English
logo Safer Schools

Cynhyrchwyd y cyngor canlynol gan Safer Schools i gefnogi sgyrsiau gwybodus am sgwrsfot deallusrwydd artiffisial (DA). Mae'r canllaw yn amlinellu rhai o'r pryderon diogelwch i blant a phobl ifanc, ochr yn ochr â'r manteision swyddogaethol a hwyliog.


Math o ddeallusrwydd artiffisial yw sgwrsfotiaid sydd wedi'u cynllunio i ryngweithio â defnyddwyr mewn modd sgyrsiol. Yn wahanol i roi cwestiwn yn Google, mae sgwrsfot DA yn rhoi mwy o gyd-destun i'r ateb. Felly, yn hytrach na darparu rhestr o ddolenni neu frawddeg fer neu ddwy am esboniad, gall sgwrsfot roi ateb helaeth y gallwch adeiladu arno a'i fireinio trwy sgwrs.

Gyda gwybodaeth wedi'i rhaglennu ymlaen llaw o biliynau o ddarnau o wybodaeth, gellir gofyn i'r sgwrsfotiaid ddarparu ystadegau, ysgrifennu cod, a hyd yn oed greu rhyddiaith greadigol. Gallwch hefyd ofyn cwestiynau sy'n benodol iawn, rhywbeth a all fod yn anodd ei wneud ar beiriant chwilio!

Y sgwrsfot DA mwyaf poblogaidd y mae’n bosib eich bod chi wedi clywed amdano yn ddiweddar yw ChatGPT. Ar ôl ei lansio ddiwedd 2022, daeth y ddyfais yn boblogaidd iawn ar-lein yn gyflym iawn, gyda 13 miliwn o bobl yn ei ddefnyddio bob dydd ym mis Ionawr 2023.

Mae ChatGPT yn bell o fod yr unig sgwrsfot DA sydd ar gael. Mae gan gwmnïau a phlatfformau technoleg eraill eu fersiwn eu hunain, fel 'Bard' DA Google. Yn wahanol i gyflenwad gwybodaeth ChatGPT nad yw’n mynd tu hwnt i 2021, mae Bard yn cymryd ei ymatebion yn uniongyrchol o beiriant chwilio Google.

Rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed o leiaf ond mae angen caniatâd eu rhieni neu warcheidwaid ar bobl ifanc dan 18 oed.

Pam mae ChatGPT mor boblogaidd?

Os ydych chi erioed wedi bwrw'r wal wrth ysgrifennu gyda diwrnod cyflwyno aseiniad ar y gorwel neu wedi meddwl sut i wneud i naws e-bost fod yn fwy proffesiynol, mae'n hawdd gweld sut y gallech gael eich temptio gan sgwrsfot. O ysgrifennu cerdd bersonol ar gyfer eich anwylyd ar Ddydd Santes Dwynwen i gasglu ystadegau yn gyflym i gefnogi dadl ar y cyfryngau cymdeithasol, gall sgwrsfotiaid ymddangos fel cam cyflym at lwyddiant.

Mae yna elfen hwyliog iddo hefyd: mae gofyn i DA ysgrifennu hanes tomatos yn arddull Shakespeare yn ddoniol iawn. Fodd bynnag, wrth i ysgolion a phrifysgolion barhau i wahardd defnyddio sgwrsfotiaid, a straeon brawychus am ymatebion amhriodol yn dod i'r amlwg, mae'n bwysig ystyried y pryderon diogelwch ynghylch plant a phobl ifanc, ochr yn ochr â'r manteision swyddogaethol a hwyliog i oedolion.

ChatGPT4

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Open AI, crewyr ChatGPT, y fersiwn ddiweddaraf, gyda’r teitl bachog ‘GPT4’. Lle'r oedd gan y sgwrsfot hŷn siawns 10% o lwyddo yn arholiad y bar, byddai gan y fersiwn newydd siawns 90% o fod yn gyfreithiwr cymwys. Wrth lwc, dydyn nhw ddim yn rhoi awdurdodaeth gyfreithiol i DA eto!

Terfynau Oedran Amwys

Mae telerau defnyddio ChatGPT yn nodi bod yn rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed o leiaf, ac mae angen caniatâd rhieni neu warcheidwad ar ddefnyddwyr rhwng 13 a 18 oed i ddefnyddio'r platfform. Fodd bynnag, yn ystod prawf a gynhaliwyd gan dîm ymchwil Grŵp Diogelu INEQE, dywedodd ChatGPT i ddechrau nad oedd terfyn oedran i'w ddefnyddio. Yn ddiweddarach, cywirodd ei hun i gadarnhau mai'r gofyniad oedran ieuengaf mewn gwirionedd oedd 13 oed.

Mae'r cyfyngiadau oedran aneglur ar ChatGPT, ynghyd â mesurau gwirio oedran annigonol y platfform, yn cyflwyno risg diogelwch sylweddol, ac nid oes gan y platfform chwaith y gallu i gael gwared ar ddefnyddwyr dan oed.

Gwallau ffeithiol

Wrth ymweld â gwefan ChatGPT, cyn hyd yn oed defnyddio'r system, mae 'Open AI' yn rhybuddio defnyddwyr y gallai gynhyrchu gwybodaeth anghywir o bryd i'w gilydd.

Os yw pobl ifanc yn dibynnu ar ChatGPT neu sgwrsfotiaid DA eraill i ddod o hyd i wybodaeth, gallai hynny nid yn unig effeithio ar ansawdd eu gwaith ysgol, ond gallai gael effaith hirdymor ar eu sylfaen wybodaeth a'u gallu personol i feddwl yn feirniadol.

Gallai hyn hefyd effeithio ar eu barn a'u dealltwriaeth o'r byd o'u cwmpas os ydynt yn ei ddefnyddio fel prif ffynhonnell eu gwybodaeth.

Mae yna berygl hefyd y bydd gwallau ffeithiol a ysgrifennir gan sgwrsfotiaid DA yn cael eu lledaenu i fannau eraill ar-lein trwy ffynonellau dibynadwy fel arfer. Er enghraifft, os bydd newyddiadurwyr, ysgrifenwyr copi, ymchwilwyr, a hyd yn oed athrawon yn cymryd eu gwybodaeth o ChatGPT, mae'n debygol y bydd eraill yn ei dderbyn.

Camwybodaeth a phropaganda 

Er bod pobl ifanc yn gyffredinol yn teimlo'n hyderus am allu adnabod newyddion ffug ar-lein, canfu ymchwil gan Ofcom mai dim ond 11% oedd yn gallu adnabod camwybodaeth yn gywir.

Yn ogystal â darparu gwybodaeth ffeithiol anghywir, gall sgwrsfotiaid DA gael eu camddefnyddio'n hawdd gan y rhai sy'n ceisio lledaenu propaganda, twyllwybodaeth, a chynnwys niweidiol tebyg.

Beth yw twyllwybodaeth?

Mae twyllwybodaeth yn cyfeirio at wybodaeth ffeithiol anghywir sy'n cael ei lledaenu'n fwriadol gyda'r amcan o dwyllo'r gynulleidfa. Fe'i gelwir hefyd yn 'wybodaeth anghywir', er bod y term hwn fel arfer yn cyfeirio at unrhyw wybodaeth anghywir, p'un ai'r nod oedd twyllo'n fwriadol ai peidio.

Mae sgwrsfotiaid DA yn dysgu'n gyson. Mae hyn yn golygu mai prin y gellir rhagweld yr atebion y gallai eu rhoi. Fodd bynnag, mae gallu'r DA i ysgrifennu mewn arddull benodol yn golygu y gallai defnyddwyr o bosibl ail-greu naws ac arddull pobl sy’n amlwg yn lledaenu casineb, megis dynion sy’n casáu menywod neu bobl hiliol i ledaenu ar draws platfformau cymdeithasol.

Agored i gynnwys niweidiol neu amhriodol

Mae perchennog ChatGPT wedi dweud mai cyfrifoldeb y cwmnïau technoleg a'r bobl sy'n ei ddefnyddio yw atal canlyniadau niweidiol. Fodd bynnag, dydy hi ddim yn glir sut y byddai disgwyl i berson ifanc ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwn os ydynt yn cael mynediad at y sgwrsfot.

Er bod gan ChatGPT hidlwyr cynnwys, mae tystiolaeth bod yr hidlwyr hyn yn cael eu hanwybyddu a defnyddwyr yn dod i gysylltiad â chynnwys niweidiol. Hwyrach fod y digwyddiadau hyn yn brin, ond mae'n dal i godi risg sylweddol i blant a phobl ifanc sy’n defnyddio hwn a sgwrsfotiaid DA eraill.

Mae’r diffyg dilysu oedran ar y platfform yn agor y drws i ddefnyddwyr iau nad ydyn nhw o bosibl yn deall y cyfyngiadau a'r risgiau hyn.

Canfu ymchwiliad gan Vice y gellid ysgogi ChatGPT i roi cyfarwyddiadau ar gyflawni troseddau, gan gynnwys sut i ddwyn o siopa a gwneud bomiau.

Cyngor iechyd

Bu achosion o blant yn defnyddio sgwrsfotiaid DA i chwilio am gyngor iechyd meddwl. Mewn ymateb, mae ChatGPT wedi dweud na ddylid defnyddio eu DA at y diben hwn, a gallai "yn amlwg ddarparu cyngor amhriodol neu aneffeithiol."

Efallai y bydd plant a phobl ifanc yn teimlo'n betrusgar ynglŷn â throi at weithiwr iechyd proffesiynol meddygol neu oedolyn, felly efallai y bydd gofyn i DA yn teimlo fel y dewis gorau. Ond waeth a yw'n ymwneud ag iechyd meddwl neu bryder iechyd arall, rydyn ni’n gwybod y gall sgwrsfotiaid roi gwybodaeth anghywir a allai arwain at oedi neu waethygu problemau meddygol. Ni all DA ddisodli'r cyngor a'r gefnogaeth a roddir gan oedolyn dibynadwy. Yn bwysicaf oll, ni all ddarparu'r gofal brys y gallai fod ei angen gan weithiwr meddygol proffesiynol.

Integreiddio cyfryngau cymdeithasol

Wrth i sgwrsfotiaid DA ddechrau cael eu hintegreiddio i apiau a ddefnyddir gan bobl ifanc, fel Snapchat, mae pryder hefyd sut y gallai drwgweithredwyr gamddefnyddio'r swyddogaeth i greu deialog yn hawdd yn arddull a thôn llais person ifanc er mwyn cysylltu â nhw a meithrin perthynas.

Gwe-rwydo a sgamiau

Mae pryderon y gellid defnyddio ChatGPT a sgwrsfotiaid eraill i greu cynnwys ar gyfer sgamiau, fel copi e-bost. Cafwyd adroddiadau bod troseddwyr seiber eisoes yn defnyddio DA at y diben hwn, gyda thrafodaethau, yn ôl pob sôn, yn frith ar fforymau ar y we dywyll.

Gyda'i allu i gynhyrchu testun dilys yr olwg yn gyflym, gellid ei ddefnyddio ar gyfer sgyrsiau e-bost parhaus, oherwydd gall y twyllwr greu ateb yn gyflym a denu ei ddioddefwr i’w grafangau.

Siarad am sgwrsfotiaid DA

Byddai’n syniad cael sgwrs gyda’r plentyn neu berson ifanc yn eich gofal am ChatGPT a sgwrsfotiaid DA eraill. Cadwch y sgwrs yn ysgafn fel nad yw'n ymddangos eich bod chi'n cyhuddo’r plentyn o dwyllo gyda’i waith cartref! Gofynnwch gwestiynau agored, fel, "beth wyt ti’n ei feddwl am sgwrsfotiaid DA?" neu crybwyllwch y pwnc wrth siarad am rywbeth arall: "Fe ddarllenais i erthygl am sgwrsfotiaid heddiw." Mae osgoi cwestiynau gydag atebion 'ydw' neu 'nac ydw' yn helpu i gadw'r sgwrs i lifo. Rhowch ddigon o le bob amser i'r person ifanc yn eich gofal siarad yn y sgwrs oherwydd bydd hyn yn gyfle i sôn am ei brofiadau ei hun a’i bryderon posibl.

Trafod rhai o'r pryderon

Heb fynd i fanylion a fyddai'n amhriodol, siaradwch am rai o'r meysydd sy’n achosi pryderon am sgwrsfotiaid DA. Gallwch ddefnyddio ein dolenni y gellir eu rhannu isod i helpu, sy'n sôn am ddefnyddio DA er lles. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod pwy yw eu hoedolion dibynadwy rhag ofn y bydd angen iddyn nhw siarad am iechyd meddwl neu faterion meddygol eraill.

Defnyddio hidlwyr cynnwys, gosodiadau diogelwch a rheolaethau rhieni

Trwy weithredu swyddogaethau fel hidlwyr chwilio diogel a defnyddio nodweddion rheolaeth rieni eich darparwyr rhyngrwyd, rydych chi'n cymryd camau i wneud profiad ar-lein eich person ifanc yn fwy diogel yn gyffredinol. Peidiwch â dibynnu'n unig ar yr hidlwyr cynnwys ar sgwrsfotiaid DA oherwydd gallant fod yn annibynadwy. Rydyn ni’n argymell egluro pam eich bod yn defnyddio nodweddion diogelwch yn gyntaf, gan agor y drws i sgyrsiau am ddiogelwch ar-lein agored, gonest a pharhaus!

Defnyddio DA er lles gyda'ch gilydd

Archwiliwch syniadau ar gyfer defnyddio sgwrsfotiaid DA mewn modd positif fel gweithgaredd hwyliog i'r teulu neu ddosbarth. Fel arfer, mae angen newid y testun a gynhyrchir gan sgwrsfotiaid DA a gallai darn o DA wedi'i baratoi gynnig y cyfle i ymarfer sgiliau golygu. Fel arall, gallwch ofyn i ChatGPT am ffeithiau ac yna eu gwirio trwy eu cymharu â ffynonellau dibynadwy eraill neu wefannau gwirio ffeithiau, fel Full Fact.