English

Model

Lansiodd Llywodraeth Cymru y dull Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu (SLO) yn 2017 i gefnogi ysgolion i baratoi am y cwricwlwm newydd yn 2022.

Canllawiau ar ein model i gefnogi cyflwyniad y cwricwlwm newydd.

Cynnydd

Adolygwyd ein cynnydd i ddatblygu ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu gan yr OECD yn 2018. Gweler yr adroddiad terfynol am ragor o fanylion.

Mae mwyafrif yr ysgolion bellach yn datblygu fel sefydliadau dysgu ac yn defnyddio'r model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu fel sail ar gyfer datblygiad parhaus.

Y man cychwyn i ysgolion ddechrau eu taith yw'r arolwg Ysgolion fel sefyliadau sy’n dysgu. Gall ysgolion ailadrodd yr arolwg yn flynyddol i gefnogi eu taith dysgu proffesiynol.

Bydd canlyniadau'r arolwg yn amlygu cryfderau allweddol, meysydd i'w datblygu a ffyrdd o weithio.

Mae'r arolwg Ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu 2023 i 2024 bellach yn fyw (sylwer: mae angen i chi fod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif Hwb er mwyn gweld yr arolwg hwn). Bydd yr arolwg ar gael drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Am ymholiadau yn ymwneud â'r arolwg, cysylltwch â slo@llyw.cymru

Cyfarwyddiadau: fideo awgrymiadau cyflym (2.5 munud)



I gael cefnogaeth bellach cysylltwch â:

Ann Bradshaw: Cynghorydd proffesiynol Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu

BradshawA23@hwbcymru.net