English

Gellid anfon lluniau noeth rhwng pobl ifanc sy’n adnabod ei gilydd (yn aml yn cael ei alw’n secstio) ond weithiau maen nhw’n cael eu rhannu neu eu derbyn gan bobl ddiarth ar y rhyngrwyd. Mae’r rhain yn noeth, yn hanner noeth (dillad isaf), neu luniau rhywiol neu fideos a rennir yn breifat neu eu postio ar-lein.

Efallai y byddi di’n anfon lluniau noeth oherwydd: 

  • mae’n teimlo fel y cam nesaf yn dy berthynas 
  • gall archwilio dy rywioldeb ar-lein deimlo’n fwy diogel na’i wneud ‘mewn bywyd go iawn’
  • mae’n teimlo’n beryglus ac yn llawn hwyl
  • rwyt ti wedi cael dy roi dan bwysau
  • rwyt ti’n hyderus am dy gorff

Beth bynnag yw dy reswm am anfon llun noeth, mae’n bwysig cofio’r gyfraith.

  • Mae yn erbyn y gyfraith i dynnu, cael neu rannu lluniau noeth, hanner noeth neu rywiol o unrhyw un dan 18 (hyd yn oed os wyt ti’n rhannu llun o dy hun).
  • Gall fod yn anghyfreithlon i rywun dros 18 oed anfon lluniau noeth, hanner noeth neu rywiol i rywun dan 18 oed, neu ofyn iddyn nhw anfon lluniau noeth, hanner noeth neu rywiol.

Colli rheolaeth

Unwaith yr wyt ti wedi anfon llun o dy hun i rywun, nid oes gen ti reolaeth dros beth fydd yn digwydd iddo. Gall y person sydd wedi’i dderbyn wneud copi, ei arbed neu dynnu sgrinlun. Gall anfon y llun ymlaen i bobl eraill neu ei bostio ar gyfryngau cymdeithasol neu wefannau. Gall hyn effeithio ar dy lesiant corfforol a meddyliol, a’r ffordd rwyt ti’n gwerthfawrogi dy hunan.

Dial

Hyd yn oed os wyt ti’n anfon llun noeth at rywun ti’n ymddiried ynddo nawr, gall perthnasoedd fynd o chwith neu ddod i ben mewn ffordd annifyr. Gall ffrind blin neu mewn trallod rannu eich llun fel ffordd o ddial neu beri gofid i chi. Mae hyn yn erbyn y gyfraith.  

Bygythiadau a blacmel 

Gall rhywun sy’n berchen ar dy lun ei ddefnyddio yn dy erbyn yn y dyfodol. Gall fygwth anfon dy lun i bobl eraill os nad wyt ti’n gwneud beth mae’n ofyn neu’n rhoi pwysau arnat ti i wneud rhywbeth nad wyt ti eisiau ei wneud. Mae hyn hefyd yn cael ei alw’n sextortion yn Saesneg

Annifyr

Gall anfon llun noeth at rywun heb gydsyniad wneud iddo deimlo’n annifyr neu’n anghyfforddus. Ni ddylet fyth anfon llun neu fideo at rywun heb ofyn yn gyntaf. Cofia, mae’n erbyn y gyfraith rhannu lluniau rhywiol o unrhyw un dan 18 oed (hyd yn oed os yw’n lun ohonot ti). 


Mae dweud na yn iawn 

Weithiau, efallai byddi di’n teimlo dan bwysau i anfon llun noeth, ond mae dweud na yn iawn. Os nad yw’n stopio gofyn, galli di adrodd a’i flocio ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Bydda’n ofalus gyda phwy rwyt ti’n siarad  

Byddai’n hawdd dweud wrthyt ti i siarad gyda phobl ti’n eu hadnabod yn unig, ond mae hyn yn afrealistig gan fod cymaint o bobl yn gwneud ffrindiau ar-lein. Cofia wneud yn siwr dy fod yn gwybod sut i gadw dy hun yn ddiogel. Cofia na fydd pobl bob amser pwy maen nhw’n dweud ydyn nhw. Fe allen nhw fod yn smalio bod yn rhywun arall i’ch twyllo i wneud rhywbeth rhywiol. Peidiwch ag anfon lluniau na fideos noeth neu rywiol atyn nhw.

Os byddan nhw’n dechrau dweud neu anfon pethau sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, gofynnwch iddyn nhw stopio neu eu blocio. Os ydych chi wedi anfon llun noeth yn barod ac yn cael eich bygwth neu eich blacmelio gan rywun, rhowch wybod i oedolyn ar unwaith. Darllenwch ein cyngor ar feithrin perthynas amhriodol a swyno trwy dwyll (catfishing) i gael rhagor o wybodaeth.


Mae rhywun wedi rhannu fy llun noeth

Ni ddylai dy lun noeth gael ei bostio ar-lein neu gydag eraill heb dy gydsyniad, hyd yn oed os ti oedd yr un wnaeth ei anfon. Mae’n erbyn y gyfraith. Adrodda ar unwaith a chael cymorth i’w ddileu ar Report Remove (Saesneg yn unig).

Mae rhywun dwi’n ei adnabod wedi gofyn i mi anfon llun noeth

Os yw rhywun yn gofyn i ti anfon lluniau noeth ac rwyt ti o dan 18 oed, mae’n erbyn y gyfraith. Dweda wrthyn nhw nad wyt ti’n gyfforddus yn gwneud hyn, a rho wybod ei fod yn anghyfreithlon. Blocia’r unigolyn os yw’n parhau. Arbeda unrhyw negeseuon fel tystiolaeth. Siarada ag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo a chael cymorth i’w adrodd i’r gwasanaeth CEOP (Saesneg yn unig). Os nad wyt ti’n sicr sut i ddechrau sgwrs gyda rhywun, dyma rai awgrymiadau.

Adrodda am unrhyw luniau noeth neu negeseuon digroeso 

Os wyt ti wedi derbyn llun noeth digroeso, neu neges yn gofyn i ti am lun noeth, galli di adrodd i’r platfform cyfryngau cymdeithasol a blocio’r unigolyn wnaeth ei anfon. Unwaith eto, os oes unrhyw un dan 18 oed, mae’n anghyfreithlon.  


Os ydych chi dan bwysau i rannu rhywbeth ar-lein sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, peidiwch â gwneud hynny. Chi sy’n gyfrifol amdanoch chi eich hun a gallwch benderfynu faint rydych chi’n ei rannu.

Ni ddylai neb eich gorfodi na rhoi pwysau arnoch chi i wneud rhywbeth rydych chi’n anghyfforddus ag ef neu nad ydych chi eisiau ei wneud. Siaradwch ag oedolyn am eich pryderon, fel rhiant, athro neu warcheidwad.

Cymerwch anadl a dweud na. Naill ai peidiwch ag ateb, neu peidiwch â rhannu. Rhwystrwch, riportiwch, a dywedwch wrth rywun. Peidiwch â bod ofn gwneud safiad.

Os wyt ti’n chwilio am gymorth neu wybodaeth, ond yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

Adrodd am gynnwys 

  • Internet Watch Foundation (Saesneg yn unig) – os yw lluniau noeth, hanner noeth neu rywiol ohonot ti neu unrhyw un arall dan 18 oed wedi cael eu rhannu ar-lein, adrodda’n ddienw (Saesneg yn unig). Mae hyn yn anghyfreithlon, a gallen nhw ei ddileu
  • CEOP (Saesneg yn unig) – gweithio gyda’r heddlu i roi cyngor i ti a dy rieni/gofalwyr am gam-drin rhywiol a meithrin perthynas amhriodol
  • Riportio Cynnwys Niweidiol– bygythiadau, dynwared, bwlio neu aflonyddu, hunan-niwed neu hunanladdiad, camdriniaeth ar-lein, trais, ymddygiad rhywiol digroeso, a chynnwys pornograffi   
  • Report Remove (Saesneg yn unig) – adrodd a dileu lluniau noeth sydd wedi’u rhannu ar-lein
  • Cyfryngau cymdeithasol – adrodd am gynnwys amhriodol neu anweddus ar y cyfryngau cymdeithasol

Rhagor o gymorth  

  • Meic– llinell gymorth am ddim a chyfrinachol i blant a phobl ifanc yng Nghymru, gydag ymgynghorwyr i dy helpu i ddod o hyd i’r gefnogaeth sydd ei hangen. Ffonia 080880 23456, anfona neges destun at 84001 neu gellid sgwrsio ar-lein
  • Addysg CEOP (Saesneg yn unig) - cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc 11-18 oed ar y rhyngrwyd a pherthnasoedd
  • Childline (Saesneg yn unig) – llinell gymorth am ddim, preifat a chyfrinachol i blant a phobl ifanc yn y DU lle mae modd trafod unrhyw beth o gwbl. Ffonia 0800 1111
  • 'Fe fuost ti'n noeth ar-lein, felly...' – canllaw ar beth i’w wneud os yw llun neu fideo noeth neu rywiol ohonot ti wedi’i rannu ar-lein
  • YoungMinds (Saesneg yn unig) – cefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc 
  • Shore - Gwybodaeth a chefnogaeth gyfrinachol i bobl ifanc sy'n poeni am feddyliau neu ymddygiad rhywiol
Rhybudd

Ffonia 999 os wyt ti, neu rywun ti’n ei adnabod, mewn perygl ar unwaith


Ffilm Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Gwylia'r ffilm hon (Saesneg yn unig) gan Ysgol Nantgwyn sy'n edrych ar effaith rhannu lluniau noeth heb ganiatâd.


Report Remove

Mae'r fideo hwn yn esbonio sut y gall Report Remove helpu os yw delwedd noeth neu fideo ohonoch wedi cael ei rannu ar-lein.