English

2. Meini Prawf Cymhwystra

Cam 01: Blynyddoedd 8 ac 9

Meini prawf cymhwystra

Rhyddid i athrawon i greu carfan Seren i gynnwys y rhai sy'n cyflawni i lefel uchel, ond hefyd y rhai sydd â'r potensial i gyflawni i lefel uchel os dônt i gysylltiad â rhaglen Academi Seren yng ngham 01.

Cofrestru ar Gofod Seren

Dim angen.

Cam 02: Blwyddyn 10 ac 11

Meini prawf cymhwystra

Mae angen i ddysgwyr naill ai:

  • fod â’r potensial i gael 6A* ar lefel TGAU
  • fod ag o leiaf 5A*/A cyd-destunol*
  • fod â sgôr 9 pwynt wedi’i chapio sydd oddeutu 460 neu'n uwch

Cofrestru ar Gofod Seren

Angen.

Cam 03: Blynyddoedd 12 ac 13

Meini prawf cymhwystra

Fel o'r blaen:

  1. Mynediad Awtomatig: Mae'r dysgwr wedi cael o leiaf 6A*– (TGAU llawn)

neu

  1. Mae'r dysgwr yn dangos gallu eithriadol mewn maes dysgu penodol er enghraifft, mathemateg ac Mae'r dysgwr wedi cael o leiaf 5A*/A – (TGAU llawn) ac mae gan y dysgwr fwy o botensial.

Cofrestru ar Gofod Seren

Angen.

Cynigion cyd-destunol

Disgresiwn athrawon i dderbyn graddau mynediad is o 5 A neu A* os yw dysgwyr wedi profi rhwystrau sydd wedi rhwystro eu cynnydd academaidd. Er enghraifft, y rhai sydd â statws ffoadur neu ddysgwyr â phrofiad gofal.