English

3. Rhieni a gofalwyr

Fel rhiant neu ofalwr, mae eich dealltwriaeth o'r rhaglen yn allweddol i helpu'ch plentyn i wneud y gorau o Seren.

Bydd gan eich plentyn fynediad at ystod o weithgareddau a phrofiadau, a ddarperir gan y prifysgolion a'r darparwyr addysg gorau. Bydd Academi Seren yn cefnogi'ch plentyn i anelu am ragoriaeth ar y lefel uchaf drwy ddarparu cyfleoedd i gael gwared ar unrhyw beth sy'n rhwystro uchelgais a cheisiadau i gyrsiau addysg uwch dethol iawn.

Mae amlder a her gweithgareddau yn cynyddu wrth i ddysgwyr symud ymlaen drwy bob cam o Academi Seren a gall eich plentyn ddewis cymryd rhan mewn cynifer (neu gyn lleied) o weithgareddau ag y dymunant.

Rydym yn annog dysgwyr i gymryd rhan mewn cynifer o gyfleoedd ag sydd o ddiddordeb iddynt, ac i ymestyn eu hunain, gan fod yn synhwyrol o ran faint y gallant ymgymryd ag ef mewn gwirionedd.

Mae dysgwyr blaenorol Seren wedi dangos sut gall y rhaglen eu hysgogi a magu eu hyder, i'w helpu i gyflawni pethau yr oeddent wedi meddwl i ddechrau eu bod y tu hwnt i'w gallu.

Mae miloedd o raddedigion Seren eisoes yn astudio yn rhai o brifysgolion gorau'r byd, gan gynnwys Rhydychen, Caergrawnt, Coleg Imperial Llundain, Harvard, Princeton, Chicago, MIT a Melbourne i enwi ond ychydig. Bydd Academi Seren yn rhoi'r adnoddau a'r gefnogaeth i'ch plentyn i allu gwireddu ei botensial academaidd yn llawn, lle bynnag y bydd hynny'n mynd ag ef neu hi.

Sut gallwch chi helpu

Mae'n bwysig nodi mai dim ond y cam cyntaf yw cael eich dewis ar gyfer y rhaglen. Y dysgwyr sydd i benderfynu ar yr hyn y byddant yn mynd ymlaen i'w gyflawni a'i brofi. Er hynny, gyda'ch cefnogaeth chi, gallant fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Yn gyntaf, ar ddechrau pob blwyddyn academaidd byddwn yn cynnig cyfle i rieni a gofalwyr i ymuno â ni drwy gyfarfod ar-lein a chwrdd â chydlynydd Seren rhanbarthol eich plentyn. Bydd y sesiynau yn cynnig trosolwg o Academi Seren a'r cyfleoedd sydd ar gael, ac yn rhoi cyfle i rieni a gofalwyr ofyn unrhyw gwestiynau am y rhaglen.

Byddem yn annog eich plentyn i ymdaflu i'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ar lefel leol a ddarperir gan gydlynydd eu canolfan. Mae cydlynwyr canolfannau yn darparu nifer helaeth ac eang o weithgareddau a rhaglenni drwy gydol y flwyddyn academaidd, megis ymweliadau â phrifysgolion, dosbarthiadau meistr, gweithdai a thrwy gysylltiadau agos â busnesau cenedlaethol a lleol.

Dilynwch ni ar X (Twitter) a Facebook i gael y wybodaeth ddiweddaraf am raglenni lleol a chenedlaethol, yn enwedig y ffenestri ymgeisio ar gyfer ein hysgol haf unigryw ar gyfer blynyddoedd 10 i 13.

Os hoffech gysylltu â thîm Academi Seren, anfonwch e-bost ‌ atom Seren@llyw.cymru.