English

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Iaith casineb ar-lein yw cynnwys sy’n targedu nodweddion gwarchodedig gyda’r bwriad neu’r effaith debygol o ysgogi/lledaenu/hyrwyddo casineb neu wahaniaethu. ‘Nodweddion gwarchodedig’ yw agweddau ar hunaniaeth unigolyn sy’n cael eu diogelu rhag gwahaniaethu. Mae iaith casineb ar-lein yn golygu trin rhywun yn annheg am fod ganddo un neu fwy o’r nodweddion hyn.

Gall y rhain gynnwys hil, lliw, tras, tarddiad cenedlaethol neu ethnig, oedran, anabledd, iaith, crefydd neu gred, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.

Gall y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau ar-lein eraill ddarparu platfform ar gyfer mynegi casineb ar-lein a dylanwadu ar bobl i ymddwyn mewn ffordd gas neu hyd yn oed dreisgar tuag at grwp sy’n cael ei dargedu.


Gall casineb ar-lein gael effaith ddinistriol

Mae’r ffaith y gallwch chi fod yn ddienw ar y rhyngrwyd a’i bod mor hawdd creu a rhannu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn golygu y gall yr iaith a’r cynnwys sy’n hyrwyddo casineb a gwahaniaethu gael cryn dipyn o sylw a chael ei ledaenu’n gyflym.

Dydy hi ddim yn anghyffredin i bêl-droedwyr proffesiynol gael eu cam-drin gydol eu gyrfaoedd. Datblygwyd y ffilm (Saesneg yn unig) hon a’r adnoddau ategol mewn ymateb i’r cam-drin ar-lein a gafodd ei anelu at bêl-droedwyr benywaidd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod tymor 20/21 er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r broblem a hyrwyddo ymddygiad parchus ar-lein.


 

Adnoddau dysgu ac addysgu