English

Mae TikTok yn ap rhannu fideo ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr bostio a rhannu fideos byr, sy’n amrywio o ran hyd o 15 eiliad i 3 munud. Mae’n blatfform hynod boblogaidd, gyda mwy na 1.5 biliwn o ddefnyddwyr gweithredol ledled y byd, ac mae ar gael ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau, platfformau a phorwyr gwe. Unwaith mae defnyddwyr yn cofrestru, mae’r ap yn cynnig cynnwys sy’n trendio a chynnwys poblogaidd i ddefnyddwyr heb iddyn nhw orfod chwilio amdano.

Mae’r algorithm yn ceisio adnabod y mathau o gynnwys mae defnyddiwr yn eu hoffi yn seiliedig ar ddewisiadau gwylio blaenorol. Mae cyflymder cynnig cynnwys newydd i ddefnyddwyr yn golygu ei fod yn apelio’n fawr at ddefnyddwyr iau, gan fod yna rywbeth newydd i edrych arno ac ymddiddori ynddo bob amser. Mae’r ap yn annog plant a phobl ifanc i greu a rhannu eu cynnwys eu hunain hefyd, a hynny wedi’i sbarduno gan adnoddau creu cynnwys hawdd eu defnyddio a’r gynulleidfa enfawr sydd ar gael ar y platfform.

Rhaid bod defnyddwyr TikTok yn 13 oed o leiaf. Fodd bynnag nid oes unrhyw ddulliau dilysu oedran trwyadl.

Bydd pob cyfrif sy’n cael ei sefydlu gan ddefnyddwyr 13 i 15 oed yn breifat, a hynny’n awtomatig a diofyn. Mae’r gosodiad diofyn hwn yn dibynnu ar ddefnyddwyr yn darparu eu dyddiad geni cywir, gan eu dangos fel defnyddwyr dan 16, felly mae’n bwysig bod rhieni’n sicrhau bod eu plant yn defnyddio eu dyddiad geni cywir i elwa ar y nodwedd ddiogelwch hon. Mae gosodiad pob cyfrif arall yn gyhoeddus yn ddiofyn.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein ‘canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau‘.

Mae TikTok yn ap hynod boblogaidd sy’n seiliedig ar fideo, yn bennaf oherwydd yr amrywiaeth o gynnwys mae’n ei ddarparu – o ddawnsiau sy’n boblogaidd ar y pryd ac achlysuron doniol i fideos wedi’u curadu gan hoff grewyr cynnwys pobl ifanc. Defnyddir y platfform gan enwogion a dylanwadwyr yn aml ac mae llawer o bobl wedi dod yn enwog drwy’r ap yn unig, gan beri iddo apelio’n arbennig at bobl ifanc sydd eisiau dod yn boblogaidd ar-lein. Fe’i defnyddir fel man creadigol i bobl ifanc ond hefyd fel lle i ymgysylltu a chysylltu ag eraill ledled y byd drwy ffrydiau byw a sylwadau.

Gyda chynllun hawdd ei ddefnyddio a ffrwd wedi’i phersonoli yn seiliedig ar eich gweithgarwch a’ch diddordebau ar-lein ar y pryd, gall fod yn ap atyniadol iawn i bobl ifanc dreulio cryn dipyn o amser arno.

“Rwy'n hoffi TikTok gan ei fod yn dysgu pethau i chi ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am beth sy'n digwydd. Mae'n anodd diflasu wrth ei ddefnyddio e gan fod llawer o bethau i'w gwylio.", plentyn, 14 oed.

Mae nifer o risgiau cynnwys yn gysylltiedig â phlatfform TikTok, gan gynnwys y risg o weld cynnwys rhywiol a threisgar, iaith casineb, hunanladdiad a hunan-niweidio, a chamwybodaeth. Cynlluniwyd y platfform i gynnig y mathau o gynnwys sydd o ddiddordeb iddynt i ddefnyddwyr, felly oni bai eu bod yn chwilio’n fwriadol am gynnwys niweidiol, mae’n debygol y bydd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr TikTok ifanc yn cael cynnig cynnwys nad yw’n niweidiol yn gyffredinol, sydd o ddiddordeb iddyn nhw ac sy’n hwyliog a difyr (er enghraifft ffasiwn, dawnsio a chomedi).

Fodd bynnag, oherwydd bod y cynnwys yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr a’i ddiweddaru’n barhaus gan ddefnyddwyr mae’r risg o ddod i gysylltiad â chynnwys addas i oedolion neu gynnwys niweidiol a ddisgrifir uchod, er enghraifft drwy fideo sy’n mynd yn feirol a allai gynnwys trais neu niwed. Mae risg hefyd, os oes gan blentyn ddiddordeb mewn cynnwys niweidiol (efallai oherwydd bod yn agored i niwed mewn ffyrdd eraill) ac yn chwilio amdano ar TikTok, prin yw’r mesurau diogelu i’w atal rhag dod o hyd iddo. Mae TikTok yn cryfhau ei ffordd o ymdrin â chynnwys 'dylanwad cudd' sy'n ceisio twyllo neu gamarwain defnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys labelu sy'n nodi a yw cyfrif yn gysylltiedig â chyfryngau gwladol penodol. Fel rhiant neu ofalwr, mae’n werth bod yn gyfarwydd â’r nodweddion diogelwch (gan gynnwys modd cyfyngedig) sydd ar gael ar y platfform ac a ddisgrifir isod.

Mae’n werth cofio hefyd bod TikTok, yn yr un modd â phlatfformau eraill o’r math hwn, yn cynnwys llawer o grewyr a dylanwadwyr gyda’r hyn y gellid ei ystyried yn fywydau (tai/ffordd o fyw) a phryd a gwedd ‘delfrydol’, sy’n gallu effeithio ar les plant a phobl ifanc a sut maen nhw’n teimlo amdanyn nhw eu hunain a’u lles. Gallwch gefnogi’ch plant drwy aros yn gysylltiedig â’r hyn maen nhw’n edrych arno ar-lein a’u helpu i ddehongli’r cynnwys hwn, gan eu hatgoffa ei fod yn cael ei greu’n ofalus yn aml a’i wneud i edrych yn berffaith/dibryder, a hynny’n aml er mwyn gwerthu cynnyrch.

Er nad yw proses gymedroli TikTok yn caniatáu noethni, bu adroddiadau diweddar am dueddiad o’r enw ‘foopah’ lle mae crewyr yn ceisio fflachio noethni mewn ffordd nad yw’n cael ei olrhain gan ddull cymedroli TikTok. Dylai rhieni a gofalwyr fod yn wyliadwrus o’r fideos hyn yn ymddangos ar ffrwd eu plentyn. Efallai y bydd eich plentyn yn derbyn mwy o’r heriau fideos hyn os yw’n ymateb i fideo, gan y byddai’r algorithm yn argymell y math hwn o gynnwys fwyfwy. Cofiwch am nodwedd ‘Not interested’ TikTok er mwyn helpu i atal rhagor o’r awgrymiadau hyn os yw’ch plentyn yn dod ar draws fideo. Gofalwch bod eich plentyn yn gwybod ac yn deall y gall siarad â chi os yw’n dod ar draws unrhyw gynnwys sy’n peri gofid neu ddryswch, fel fideo foopah. Darllenwch am nodwedd ‘Not interested’ TikTok yn adran ‘Rheoli rhyngweithio a chynnwys’ y canllawiau hyn.

Mae twf cynnwys a gynhyrchir gan AI neu wedi'i olygu yn amlwg ar TikTok hefyd. Er enghraifft, mae dangosyddion clir yn dangos pan mae cynnwys wedi'i greu ar y platfform gan ddefnyddio offer AI. Yn ogystal, mae TikTok yn ymdrechu i sicrhau y bydd cynnwys sydd wedi’i greu y tu allan i'r ap a’i lanlwytho yn dwyn marc AI hefyd drwy ymuno â'r 'Coalition for Content Provenance and Authenticity’. Mae'n golygu y dylai cynnwys sy’n cael ei greu ar blatfform arall sydd wedi cofrestru yn cael ei ganfod a'i labelu'n awtomatig fel AI. Yna byddai defnyddwyr yn gallu edrych yn ôl ar sut mae'r cynnwys wedi'i olygu.

Dylid nodi na fydd cynnwys sy’n cael ei greu ar blatfformau y tu allan i'r coalisiwn yn derbyn y marc felly, fel rhiant neu ofalwr, mae'n bwysig trafod gyda'ch plentyn yr angen i chi fod yn feirniadol o'r hyn y mae'n ei wylio. Mae TikTok ac eraill yn darparu canllawiau ar sut i adnabod cynnwys AI a sut i fod yn wyliwr beirniadol.

Mae miliynau o ddefnyddwyr TikTok ledled y byd felly mae’n bwysig bod eich plentyn yn defnyddio’r gosodiadau i reoli ei gysylltiadau a’i breifatrwydd. Yn ddiweddar, mae TikTok wedi cyflwyno cyfres o osodiadau diofyn i wella diogelwch rhyngweithio ar gyfer defnyddwyr iau, megis gosodiad preifat diofyn i gyfrifon plant dan 16 oed. I ddefnyddwyr o dan 18 oed, mae’r gosodiad ‘Suggest your account to others’ wedi’i ddiffodd. Mae hyn yn golygu na fydd eu cyfrif yn cael ei awgrymu i ddefnyddwyr eraill ar y platfform. Fel yr eglurwyd yn flaenorol, mae angen i blant gofrestru gyda’u hoedran cywir er mwyn elwa o’r mesurau diogelu hyn.

Er bod y mesurau diogelu hyn yn cael eu rhoi ar waith gan y platfform, mae’n bwysig o hyd bod defnyddwyr o dan 16 oed yn gwybod sut i ddefnyddio’r gosodiadau i gyfyngu eu cysylltiadau i ffrindiau hysbys a cheisio sicrhau nad ydyn nhw’n newid y gosodiadau hyn heb sylweddoli beth yw’r canlyniadau, er enghraifft oherwydd eu bod eisiau sylw ehangach i gael mwy o ddilynwyr. Os yw’ch plentyn yn defnyddio TikTok gyda’r gosodiad ‘Cyhoeddus’, siaradwch â nhw am y risgiau o gysylltu â dieithriaid. Atgoffwch eich plentyn i sôn wrthych os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau personol iddo, gofyn iddo rannu gwybodaeth bersonol, i sgwrsio’n breifat neu unrhyw beth sydd wedi gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.

Mae nodwedd ffrydio byw TikTok yn boblogaidd iawn ac efallai y bydd llawer o ddeiliaid cyfrifon dros 16 oed eisiau ffrydio eu cynnwys byw eu hunain. Mae ffrydio byw yn gallu teimlo’n gyffrous ac yn hwyl ar y pryd. Fodd bynnag, gall defnyddwyr eraill geisio pwyso, perswadio neu gymell defnyddwyr iau i wneud rhywbeth amhriodol y byddan nhw’n ei ddifaru’n ddiweddarach. Mynnwch sgwrs gyda’ch plentyn i’w atgoffa i fod yn ofalus ynghylch ymwneud â phobl wrth ffrydio byw ac i ddod â’r sesiwn i ben a siarad ag oedolyn os yw’n teimlo’n anghyfforddus ar unrhyw adeg.

Hefyd, mae TikTok yn darparu’r opsiwn i ddefnyddwyr rannu’n uniongyrchol o blatfformau rhannu cerddoriaeth, Spotify ac Apple music. Gall defnyddwyr rannu caneuon, artistiaid, a rhestri chwarae trwy gyfrwng Direct Messaging (DM) neu eu tudalen For You Page (FYP). Mae’r nodwedd hon yn golygu y gallai defnyddwyr rannu rhestri chwarae neu gloriau albymau gydag enwau anaddas, ac yn cynnig cyfle i ddefnyddwyr gysylltu ar blatfform y tu allan i TikTok.

Fel platfform sy’n annog sylwadau ac ymgysylltu, weithiau gall defnyddwyr TikTok fod yn agored i sylwadau neu ymatebion angharedig i’r cynnwys maen nhw’n ei bostio a’i rannu. Mae gan nodweddion fel ‘Duet’ botensial gwirioneddol i ganiatáu i blant a phobl ifanc wneud sylwadau yn angharedig neu fod yn destun sylwadau o’r fath. Rydyn ni’n gwybod y gall yr amgylchedd ar-lein yn gyffredinol leihau'r empathi a geir wrth ryngweithio wyneb yn wyneb a dod â phlant i gysylltiad â byd lle gellir gwneud ymateb, hoffi neu wneud sylwadau cas yn gyflym heb i’r rhai sy’n eu postio weld nac ystyried eu heffaith. Mae risg y bydd plant yn cael eu dadsensiteiddio i fwlio drwy weld cynnwys yn y modd hwn. Mae’n bwysig siarad â’ch plentyn am sut mae’n ymddwyn tuag at eraill ar-lein a sut maen nhw’n ymateb ac yn ymateb i gynnwys. Gallwch eu hannog i feddwl sut y byddai sylw neu bostiad yn gwneud iddyn nhw deimlo pe bydden nhw’n ei dderbyn cyn iddyn nhw ei rannu.

Mae TikTok yn blatfform hynod apelgar ac weithiau mae plant a phobl ifanc yn treulio oriau lawer ar y tro yn sgrolio drwy’r holl gynnwys amrywiol sy’n newid yn barhaus. Mae’r platfform wedi’i gynllunio i gadw diddordeb a sylw defnyddwyr ac yn aml nid oes gan blant a phobl ifanc y sgiliau i hunanreoleiddio’n llwyddiannus a chymryd egwyl. Er mwyn helpu pobl ifanc i reoli eu hamser ar y platfform, mae TikTok wedi cyflwyno nodwedd a fydd yn atal defnyddwyr o dan 16 oed rhag derbyn hysbysiadau gwthio ar ôl 9pm a defnyddwyr o dan 18 oed ar ôl 10pm. Mae TikTok wedi gosod terfyn amser dyddiol o 60 munud ar gyfer defnyddwyr dan 18 oed hefyd. Os yw’r defnyddiwr am barhau i ddefnyddio TikTok ar ôl y terfyn 60 munud, bydd rhaid iddo deipio cod mynediad amser-cyfyngedig sydd wedi’i osod ar ei ddyfais. Os yw’ch plentyn yn treulio llawer o amser ar TikTok, ystyriwch gytuno ar derfynau amser a ffiniau sy’n caniatáu iddo gydbwyso ei fwynhad o’r platfform â gweithgareddau eraill. Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r nodwedd ‘Digital wellbeing’ yn y gosodiadau sy’n galluogi defnyddwyr i gyfyngu ar amser sgrin. I ddysgu mwy am ddefnyddio’r nodwedd ‘Digital wellbeing’ i osod terfyn amser ar TikTok, gweler adran ‘Rheoli amser a phrynu pethau’ y canllawiau hyn.

Mae cyflwyno siop TikTok wedi cynyddu presenoldeb arian ar y platfform ymhellach, gan ganiatáu i ddylanwadwyr a chrewyr fynd ati i werthu’r cynhyrchion maen nhw’n eu cynnwys yn eu fideos. Gall y crewyr ddylanwadu ar rai pobl ifanc sy’n eu dilyn i brynu eitemau, felly dylai rhieni a gofalwyr wirio nad yw’r ap wedi’i gysylltu â’u cerdyn banc na manylion ariannol. Siaradwch â’ch plentyn am brynu eitemau yn yr ap a sicrhau ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu eitemau yn yr ap. Mae’r rhan fwyaf o ddyfeisiau clyfar a chyfrifiaduron yn caniatáu i ddefnyddwyr sefydlu gosodiadau prynu mewn ap yn eu prif ddewislen gosodiadau.

Mae gan TikTok ‘ganllaw gwarcheidwaid‘ pwrpasol sy’n werth ei ddarllen i ddarganfod mwy am yr ap ac argymhellion ar gyfer rhieni. Yma, bydd rhieni a gofalwyr yn gallu gweld gwybodaeth a fideos manwl am y platfform gan gynnwys deall gosodiadau preifatrwydd, canllawiau cymunedol, hanfodion TikTok a chanllaw manwl i ‘Family pairing’.

Ynghyd â'r 'Canllaw Gwarcheidwaid', mae TikTok wedi cynhyrchu ei 'digital safety partnership for families'. Mae hon yn ddogfen y gellir ei lawrlwytho a'i hargraffu ac mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer cadw'n ddiogel, ond mae hefyd yn creu cyfle i rieni/gofalwyr ddechrau sgwrs gyda'u plentyn am ddefnydd diogel ar-lein, ymddiriedaeth a nodweddion eraill defnydd diogel ar-lein.

Mae TikTok wedi diweddaru eu 'teen safety centre' hefyd i gynnwys awgrymiadau a gwybodaeth hygyrch am amrywiaethd o bynciau gan gynnwys creu cyfrif, gosodiadau preifatrwydd ac eraill. Mae trosolwg llawn o'r gosodiadau hyn yn y canllaw preifatrwydd.