English

8. Gofod Seren

Porth ar-lein yw Gofod Seren sydd ar gael ar gyfrifiaduron bwrdd gwaith a dyfeisiau symudol (Blynyddoedd 10 i 13), a'i nod yw rhoi mynediad i'r dysgwr at yr holl gyfleoedd a'r adnoddau ategol sydd ar gael iddynt.

Mae Gofod Seren hefyd yn personoli profiad gwylio defnyddiwr yn seiliedig ar ei ddiddordebau, ei bynciau, ei ardal leol a'i ysgol/coleg. Mae hyn hefyd yn cynnwys ffrwd cyfryngau cymdeithasol y porth sy'n darparu'r newyddion diweddaraf yn seiliedig ar ddiddordebau personol ac academaidd.

Yn ogystal â bod yn agored i ddysgwyr, mae Gofod Seren hefyd ar agor i athrawon a thiwtoriaid, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyfleoedd ac adnoddau sydd ar gael i sicrhau nad yw dysgwyr Seren ar eu colled!