English

Mae llawer o apiau cyfryngau cymdeithasol, gemau a negeseuon yn caniatáu sgyrsiau grŵp.

Mae sgyrsiau grŵp yn eich galluogi i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn mae eich teulu a’ch ffrindiau yn ei wneud, ym mhob cwr o’r byd. Gallwch anfon neges at lawer o bobl ar unwaith ac mae pawb yn gweld atebion ei gilydd fel rhan o’r sgwrs. Fel arfer, gallwch chi weld pwy sydd ar-lein ac sydd ar gael i sgwrsio (yn dibynnu ar osodiadau eich cysylltiadau). Mae sgyrsiau grŵp yn ffordd wych o wneud cynlluniau, rhannu syniadau a chynnwys, a chadw mewn cysylltiad.


Mae sgyrsiau grŵp yn aml wedi’u hamgryptio o un pen i’r llall, sy’n golygu nad oes neb arall yn gallu darllen na gwrando ar eich negeseuon. Fodd bynnag, mae modd rhannu unrhyw beth sy’n cael ei anfon yn breifat bob amser, drwy anfon negeseuon ymlaen, cadw delweddau neu dynnu sgrinluniau. Does dim sicrwydd y bydd unrhyw neges yn gwbl breifat.

Felly, mae’n bwysig meddwl yn ofalus beth rydych chi’n ei ddweud, ei wneud a’i rannu mewn sgwrs grŵp oherwydd gallai effeithio ar eich ôl troed digidol a’ch enw da ar-lein. Dylech chi ystyried hefyd faint o wybodaeth bersonol rydych chi’n dewis ei rhannu mewn sgwrs, yn enwedig os ydy’r grŵp yn fawr ac yn cynnwys pobl nad ydych chi’n eu hadnabod yn dda iawn.


Mae hyn yn dibynnu ar yr ap rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae rhai apiau'n darparu gosodiadau sy'n gadael i chi reoli a ydych chi'n cael eich ychwanegu at sgwrs ai peidio. Os bydd y rhain yn cael eu hysgogi, efallai y byddwch chi’n cael dolen i ymuno â sgwrs, yn hytrach na chael eich ychwanegu'n awtomatig.

Bydd apiau eraill yn caniatáu i'r ffrindiau ar eich cyfrif greu sgyrsiau grŵp a'ch ychwanegu'n awtomatig, ond byddwch chi wedyn yn gallu gadael os nad ydych chi eisiau aros.

Weithiau, efallai y byddwch chi’n cael eich ychwanegu at sgwrs grŵp gan bobl nad ydyn nhw’n eich cysylltiadau. Os bydd hyn yn digwydd, byddwch fel arfer yn gallu adrodd am y sgwrs a blocio’r person a greodd y grŵp, heb orfod darllen y cynnwys.

Mae hefyd yn bosibl atal pobl rhag eich ychwanegu at sgyrsiau, yn seiliedig ar bwy sy’n gallu gweld eich proffil a’ch rhif ffôn symudol. Y peth gorau i'w wneud yw edrych ar y gosodiadau ym mhob gwasanaeth i weld pa reolaethau preifatrwydd sydd ar gael i chi.


Efallai y byddwch yn cael eich ychwanegu at nifer o grwpiau, yn aml gyda phobl nad ydyn nhw’n ffrindiau agos i chi, yn enwedig os ydych chi wedi dechrau mewn ysgol neu glwb newydd, er enghraifft.

Gall sgyrsiau grŵp fod yn ffordd hwyliog o ddod i adnabod pobl newydd. Fodd bynnag, os ydych chi’n poeni o gwbl am ymddygiad aelodau eraill o’r grŵp, neu’n teimlo nad yw’r grŵp yn lle diogel i fod, mae’n syniad da i chi adael y grŵp a siarad ag oedolyn dibynadwy os oes rhywbeth penodol wedi digwydd.

Does dim cyfyngiad ar nifer y sgyrsiau grŵp y gallwch chi fod yn rhan ohonyn nhw, felly drwy greu eich rhai eich hun gyda’ch ffrindiau agos, gallwch chi fod yn rheoli pwy sydd yno. 


Efallai eich bod yn rhan o grwpiau lle mae cynnwys newydd yn cael ei bostio bob ychydig funudau gan eich ffrindiau, ac mae’n aml yn gallu teimlo’n llethol wrth geisio cadw i fyny.

Os yw hysbysiadau’n tynnu gormod o sylw, yn tarfu ar eich gwaith ysgol neu hyd yn oed ar eich cwsg, neu os ydych chi’n teimlo pwysau i ymateb yn gyflym, chwiliwch yn y gosodiadau ap/sgwrs am opsiynau i ddiffodd hysbysiadau neu dewi’r grŵp.

Drwy wneud hynny, gallwch chi weld beth sy’n cael ei bostio ar eich telerau eich hun, heb orfod gadael.


Fel gyda phob math o gyfryngau cymdeithasol, nid yw’n bosibl rheoli’r hyn mae pobl eraill yn dewis ei rannu ar-lein. Mae hyn yn berthnasol i sgyrsiau grŵp hefyd, ac yn anffodus efallai y bydd adegau pan fyddwch chi’n gweld cynnwys sy’n gwneud i chi deimlo’n ypset neu’n ddryslyd, gan gynnwys:

Er nad yw rhannu cynnwys sy’n peri gofid bob amser yn cael ei wneud yn fwriadol, os ydych chi’n gweld neu’n profi unrhyw beth amhriodol mewn sgwrs grŵp, mae’n bwysig gofyn am gyngor gan oedolyn er mwyn i chi allu siarad am y mater gyda’ch gilydd. Un ffordd syml o gofnodi’r hyn sydd wedi digwydd yw cymryd sgrinluniau (cyn i’r cynnwys gael ei ddileu), oherwydd efallai y bydd angen y rhain ar gyfer adrodd am y cynnwys, a chofiwch bob amser y gallwch adael sgwrs grŵp unrhyw bryd.


Fel arfer, mae modd rhoi gwybod am ddefnyddwyr eraill a’u blocio hefyd mewn ap neu wasanaeth sgwrsio grŵp. I wneud hynny, cliciwch ar eu henw i godi eu proffil neu eu gwybodaeth a dewis naill ai ‘Block contact,’ neu ‘Report contact’. Mae’n ddefnyddiol treulio amser yn edrych ar y gosodiadau sydd ar gael ar bob gwasanaeth rydych chi’n ei ddefnyddio, oherwydd efallai na fydd opsiynau adrodd bob amser yn cael eu labelu yn yr un ffordd.

Os ydych chi’n chwilio am help neu wybodaeth, ond eich bod yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

  • Anti-Bullying Alliance - I gael cyngor a chymorth ar ddelio â bwlio
  • Canllawiau apiau i deuluoedd - Casgliad o ganllawiau sy’n darparu gwybodaeth allweddol am yr apiau cyfryngau cymdeithasol a gemau mwyaf poblogaidd y mae plant a phobl ifanc yn eu defnyddio heddiw
  • Childline - Llinell gymorth breifat a chyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yn y DU lle gallwch chi siarad am unrhyw beth – ffoniwch 0800 1111
  • Meic - Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru gyda chynghorwyr i’ch helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch – ffoniwch 080880 23456, anfonwch neges destun at 84001 neu sgwrsio ar-lein
  • The Mix - Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed – ffoniwch 0808 808 4994 neu sgwrsio ar-lein
  • National Bullying Helpline - Llinell gymorth gwrth-fwlio i blant ac oedolion
  • Riportio Cynnwys Niweidiol - Canolfan adrodd genedlaethol sydd wedi’i dylunio i helpu unrhyw un i adrodd am gynnwys niweidiol ar-lein