English

Mae addysgeg wrth wraidd cwricwlwm. Wrth gynllunio eu cwricwlwm, dylai ysgolion ystyried y dulliau addysgegol y bydd angen iddyn nhw eu defnyddio i gefnogi dysgwyr i wireddu'r pedwar diben. Dylai ysgolion geisio datblygu gweledigaeth gref o ddysgu ac addysgu sy'n ystyried 'pam' a 'sut' yn ogystal â 'beth'. Bydd y weledigaeth hon yn cydnabod rôl hanfodol yr amgylchedd dysgu wrth gefnogi dysgu effeithiol. 

Dylai ysgolion sicrhau bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth ddofn a manwl o'r egwyddorion addysgegol a'r ymchwil sy'n sail iddyn nhw. Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n cynnwys archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr. 

Dylai'r broses o gynllunio cwricwlwm ar gyfer dysgwyr o bob oed a gallu fod yn seiliedig ar egwyddorion addysgegol. Mae'r rhain yn adlewyrchu tystiolaeth hysbys am addysgeg effeithiol.

Yr egwyddorion addysgegol

Caiff y broses o gynllunio cwricwlwm ar gyfer pob dysgwr ei hategu gan deuddeg egwyddor addysgegol, sy'n datgan bod dysgu ac addysgu da yn: 

  1. canolbwyntio’n gyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm
  2. rhoi her i’r holl ddysgwyr drwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrechu'n barhaus i gwrdd â disgwyliadau sy'n uchel, ond o fewn eu cyrraedd
  3. defnyddio cymysgedd o ddulliau sy’n cynnwys addysgu uniongyrchol
  4. defnyddio cymysgedd o ddulliau gan gynnwys y rheini sy'n hybu sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol
  5. golygu gosod tasgau a dewis adnoddau sy'n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb
  6. creu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu
  7. dilyn egwyddorion asesu ar gyfer dysgu
  8. ymestyn oddi mewn ac ar draws y Meysydd
  9. atgyfnerthu yn rheolaidd y sgiliau trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac yn darparu cyfleoedd i'w hymarfer
  10. annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain
  11. hybu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a chydberthnasau cadarnhaol
  12. hybu cydweithio

Er mwyn cefnogi'r cwricwlwm, dylai addysgeg helpu dysgwyr i ddatblygu:

  • ymagwedd gadarn i ddysgu
  • sgiliau metawybyddol cadarn
  • sgiliau datrys problemau beirniadol a chreadigol
  • sgiliau cyfathrebu effeithiol iawn

Mae'r amgylchedd dysgu yn ysgogwr allweddol ar gyfer y cwricwlwm. Dylai:

  • annog dysgwyr i fod yn annibynnol, i fynegi eu barn am eu dysgu eu hunain, ac i gymryd mwy o gyfrifoldeb amdano
  • cynnwys pob dysgwr
  • rhoi cyfleoedd dysgu dilys i ddysgwyr o bob oed, a hynny dan do ac yn yr awyr agored
  • galluogi dysgwyr i gymhwyso, defnyddio, cyfnerthu ac ymestyn sgiliau
  • bod yn gyson ac yn ddiogel

Er mwyn cefnogi hyn, dylai ymarferwyr: 

  • feithrin cydberthnasau cadarnhaol a llawn parch â dysgwyr a chefnogi cydberthnasau da rhwng cyfoedion
  • ymateb i bob dysgwr
  • cynllunio cyfleoedd dysgu datblygiadol briodol, wedi'u llywio gan waith arsylwi rheolaidd ac asesiadau parhaus o ddysgu a chyfnod datblygu’r dysgwr
  • annog dysgwyr i feddwl am eu dysgu a myfyrio arno er mwyn ymestyn eu dealltwriaeth a chreu cysylltiadau
  • herio dysgwyr a phennu disgwyliadau uchel ohonyn nhw
  • ymgysylltu'n weithredol â rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach fel partneriaid dysgu
  • bod yn fyfyriol a cheisio achub ar gyfleoedd dysgu proffesiynol parhaus

Dysgu Sylfaen: prif nodweddion addysgeg lwyddiannus

Dylai addysgeg effeithiol, sy’n rhoi’r lle canolog i’r dysgwr ac sydd â’r deuddeg egwyddor addysgegol yn sail iddi, fod yn un sy’n ymateb, yn un sy’n ddeinamig ac yn un sydd wedi’i gwreiddio mewn cydberthnasau cryf. Dylai ymarferwyr ddefnyddio’r egwyddorion hyn fel sail i gefnogi dysgwyr i ddatblygu trwy gynnig cyfleoedd cyson ar gyfer y canlynol.

Chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae

Mae chwarae yn hawl sylfaenol sydd gan bob dysgwr. Mae gan blant awydd cryf i chwarae. Drwy chwarae, a phrofiadau yn ymwneud â chwarae, gall dysgwyr ddarganfod gwahanol ffyrdd o brofi ystod o emosiynau gan ddysgu am y byd y maen nhw’n ei rannu ag eraill.

Mae chwarae yn rhywbeth mae dysgwyr yn aml yn ei gymryd o ddifri, yn enwedig yn y cyfnod dysgu hwn. Mae angen canolbwyntio a thalu sylw i fanylion, ac mae’n gyfrwng iddyn nhw ddysgu drwy ddyfalbarhau a chydweithio. Mae chwarae nid yn unig yn hanfodol i’r ffordd y mae dysgwyr yn datblygu eu hymwybyddiaeth ohonyn nhw eu hunain a’r ffordd y maen nhw’n dysgu rheolau ymddygiad cymdeithasol, mae hefyd yn sylfaenol i’r broses o ddatblygu’n gorfforol, yn ddeallusol ac yn greadigol.

Mae chwarae yn broses ddilys i blant o bob oedran. Bydd capasiti dysgwyr i ddatblygu mewn ffordd bositif yn cael ei lesteirio os cyfyngir ar yr ystod eang o amgylcheddau, a’r cyfleoedd chwarae, sydd ar gael iddyn nhw. Mae hawl gan bob dysgwr i barch o ran y cyfuniad unigryw o rinweddau a sgiliau sydd ganddyn nhw. Mae chwarae yn darparu cyfleoedd lawer i ddatblygu sgiliau, mae’n dylanwadu ar ffordd o feddwl ac agweddau at ddysgu, ac mae’n meithrin ymdeimlad o hunan-werth a hunan-gred sy’n effeithio ar hyder ac annibyniaeth.

Mae chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae, yn cefnogi datblygiad holistaidd ar draws y cwricwlwm. Dylai pob ymarferydd roi gwerth arno fel diben ynddo’i hun yn ogystal ag fel rhywbeth y dylid talu sylw manwl iddo gyda’r nod clir o’i ddefnyddio i wella’r broses ddysgu.

Bod y tu allan

Mae bod y tu allan yn arbennig o bwysig i ddysgwyr yn y cyfnod hwn o ddysgu. Gall dysgu y tu allan arwain at lefelau uchel o  les, hyder ac ymgysylltu. Mae bod y tu allan yn gyfle i ddysgwyr archwilio, ymarfer a gwella eu sgiliau. Er mwyn manteisio i’r eithaf ar fod y tu allan, mae angen oedolion sy’n galluogi’r dysgu ac sy’n deall ei bwysigrwydd a’i werth i ddysgwyr. Mae bod y tu allan yn cefnogi datblygiad a lles cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu a chadarnhau sgiliau trawsgwricwlaidd.

Mae bod y tu allan yn darparu cyfleoedd i’r dysgwyr gael rhyfeddu a chael eu hysbrydoli, ac mae’n caniatáu i ddysgwyr i ymateb yn naturiol mewn gofod agored, ymlaciol sy’n eu symbylu. Mae adnoddau naturiol a phenagored yn hyrwyddo datblygiad dychymyg, creadigrwydd a chwilfrydedd. Mae cyfleoedd cyfoethog a dilys y tu allan yn symbylu synhwyrau dysgwyr drwy’r hyn y maen nhw’n ei glywed, ei gyffwrdd, ei weld a’i arogli, gan eu hannog i fynegi eu hunain.

Gall dysgwyr sy’n llwyddo i ymgysylltu â’r byd naturiol feithrin empathi tuag at yr amgylchedd, gan ddangos ymwybyddiaeth o effaith bosibl y dysgwyr ar elfennau byw. Gallan nhw ddechrau archwilio’r cysyniad o gynaladwyedd mewn ffordd ymarferol. Mae archwilio’r byd y tu allan yn gyfle i ddysgwyr ddatblygu ymwybyddiaeth o’u lle o fewn yr hyn sy’n union o’u cwmpas, eu hardal, Cymru a’r byd ehangach.

Mae bod y tu allan yn ei gwneud yn bosibl i ddysgwyr ddatblygu ymwybyddiaeth ohonyn nhw eu hunain o fewn gofod, gan eu helpu i ddeall y syniad o bropriodderbyniaeth. Gall amgylcheddau y tu allan ddarparu cyfleoedd unigryw i ddysgwyr wella eu cydbwysedd a’u gallu i gydsymud, datblygu sgiliau motor ac archwilio eu potensial corfforol. Wrth archwilio’r amgylchedd y tu allan, gall ddysgwyr ddatblygu eu gallu i asesu a phrofi risg, ynghyd â’u gwydnwch a’u hyder.

Arsylwi

Dylai arsylwi fod yn rhan allweddol o drefniadau bob dydd ymarferwyr. Drwy hynny, byddan nhw’n cael dealltwriaeth well o anghenion, sgiliau a chynnydd unigolion a grwpiau o ddysgwyr. Wrth arsylwi, dylid canolbwyntio ar anghenion presennol dysgwyr a dylai ymarferwyr wrthsefyll y demtasiwn i ruthro drwy sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau, gan y gall hyn gael effaith niweidiol ar y broses ddysgu.

Mae’r ffocws ar ddod i adnabod y dysgwyr yn helpu i greu darlun o bob unigolyn, sy’n cynnwys eu hanghenion o ran datblygiad a’u diddordebau. Bydd ymarferwyr mewn sefyllfa well i gynllunio’r camau nesaf trwy ddefnyddio eu gwybodaeth am brofiadau’r dysgwyr, yr hyn y maen nhw’n ei hoffi, yr hyn nad ydyn nhw’n ei hoffi, eu diddordebau a’r hyn sy’n eu denu, ynghyd ag unrhyw rwystrau i ddysgu y maen nhw wedi’u profi neu y maen nhw’n eu profi ar hyn o bryd.

Dylai ymarferwyr sicrhau bod ganddyn nhw y sgiliau priodol i ddeall rôl arsylwi a sut mae’n ategu’r broses asesu. Dylen nhw wylio’r dysgwyr, gwrando arnyn nhw ac ystyried yr hyn y maen nhw’n ei wneud ac yn ei gyfathrebu.

Efallai y bydd y sesiynau arsylwi wedi’u cynllunio ac yn rhai penodol; efallai y byddan nhw’n digwydd dros gyfnod neu’n digwydd yn ddirybudd pan sylwir ar rywbeth newydd neu arwyddocaol. Bydd defnyddio ystod o dechnegau arsylwi yn sicrhau bod ymarferwyr yn dod i ddealltwriaeth fanwl o bob dysgwr. Fel rhan o’r broses hon, dylai ymarferwyr ystyried sut a  phryd y dylid rhyngweithio gyda’r dysgwr.

Mae defnyddio technegau arsylwi effeithiol yn helpu ymarferwyr i ddeall lefelau lles ac ymgysylltiad y dysgwyr, eu cyflwr emosiynol, eu perthynas ag eraill, eu sgiliau a’u cymwyseddau. Mae arsylwi effeithiol yn galluogi ymarferwyr i ddadansoddi’r hyn a welan nhw ac a glywan nhw, ac yna ymateb mewn ffyrdd a fydd yn cefnogi’r dysgwyr i wneud cynnydd. Dylid defnyddio’r hyn a nodir fel sail i gynllunio ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir er mwyn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i’r camau nesaf.

Dylai arsylwi arwain at gynllunio profiadau ac amgylcheddau dysgu i’r dyfodol. Mae’n caniatáu i ymarferwyr nodi’r dulliau dysgu sydd orau gan ddysgwyr, a sut orau i’w cymell i gymryd rhan yn y broses ddysgu. Mae’n ffordd o weld hefyd pa ddysgwyr y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw i gyflawni eu potensial.

Mae’n bwysig bod ymarferwyr yn deall nad proses sy’n dilyn cyfres o gamau penodol yw dysgu, a bod gwahanol ddysgwyr yn debygol o ddatblygu mewn ffyrdd cwbl wahanol. Rhaid i ymarferwyr gydnabod hyn a chaniatáu ar gyfer amrywiol lwybrau, rhwystrau a chyflymu sydyn all ddigwydd yn ystod y daith ddysgu.

Dysgu dilys a phwrpasol

Mae’r dysgu ar ei fwyaf effeithiol pan fydd y dysgwyr yn cymryd rhan weithredol mewn profiadau sy’n ysgogi eu diddordeb, tanio eu dychymyg, ysbrydoli eu chwilfrydedd ac yn hyrwyddo agweddau positif. Dylai’r profiadau hyn annog dysgwyr i ymchwilio, archwilio, creu a chymryd rhan weithredol yn y broses ddysgu. Bydd profiadau perthnasol ac ystyrlon sy’n seiliedig ar gyd-destunau bywyd go iawn yn galluogi dysgwyr i wneud cysylltiadau, cymhwyso gwybodaeth ac atgyfnerthu eu sgiliau.

Gall profiadau bywyd go iawn alluogi dysgwyr i ddangos arweiniad wrth ofyn cwestiynau, nodi problemau, cymryd risgiau a dod o hyd i atebion. Mae’n bwysig creu cyfleoedd i ddysgwyr gymhwyso’r hyn y maen nhw’n ei ddysgu i sefyllfaoedd bywyd go iawn. Mae hyn yn eu helpu i ddeall pwrpas eu dysgu, a gall wella eu lles, eu hunan-gred a’u gwydnwch. Mae’n eu hannog i archwilio a bod yn greadigol, a bydd yn eu cefnogi i ddatblygu dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas.

Am arweiniad pellach ar weithio gyda dysgwyr iau, gweler adran galluogi dysgu.

Cwestiynau allweddol i ysgolion a lleoliadau eu hystyried

  1. Sut y byddwn yn creu diwylliant sy'n annog ymarferwyr i feithrin dealltwriaeth ddofn o addysgeg a'r sgil i ddewis y dull gweithredu addysgegol mwyaf priodol?
  2. Sut y byddwn yn sicrhau bod addysgeg y Cyfnod Sylfaen yn cael ei datblygu a’i hymestyn?
  3. Sut y bydd ein gweledigaeth ar gyfer dysgu yn adlewyrchu'r deuddeg egwyddor addysgeg?
  4. Pa amgylchedd dysgu y mae angen i ni ei greu i gefnogi ein gweledigaeth ddysgu'n llawn?