English

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am safonau proffesiynol ar gyfer athrawon, arweinwyr, cynorthwywyr addysgu (CA) a chynorthwywyr addysgu lefel uwch (CALU).

Mae safonau proffesiynol yn disgrifio’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymddygiad sy’n nodweddu ymarfer rhagorol ac yn cefnogi twf proffesiynol.

Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud i adolygu ac ailosod y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon ac arweinwyr, ac ymarferwyr sy’n cynorthwyo addysgu mewn ysgolion.

Bwriad y safonau proffesiynol yw:

  • nodi disgwyliadau clir o ran arferion effeithiol yn ystod gyrfa ymarferydd gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, y cyfnod y bydd yn ymuno â’r proffesiwn
  • galluogi ymarferwyr i fyfyrio ar eu harferion, yn unigol ac ar y cyd ag eraill, yn erbyn safonau sy’n nodi arferion effeithiol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a chadarnhau a dathlu eu llwyddiannau
  • cefnogi ymarferwyr i nodi meysydd ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach
  • rhoi cefndir i'r broses rheoli perfformiad

Mae’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn adlewyrchu arferion sy’n gyson â’r cwricwlwm newydd.

Pan fydd ymarferwyr unigol yn ymgymryd â dysgu proffesiynol, dylent fod yn glir ynghylch sut y mae’n cefnogi eu gwaith mewn perthynas â’r safonau proffesiynol.

Cyhoeddwyd y Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth ym mis Medi 2017 ac mae’n ofynnol i athrawon newydd gymhwyso sy’n dechrau ar gyfnod sefydlu ar ôl y dyddiad hwnnw weithio i’r safonau. Bydd athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod sefydlu cyn y dyddiad hwn yn cwblhau eu cyfnod sefydlu o dan yr un safonau a oedd yn weithredol pan ddechreuodd eu cyfnod sefydlu. Mae pob athro ac arweinydd arall wedi symud i’r safonau ers Medi 2018.

Cyhoeddwyd y Safonau ar gyfer cynorthwyo addysgu ar 1 Medi 2019 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mawrth 2019. Anogir ysgolion i ddefnyddio’r safonau gyda’u staff cymorth (cynorthwywyr addysgu a chynorthwywyr addysgu lefel uwch) i adlewyrchu ar eu harfer a nodi dysgu proffesiynol. Nid yw’r safonau yn statudol i staff cymorth ar hyn o bryd ond bydd hyn yn destun ystyriaeth bellach.

Gallwch archwilio’r safonau proffesiynol isod. Gallwch hefyd fynd atynt drwy eich Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg (dolen allanol).

Mae adroddiad terfynol y gwerthusiad annibynnol o’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth a’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu bellach wedi’i gyhoeddi.

Defnyddir canlyniadau'r astudiaeth i wneud argymhellion ar gyfer polisi ac arfer yn y dyfodol ar draws y system gyfan i gefnogi gweithrediad ac effeithiolrwydd y safonau yn y dyfodol.

Dogfennau

Athrawon ac arweinwyr

Staff cymorth ysgol

  • Crynodeb o newidiadau yn sgil ymgynghori pdf 125 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod ymsefydlu cyn 2017

Holl ymarferwyr ysgol

  • Cwestiynau cyffredin pdf 157 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Mae’r safonau proffesiynol hyn yn rhan bwysig o gefnogi pob ymarferwr i ymroi i ddysgu proffesiynol, gyda’r nod o ddatblygu arbenigedd unigol ac ar y cyd er mwyn dylanwadu ar bob dysgwr mewn ffordd gydweithredol, gydlynol, arloesol, gynaliadwy, sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Byddem yn annog cyflogwyr i ystyried sut y gallant ddefnyddio’r safonau proffesiynol hyn i gefnogi dysgu proffesiynol a’u gwneud yn rhan annatod o’u systemau a’u gweithdrefnau presennol.

Mae ymarferwyr yn rhannu eu profiadau o ddefnyddio’r safonau proffesiynol i ddatblygu eu harferion.

Edrychwch ar y fideos ar YouTube