English

Mae gemau ar-lein yn cyfeirio at unrhyw gêm sy’n cynnig rhyngweithio ar-lein â chwaraewyr eraill. Mae gemau ar-lein yn cynnig llawer iawn o hwyl, mwynhad, a chyfleoedd ar gyfer gwaith tîm, a chydweithio. Mae pob gêm yn wahanol o ran yr wybodaeth rydych chi’n gallu ei rhannu, a’r math o ryngweithio sy’n bosibl, gyda chwaraewyr eraill.  


Waeth os wyt ti newydd ddechrau chwarae gemau neu wedi hen arfer, gall pethau fynd o’i le, er enghraifft:

  • teimlo nad wyt ti’n gallu stopio chwarae 
  • bod yn rhy gystadleuol 
  • dioddef casineb ar-lein, bwlio neu ‘trolio’
  • gwario gormod o arian 
  • cael dy hacio 
  • cael dy herwgipio 
  • derbyn maleiswedd a feirysau 
  • cael dy wahardd neu dy flocio
  • cael dy dwyllo

Dyma rai pethau y galli di eu gwneud i wneud yn siwr dy fod yn cadw’n ddiogel wrth chwarae gemau ar-lein.

  • Cadw dy gyfrif yn ddiogel 

    Ceisia greu cyfrinair cryf gan ddefnyddio tri gair ar hap. Bydd rhai gwefannau hefyd yn gofyn am rifau, symbolau a chymysgedd o briflythrennau a llythrennau bychain felly ceisia gynnwys rhai o’r rheiny hefyd. Paid byth â rhannu dy fanylion mewngofnodi gydag unrhyw un. Ceisia osod dilysiad dau ffactor i wneud dy gyfrif mor ddiogel â phosibl.

    Allgofnoda o ddyfeisiau sy’n cael eu rhannu. Os wyt ti’n anghofio, cer i osodiadau’r cyfrif, edrycha ar y rhestr o ddyfeisiau yr wyt ti wedi mewngofnodi iddyn nhw, ac allgofnoda o bob dyfais.

    Gwybodaeth bersonol

    Paid byth â rhannu gwybodaeth bersonol gyda rhywun yr wyt ti wedi’i gyfarfod wrth chwarae gemau. Ceisia wneud yn siwr nad yw dy enw defnyddiwr yn cynnwys dy enw llawn neu wybodaeth fydd yn arwain at rywun yn dy adnabod, fel dy gyfeiriad neu dy ysgol.

    Cyfrifon preifat

    Mae rhai cyfrifon gemau yn gadael i ti rannu llawer o wybodaeth yn gyhoeddus, fel lleoliad, gemau ti’n eu chwarae, amser ti’n eu treulio’n chwarae. Mae’n golygu dy fod yn darged rhwydd i hacwyr. Gosoda dy gyfrif i breifat er mwyn cuddio’r wybodaeth hon rhag pobl nad ydyn nhw’n ffrindiau i ti.  

    Lawrlwytho feirysau a maleiswedd

    Gall feirysau a maleiswedd ymosod ar dy ddyfeisiau, torri neu arafu dy gyfrifiadur, a dwyn gwybodaeth bersonol. Mae llawer o ffyrdd y galli di lawrlwytho maleiswedd drwy gamgymeriad. Mae’r rhain yn cynnwys clicio dolenni mewn hysbysebion neu negeseuon, lawrlwytho gemau lladrad, twyllo a botiau neu fodiau answyddogol. Mae modd dilyn trywydd pethau answyddogol sydd wedi cael eu lawrlwytho’n anghyfreithlon, felly bydd hynny’n peri risg o gael eich gwahardd rhag chwarae. Ceisiwch osgoi hyn drwy brynu neu lawrlwytho gan ffynonellau swyddogol a rhai sy’n cael eu hymddiried. Os yw’n rhy ddrud, bydda’n amyneddgar ac arhosa nes bydd disgownt ar gael.  

    Os wyt ti eisoes wedi lawrlwytho maleiswedd, gall fod yn anodd ei waredu, ond dylid ceisio gwneud hynny cyn gynted ag sy’n bosibl. Ceisia ei waredu gan ddefnyddio meddalwedd diogelwch cymeradwy, ond mae angen talu am hyn fel arfer. Newidia dy gyfrineiriau cyn gynted ag sy’n bosibl. 

  • Bwlio ar-lein

    Mae gan y rhan fwyaf o gemau god ymddygiad, gan gynnwys dim iaith ymosodol, sarhau na trolio. Gall fod yn hawdd mynd i’w chanol hi yn ystod gêm, ond paid byth â chythruddo rhywun ar bwrpas neu ddifetha’r gêm i bobl eraill. Os wyt ti’n cael dy fwlio, paid â bod yn gâs yn ôl oherwydd mae’n bosibl y byddi di’n derbyn rhybudd neu’n cael dy wahardd. 

    Chwarae gyda phobl ddiarth 

    Bydd yn ofalus wrth siarad gyda phobl ddiarth a gwneud ffrindiau ar-lein. Dwyt ti byth yn gwybod yn iawn pwy ydyn nhw. Gallen nhw fod yn rhywun hyn yn dynwared rhywun ifanc neu’n rhywun sy’n esgus bod yn ffrind i ti er mwyn hacio dy gyfrif. Efallai na fydd cwrdd â rhywun ti wedi’i gwrdd ar-lein oddi ar y we yn syniad da. Mae’n bosibl dy fod yn rhoi dy hun mewn perygl. Ond os wyt ti’n penderfynu cwrdd â rhywun all-lein, mae’n bwysig iawn nad wyt ti’n mynd ar ben dy hun. Cer ag oedolyn gyda thi, ceisia gwrdd mewn man cyhoeddus a dweda wrth oedolyn yr wyt ti’n ymddiried ynddo pwy wyt ti’n cwrdd a ble.

  • Sgoriau oedran PEGI

    Mae gan bob gêm sgôr oedran i sicrhau bod y cynnwys yn briodol. Edrycha ar sgoriau oedran ar yr ap PEGI (Saesneg yn unig). Mae hefyd llawer o symbolau sy’n dweud wrthyt am y cynnwys, gydag eiconau ar gyfer trais, ofn ac arswyd, rhegfeydd, rhyw, cyffuriau a gamblo.

    Chwarae gemau mewn ffordd iach

    Mae treulio gormod o amser yn chwarae, yn eistedd yn llonydd ac yn syllu ar sgrin am oriau’n afiach. Mae’n bosibl dod yn gaeth i chwarae gemau. Ceisia gymryd seibiannau a gwneud rhywbeth actif. Gosoda derfynau amser i dy hun. Cofia fwyta prydau go iawn yn hytrach na byrbrydau. Os wyt ti’n meddwl ei fod yn dod yn broblem, siarada gyda rhywun ti’n ymddiried ynddo. Os nad wyt ti’n siwr sut i ddechrau sgwrs gyda rhywun, dyma rai awgrymiadau.

  • Gwario arian 

    Mae’n bosibl mynd dros ben llestri o ran gwario wrth chwarae gemau, hyd yn oed wrth chwarae gemau ‘am ddim’. Gall eitemau yn y gêm gronni’n gyflym. Oes wir ei angen, neu wyt ti’n prynu er mwyn prynu? Paid ag anfon arian at unrhyw un, na rhannu manylion bancio neu fewngofnodi gydag unrhyw un sy’n cynnig helpu i wella dy gyfrif.

    Cyfnewid a gwerthu

    Dylid ond cyfnewid a gwerthu eitemau gan ddefnyddio adnoddau yn y gêm neu’r platfform gemau. Paid â derbyn taliadau y tu allan i’r gêm oherwydd gellid eu ffugio. Os yw ffrind yn gofyn i chi werthu yn y gêm, ffonia neu anfona neges destun i wneud yn siwr mai nhw ydyn nhw go iawn.

    Prynu neu wario cyfrifon gemau  

    Ni chaniateir prynu cyfrifon gemau. Os wyt ti’n prynu cyfrif, nid ti yw’r perchennog cyfreithiol, ac mae modd dy flocio. Does dim modd sicrhau bod yr hyn yr wyt ti’n ei brynu’n wir. Gall ceisio gwerthu dy gyfrif fod yn beryglus. Mae’n bosibl y byddi di’n cael dy dwyllo i rannu dy fanylion mewngofnodi cyn iddyn nhw dy dalu di. Gallen nhw fod yn haciwr ac anfon negeseuon gwe-rwydo o dy gyfrif – twyll yw hyn, a chan mai ti yw perchennog gwreiddiol y cyfrif, galli di gael y bai.

    Dileu cyfyngiadau’r ddyfais (Jailbreaking)

    Mae rhai pobl yn ceisio dileu cyfyngiadau eu cyfrifon gan fod gemau’n gallu bod yn ddrud. Mae hyn yn anghyfreithlon. Mae modd mynd ar drywydd cyfrifon fel hyn, ac mae modd eu blocio fel na elli di chwarae ar-lein, eu diweddaru neu aml-chwarae. Byddi di’n colli dy warant, a gall dorri dy ddyfais.  


Mae’n well rhoi camau ar waith i atal rhywbeth rhag digwydd, ond os yw eisoes wedi digwydd, dyma ychydig o gyngor.

Herwgipio

Os yw dy gyfrif wedi cael ei ddwyn, cysyllta â thîm cymorth y gêm neu’r siop. Gall fod yn broses hir, ac efallai na fyddi di’n cael dy gyfrif yn ôl o gwbl. Ac os wyt ti, efallai y byddi di wedi colli’r gemau a’r hyn yr wyt ti wedi’i brynu wrth chwarae. Gall creu cyfrinair cadarn, a pheidio â’i rannu ag eraill, helpu i atal hyn.

Bwlio ar-lein

Dywedwch wrth rywun rydych chi’n ymddiried ynddo os ydych chi wedi dioddef bwlio neu gamdriniaeth. Rhowch wybod am y chwaraewr a chau'r ddeialog. Dyma'r ffordd orau o amddiffyn gweddill y gymuned hapchwarae rhag camdriniaeth tebyg. Os gallwch chi, tynnwch lun sgrin neu ffotograff fel tystiolaeth.


Os bydd rhywbeth yn digwydd mewn gêm sy’n peri gofid i chi, neu os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, siaradwch â rhywun. Cymerwch sgrinlun, ewch i’r safle, a rhwystro’r un sydd wedi eich ypsetio.

Dywedwch wrth oedolyn cyfrifol a dibynadwy beth sydd wedi digwydd a thrafodwch pam ei fod wedi gwneud i chi deimlo felly, neu pam ei fod wedi peri gofid neu bryder i chi.

Peidiwch â rhannu gormod o’ch gwybodaeth bersonol. Byddwch yn gadarnhaol ac yn gefnogol ar-lein, peidiwch â chymryd rhan yn y ddrama, ac arhoswch yn eich swigen eich hun gyda phobl garedig.

Os wyt ti’n chwilio am gymorth neu wybodaeth, ond yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.


BBC Own It

Gwylia'r fideo byr hwn (Saesneg yn unig) am awgrymiadau ar sut i ddelio â chasineb a sarhad wrth chwarae gemau ar-lein.