareddau diogelwch ar-lein i ddysgwyr rhwng 3 ac 18 oed ac awgrymiadau y gellir eu rhannu â theuluoedd.