English

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Radicaleiddio yw’r broses lle mae unigolyn yn dod i gefnogi terfysgaeth a mathau o eithafiaeth sy’n arwain at derfysgaeth. Eithafiaeth yw gwrthwynebiad llafar neu weithredol i’n gwerthoedd cyffredin. Mae’r rhain yn cynnwys democratiaeth a rheolaeth y gyfraith, cydbarch a goddefgarwch tuag at ffydd a chredoau eraill. Mae grwpiau eithafol yn defnyddio’r rhyngrwyd, a’r cyfryngau cymdeithasol yn arbennig, i gyrraedd cynulleidfaoedd mawr gyda’r nod o ddod o hyd i bobl sy’n agored i’w negeseuon a’u dylanwad. Gallai arwyddion fod plentyn neu berson ifanc yn cael ei radicaleiddio gynnwys newid ffrindiau ac ymddangosiad, gwrthod gwrando ar safbwyntiau gwahanol, bod yn amharod i ymwneud â’r rhai sy’n wahanol, cofleidio damcaniaethau cynllwyn a bod â chydymdeimlad at ideolegau a grwpiau eithafol.

Gallwch adrodd am gynnwys sy’n gysylltiedig â therfysgaeth ar-lein i’r Uned Atgyfeirio Gwrthderfysgaeth ar y Rhyngrwyd. Os ydych yn pryderu am blentyn neu berson ifanc yn cael ei radicaleiddio, gallwch gael cyngor gan eich arweinydd diogelu lleol neu wneud atgyfeiriad i ddiogelu’r person rydych chi’n poeni amdano drwy ddefnyddio’r ffurflen atgyfeirio Prevent.

Canllawiau Llywodraeth Cymru

Barn yr arbenigwyr

Eithafiaeth a Radicaleiddio

Faith McCready, Arweinydd Strategol Cenedlaethol, Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru (WPSP)