English

Efallai y byddwch yn gweld gwybodaeth annibynadwy fel y canlynol.

Newyddion ffug

Mae newyddion ffug yn cael ei ddefnyddio gan wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd, ac mae’n gallu disgrifio llawer o wahanol fathau o gynnwys anghywir, annibynadwy neu gamarweiniol sy’n cael ei ledaenu ar-lein. Weithiau, mae’r ymadrodd ‘newyddion ffug’ yn cael ei ddefnyddio gan bobl i danseilio gwybodaeth neu safbwyntiau nad ydyn nhw’n eu hoffi, p’un a yw’n gywir ai peidio.

Camwybodaeth

Mae camwybodaeth yn golygu unrhyw wybodaeth anghywir neu ffug sy’n cael ei lledaenu ar-lein, gan gynnwys postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, lluniau, fideos, memynnau a straeon newyddion. Mae camwybodaeth yn gallu cael ei rhannu’n ddamweiniol pan nad yw rhywun yn sylweddoli bod yr hyn mae’n ei rannu yn wybodaeth annibynadwy.

Twyllwybodaeth

Mae twyllwybodaeth yn wybodaeth ffug sy’n cael ei lledaenu’n fwriadol i gamarwain pobl.

Abwyd clicio (Clickbait)

Cyfeirir at gynnwys fel penawdau neu deitlau fideo sydd wedi’u cynllunio i dynnu eich sylw a’ch cael i glicio ar rywbeth fel abwyd clicio.

Sgamiau

Cynnwys sy’n ceisio twyllo pobl yn fwriadol, yn aml i rannu eu gwybodaeth bersonol neu arian.


Mae llawer o resymau gwahanol pam y gallai rhywun rannu rhywbeth annibynadwy ar-lein – gallai fod mor syml â pheidio â sylweddoli ei fod yn ffug. Mae rhai straeon a phostiadau annibynadwy yn gallu bod yn argyhoeddiadol iawn, a phan fydd pobl yn sgrolio drwy lawer o bostiadau mewn diwrnod, maen nhw’n gallu bod yn anodd eu gweld.

Weithiau, bydd pobl yn postio camwybodaeth oherwydd eu bod yn gwybod y bydd yn denu llawer o ryngweithio (hoffi, gweld, rhannu ac ati). Mae hyn yn golygu y gallai’r sawl a’i bostiodd gael arian o hysbysebion, neu fwy o bobl yn edrych ar eu cyfrif. Mae postiadau sy’n sbarduno emosiynau dwys, fel ofn, dicter, neu gyffro, yn tueddu i wneud yn well ar gyfryngau cymdeithasol, sy’n golygu bod pethau’n cael eu postio weithiau i gael ymateb yn hytrach na rhannu gwybodaeth gywir. Gall camwybodaeth hefyd fod yn un rhan fach o erthygl, post neu ddarn o gynnwys hirach. Gall hyn ei gwneud yn anodd ei gweld.


Nid yw camwybodaeth bob amser yn beryglus, ond gall fod, yn enwedig pan fydd yn effeithio ar ymddygiad, barn a dewisiadau pobl. Er enghraifft, gallai camwybodaeth am faterion meddygol arwain at bobl yn gwneud dewisiadau peryglus am eu hiechyd, neu gallai newyddion ffug am fuddsoddiadau arwain at bobl yn gwneud penderfyniadau ariannol gwael.

Weithiau, gall cynnwys annibynadwy hyrwyddo credoau niweidiol, a thanseilio dealltwriaeth a pharch rhywun at eraill, a allai hefyd arwain at niweidio eraill. Efallai y bydd rhai dylanwadwyr hyd yn oed yn postio camwybodaeth sy’n beryglus neu’n eithafol. Gall y cynnwys hwn beri gofid arbennig ac weithiau mae’n torri’r gyfraith.

Yn ffodus, mae llawer y gallwn ni i gyd ei wneud i atal hyn rhag digwydd.


Gwirio ffeithiau ydy’r broses o ymchwilio i weld ydy rhywbeth yn wir ai peidio. Gall unrhyw un wirio ffeithiau rhywbeth maen nhw wedi’i weld i ddarganfod a yw’n wir drwy chwilio am wahanol ffynonellau gwybodaeth ar-lein ac all-lein.

Oherwydd bod newyddion ffug yn cael ei rannu mor aml ar-lein, mae gwasanaethau gwirio ffeithiau arbennig ar gael ar-lein, lle gallwch chwilio am bynciau a dod o hyd i straeon y gwiriwyd eu ffeithiau. Er enghraifft, mae Full Fact yn elusen annibynnol yn y DU, sy’n ceisio datgelu a herio gwybodaeth anghywir.


Mae ffynonellau newyddion answyddogol yn dal yn gallu bod yn ddibynadwy. Ar y rhyngrwyd, gall unrhyw un rannu eu profiadau wrth iddyn nhw ddigwydd. Mae hyn yn golygu bod llawer o wahanol ffyrdd y gallwn gadw mewn cysylltiad a deall beth sy’n digwydd ledled y byd, gan gynnwys trwy bostiadau answyddogol ar apiau fel cyfryngau cymdeithasol.

Fodd bynnag, mae’n bwysig aros nes y gallwch wirio straeon newyddion o nifer o wahanol ffynonellau, a’ch bod yn meddwl yn feirniadol am yr hyn rydych chi’n ei weld ar-lein cyn ei dderbyn ar yr olwg gyntaf.


Gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud pan fydd rhywun yn rhannu newyddion ffug ar-lein. Os oes gennych chi berthynas dda gyda’r person hwnnw, a’ch bod yn teimlo’n gyfforddus, gallech chi geisio siarad gyda nhw am yr hyn maen nhw wedi’i rannu ac esbonio nad yw’n wir.

Os ydych chi’n mynd i gael y sgwrs hon, cofiwch fod yn garedig ac yn barchus, a dychmygwch sut maen nhw’n teimlo. Os ydych chi’n meddwl y byddai’n ddefnyddiol, gallech chi rannu dolen i wefan gwirio ffeithiau, neu ffynhonnell swyddogol am y stori roedden nhw wedi’i rhannu.

Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â’r person am yr hyn mae wedi’i rannu, gallech roi cynnig ar adrodd am ei bost. Mae adrodd am bostiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn ddienw, felly gallwch adrodd am rywbeth heb i’r sawl a bostiodd wybod mai chi oedd hwnnw.

Os oes angen, siaradwch ag oedolyn dibynadwy, fel rhiant, gofalwr, athro neu athrawes, a all eich helpu i reoli’r sefyllfa.


  • Peidiwch â chynhyrfu os ydych chi’n sylweddoli eich bod wedi rhannu rhywbeth ffug ar-lein. Mae pawb yn gwneud camgymeriadau, ac mae ffyrdd o ddatrys yr hyn sydd wedi digwydd.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn dileu eich post gwreiddiol, yn union fel y byddech chi gydag unrhyw bost arall rydych chi wedi’i rannu mewn camgymeriad.
  • Siaradwch â’r bobl a oedd wedi rhyngweithio â’ch neges i roi gwybod iddyn nhw eich bod wedi gwneud camgymeriad.
  • Os ydych chi’n poeni bod pobl eisoes wedi rhannu’r post, neu wedi credu’r hyn rydych chi wedi’i bostio, gallech chi geisio gwneud post sydyn yn cywiro eich hun a chynnwys dolen i wefan gwirio ffeithiau neu ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy ar y pwnc.

Mae llawer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol nawr yn galluogi defnyddwyr i adrodd am wybodaeth ffug neu annibynadwy sy’n cael ei rhannu. Os ydych chi’n gweld newyddion ffug ar gyfryngau cymdeithasol, mae’n werth defnyddio eu swyddogaeth adrodd, oherwydd gallai arwain at dynnu’r post i lawr.

Ble mae cael help

Os ydych chi’n chwilio am help neu wybodaeth, ond eich bod yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

  • Childline - Llinell gymorth breifat a chyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yn y DU lle gallwch chi siarad am unrhyw beth – ffoniwch 0800 1111
  • Childnet  - Cyngor diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc
  • Meic - Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru gyda chynghorwyr i’ch helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch – ffoniwch 080880 23456, anfonwch neges destun at 84001 neu sgwrsio ar-lein
  • The Mix - Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed – ffoniwch 0808 808 4994 neu sgwrsio ar-lein