English

Mae'r adran hon yn archwilio natur Cwricwlwm i Gymru. Mae creu dealltwriaeth gyffredin o'r egwyddorion hyn yn bwysig i’r cwricwlwm, gan gynnwys dulliau o feithrin cynnydd ac asesu, gael eu deall a’u gwireddu’n gyson ar draws Cymru.

Mae dau fideo yn yr adran hon sy'n archwilio syniadau allweddol am theori ac ymarfer y cwricwlwm, a sut mae'r rhain yn cyd-gysylltu â Chwricwlwm i Gymru.

Sut ydyn ni'n deall Cwricwlwm i Gymru?

Mae'r fideo hwn yn cyflwyno dau gyd-destun sy'n helpu i greu dealltwriaeth gyffredin o Gwricwlwm i Gymru:

  • y duedd ryngwladol tuag at greu 'cwricwla’r unfed ganrif ar hugain'
  • modelau cwricwlwm: yn enwedig y dull o gynllunio cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar broses

Mae'r syniadau allweddol a gyflwynir yn y fideo hwn yn darparu sail ar gyfer meddwl am Gwricwlwm i Gymru fel un sy'n cyd-fynd orau â dull sy’n canolbwyntio ar broses.

Seminar 1: Y dull o weithredu’r cwricwlwm a dysgu sy’n canolbwyntio ar broses

Cafodd y seminar hon ei chreu i gefnogi gwaith meddwl a gwaith y grŵp cyd-ddatblygu. Mae'n archwilio'n fanylach beth mae dull sy’n canolbwyntio ar broses yn ei olygu wrth greu cwricwlwm, beth mae'n ei olygu i le gwybodaeth yn y cwricwlwm a beth mae'n ei olygu i rôl yr athro.

Mae cwestiynau i'w trafod wedi'u cynnwys ar ddiwedd y fideo sy'n canolbwyntio ar yr hyn y gallai'r dull sy’n canolbwyntio ar broses ei olygu i'ch dysgwyr.

Gellir lawrlwytho taflen argraffadwy o'r sleidiau a ddefnyddiwyd i greu'r fideo hwn ochr yn ochr â thrawsgrifiad llawn.

Mae'r trosolwg hwn yn archwilio cydlyniad y cwricwlwm ymhellach, ac mae'n cynnwys cwestiynau i gefnogi ysgolion a lleoliadau i fyfyrio ar gydlyniad wrth ddylunio'r cwricwlwm.

  • Cydlyniant y cwricwlwm pdf 156 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath

Crëwyd y deunyddiau yma i gefnogi gwaith meddwl y grŵp cyd-ddatblygu ar fodelau'r cwricwlwm a'r hyn y mae pob un o'r modelau hyn yn ei olygu ar gyfer creu'r cwricwlwm yn ymarferol.

Mae deall y gwaith meddwl hwn yn helpu ymarferwyr i alinio'r cwricwlwm, asesu ac addysgeg â'r modelau sy'n sail i'r fframwaith cwricwlwm y maent yn gweithio gydag ef.

Mae cwestiynau wedi'u cynnwys er mwyn i unigolion a grwpiau o ymarferwyr fyfyrio ar eu dulliau eu hunain o addysgu mewn perthynas â modelau'r cwricwlwm.

  • Dulliau o greu cwricwlwm pdf 204 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath