Academi Seren
Mae Seren yn cefnogi'r dysgwyr mwyaf disglair a addysgir gan y wladwriaeth i gyflawni eu potensial academaidd llawn.
5. Cydlynwyr Canolfannau Seren
Wedi'u rhannu rhwng 11 canolfan, bydd arweinydd canolfan benodol yn cefnogi taith dysgwr drwy'r rhaglen. Bydd arweinydd canolfan yn cysylltu ag ysgolion a cholegau addysg bellach ac yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt i ddysgwyr, athrawon, tiwtoriaid, rhieni a gofalwyr.
Bydd cydlynydd canolfan yn rhoi arweiniad i ddysgwyr drwy raglen o weithgareddau, yn darparu digwyddiadau wyneb yn wyneb, ac yno i gynnig arweiniad a chefnogaeth wrth i ddysgwyr symud ymlaen drwy'r gwahanol gamau. Mae cydlynwyr canolfannau hefyd yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cyfleoedd ehangach ledled Cymru megis taith London Links a'r gystadleuaeth drafod.
- Canolfannau rhanbarthol manylion cyswllt ar gyfer ysgolion, rhieni a gofalwyr pdf 587 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath