English

6. Cyfnod Seren

Cyfnod 01 (Blwyddyn 8 ac 9)

Mae'n cefnogi dysgwyr i ddarganfod yr hyn sy'n eu tanio, gwneud y dewisiadau iawn drostynt eu hunain, gweld y posibiliadau o ran eu taith addysgol, a dechrau ar astudiaethau uwchgwricwlaidd. Mae'r gweithgareddau yn cynnwys:

  • Sgiliau uwchgwricwlaidd
  • Cystadleuaeth drafod
  • Cyfres siaradwyr ysbrydoledig
  • Darganfod yr hyn sy'n eich tanio
  • Eich dyfodol, eich dewis

Cyfnod 02 (Blynyddoedd 10 ac 11)

Mae'n darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau a chystadlaethau uwchgwricwlaidd, cyfleoedd i gael blas ar fywyd prifysgol ac arweiniad ar gyfer y cam nesaf ar eu taith addysgol. Bydd gofyn i ddysgwyr gofrestru ar gyfer cam 02 i gael mynediad i'n platfform ar-lein, Gofod Seren, lle bydd dysgwyr yn derbyn hysbysiadau am ddigwyddiadau a chyfleoedd, ac yn cael mynediad at adnoddau. Ymhlith y gweithgareddau mae:

  • dosbarthiadau meistr ar bwnc penodol, wedi'u cynnal gan brifysgolion blaenllaw y DU
  • 'ymestyn a herio' academaidd
  • cyrsiau ieithoedd modern
  • sesiynau seiliedig ar sector, fel gweithdai yn canolbwyntio ar sut i fynd yn filfeddyg neu'n feddyg
  • seminarau a sesiynau tiwtorial STEM
  • cyngor gyrfa a sesiynau yn ystyried dewisiadau TGAU a Safon Uwch
  • arweiniad ar gyrsiau prifysgol ac addysg uwch
  • cystadlaethau ysgrifennu traethodau ac ysgrifennu creadigol
  • cyfleoedd i ymgeisio am ysgolion haf prifysgolion unigryw Seren
  • digwyddiadau a chyfleoedd wyneb yn wyneb rhanbarthol drwy gydol y flwyddyn

Cam 03 (Blynyddoedd 12 ac 13)

Cefnogaeth benodol i fynd i brifysgolion blaenllaw, a chyfleoedd unigryw i ddysgwyr gael cyngor uniongyrchol gan diwtoriaid derbyn prifysgolion ar sut i wneud cais, datblygu datganiadau personol cystadleuol, paratoi ar gyfer profion derbyn a delio â chyfweliadau. Ymhlith y gweithgareddau mae:

  • dosbarthiadau meistr, darlithoedd a gweithdai arweiniol gan diwtoriaid derbyn ac academyddion o brifysgolion blaenllaw (gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt)
  • mynediad at sesiynau paratoi at brofion derbyn sy'n trafod amrywiaeth eang o bynciau (sy'n rhan o'r broses fynediad ar gyfer llawer o brifysgolion)
  • dosbarthiadau meistr seiliedig ar bwnc gan arbenigwyr o brifysgolion yn trafod amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys y gyfraith, ffiseg, peirianneg, mathemateg, Saesneg a meddygaeth
  • arweiniad gan arbenigwyr ar ysgrifennu datganiad personol cystadleuol a pharatoi ar gyfer cyfweliadau
  • cyfleoedd i ymgeisio ar gyfer ysgolion haf prifysgolion unigryw Seren
  • mentora a sesiynau cwestiynau cyffredin byw gan academyddion a dysgwyr Seren blaenorol
  • cyfleoedd profiad gwaith mewn meysydd fel y gyfraith neu feddygaeth
  • gweithdai ar ddatganiadau personol a chyfweliadau gan academyddion a thiwtoriaid derbyn
  • canllawiau pwrpasol ar brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt
  • mentora a chysylltiadau â graddedigion Seren sy’n astudio mewn prifysgolion blaenllaw
  • digwyddiadau a chyfleoedd wyneb yn wyneb rhanbarthol drwy gydol y flwyddyn
  • cyfle i gymryd rhan mewn heriau a chystadlaethau cenedlaethol
  • Mae dysgwyr hefyd yn cael arweiniad gan arbenigwyr i'w helpu i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth wrth iddynt baratoi ar gyfer eu camau nesaf