English

7. Cymorth mentora

Yn agored i ddysgwyr ym mlynyddoedd 12 ac 13, mae Academi Seren yn recriwtio myfyrwyr, academyddion a gweithwyr proffesiynol o brifysgolion a sefydliadau blaenllaw ledled y DU i gynnig cymorth mentora i ddysgwyr Seren sy'n gobeithio dilyn yr un llwybr academaidd â nhw.

Mae dysgwyr yn cael mentor a fydd yn eu harwain drwy'r broses o ymgeisio ar gyfer prifysgol, gan gynnig cyngor a chefnogaeth naill ai drwy alwadau fideo mewn lleoliad grŵp neu drwy e-bost.

Yn dibynnu ar y cymorth a ddewisir, gall gynnwys:

  • cymorth wedi'i addasu ar gyfer cwrs a/neu brifysgol benodol gan rywun sydd wedi llwyddo yn y  broses ymgeisio
  • cipolwg ar brifysgol a/neu gwrs targed dysgwr
  • cymorth â datganiad personol
  • paratoadau personol ar gyfer profion derbyn
  • paratoi ar gyfer cyfweliadau a ffug-gyfweliadau
  • awgrymiadau, cyngor ac adnoddau defnyddiol ar gyfer gwneud cais i'r brifysgol.

Dyma'r math mwyaf personol o gymorth ymgeisio sydd ar gael, a gan fod y mentoriaid naill ai wedi graddio'n ddiweddar, yn fyfyrwyr sydd newydd orffen y broses ymgeisio, neu hyd yn oed yn academyddion prifysgol, maent wir yn gwybod beth fydd ei angen i lwyddo gyda cheisiadau.