English

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Mae rhannu delweddau noeth a hanner noeth – sydd weithiau’n cael ei alw’n ‘secstio’ – yn cyfeirio at greu a rhannu delweddau, fideos neu ffrydiau byw noeth neu hanner noeth. Mae plant a phobl ifanc yn aml yn rhannu ffotograffau a fideos o’r fath drwy ddyfeisiau, platfformau ar-lein ac apiau negeseua.

Gall pobl ifanc rannu delweddau o’u hunain neu eraill â chyfoedion, pobl maen nhw mewn perthynas ramantaidd â nhw, neu bobl nad ydyn nhw’n eu hadnabod. Gall y cymhelliant neu’r rhesymau dros wneud hyn amrywio, gyda rhai yn fwy niweidiol na’i gilydd.

Pan fydd achosion yn cynnwys rhai o dan 18 oed yn unig, bydd sefyllfaoedd yn cael eu hystyried fesul achos, gyda rhai yn cael eu trin fel mater diogelu a/neu droseddol.

Os ydych yn dod yn ymwybodol bod gan blentyn neu berson ifanc ddelweddau anweddus ohono’i hun neu eraill o dan 18 oed, mae’n bwysig gweithredu fel y gall gael ei gefnogi a’i ddiogelu’n briodol.

Rhybudd

Mae rhannu delweddau noeth a hanner noeth o bobl o dan 18 oed gyda neu gan oedolion yn gyfystyr â cham-drin plant yn rhywiol a dylid hysbysu’r heddlu fel mater o frys.


Hyfforddiant

Ymateb i achosion o rannu delweddau noeth 

Mae’r cynnwys yn y modiwl hwn ar gyfer y Person Diogelu Dynodedig (DSP) neu uwch reolwyr mewn lleoliad addysg ac mae wedi’i ddatblygu i’ch helpu chi i ymateb yn effeithiol i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth. Mae’n cyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru, Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc.


Barn yr arbenigwyr

Rhannu delweddau noeth

David Wright, Cyfarwyddwyr, UK Safer Internet Centre

‘Blacmel Rhywiol’

Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd (IWF)


Adnoddau dysgu ac addysgu

Rhagor o wybodaeth