Twitch
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Twitch', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Mae Twitch yn blatfform ffrydio byw poblogaidd ar gyfer chwaraewyr gemau fideo a'u cymuned o gefnogwyr o bob cwr o'r byd, gyda 30 miliwn a mwy o ddefnyddwyr dyddiol. Mae'r ap yn caniatáu i chwaraewyr a'u cefnogwyr wylio eu hoff chwaraewyr yn chwarae a sgwrsio fel rhan o gymuned gyda chefnogwyr eraill ledled y byd. Allwch chi ddim ymuno â gêm fyw yn Twitch, ond gallwch ddefnyddio'r platfform i sgwrsio gyda chefnogwyr eraill wrth wylio gêm sy’n cael ei ffrydio'n fyw. Er mai chwarae gêm yw prif elfen Twitch, mae hefyd yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu pob math o gynnwys arall gyda chategorïau i ddefnyddwyr bori drwyddynt ar bynciau eraill. Mae'r themâu eraill yn cynnwys cerddoriaeth a'r celfyddydau, e-chwaraeon, ffitrwydd a sgwrsio.
Sgôr oedran swyddogol
Yr oedran isaf ar gyfer defnyddwyr Twitch yw 13, ond does dim dulliau gwirio oedran trylwyr.
Mae App Store yn ei sgorio fel 17+ tra bod Google Play yn rhoi sgôr 'Teen' iddo.
Efallai bod y sgôr oedran 13 yn berthnasol i swyddogaethau ap Twitch ei hun, ond mae modd ffrydio cynnwys hyn yn fyw drwy'r ap, ac felly dyw'r sgôr oedran ddim yn adlewyrchu unrhyw gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr. Yn ogystal â'r sgôr oedran, mae telerau gwasanaeth Twitch yn dweud bod rhaid i rai dan 18 oed gael eu goruchwylio gan rieni.
Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.
Sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio'r ap
Mae Twitch yn boblogaidd gyda chwaraewyr gemau a'u dilynwyr. Mae plant a phobl ifanc yn mwynhau gwylio ffrwd fyw o'u hoff chwaraewyr, gan sgwrsio o bosib neu wneud sylwadau ar chwaraewyr enwog ar ffrydiau byw, a mwynhau cyffro'r gêm sy'n cael ei chwarae'n fyw. Mae’n lle iddyn nhw sgwrsio gyda grwpiau eraill o gefnogwyr a meithrin cysylltiadau hefyd. Yn aml, mae gan blant sy'n mewngofnodi i'r gêm sianeli gwahanol lle maen nhw'n edrych ar weithgaredd gan eu hoff chwaraewyr, gwylio gemau blaenorol neu gynnwys sydd newydd ei lanlwytho.
Mae Twitch yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd debyg i YouTube yn aml i wylio'r chwaraewyr gorau, ond tra bod gan YouTube amrywiaeth eang o gynnwys am bob math o bynciau, mae Twitch yn adnabyddus am fod yn boblogaidd ymhlith dilynwyr gemau. Mae Twitch yn cynnig cyfle i ryngweithio yn y sgyrsiau byw a'r nodweddion sgwrsio (memes ac emojis) sy'n annog ymdeimlad o gymuned a bod yn rhan o rywbeth. Mae'r rhai sy'n ffrydio’n gallu sgwrsio mewn amser real hefyd, a hyd yn oed ymateb i negeseuon, sy'n gallu bod yn brofiad cyffrous i blant a phobl ifanc. Ar Twitch, mae'r pwyslais ar wylio'r ffrwd fyw a rhannu'r mwynhad o chwarae gemau yn y foment.
Mae Twitch.tv yn cynnig profiad heb gofrestru ('signed-out') felly mae'n hawdd cael blas o'r cynnwys ar Twitch heb orfod cofrestru i gael cyfrif. Gall hyn fod yn ffordd ddefnyddiol o ddeall Twitch yn gyflym.
Nodweddion a therminoleg allweddol
Risgiau posibl
Cynnwys
Er bod gan yr ap ei hun sgôr oedran o 13 oed a bod gan Twitch gymedrolwyr mewn perthynas â'r cynnwys a'r sgyrsiau, mae'n caniatáu ffrydio llawer o gemau â sgôr oedran PEGI 18 yn fyw fel Grand Theft Auto sy'n cynnwys cryn dipyn o gynnwys rhywiol a threisgar. Mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r gemau sy'n cael eu ffrydio'n fyw ar Twitch wedi'u bwriadu ar gyfer defnyddwyr hyn ac mae ganddynt gynnwys a themâu aeddfed. Mae Twitch yn cynnwys chwaraewyr yn rhegi a chwarae gemau oedolion â themâu addas i oedolion ac yn siarad am y pynciau hyn. Mae rhywfaint o’r cynnwys ar y platfform wedi'i farcio fel '18+ only' ac er bod rhybudd yn ymddangos pan fyddwch chi'n ceisio ei wylio, gall defnyddwyr barhau i wylio heb wneud dim mwy na chlicio. Ochr yn ochr â'r cynnwys gemau sydd wedi’i greu gan ddefnyddwyr, gall cefnogwyr a dilynwyr rannu sylwadau amhriodol yn yr adran 'chat' hefyd a gadael sylwadau, sy'n gallu bod yn anweddus, yn fwlio neu'n atgas. Mae gan Twitch rywfaint o gymedroli ar yr elfen sgwrsio sy'n ceisio nodi achosion o eithafiaeth neu gasineb mewn sgwrs, ond o ystyried faint o ryngweithiau ffrydio byw a Twitch sydd yna, dim ond hyn a hyn o blismona sy'n bosib. Er mwyn helpu i reoli'r math o gynnwys amhriodol mae'ch plentyn yn agored iddo, argymhellir eich bod yn monitro'r mathau o sianeli a ffrydiau mae'ch plentyn yn eu gwylio i wirio eu bod yn addas.
Cysylltu ag eraill
Mae Twitch yn cynnwys elfen sgwrs sydyn sy'n cael ei godio ac yn anodd ei ddeall yn aml os nad ydych chi'n gyfarwydd â'r slang, emoticons a'r cyfeiriadau’n ymwneud â gemau sy'n cael eu defnyddio. Mae'r sgwrs yn agwedd arwyddocaol ar Twitch sy'n rhedeg ochr yn ochr â'r holl gemau a chynnwys byw ac ni allwch ei ddiffodd, er bod modd ei guddio os dewiswch. Mae'n bosib defnyddio'ch gosodiadau cysylltiadau i gyfyngu ar bwy sy'n gallu cysylltu'n uniongyrchol â chi - cyfeirir at gysylltiadau uniongyrchol fel 'Whispers'. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o sgwrsio â dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy gyda defnyddwyr eraill mewn sgyrsiau. Atgoffwch ddefnyddwyr iau i sgwrsio am gynnwys y gêm yn unig, a'u hannog i ddweud wrthych os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol neu wedi gofyn am sgwrs breifat, mewn ffordd sy'n gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus.
Ymddygiad defnyddwyr
Efallai y bydd plant a phobl ifanc sy'n gwylio llif byw am ddarlledu a ffrydio eu cynnwys eu hunain. Fel platfform sy'n annog sylwadau ac ymgysylltu gall defnyddwyr Twitch fod yn agored weithiau i sylwadau neu adweithiau cas i'r hyn maen nhw'n ei ffrydio. Atgoffwch eich plentyn i ddweud wrth oedolyn dibynadwy os yw'n derbyn sylwadau niweidiol neu'n cael ei fwlio ar y platfform ac i ddefnyddio opsiynau 'Report' a 'Block' y platfform. Mae'n bwysig trafod peryglon ffrydio byw lle maen nhw'n darlledu neu'n ffrydio cynnwys heb ei olygu amdanyn nhw eu hunain i unrhyw un ar y safle. Anogwch nhw i feddwl am gynnwys eu darllediadau, eu hiaith, eu cefndir a'u hôl troed digidol yn fwy cyffredinol. Atgoffwch nhw fod rhywun yn gallu tynnu llun o'r sgrin, ei gadw a'i rannu'n eang. Mae angen iddyn nhw ystyried y cynnwys maen nhw'n ei greu a'i rannu bob amser drwy feddwl a fydden nhw'n hapus i bawb maen nhw'n eu hadnabod ei weld.
Dyluniad, data a chostau
Mae Twitch yn ddi-dâl ac yn cael ei ariannu gan hysbysebion. Mae cryn dipyn o hysbysebion ar Twitch gan gynnwys rhai sy'n hyrwyddo gemau yn ogystal â hysbysebion cyffredinol. Mae pori heb weld hysbysebion ar gael, ond mae’n rhaid i ddefnyddwyr dalu amdano. Gall defnyddwyr gael eu denu i ddefnyddio 'Bits' i ddangos eu gwerthfawrogiad o’u hoff chwaraewr gemau, neu hyd yn oed gwneud cyfraniad uniongyrchol sy’n bosib o fewn yr ap hefyd. Rydym yn argymell i rieni wirio nad yw eu manylion ariannol ynghlwm wrth gyfrif Twitch eu plentyn a’u bod yn atgoffa eu plentyn bod y nodweddion hyn yn costio arian go iawn.
Gall defnyddwyr ddilyn eu hoff chwaraewyr gemau am ddim, ond mae'n rhaid tanysgrifio i ddilyn eu sianel. Os yw defnyddiwr yn tanysgrifio i ddarlledwr unigol, bydd hyn yn costio arian hefyd. Mae'n bwysig cofio bod Twitch yn broffidiol ar gyfer gemau a bod rhai gemau wedi gwneud llawer o arian o'r platfform trwy hysbysebion, rhoddion a thanysgrifiadau.
Gall Twitch fod yn hynod boblogaidd gyda phlant a phobl ifanc sy'n hoff iawn o chwarae gemau cyfrifiadurol. Yn yr un modd â chwarae gemau, mae gwylio eraill yn chwarae gemau yn gallu cyfareddu plant a phobl ifanc - efallai y bydd angen gosod ffiniau iddyn nhw beidio gwylio oriau estynedig o ffrwd fyw.
Awgrymiadau ar gyfer cadw’ch plentyn yn ddiogel
Cyngor cyffredinol
Gwiriwch fod eich plentyn yn gwylio gemau yn Twitch y byddech chi’n caniatáu iddo eu chwarae y tu allan i'r safle. Efallai bod cryn dipyn o gynnwys oedolion yn y gemau sy'n cael eu darlledu ar Twitch. Mae'n bosib clicio ar 'Not interested' pan fydd cynnwys aeddfed yn cael ei gynnig ar Twitch, fel bod eich plentyn yn llai tebygol wedyn o gael argymhellion tebyg eto.
Os yw'ch plentyn yn gwylio ffrwd fyw chwaraewyr eraill, mae'n bwysig bwrw golwg ar y bobl a'r sianeli mae'ch plentyn yn eu gwylio. Ceisiwch sicrhau eu bod yn gwylio ffrydiau sy'n addas i'w oedran o ran cynnwys ac ymatebion.