English
  • Bwlio ar-lein – mae rhai proffiliau ffug yn cael eu creu gyda’r nod o eithrio, bychanu neu niweidio pobl fel arall. Mae hyn yn fath o fwlio ar-lein.
  • Sgamiau neu dwyll – weithiau, mae pobl yn creu proffiliau ffug er mwyn gwneud arian. Gallen nhw fod yn gyfrifon ffug sy’n edrych fel busnesau, neu gyfrifon ffug o unigolion yn gofyn am arian am wahanol resymau.
  • Cyfrifon parodi – mae rhai cyfrifon yn cael eu creu i ddynwared enwogion, gwleidyddion, cwmnïau neu grwpiau neu bobl adnabyddus eraill. Mae’r rhain i fod yn ddoniol, yn feirniadol, neu’r ddau.
  • Meithrin perthynas amhriodol – mae rhai pobl yn esgus bod yn rhywun arall ar-lein er mwyn eu camddefnyddio, camfanteisio arnyn nhw neu eu niweidio. Os ydych chi’n amau bod hyn yn digwydd i chi, rhowch wybod i CEOP a siaradwch ag oedolyn dibynadwy ar unwaith.

Ar hyn o bryd, dydy swyno trwy dwyll ddim yn drosedd yn y DU. Fodd bynnag, gallai’r weithred o swyno trwy dwyll fod yn anghyfreithlon os yw gweithgarwch y person sy’n rhedeg y cyfrif ffug yn anghyfreithlon. Er enghraifft, os bydd cyfrif ffug yn cael ei ddefnyddio i wneud arian, yna gallai’r person hwnnw fod yn cyflawni twyll. Os ydy’r swyno trwy dwyll yn ymwneud ag aflonyddu ar rywun arall, gallai hyn hefyd dorri’r gyfraith.


Mae rhai llwyfannau’n gadael i ddefnyddwyr greu cyfrifon ffug sy’n barodi o ffigurau cyhoeddus fel enwogion, sefydliadau neu hyd yn oed ffigurau hanesyddol. Mae’r cyfrifon hyn yn cael eu creu ar gyfer adloniant, beirniadaeth neu weithiau i rannu gwybodaeth.

Dylai cyfrifon parodi ei gwneud yn glir yn yr enw, y bywgraffiad a’r postiadau nad yw’r cyfrif yn swyddogol. Dylen nhw hefyd wneud yn siŵr eu bod yn dilyn rheolau’r llwyfannau, gan nad yw rhai llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu cyfrifon parodi.


  • Os ydych chi’n meddwl bod cyfrif yn dynwared un o’ch ffrindiau neu’ch teulu, gofynnwch iddyn nhw’n bersonol am eu henw defnyddiwr er mwyn i chi allu bod yn siŵr mai nhw yw’r cyfrif rydych chi’n rhyngweithio ag ef.
  • Edrychwch yn ofalus ar sillafiadau enwau defnyddwyr. Weithiau bydd cyfrifon ffug yn defnyddio enwau defnyddwyr tebyg iawn yn fwriadol (gydag un llythyren neu symbol wedi’i newid neu ei ychwanegu).
  • Ar rai llwyfannau, bydd cyfrifon swyddogol enwogion neu fusnesau wedi cael eu dilysu, sy’n golygu eu bod wedi cadarnhau pwy ydyn nhw gyda’r llwyfan. Fel arfer, gallwch chi ddweud bod cyfrifon yn cael eu dilysu gyda symbol fel tic glas wrth ymyl yr enw defnyddiwr.
  • Mae rhai llwyfannau’n gadael i ddefnyddwyr dalu am dic glas, felly mae’n bwysig gwirio ydyn nhw wedi cael eu dilysu neu ydyn nhw’n rhai a dalwyd amdanyn nhw.

Os oes rhywun yn esgus bod yn chi ar-lein, fel arfer gallwch roi gwybod i dîm diogelwch yr ap neu’r gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol lle mae’n digwydd.

Cadwch y dystiolaeth drwy gymryd sgrinluniau, rhoi gwybod am y cyfrif a siarad ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo. Mae llawer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol nawr yn gadael i chi roi gwybod am gyfrifon dynwared gan ddefnyddio’r un broses ag adrodd am neges, sylw neu neges sy’n sarhaus neu’n anghyfreithlon. Gall hyn arwain at dynnu’r cyfrif i lawr.


Gallwch chi ddileu cyfrif ffug yn yr un ffordd ag y byddech chi’n dileu eich cyfrifon arferol ar gyfryngau cymdeithasol. Efallai fod yr union broses yn wahanol yn dibynnu ar y llwyfan, ond yn aml gallwch chi ddod o hyd i’r opsiwn dileu yng ngosodiadau eich cyfrif. I gael rhagor o fanylion am sut i ddileu cyfrifon ar wahanol lwyfannau, defnyddiwch y dudalen help hon o Internet Matters.


Mae gan bob llwyfan ei system adrodd ei hun ar gyfer cyfrifon ffug. Bydd rhai llwyfannau ond yn gadael i chi roi gwybod am gyfrif sy’n eich dynwared chi, felly efallai y bydd yn rhaid i chi geisio cysylltu â’r sawl sy’n cael ei ddynwared.

Os gallwch chi roi gwybod am gyfrif am ddynwared, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r proffil ei hun a’i adrodd yno. Chwiliwch am y botwm ‘report profile’. I gael rhagor o wybodaeth am lwyfannau unigol, defnyddiwch dudalen gymorth Riportio Cynnwys Niweidiol.

Os oes rhywun yn eich dynwared ar-lein a bod angen rhagor o gymorth arnoch, siaradwch ag oedolyn dibynadwy, fel aelodau o’r teulu, athrawon neu weithwyr ieuenctid.

Os ydych chi’n chwilio am help neu wybodaeth, ond eich bod yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

  • Anti-Bullying Alliance - Cyngor a chymorth ar ddelio â bwlio
  • Child Exploitation and Online Protection (CEOP) - Rhowch wybod iddyn nhw os ydych chi’n poeni am gam-drin rhywiol ar-lein neu’r ffordd mae rhywun wedi bod yn siarad â chi ar-lein
  • Childline - Llinell gymorth breifat a chyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yn y DU lle gallwch chi siarad am unrhyw beth – ffoniwch 0800 1111
  • Childnet  - Cyngor diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc
  • Meic - Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru gyda chynghorwyr i’ch helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch – ffoniwch 080880 23456, anfonwch neges destun at 84001 neu sgwrsio ar-lein
  • The Mix - Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed – ffoniwch 0808 808 4994 neu sgwrsio ar-lein
  • National Bullying Helpline - Llinell gymorth gwrth-fwlio i blant ac oedolion
  • Riportio Cynnwys Niweidiol - Canolfan adrodd genedlaethol sydd wedi’i dylunio i helpu unrhyw un i adrodd am gynnwys niweidiol ar-lein