English

9. Ysgolion Haf

Mewn partneriaeth â phrifysgolion blaenllaw y DU, mae'r profiadau hyn, sydd heb eu hail, yn rhoi cyfle unigryw i ddysgwyr astudio ar lefel israddedig. Bydd rhaglen yr ysgolion haf yn cynnwys cymysgedd helaeth o ddarlithoedd heriol, seminarau, sesiynau tiwtorial, traethodau a sesiynau myfyriol, gan ddyfnhau gwybodaeth dysgwyr a chyfoethogi eu hastudiaethau.

Mae'r ysgolion haf wedi helpu i ysbrydoli, ysgogi a siapio uchelgais llawer o ddysgwyr Seren, gyda rhai ohonynt yn awr yn astudio mewn prifysgolion blaenllaw ledled y byd, gan gynnwys Rhydychen, Caergrawnt, Iâl, Harvard, Stanford, a Chicago.

Ysgol Haf Ar-lein Seren

Profiad astudio ar-lein a gynlluniwyd i gyflwyno ffyrdd beirniadol o feddwl i'r dysgwyr, sy'n sgiliau sydd eu hangen mewn addysg uwch‌ ar gyfer prifysgolion rhyngwladol.

Ysgol haf breswyl Coleg yr Iesu, Rhydychen

Trefnir yr ysgol haf hon gan Goleg yr Iesu, ac mae'n ddigwyddiad blaenllaw yng nghalendr Academi Seren. Mae'n gyfle unigryw i ddysgwyr blwyddyn 12 Seren gael blas ar fywyd ac astudio mewn prifysgol o'r radd flaenaf.

Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd

Ysgol haf breswyl yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Cymru gyda chyfleusterau meddygol o'r radd flaenaf. Dyma gyfle i gael profiad ymarferol o astudio meddygaeth yn y brifysgol.

Ysgol Haf Breswyl Prifysgol Aberystwyth

Cyfle i dreulio pedwar diwrnod yn byw ac yn astudio ar y campws, gan edrych ar un thema fawr o safbwynt sawl pwnc.

Ysgol Haf Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth

Ysgol haf breswyl pedwar diwrnod yn unig Ysgol Filfeddygol bwrpasol Cymru. Dyma gyfle i gael profiad ymarferol o astudio milfeddygaeth yn y brifysgol.

Ysgol Haf Breswyl yn New College, Prifysgol Rhydychen

Cyfle i dreulio pum diwrnod yn byw ac yn astudio yn New College, yn profi bywyd fel myfyriwr yn Rhydychen, yn crwydro'r ddinas ac yn manteisio ar gyfleusterau academaidd a diwylliannol blaenllaw y brifysgol.

Ysgol Haf Ar-lein STEMHaus ar y cyd â Phrifysgol Abertawe

Ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, mae ysgol haf ar-lein STEMHaus yn brofiad ar gyfer dysgwyr a chanddynt ddiddordeb mewn astudio pynciau STEM ar lefel Safon Uwch a thu hwnt.

Sut mae gwneud cais ar gyfer ysgolion haf

Mae pob ysgol haf yn gystadleuol iawn, ond mae gan bawb y potensial i wneud cais llwyddiannus. Cynigir lleoedd yn seiliedig ar ddatganiad personol eithriadol a thystiolaeth o uchelgais a gallu academaidd. Pan fydd y cyfnodau ymgeisio ar agor, cewch wybod drwy Gofod Seren a byddwch yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen.