ChatGPT
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'ChatGPT', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Ymwadiad
Mae tirwedd deallusrwydd artiffisial (AI) yn newid yn gyflym. Oherwydd amlder uchel newidiadau yn y gofod hwn, mae angen i chi fod yn ymwybodol bod y canllaw ap ChatGPT hwn yn gywir fel ag y mae ym mis Rhagfyr 2024.
Sgwrsfot a ddatblygwyd gan OpenAI yw ChatGPT. Cafodd ei lansio ym mis Tachwedd 2022 ac mae ar gael ar ei wefan, Google Play Store neu o’r Apple App Store. Mae ChatGPT yn defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i ffurfio ymatebion a chyfathrebu â defnyddwyr. Gall defnyddwyr ddefnyddio ChatGPT i gynhyrchu cynnwys, megis gofyn iddo ysgrifennu stori fer neu draethawd, creu cod cyfrifiadur, neu gynorthwyo gyda thasg a wna’r defnyddiwr. Mae ChatGPT yn amlwg iawn ar X (a elwir gynt yn ‘Twitter’) ac YouTube, ac mae cymunedau o selogion ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol fel Reddit a TikTok.
Mae ChatGPT hefyd yn cael sylw sylweddol gan ddarparwyr newyddion rhyngwladol blaenllaw. Ar hyn o bryd, mae ChatGPT yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, er ei bod yn ofynnol i ddefnyddwyr greu cyfrif cyn gallu gwneud hynny. Mae fersiwn premiwm o ChatGPT hefyd, am dâl tansygrifio misol. Mae yna hefyd ddau fersiwn premiwm o ChatGPT sy'n caniatáu i ddefnyddwyr deilwra ChatGPT i'w hanghenion penodol a cheisiadau am gost fisol. Mae defnyddwyr yn gallu defnyddio GPTs wedi’u teilwra i’w hanghenion hefyd, heb dalu cost.
Er bod ChatGPT yn gallu cefnogi sawl GPT y gellir eu haddasu a’u teilwra erbyn hyn, dim ond ar ChatGPT a gynigir gan OpenAI y bydd y canllaw hwn yn canolbwyntio.
Sgôr oedran swyddogol
Y cyfyngiad oedran lleiaf i gofrestu am gyfrif ChatGPT yw 13, fodd bynnag, nid yw’n ymddangos bod ganddo unrhyw ddulliau dilysu oedran trwyadl ac nid oes angen cyfrif i ddefnyddio’r platfform.
Mae defnyddwyr o dan 13 oed yn cael eu hatal rhag cofrestru ar gyfer ChatGPT a defnyddio ei wasanaethau, ar yr amod bod y dyddiad geni cywir yn cael ei gofnodi.
Mae defnyddwyr dan 18 oed angen caniatâd rhiant neu ofalwr i ddefnyddio’r ap.
Nid oes unrhyw wahaniaethau o ran cynnwys na gallu defnyddio platfform i ddefnyddwyr o dan 18 oed.
Mae ein ‘canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’ yn cynnwys rhagor o fanylion am gyfyngiadau oedran.
Sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio’r ap
Mae llawer o blant a phobl ifanc eisoes yn ymgysylltu â sgwrsfotiaid AI ar ystod o apiau a phlatfformau, er enghraifft Snapchat, sydd wedi integreiddio’r GPT3 (Model Iaith Mawr AI a gynhyrchwyd gan Open AI) i greu ei sgwrsfot ei hun ar blatfform Snapchat.
Mae ChatGPT ei hun yn ap sy’n dod i’r amlwg ymhlith plant a phobl ifanc. Mae sgwrsfotiaid AI, fel ChatGPT, yn boblogaidd gyda defnyddwyr iau ar y cyfan oherwydd eu gallu i ddarparu gwybodaeth sydyn am ystod di-ben-draw o bynciau, yn ogystal â’u rhyngwyneb cyfeillgar a sgyrsiol.
Mae rhai pobl ifanc yn hoffi defnyddio ChatGPT i helpu i ddadansoddi ac ailwampio eu CV neu lythyr eglurhaol ar gyfer eu swyddi cyntaf. Mae pobl ifanc eraill wedi defnyddio ChatGPT fel tiwtor ar gyfer cysyniadau penodol, megis dysgu sut i godio. Mae hefyd yn bosibl defnyddio’r ap i gael gafael ar wybodaeth sylfaenol am bwnc, fel digwyddiad hanesyddol, cyn chwilio yn rhywle arall am ragor o wybodaeth. Ar y llaw arall, efallai y bydd pobl ifanc yn ceisio defnyddio ChatGPT fel cyfrwng creadigol i ddatblygu syniadau am straeon neu gymeriadau.
Mae ChatGPT wedi bod yn ddadleuol gan fod rhai pobl ifanc wedi ei ddefnyddio i gwblhau eu gwaith ysgol. Yn ogystal, mae rhai pobl ifanc wedi ymgynghori â ChatGPT am gyngor lles meddwl, yn groes i argymhellion OpenAI.
“Mae’n fy helpu i ddeall pethau a chysyniadau penodol. Mae’n egluro pethau mewn ffyrdd llai cymhleth.” (Plentyn, 13 oed).
Nodweddion a therminoleg allweddol
Risgiau posibl
Cynnwys
Mae’r holl gynnwys sy’n cael ei gynhyrchu ar ChatGPT wedi’i sbarduno gan ddefnyddwyr, sy’n golygu mai dim ond cynnwys maen nhw wedi gofyn i’r ap ei rannu gyda nhw fydd defnyddwyr yn ei weld. Os oes gan blentyn ddiddordeb mewn cynnwys niweidiol (oherwydd eu bod yn agored i niwed mewn ffyrdd eraill, efallai) ac yn chwilio amdano ar yr ap, mae risg ynghlwm wrth hynny oherwydd bod y mesurau diogelu i’w atal rhag dod o hyd i gynnwys o’r fath yn brin. Mae gan ChatGPT fesurau diogelwch cyfyngedig ar waith i’w atal rhag trafod ystod o bynciau a allai fod yn amhriodol, megis sgyrsiau erotig, gweithgareddau anghyfreithlon a gweithgareddau niweidiol.
Er gwaetha’r mesurau diogelu sydd ar waith, ni ddylid dibynnu arnyn nhw yn llwyr, gan fod defnyddwyr wedi gallu dod o hyd i ffyrdd o dorri’r mesurau diogelu hyn a’u rhannu. Siaradwch â’ch plentyn am y risgiau o ddefnyddio ChatGPT fel ffynhonnell wybodaeth, yn enwedig o ran pynciau a allai fod yn anaddas neu’n niweidiol. Anogwch eich plentyn i siarad â chi neu oedolyn dibynadwy arall os yw’n darllen rhywbeth ar ChatGPT sy’n peri gofid.
Mae ChatGPT, yn ei delerau defnydd, yn nodi y gall gynhyrchu gwybodaeth anghywir o bryd i'w gilydd o ganlyniad i ddysgu ar beiriannau. Pan fydd defnyddiwr yn cyflwyno cais, mae’r dechnoleg AI yn casglu gwybodaeth am bwnc o ddeunydd cyfredol sydd eisoes ar-lein ac yn ei chrynhoi mewn fformat cynhwysfawr a darllenadwy. Ni all y dechnoleg AI sy’n cael ei defnyddio ar ChatGPT wahaniaethu rhwng gwybodaeth ffeithiol gadarn a gwybodaeth ffug, felly mae perygl y gallai fod yn cyflwyno gwybodaeth anghywir.
Mae’n bosibl y gallai ChatGPT gynhyrchu camwybodaeth am bwnc penodol. Yn yr un modd, gallai defnyddwyr fod yn agored i fathau o dwyllwybodaeth, gwybodaeth ffeithiol anghywir sy’n cael ei chreu a’i rhannu gyda’r bwriad o dwyllo’r darllenydd. Ar hyn o bryd, nid yw ChatGPT yn rhannu ei ffynonellau gwybodaeth gyda defnyddwyr, felly gall fod yn anodd sefydlu pa mor ddibynadwy yw’r wybodaeth y mae’n ei darparu. Dylai rhieni a gofalwyr nodi nad yw’r wybodaeth sy’n cael ei chynhyrchu gan ChatGPT yn cael ei sicrhau am ansawdd, ac nad yw ffynonellau gwybodaeth yn cael eu gwirio na’u rhannu mewn atebion.
Ni fydd cyfeiriad o reidrwydd at wybodaeth neu bethau sydd wedi digwydd ers y dyddiad hwnnw. Siaradwch â’ch plentyn ynglŷn â sut i adnabod camwybodaeth a gwirio ffeithiau maen nhw wedi eu gweld ar yr ap. Anogwch eich plentyn i siarad â chi os yw wedi bod yn agored i gynnwys ar ChatGPT sydd wedi peri gofid neu ddryswch iddo ef neu hi.
Mae potensial i ddefnyddwyr iau ddod ar draws iaith nad yw’n addas neu’n briodol i’w hoedran o fewn y sgyrsiau. Gall defnyddwyr ofyn i ChatGPT osgoi dweud geiriau neu ymadroddion penodol unrhyw bryd yn ystod sgwrs, a bydd yn ceisio dilyn y cyfarwyddyd hwn gystal ag y mae’n gallu. Os yw defnyddiwr yn dechrau’r cyfarwyddiadau gyda’r gair ‘Remember’, bydd y gair hwnnw’n cael ei ychwanegu at gof neu ‘Memory’ ChatGPT, sy’n golygu na fydd yn defnyddio’r gair hwnnw tan gaiff y cyfarwyddyd hwnnw ei dynnu o’r cof. Er y gall hyn helpu i leihau amlygiad i gysyniadau neu iaith a allai beri dryswch i’ch plentyn, dylai defnyddwyr nodi’r posibilrwydd na fydd ChatGPT bob amser yn llwyddo i hidlo gair neu ymadrodd er gwaethaf y cyfarwyddyd i wneud hynny.
Cysylltu ag eraill
Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl cysylltu ag eraill drwy ChatGPT. Mae hyn yn golygu nad yw defnyddwyr yn gallu rhyngweithio ag unrhyw ddefnyddwyr eraill ar yr ap.
Gall defnyddwyr ddefnyddio ChatGPT i drafod pobl maen nhw’n eu hadnabod mewn bywyd go iawn, er bod defnyddwyr yn cael eu hannog yn fawr i beidio â rhannu manylion personol sensitif am y person hwnnw. Mae ChatGPT yn rhybuddio’r defnyddiwr rhag datgelu manylion personol amdanyn nhw’u hunain neu eraill os ydyn nhw’n yn gwneud hynny mewn sgwrs. Siaradwch â’ch plentyn am bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar-lein.
Dylai rhieni a gofalwyr hefyd gynghori eu plant i drin eu sgyrsiau gyda ChatGPT fel sgyrsiau mewn lle cyhoeddus gyda dieithryn. Argymhellir bod rhieni a gofalwyr yn holi eu plant yn rheolaidd am eu sgyrsiau gyda ChatGPT.
Ymddygiad defnyddwyr
Mae nodweddion ChatGPT yn cyflwyno rhai risgiau ymddygiad yn y byd go iawn i ddefnyddwyr iau. Adroddwyd bod rhai pobl ifanc wedi cael eu dal yn defnyddio sgwrsfotiaid AI fel ChatGPT i gynorthwyo gyda gwaith ysgol. Atgoffwch eich plentyn y byddai unrhyw gynnwys a ysgrifennwyd gan ChatGPT a’i gyflwyno fel ei waith ei hun yn cael ei ystyried yn lên-ladrad ac y gallai arwain at ganlyniadau amrywiol yn eu hysgol ac o ran eu dewisiadau gyrfa yn y dyfodol.
Mae risg hefyd y byddai rhai defnyddwyr yn dod yn ddibynnol ar gyflymder ChatGPT a’r wybodaeth y mae’n ei darparu, sy’n cael ei chynnig mewn ffordd glir a chynhwysfawr mewn mater o eiliadau. O’i gymharu ag ymchwilio i bwnc drwy beiriannau chwilio traddodiadol, mae defnyddio ChatGPT yn cynnig atebion i ddefnyddwyr ar unwaith.
Er y gallai’r uniongyrchedd sy’n cael ei gynnig gan yr ap ymddangos yn ddeniadol i rai defnyddwyr, mae’n bwysig bod eich plentyn yn deall na all ddibynnu’n unig ar y wybodaeth sy’n cael ei darparu gan ChatGPT. Yn lle hynny, siaradwch gyda’ch plentyn am bwysigrwydd croesgyfeirio’r wybodaeth y mae’r ap yn ei darparu gyda ffynonellau dibynadwy.
Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn deall mai adnodd deallusrwydd artiffisial yw ChatGPT a dim byd arall, ac nad oes pobl go iawn yn rhan o’r broses sgwrsio. Mae’r gallu gan ChatGPT i drafod unrhyw bwnc dan haul bron iawn, gan gynnwys cynnig cyngor. Er gwaethaf datganiad OpenAI na ddylid defnyddio’r ap fel ffynhonnell cyngor, mae’n gallu bod yn anodd i berson ifanc ddeall hynny, a lliniaru’r cyngor, yn enwedig os ydyn nhw’n agored i niwed neu mewn argyfwng. Atgoffwch eich plentyn y dylai siarad ag oedolyn neu linell gymorth ddibynadwy bob amser os yw angen cyngor neu gymorth gyda mater trafferthus, ac nad yw sgwrsfot AI yn ddewis amgen addas.
Dylunio, data a chostau
Mae rhyngweithiadau gyda ChatGPT, boed trwy destun neu lais, yn cael eu casglu a’u hadolygu gan OpenAI fel data defnyddwyr, er y gall defnyddwyr optio allan o'r opsiwn hwn trwy ddilyn y camau a restrir yn adran ‘Rheoli preifatrwydd’ y canllaw hwn. Mae OpenAI yn nodi bod hyn er mwyn gwella cywirdeb a gallu ChatGPT. Mae hyn yn golygu y bydd gwybodaeth bersonol sy’n cael ei rannu mewn sgwrs â ChatGPT o bosibl yn cael ei gweld neu ei chlywed gan ‘hyfforddwyr AI’ dynol ChatGPT.
Atgoffwch eich plentyn am y risgiau ynghlwm wrth ddatgelu gwybodaeth bersonol ar-lein a siaradwch â nhw am oblygiadau rhannu data personol â’r platfform.
Hefyd, mae gan ddefnyddwyr addasu ChatGPT mewn sawl ffordd. Mae elfennau fel ‘Memory’ yn caniatáu i ChatGPT gofio manylion penodol am y defnyddiwr, fel ei ddymuniadau neu ffeithiau amdano’i hun, megis ei hoff anifail neu liw. Gall defnyddwyr ddefnyddio’r elfen ‘Customise ChatGPT’ hefyd i addasu ei ryngweithiau â ChatGPT ymhellach. Fodd bynnag, fel unrhyw ryngweithio â ChatGPT, fe allai OpenAI gasglu’r cyfarwyddiadau penodol hyn fel data a’u defnyddio i hyfforddi a gwella ChatGPT. Gallwch analluogi hyn yn y gosodiadau ‘Data control’, ac mae’r camau i wneud hyn ar gael yn adran ‘Rheoli preifatrwydd’ y canllaw hwn.
Gall defnyddwyr ddefnyddio nodwedd ‘Temporary chat’ ChatGPT i leihau faint o ddata sy’n cael ei gasglu. Mae OpenAI yn dweud nad yw data am ddefnyddwyr yn cael ei gasglu o sgyrsiau dros dro, ac y bydd unrhyw gyfarwyddyd arbennig trwy ‘Customise ChatGPT’ yn dal i weithio. Fodd bynnag, dylai defnyddwyr gofio na fydd ChatGPT yn cofio unrhyw sgyrsiau blaenorol. Hefyd, nid oes gan ChatGPT fynediad at ‘Memories’ mewn sgwrs dros dro, sy’n golygu na fydd yn cofio unrhyw fanylion neu ddymuniadau y mae’r defnyddiwr wedi gofyn iddo eu cofio.
Yn wahanol i lawer o apiau eraill, nid oes unrhyw hysbysebion trydydd parti neu hysbysebion wedi’u targedu’n benodol ar ChatGPT. Hefyd, nid yw’r ap yn cynnig cyfleoedd i brynu yn yr ap. Fodd bynnag, mae defnyddwyr yn cael yr opsiwn i uwchraddio eu cynllun ChatGPT i naill ai 'ChatGPT Plus', neu 'ChatGPT Team'. Mae'r ddau opsiwn yn rhoi mynediad â blaenoriaeth i ddefnyddwyr yn ystod y galw mawr, nodweddion cyfoes, offer ychwanegol fel DALL-E a 'Pori', a'r gallu i greu a phori GPTau wedi'u teilwra. Siaradwch â’ch plentyn am sut mae tanysgrifiadau’n gweithio a’u hatgoffa mai strategaeth fusnes yw hon i Open AI wneud arian, yn hytrach na chynnig budd enfawr i ddefnyddwyr.
Awgrymiadau ar gyfer cadw’ch plentyn yn ddiogel
Awgrymiadau ychwanegol
Mae OpenAI wedi cyhoeddi tudalen cwestiynau cyffredin a allai helpu i ateb cwestiynau eraill am ChatGPT.
Mae rhestr hirach o ‘All things ChatGPT’, sy’n cynnwys mwy o gwestiynau ac atebion, wedi’i chyhoeddi.
Dylai rhieni a gofalwyr fod yn ymwybodol o apiau sgwrsfot eraill sydd ar gael ar Android ac iOS sy’n hysbysebu eu hunain fel ChatGPT neu’n ymdebygu i ChatGPT, ond mae’n bosib nad yw’r un mesurau diogelwch a chefnogaeth ar waith â’r fersiwn a ddatblygwyd gan OpenAI.
Yn ogystal, er bod ChatGPT yn adnodd rhad ac am ddim a chyhoeddus sy’n gallu cynorthwyo a sgwrsio â defnyddwyr mewn modd cyfeillgar, dylid nodi mai ei ddiben pennaf yw bod yn adnodd ymchwil, wedi’i gynllunio i ddeall sut mae deallusrwydd artiffisial yn dysgu ac yn rhyngweithio â defnyddwyr dynol. Efallai y bydd rhieni a gofalwyr eisiau trafod ymddygiad moesegol ar-lein gyda’u plant cyn iddyn nhw ddefnyddio ChatGPT.
Mae mwy o wybodaeth am sgwrsfotiaid AI, fel ChatGPT, ar gael yn yr adnodd hwn.