English

Mae cwmnïau’n defnyddio hysbysebion i gyrraedd cynifer o bobl â phosibl. Efallai y gwelwch:

  • hysbysebion ar far ochr tudalen neu ap
  • hysbysebion naid
  • hysbysebion ar y dechrau neu ran o’r ffordd drwy fideo
  • negeseuon cyfryngau cymdeithasol noddedig neu y telir amdanyn nhw a ddefnyddir fel hysbysebion
  • hysbysebion mewn gemau ar-lein (weithiau bydd eu gwylio yn ennill gwobrau yn y gêm)
  • hysbysebion ar gyfer prynu eitemau mewn gemau fel crwyn, offer neu uwchraddio
  • hysbysebion yn ymddangos fel rhan o ganlyniadau chwilio

Mae bob amser yn helpu i fod yn ofalus wrth benderfynu a ddylid clicio ar hysbyseb. Er bod y rhan fwyaf o hysbysebion yn cael eu talu a’u rhedeg gan gwmnïau go iawn, gall rhai hysbysebion fod yn sgamiau.

Bydd llawer o hysbysebion hefyd yn eich tynnu o’r gêm, yr ap neu’r wefan rydych chi ynddi, sy’n gallu gwneud i chi weld cynnwys sy’n peri gofid neu sy’n annisgwyl.

Y peth mwyaf diogel i’w wneud os gwelwch hysbyseb am gynnyrch yr hoffech ei brynu yw mynd i’r wefan swyddogol ar gyfer y cynnyrch a’i brynu yno. Gall hefyd helpu i siarad ag oedolyn, yn enwedig os mai eu harian nhw y byddwch yn ei wario, ac os felly dylech gael caniatâd yn gyntaf.


Mae llawer o wefannau ac apiau yn defnyddio cwcis a thechnoleg arall i weld pa fideos, postiadau a chynnwys arall rydych chi’n rhyngweithio â nhw neu’n chwilio amdanyn nhw fwyaf. Gall hyn eu helpu i weld pa fath o bethau sydd o ddiddordeb i chi a pha fathau o hysbysebion fydd yn apelio atoch chi fwyaf.

Mae hyn yn golygu os ydych chi wedi chwilio am gynnyrch neu wasanaeth ar-lein, rydych chi’n fwy tebygol o weld hysbyseb ar ei gyfer. Gall hyn fod yn ddefnyddiol a gall olygu eich bod yn cael cynigion a hysbysebion sy’n fwy perthnasol i chi. Ond mae rhai pobl yn teimlo’n anghyfforddus o ganlyniad i hynny, neu’n teimlo bod eu dyfeisiau’n gwrando arnyn nhw.

Gallwch gyfyngu ar hyn drwy bori’n breifat neu edrych ar y gosodiadau cwcis ar y gwefannau rydych chi’n ymweld â nhw.


Mae hyn yn dibynnu ar yr ap a’r gwasanaethau rydych chi’n eu defnyddio. Pan fyddwch chi’n cofrestru i greu cyfrif, neu’n llwytho ap newydd i lawr, bydd gofyn i chi ddarllen y telerau defnyddio.

Dyma lle byddwch chi’n dod o hyd i sut mae’r ap neu’r wefan yn storio ac yn defnyddio eich data. Gall fod yn demtasiwn mawr i glicio neu dapio’n syth drwy’r cam hwn o gofrestru, ond mae’n bwysig iawn eich bod yn gwybod sut mae ap neu wefan yn defnyddio eich gwybodaeth.

Mae’n gallu bod yn anodd deall yr iaith sy’n cael ei defnyddio yn y telerau hyn, felly mae’n syniad da cael oedolyn i’w darllen gyda chi a’ch helpu chi i benderfynu a ydych chi eisiau cofrestru, ar sail sut maen nhw’n defnyddio eich gwybodaeth.


Dydy popeth sydd ar-lein ddim yn wir nac yn ddibynadwy, gan gynnwys hysbysebion. Mae arwyddion y gallwch gadw llygad amdanyn nhw i’ch helpu i benderfynu ydy hysbyseb yn ddibynadwy ai peidio.

  • A oes camgymeriadau sillafu? Bydd hysbysebion swyddogol ar gyfer y rhan fwyaf o gwmnïau yn cael eu golygu’n ofalus cyn eu cyhoeddi – mae gwallau sillafu neu gamgymeriadau eraill yn arwydd nad yw’r hysbyseb wedi cael ei gwirio cyn postio, felly efallai na fydd yn ddilys.
  • Ydy’r hysbyseb yn cynnig bargen wych? Er bod codau hyrwyddo a gostyngiadau pris yn nodweddion cyffredin mewn hysbysebion, os yw rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg nad yw’n wir.
  • Ydyn nhw’n gofyn am eich gwybodaeth bersonol? Gall hyn fod yn arwydd bod gan yr hysbysebwr fwy o ddiddordeb yn eich data na’ch bod yn prynu rhywbeth, a gall hefyd fod yn arwydd o sgam.
  • Ydy hysbyseb yn gwneud honiadau beiddgar am fanteision iechyd neu effeithiolrwydd cynnyrch? Cofiwch fod hysbysebion yn ceisio denu eich sylw a’ch arian, felly byddan nhw bob amser yn gwneud i gynnyrch swnio mor apelgar a phosib.

Mae gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu ganllawiau llym y mae’n rhaid i gwmnïau eu dilyn i sicrhau nad yw hysbysebion yn gamarweiniol, ond gyda’r nifer enfawr o hysbysebion sydd ar gael ar-lein erbyn hyn, mae’n anodd eu monitro nhw i gyd.

Mae rhai dylanwadwyr wedi cael eu hunain mewn trwbl am bostio hysbysebion hefyd, er enghraifft, am:

  • beidio â’i gwneud yn glir pan fydd eu postiadau neu eu cynnwys yn hysbyseb
  • hysbysebu cynhyrchion sy’n anaddas i blant a phobl ifanc
  • gwneud honiadau anghywir am gynnyrch

Un ffordd o weld pa mor ddibynadwy y gallai hysbyseb fod yw chwilio am y cwmni neu'r cynnyrch ac edrych ar adolygiadau cyn penderfynu a hoffech brynu.


Gall rhai hysbysebion fod ar gyfer cynnyrch neu wasanaethau sy’n cael eu creu ar gyfer oedolion neu a allai fod yn amhriodol neu’n sarhaus. Os ydych chi’n gweld hysbyseb sy’n eich poeni neu’n peri gofid i chi:

  • siaradwch ag oedolyn dibynadwy am yr hyn rydych chi wedi’i weld a sut roedd yn gwneud i chi deimlo
  • ystyriwch adrodd am yr hysbyseb – cymerwch sgrinlun, ciplun neu recordiad sgrin a llenwi ffurflen gwyno'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA).

Mae llawer o wefannau ac apiau yn gwneud eu harian o hysbysebion, a gall fod yn anodd iawn dianc oddi wrthyn nhw.

Bydd rhai gwasanaethau’n hepgor hysbysebion os ydych chi’n fodlon talu am danysgrifiad.

Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu newid yr hysbysebion a ddangosir i chi. Pan fyddwch chi’n gweld hysbyseb ar-lein, bydd rhai gwefannau yn gofyn yn uniongyrchol am eich adborth. Mae gwefannau cyfryngau cymdeithasol yn aml yn rhoi’r opsiwn ‘gweld llai o hysbysebion fel hyn’ neu ‘gweld mwy o bostiadau gan y cwmni hwn’ sy’n gallu helpu i siapio’r hysbysebion rydych chi’n eu gweld.

Gallwch chi hefyd ddewis gweld llai o hysbysebion gan gwmni penodol neu am gynnyrch penodol drwy gau’r hysbyseb. Mae hyn yn rhoi gwybod i’r wefan nad oes gennych chi ddiddordeb yn yr hysbyseb.

Os ydych chi’n chwilio am help neu wybodaeth, ond eich bod yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

  • Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) - Rrheoleiddiwr hysbysebu annibynnol y DU
  • Childline - Llinell gymorth breifat a chyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yn y DU lle gallwch chi siarad am unrhyw beth – ffoniwch 0800 1111
  • Childnet  - Cyngor diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc
  • Meic - Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru gyda chynghorwyr i’ch helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch – ffoniwch 080880 23456, anfonwch neges destun at 84001 neu sgwrsio ar-lein
  • The Mix - Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed – ffoniwch 0808 808 4994 neu sgwrsio ar-lein