English

Cyflwyniad

Datblygwyd yr adran ‘Galluogi dysgu’ hon yng nghanllaw Cwricwlwm i Gymru er mwyn helpu uwch arweinwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau i gynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm sy’n addysgegol briodol i bob dysgwr. Gellir ei defnyddio hefyd fel adnodd i helpu gwerthuso ansawdd ac effaith dyluniad cwricwlwm ar gynnydd dysgwyr. Bydd o ddiddordeb arbennig i’r rhai sy’n gweithio gyda dysgwyr yn ystod y cyfnod dysgu sy’n arwain at Gam cynnydd 1 (‘y cyfnod dysgu hwn’).

Mae gwerth amlwg i’r cyfnod dysgu hwn. Dylid ei ystyried fel cyfnod sy’n arwain at y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y chwe maes dysgu a phrofiad (Meysydd) a’r disgrifiadau dysgu yng Ngham cynnydd 1. Mae’n darparu’r sylfaen gadarn sydd ei hangen ar yr holl ddysgwyr er mwyn datblygu, yn eu hamser eu hunain, tuag at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Mae’r canllawiau canlynol yn yr adran hon yn canolbwyntio ar y prif egwyddorion sy’n hollbwysig ar gyfer dysgu holistaidd ac ystyrlon yn y cyfnod hwn. Yn greiddiol i hyn mae tair ‘elfen’, sydd wedi eu hadnabod yn y canllawiau hyn fel:

  • oedolion sy’n galluogi dysgu
  • profiadau sy’n ennyn diddordeb
  • amgylcheddau effeithiol

Mae’r elfennau hyn yn gysylltiedig â’i gilydd ac yn dibynnu ar ei gilydd, ac mae’r rhyngweithio rhwng y naill a’r llall yn rhan annatod o’r prosesau addysgu a dysgu ar draws Cwricwlwm i Gymru. Mae’r deuddeg egwyddor addysgegol yn berthnasol i ddylunio cwricwlwm, ond dylid talu sylw arbennig hefyd i’r nodweddion allweddol canlynol, sy’n hanfodol yn y cyfnod dysgu hwn:

  • chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae
  • bod y tu allan
  • arsylwi
  • dysgu dilys a phwrpasol

Wrth ddylunio cwricwlwm, mae gwybodaeth a dealltwriaeth yr ymarferydd o ddatblygiad plant yn hanfodol. Dylai’r broses addysgu a dysgu gynnwys canolbwyntio ar feysydd traddodiadol datblygiad plant, a fynegir yma fel y pum llwybr datblygu:

  • perthyn
  • cyfathrebu
  • archwilio
  • datblygiad corfforol
  • lles

Mae’r llwybrau yn rhoi’r lle canolog i’r plentyn. Maen nhw’n dibynnu ar ei gilydd ac yn gyfwerth o ran cefnogi datblygiad a chynnydd cyffredinol. Bydd y datblygiad o fewn ac ar draws y pum llwybr yn dibynnu ar ansawdd y rhyngweithio rhwng yr ymarferydd a’r dysgwr, ynghyd â’r profiadau a’r amgylcheddau dysgu a gaiff eu creu.

Dylai gwireddu cwricwlwm priodol sicrhau cynnydd o’r llwybrau i’r disgrifiadau dysgu yng Ngham cynnydd 1 i bob dysgwr.

Y tair elfen

Mae’r elfennau a ddisgrifir yn y canllawiau hyn yno i gefnogi pob plentyn yn ystod y cyfnod dysgu hwn. Bydd y canllawiau hefyd o fudd i ymarferwyr sy’n gweithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gan helpu gydag un neu fwy o agweddau ar eu datblygiad.

Dylai ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau ddefnyddio’r canllawiau hyn i archwilio’r ‘sut’ a’r ‘pam’ ynghylch dylunio cwricwlwm ar gyfer y cyfnod dysgu hwn. Er mwyn ysbrydoli a herio plant a phobl ifanc wrth iddyn nhw ddysgu, dylai’r ymarferwyr ganolbwyntio’n benodol ar ansawdd ac effaith y rhyngweithio rhwng y tair elfen allweddol yma.

Oedolion sy’n galluogi dysgu

Mae rôl yr oedolyn yn rhan annatod o gynnydd pob dysgwr, ond mae’n arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod dysgu hwn. Yr oedolyn sy’n galluogi dysgu sy’n gosod y disgwyliad o ran dysgu drwy greu amgylchedd sy’n ddiogel yn emosiynol, gan gefnogi dysgwyr i ddechrau mynegi a rheoli eu teimladau a’u hymddygiad mewn ffyrdd positif. Maen nhw’n gyson o ran gofal, ac yn arddangos empathi a charedigrwydd. Maen nhw’n helpu dysgwyr i ymdopi ag ansicrwydd a newid, gan eu paratoi i ddelio â chyfnodau pontio a newidiadau yn eu harferion dyddiol.

Er mwyn dyfnhau dealltwriaeth o anghenion dysgwyr o ran eu datblygiad, mae’n hanfodol bod oedolion yn arsylwi, yn sylwi ac yn ymateb yn sensitif i’r dysgwyr hynny. Dylen nhw wneud penderfyniadau ynghylch pryd a sut i ymyrryd i helpu dysgwyr yn eu dealltwriaeth. Dylen nhw annog a chefnogi dysgwyr i ddechrau cydweithio i ddatrys problemau.

Mae’r oedolion sy’n galluogi dysgu yn helpu ac yn cefnogi dysgwyr i ddechrau sylweddoli bod eraill yn gallu meddwl a theimlo mewn ffordd sy’n wahanol iddyn nhw. Maen nhw’n ymateb i ddiddordebau’r dysgwyr, yr hyn y maen nhw’n ei hoffi ac nad ydyn nhw’n ei hoffi, ac yn parchu eu dewisiadau, gan eu cefnogi i fynegi eu safbwyntiau a gwneud penderfyniadau.

Mae’r oedolion sy’n galluogi dysgu yn helpu i greu cysylltiadau cryf rhwng cartref y dysgwyr a’r gymuned ehangach, gan gryfhau ymdeimlad y dysgwyr o berthyn, drwy groesawu’r cyfle i drafod eu profiadau yn y gorffennol a’i sefyllfa bresennol. Maen nhw’n gwerthfawrogi ac yn parchu pwysigrwydd cynnwys pawb ynghyd â hunaniaeth dysgwyr o fewn eu cymuned a’r Gymru amlddiwylliannol ehangach. Maen nhw’n hyrwyddo hunaniaeth unigryw yr iaith Gymraeg, a diwylliant a threftadaeth Cymru. Mae’r oedolion sy’n galluogi dysgu hefyd yn annog dysgwyr i ddechrau gwneud cysylltiadau rhwng un iaith a’r llall, gan gynnwys Cymraeg a Saesneg, a rhwng dulliau eraill o gyfathrebu.

Mae’r oedolion sy’n galluogi dysgu yn rhai sy’n ymateb, gan ddod o hyd i donfedd gyfathrebu’r dysgwyr a dehongli sut maen nhw’n cyfathrebu drwy’r hyn y maen nhw’n ei wneud, yn ei ddweud a sut maen nhw’n ymddwyn, gan ymateb yn sensitif i hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth. Maen nhw’n datblygu hyder y dysgwyr i gyfathrebu ag eraill drwy werthfawrogi eu hymdrechion i fynegi eu safbwyntiau, eu teimladau, eu syniadau a’u barn. Maen nhw’n dangos dealltwriaeth bod dysgu cyfathrebu yn broses wahanol ar gyfer pob unigolyn, a bod dysgwyr yn meithrin a datblygu sgiliau yn eu hamser eu hunain.

Mae’r oedolion sy’n galluogi dysgu yn creu amgylchedd sy’n llawn cyfathrebu, gan fodelu nifer o ddulliau i’r dysgwyr fynegi eu hunain. Maen nhw’n ychwanegu at ddealltwriaeth y dysgwyr drwy ryngweithio medrus, gan ehangu ar yr wybodaeth sydd eisoes ganddyn nhw er mwyn eu cefnogi a’u hannog i wneud cysylltiadau â phobl, lleoedd a phethau. Maen nhw’n arddangos sut i ddefnyddio iaith a chysyniadau mewn ffordd briodol yn eu cyd-destun penodol.

Mae’n hanfodol bod yr oedolyn sy’n galluogi dysgu yn helpu i ddatblygu sgiliau’r dysgwyr drwy amrywiol brofiadau a chyfleoedd. Rôl yr ymarferydd yw gweld cyfleoedd i wneud y mwyaf o gysylltiadau trawsgwricwlaidd sy’n tynnu ar wybodaeth a phrofiadau blaenorol y dysgwyr. Maen nhw’n cynnal ansawdd y ddarpariaeth, ac yn addasu eu cynlluniau yn ôl anghenion a diddordebau pob dysgwr.

Mae’r oedolion sy’n galluogi dysgu yn arddangos eu mwynhad eu hun o’r broses ddysgu, gan ddefnyddio chwilfrydedd y dysgwyr er mwyn gwneud y gorau o gyfleoedd dysgu digymell. Gall hyn helpu’r holl ddysgwyr i ddatblygu eu gwydnwch, eu hannibyniaeth a’u hyder drwy eu hannog i gymryd risgiau pan fo’n werth eu cymryd, a rhoi her iddyn nhw eu hunain.

Profiadau sy’n ennyn diddordeb

Dylai profiadau sy’n ennyn diddordeb wneud dysgwyr yn fwy annibynnol, gan gynnig her a chyfle i lwyddo ar hyd eu taith ddysgu. Dylen nhw gynnig cyfleoedd i gyfrannu ar lefel ddofn mewn gweithgareddau a chyfleoedd dysgu ymarferol heb i unrhyw beth dorri ar eu traws, a dylen nhw fod yn seiliedig ar sefyllfaoedd dilys, bywyd go iawn.

Gall profiadau gynnwys dewisiadau’r dysgwyr eu hunain neu gallan nhw ddeillio o ddiddordebau lleol neu gyfoes. Dylen nhw gefnogi datblygiad plentyn yn holistaidd, gan helpu dysgwyr i wneud cysylltiadau rhwng y Meysydd ac ar draws y cwricwlwm.

Dylai profiadau sy’n ennyn diddordeb barchu a gwerthfawrogi’r ffaith bod yr holl ddysgwyr a’u teuluoedd yn unigryw. Dylen nhw adlewyrchu a dathlu dwy iaith swyddogol Cymru, a’i diwylliant a’i threftadaeth gyfoethog.

Dylai profiadau sy’n ennyn diddordeb adlewyrchu’r amrywiaeth ddiwylliannol a geir mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Dylid cynnig profiad o wahanol ieithoedd a diwylliannau mewn ffyrdd sensitif ac ystyrlon sy’n rhoi pwrpas i’r dysgu. Dylai’r profiadau hyn atgyfnerthu hunaniaeth y dysgwyr eu hunain, a datblygu ac ehangu eu dealltwriaeth o gyfoeth ac amrywiaeth Cymru, ddoe a heddiw.

Mae profiadau sy’n ennyn diddordeb yn hanfodol er mwyn cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu. Mae angen profiadau ar ddysgwyr sy’n eu helpu i feithrin gwydnwch emosiynol, a dylen nhw gael amser a chymorth i gydnabod eu teimladau eu hunain a theimladau pobl eraill. Dylid cynllunio’r profiadau yn ofalus er mwyn datblygu sgiliau talu sylw a gwrando’r dysgwyr mewn amrywiol gyd-destunau, y tu mewn a’r tu allan.

Bydd profiadau sy’n ennyn diddordeb yn helpu dysgwyr i sylwi ar a datblygu eu dealltwriaeth o gynrychioli drwy symbolau, a’u helpu i weld bod ystyr iddyn nhw. Dylid rhoi cyfleoedd i ddysgwyr arbrofi gydag ystod o offer a defnyddiau i wneud marciau mewn pob math o gyd-destunau, wrth iddyn nhw ddechrau cysylltu eu marciau ag ystyron. Mae angen profiadau ymarferol ar ddysgwyr sy’n eu hannog i ddefnyddio geirfa fathemategol syml wrth ymchwilio i nifer, rhif, siâp a phatrwm. Dylai profiadau sy’n ennyn diddordeb gefnogi datblygiad gwybyddol y dysgwyr, er enghraifft rhoi cyfleoedd i gymharu, didoli a chategoreiddio pethau byw a phethau anfyw. Mae angen cyfleoedd ar ddysgwyr i archwilio technoleg ddigidol ac arbrofi â hi at ddibenion o bob math.

Dylai’r holl ddysgwyr gael profiadau sy’n eu hannog i fwynhau gweithgarwch corfforol. Mae angen i ystod eang o brofiadau corfforol fod ar gael iddyn nhw yn rheolaidd, y tu mewn a’r tu allan, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar ac adnoddau. Dylen nhw gael profiadau sy’n eu galluogi i ddefnyddio ystod eang o offer a chyfarpar, a hynny gyda rheolaeth gynyddol.

Bydd y profiadau hyn yn helpu dysgwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth o’u cyrff ac o’u gallu i gydsymud, eu cryfder craidd a’u cydbwysedd, yn ogystal â rheolaeth motor bras a manwl. Byddan nhw’n helpu dysgwyr i asesu a rheoli risg, gan eu galluogi i feddwl, ystyried a gwneud penderfyniadau ynghylch eu symudiadau a’u gweithredoedd.

Dylai profiadau ddarparu cyfleoedd i’r dysgwyr ddefnyddio’r holl synhwyrau wrth ymateb i greadigrwydd eraill, mewn ffordd sy’n ysbrydoli’r dysgwyr, a’u helpu i gyfathrebu a mynegi eu hunain yn greadigol. Dylen nhw fod yn gyfleoedd i greu ystod o ddefnyddiau sydd â nodweddion gwahanol, a dewis o’u plith. Dylai’r profiadau hefyd annog dysgwyr i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i’r pedwar diben, yn enwedig o ran creadigrwydd, eu gallu i feddwl yn feirniadol, a datrys problemau.

Gall profiadau sy’n ennyn diddordeb helpu dysgwyr i ddarganfod gwybodaeth am eu hamgylchedd ac i ddatblygu eu gwerthfawrogiad o’r byd o’u cwmpas a’r angen i ofalu amdano. Gall y profiadau hyn gefnogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae pethau’n gweithio, cymryd camau i ddatrys problemau, a datblygu ymwybyddiaeth o achos ac effaith. Dylai dysgwyr allu ymchwilio i sut mae gwrthrychau yn symud a sut maen nhw eu hunain yn symud o gwmpas mewn gofod, a dylen nhw ddod ar draws iaith sy’n disgrifio a chyfarwyddo’r broses o symud. Dylai profiadau sy’n ennyn diddordeb annog dysgwyr i sylwi ar yr amgylchedd sy’n union o’u cwmpas ac yn lleol, gan gynnwys ffenomenau naturiol. Dylai’r profiadau hyn annog dysgwyr i ystyried yr amgylcheddau hyn, a siarad amdanyn nhw.

Amgylcheddau effeithiol

Dylai’r amgylchedd, y tu mewn a’r tu allan, fod yn ganolog i brofiadau bywyd go iawn dysgwyr. Yn ystod y cyfnod dysgu hwn, mae archwilio’r amgylchedd yn allweddol i’w datblygiad. Drwy archwilio eu hamgylchedd, yn y gymuned leol a thu hwnt, mae’r dysgwyr yn dechrau datblygu ymdeimlad o berthyn a gwerthfawrogiad o’r byd o’u cwmpas.

Wrth wireddu’r cwricwlwm, dylai ymarferwyr ystyried nid yr ardaloedd ffisegol yn unig, ond hefyd yr hinsawdd emosiynol sy’n cefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial. Dylai’r amgylcheddau hyn ddarparu profiadau eang ac amrywiol sy’n caniatáu i ddysgwyr fynegi eu hunain yn gorfforol, yn greadigol ac â dychymyg, ac yn caniatáu iddyn nhw ddilyn eu diddordebau, yn annibynnol neu gydag eraill.

Dylai amgylcheddau effeithiol ddathlu amrywiaeth a rhoi gwerth arno, a dylen nhw fod yn gynhwysol. Dylen nhw hyrwyddo ymdeimlad o berthyn fel bod yr holl ddysgwyr yn teimlo’n werthfawr a’u bod yn cael eu cynrychioli. Dylai’r amgylcheddau hyn fod yn llawn cyfathrebu ac yn canolbwyntio ar hyrwyddo sgiliau cyfathrebu cychwynnol gan eu datblygu ymhellach, gan sicrhau bod ystod eang o adnoddau ar gael i ddysgwyr er mwyn ehangu eu geirfa a hwyluso’r broses o ddatblygu cysyniadau. Bydd amgylchedd effeithiol yn sgaffald i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o gysyniadau mathemategol, er enghraifft drwy gyfleoedd gweledol ac ymarferol i ddysgwyr gael profiad o rifau, siapiau a phatrymau mewn cyd-destunau bywyd go iawn, y tu mewn a’r tu allan. Wrth ddarparu amgylcheddau effeithiol, dylid cynnwys cyfryngau digidol ac ystod o adnoddau eraill i wella’r broses ddysgu mewn ffyrdd sy’n briodol o ran datblygiad dysgwyr.

Dylai amgylcheddau effeithiol gynnig cyfleoedd i ddysgwyr gael profiad o ryfeddu; dylai danio chwilfrydedd ynghylch elfennau byw ac elfennau nad ydyn nhw’n fyw, gan ysgogi’r dysgwyr i ymchwilio, datrys problemau, a datblygu eu sgiliau creadigol a’u gallu i feddwl yn feirniadol. Dylai’r amgylchedd hefyd gynnig amser a lle i ystyried, yn ogystal â chyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu sgiliau motor bras a manwl, wrth iddyn nhw herio eu hunain yn gorfforol.

Dylai’r amgylchedd gynnig hyblygrwydd ac amrywiaeth, risg a her, a dylai gefnogi dysgwyr i ddatblygu gwydnwch, hyder ac annibynniaeth. Bydd amgylchedd effeithiol hefyd yn cefnogi meistrolaeth. Bydd yn gwneud hyn drwy ganiatáu cyfleoedd aml ac estynedig i ymarfer, ailadrodd a sefydlu sgiliau a ddysgwyd mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Am fwy o ganllawiau ar addysgeg effeithiol, gweler yr adran Addysgeg.

Datblygiad plant a dylunio cwricwlwm

Mae cynnydd yn ganolog i’r gwaith o ddylunio cwricwlwm. Mae gan yr holl ddysgwyr yng Nghymru yr hawl i gael eu gwerthfawrogi a chael cefnogaeth gadarn i wneud cynnydd ar hyd eu taith ddysgu drwy brofiadau sy’n bwysig ac yn ystyrlon iddyn nhw. Dylai’r daith hon fodloni anghenion yr unigolyn, a dylai ddigwydd ar gyflymder sy’n addas i bob dysgwr unigol.

Er mwyn cwmpasu pob dysgwr, beth bynnag yw’r oedran, cefndir, anghenion neu allu, dylai ymarferwyr ystyried cynnydd o safbwynt holistaidd drwy ddefnyddio egwyddorion datblygiad plant wrth gynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm. Mae’n bwysig cydnabod bod yna gamau graddol y bydd dysgwyr yn eu cymryd wrth iddyn nhw ddatblygu ym mhob maes. Dylai ymarferwyr ddeall y camau hyn wrth gynllunio ar draws cwricwlwm a rhoi amser i ddysgwyr ymarfer, datblygu a mireinio agweddau ar eu dysgu.

Dylai ymarferwyr ymchwilio i’r hyn sy’n cymell dysgwyr, eu dyheadau a’u diddordebau er mwyn datblygu dealltwriaeth o anghenion pob unigolyn, gan ymgorffori llais y dysgwr yn y broses gynllunio. Gall rhoi lle canolog i’r dysgwr, a chydweithio â theuluoedd a phartneriaid eraill sydd ynghlwm wrth gynnydd y dysgwr, helpu i sicrhau datblygiad holistaidd.

Gall datblygu cwricwlwm ymatebol rymuso dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r agweddau sydd eu hangen i ddysgu’n llwyddiannus a gwireddu’r pedwar diben. Gyda chefnogaeth fedrus a sensitif y rhai sy’n eu hadnabod yn dda, bydd diddordeb dysgwyr yn eu haddysg yn fwy, a byddan nhw’n datblygu’n unigolion mwy galluog ac annibynnol, yn barod i gyfrannu yn y byd o’u cwmpas. Byddan nhw’n iachach ac yn fwy hyderus i ryngweithio ag ystod amrywiol o bobl, lleoedd a phrofiadau. Mae hyn yn baratoad da ar gyfer cam nesaf eu taith ddysgu. Dros gyfnod, ar eu lefel eu hunain ac yn eu hamser eu hunain, mae’r dysgwyr yn meithrin perthynas ag eraill, yn datblygu sgiliau bywyd ac yn magu diddordebau personol a fydd yn eu galluogi i gyflawni eu potensial.

Bydd yr holl ddysgwyr yn ennill sgiliau a gwybodaeth yn eu hamser eu hunain, a bydd hyn yn wahanol ym mhob achos. Bydd pa mor gyflym y maen nhw’n gwneud hyn yn amrywio o fewn eu llwybrau cynnydd eu hunain. Dylai ymarferwyr ddefnyddio cyfleoedd arsylwi a gwybodaeth am ddatblygiad plant i gynllunio profiadau dysgu sy’n cefnogi ac yn herio pob dysgwr i ddatblygu tuag at wireddu’r pedwar diben. Wrth i ddysgwyr gyrraedd cerrig milltir yn eu datblygiad, dylen nhw dyfu’n fwy soffistigedig yn eu gallu i hunanystyried a hunanreoli, a datblygu meistrolaeth fwy ar draws ystod ehangach o sgiliau. Dylai eu gwybodaeth gynyddu a dyfnhau, a dylen nhw dyfu’n fwy abl i ddefnyddio’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu a’i roi ar waith. O ganlyniad, dylen nhw ddechrau gwneud cysylltiadau ar draws y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig o fewn y Meysydd.

Wrth ddylunio’r cwricwlwm, dylid canolbwyntio ar alluogi dysgwyr i lywio’u cwrs drwy amrywiaeth eang o brofiadau cyfarwydd ac anghyfarwydd, mireinio sgiliau a’u rhoi ar waith, ac ehangu a dyfnhau gwybodaeth. Gall hyn ganiatáu i ddysgwyr wneud cysylltiadau a throsglwyddo’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu i gyd-destunau newydd.

Y llwybrau datblygu

Wrth gynllunio a gweithredu cwricwlwm, dylai ymarferwyr ystyried y pum llwybr datblygu hyn, sy’n hanfodol i ddatblygiad pob dysgwr yn y cyfnod dysgu hwn. Gall ymarferwyr eu defnyddio i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi i symud ymlaen yn eu hamser eu hunain ac yn yr amgylchedd dysgu sydd orau ganddyn nhw. Mae hyn yn bwysig i bob dysgwr, ond yn enwedig i ddysgwyr iau a dysgwyr sydd ag ADY efallai neu broffiliau datblygu anghyson.

Bydd defnyddio’r pum llwybr yn holistaidd wrth gynllunio cwricwlwm yn atgyfnerthu dysgu dilys a phwrpasol, ac yn sicrhau fod pob dysgwr yn gwneud cynnydd o fewn ac ar draws y Meysydd i gyd.

Perthyn

Mae ymdeimlad o berthyn yn elfen hanfodol o hapusrwydd a lles. Mae’n llywio ymwybyddiaeth dysgwr o bwy ydyw a phwy y gall dyfu i fod, a dylai fod yn sail i ethos pob ysgol a lleoliad. Yn ystod y cyfnod dysgu hwn, mae plant a phobl ifanc yn dechrau datblygu ymwybyddiaeth o’u lle yn y grwpiau a’r cymunedau lawer y maen nhw’n perthyn iddyn nhw, yn ogystal ag ymdeimlad o’u pwysigrwydd o’u mewn. Dylai ysgolion a lleoliadau ddatblygu ethos sy’n meithrin cydberthnasau cryf a diogel, gan fod y rhain yn hollbwysig i bob dysgwr ddatblygu ymdeimlad cryf o berthyn.

Gall ymdeimlad cryf o berthyn fod yn gymorth i greu teimladau positif o gysylltiad rhwng yr holl ddysgwyr a’u cartrefi yn ogystal â’u hysgolion neu leoliadau. Gall hyn ymestyn hefyd i’r gymuned, i Gymru ac i’r byd ehangach. Gall ysgolion a lleoliadau sy’n gwerthfawrogi, yn dathlu ac yn adeiladu ar brofiadau’r gorffennol a’r presennol o gartrefi’r dysgwyr a’u cymuned gryfhau ymdeimlad o berthyn. Cyfrifoldeb yr ysgolion a’r lleoliadau yw sicrhau bod dysgwyr yn teimlo’n ddiogel o fewn eu hamgylchedd, a dangos gwir ofal a darparu cefnogaeth emosiynol.

Cyfathrebu

Mae cyfathrebu yn hanfodol i ddatblygiad dysgwyr. Mae’n hollbwysig er mwyn creu perthynas ag eraill, ac er mwyn dysgu, chwarae a rhyngweithio’n gymdeithasol. Mae cyfathrebu yn golygu datblygu sgiliau talu sylw, gwrando a deall, ochr yn ochr â sgiliau geirfa a mynegi.

Mae faint o iaith y mae dysgwyr yn dod ar ei draws a’r math maen nhw’n cael profiad ohono wrth ryngweithio yn gallu cael effaith nodedig ar eu datblygiad o ran sgiliau cyfathrebu. Dylai ymarferwyr wneud y mwyaf o gyfleoedd rhyngweithio i gefnogi dysgwyr i ddeall eraill a mynegi eu hunain. Mae dysgwyr yn ennill a datblygu sgiliau ar eu cyflymder eu hunain, a gall ymarferwyr eu cefnogi o ran datblygiad iaith drwy fodelu sut i wrando ar eraill a siarad at ddibenion gwahanol.

Wrth gynllunio cwricwlwm, dylai ymarferwyr ddarparu amgylchedd sy’n cefnogi dysgwyr i fynegi a chyfathrebu eu hanghenion, eu meddyliau a’u teimladau. Mae datblygu sgiliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd effeithiol yn bwysig er mwyn mynegi eu hunain, datblygu cysylltiadau cymdeithasol cryf ac er mwyn dysgu’n fwy cyffredinol.

Archwilio

Mae chwilfrydedd dysgwyr ynghylch y byd o’u cwmpas yn gymhelliad cryf iddyn nhw fynd ati i archwilio. Dylai ymarferwyr adeiladu ar chwilfrydedd dysgwyr yn ystod digwyddiadau bob dydd, er mwyn iddyn nhw ryfeddu a chael eu hysbrydoli. Dylai dysgwyr gael y cyfle i archwilio ac ymchwilio ar eu pen eu hunain, a chydag eraill, er mwyn rhannu eu llawenydd wrth ddarganfod gwybodaeth neu sgiliau newydd, dysgu oddi wrth ei gilydd, a dathlu eu cyflawniadau eu hunain a chyflawniadau eu cyfoedion. Dylid annog dysgwyr i geisio gwybodaeth a sgiliau sydd eisoes o fewn cwmpas eu gallu ac sydd y tu hwnt i hynny. Gyda’r gefnogaeth briodol, gallan nhw ganolbwyntio ar bethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw am gyfnodau estynedig. Wrth i’w sgiliau archwilio ddatblygu gallan nhw fireinio ac ymarfer eu sgiliau, a rhoi damcaniaethau sy’n dod i’r amlwg ar brawf ar eu pen eu hunain neu gydag eraill.

Mae dysgu yn golygu datblygu sgiliau, gwybodaeth a gallu yn raddol mewn ffyrdd cynyddol gymhleth. Gall amgylcheddau cynhwysol, y tu mewn a’r tu allan, sy’n rhoi amser a chyfle i archwilio, chwarae ac ymchwilio, lle mae oedolion yn ymwybodol o ddiddordebau dysgwyr, helpu i feithrin agweddau positif at ddysgu, yn ogystal â chynyddu gwybodaeth a sgiliau.

Datblygiad corfforol

Mae gweithgarwch corfforol a symud yn hanfodol i ddatblygiad pob dysgwr, ac mae’n gysylltiedig â sgiliau gwybyddol a dysgu. Mae ymgymryd â gweithgareddau corfforol yn cynyddu ymdeimlad dysgwr o berthyn a lles. Gall hefyd gyfrannu at lefelau uwch o ganolbwyntio, cymhelliant a chofio, yn ogystal â datblygu esgyrn a chyhyrau iach.

Dylai ymarferwyr ddarparu digon o gyfleoedd i symud, a dylen nhw ddeall y berthynas bwysig rhwng hynny a dysgu. Fel rhan o’u datblygiad mae ar bob dysgwr yr angen naturiol i symud, neu i gael ei symud, ac i symud gwrthrychau a’u trin a’u trafod. Mae hyn yn golygu defnyddio sgiliau motor bras a manwl. O gael cyfle ac amser i ymarfer, bydd y dysgwr yn dysgu mireinio’r symudiadau motor hyn a’u cydgysylltu’n llyfnach. Mae ail-wneud yr un symudiad a’i amrywio yn hollbwysig i ddatblygiad dysgwyr wrth iddyn nhw ddechrau archwilio eu gallu corfforol cynyddol ac wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy annibynnol.

Lles

Mae teimlo cysylltiad a theimlo’n ddiogel yn elfennau hanfodol o les cadarnhaol. Mae’r oedolion, y profiadau a’r amgylcheddau y mae dysgwyr yn dod ar eu traws yn dylanwadu arnyn nhw. Dylai’r tair elfen hon gydweithio i ddarparu’r cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu hiechyd emosiynol, cymdeithasol a chorfforol i greu ymdeimlad cryf o les.

Dylai ymarferwyr greu amgylcheddau sy’n ddiogel yn emosiynol lle gall dysgwyr ddechrau adnabod a rheoli eu teimladau a’u hymddygiadau mewn ffyrdd positif. Gallan nhw hefyd helpu dysgwyr i ddechrau deall fod canlyniadau i’w gweithredoedd

Dylai ymarferwyr ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu ymlyniadau a chydberthnasau diogel ag eraill, er mwyn teimlo’n hyderus ynddyn nhw eu hunain a bod mewn sefyllfa well i wneud dewisiadau, cymryd risgiau, meithrin gwydnwch ac annibyniaeth, a chymryd rhan bositif mewn gweithgareddau bob dydd.