English

4. Dysgwyr

Mae Academi Seren eisiau i chi anelu am brifysgol o'r radd flaenaf. Bydd yr academi yn eich cefnogi i wireddu eich breuddwyd ac yn eich paratoi ar gyfer yr hyn sy'n ofynnol.

Mae gan brifysgolion blaenllaw brosesau mynediad cystadleuol, ond bydd yr Academi yn rhoi'r adnoddau a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael eich derbyn i'ch dewis brifysgol.

Mae rhaglen yr Academi yn darparu ystod eang o weithgareddau a chyfleoedd i gymryd rhan ynddynt, o weminarau a dosbarthiadau meistr i ysgolion haf, sesiynau tiwtorial, aseiniadau a chystadlaethau. Bydd gennych fynediad at amrywiaeth eang o adnoddau i'ch cefnogi ar eich taith i addysg uwch.

Mae'r holl weithgareddau, cyfleoedd a deunyddiau sydd ar gael i chi wedi'u cynllunio i'ch cefnogi wrth barhau i astudio, eich helpu i sylweddoli beth sy'n eich tanio, a chadarnhau eich uchelgais i barhau â'ch addysg mewn prifysgol flaenllaw.

Rydym yn eich annog i fanteisio ar gymaint o gyfleoedd â phosibl, ond chi sydd i benderfynu beth i gymryd rhan ynddo. Dyma ambell awgrym i wneud y gorau o'ch profiad:

  • Cyfarfod croeso gyda chydlynydd eich rhanbarth
  • Gwneud y gorau o'r cyhoeddiad academaidd a ddarperir er mwyn adeiladu eich proffil a'ch tystiolaeth ar gyfer cais prifysgol
  • Ymweliadau â phrifysgolion
  • Gwneud cais i fynd i ysgol haf Seren
  • Cwrdd â chynrychiolwyr prifysgolion er mwyn deall eich opsiynau
  • Cwrdd â graddedigion Seren i ddeall sut mae rhaglen Seren wedi eu helpu nhw
  • Manteisio ar ein profion derbyniadau prifysgol a sesiynau paratoi am gyfweliad

Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig!

Gwyliwch a darllenwch straeon dysgwyr presennol a blaenorol Academi Seren.